Sunday, February 10, 2019

Canlyniad y refferendwm fesul etholaeth

Un o nodweddion bach y refferendwm ar aelodaeth y DU o’r UE ydi’r ffaith bod y canlyniadau yn cael eu datgan fesul sir - yn hytrach nag etholaeth - ym mhob man ag eithrio Gogledd Iwerddon.  






Mae yna waith wedi ei wneud gan yr Athro Chris Hanretty o Brifysgol Royal Holloway i amcagyfri’r canlyniadau ar sail etholaethau.  Mae’r darlun rydym yn ei gael o’r tirwedd Cymreig yn ddigon diddorol o edrych arno o’r cyfeiriad hwnnw. 


Pleidleisiodd 11 o’r 40 etholaeth yng Nghymru i aros - ychydig mwy na chwarter.  Mae hyn yn eithaf tebyg i’r patrwm tros Cymru a Lloegr.


Pleidleisiodd mwy na 60% i aros mewn tair etholaeth - Canol Caerdydd (69%), Arfon 65% a Gogledd Caerdydd (61%).  Pleidleisiodd llai na 40% i aros mewn 6 etholaeth - De Clwyd (39.8%), Dwyrain Casnewydd (39.8%), Torfaen (39%), Rhondda (39%), Dwyrain Abertawe (38%), Blaenau Gwent (38%).  


Yr etholaethau sydd o dan ddylanwad sylweddol prifysgolion ydi Ceredigion, Arfon, Canol Caerdydd a Gorllewin Abertawe.  Pleidleisiodd y cwbl i aros yn eithaf cyfforddus. 


Mae yna 9 etholaeth y byddwn yn gallu eu disgrifio fel rhai dinesig - 4 yng Nghaerdydd, 2 yng Nghasnewydd, 2 yn Abertawe ac 1 yn Wrecsam.  Pleidleisiodd y mwyafrif ohonynt i aros (5/4) - y bedair yng Nghaerdydd a Gorllewin Abertawe.


Mae yna bedair etholaeth yn nwylo Plaid Cymru.  Pleidleisiodd tair i aros (Arfon, Dwyfor Meirion a Cheredigion), ond pleidleisiodd Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr i adael.  Plaid Cymru ydi’r unig blaid yng Nghymru sydd a’r rhan fwyaf (3/4) o’r etholaethau mae’n ei chynrychioli wedi pleidleisio i aros.  O edrych y tu hwnt i Gymru pleidleisiodd y 35 etholaeth yr SNP i aros a’r 7 etholaeth Sinn Fein yn ogystal ag unig etholaeth y Blaid Werdd.  Pleidleisiodd 75% o etholaethau Toriaidd i adael a thua 60% o etholaethau Llafur.  Pleidleisiodd y rhan fwyaf o etholaethau y Lib Dems i aros.  Pleidleisiodd 3 o 10 etholaeth y DUP i aros gyda llaw, ac roedd rhai o’r lleill yn agos iawn.


Pleidleisiodd 7 o’r 8 etholaeth Doriaidd yng Nghymru i adael.  Mynwy oedd yr eithriad.


Mae gan Lafur 28 sedd yng Nghymru.  Pleidleisiodd 7 i aros - pedair etholaeth Caerdydd, Gorllewin Abertawe, Pontypridd a Phen y Bont.


Mae yna 8 etholaeth yng Nghymru efo mwy na 45% o’u poblogaeth sy’n gweithio mewn swyddi proffesiynol neu reolaethol - y bedair etholaeth yng Nghaerdydd, Arfon, Pen y Bont, Pontypridd a Mynwy.  Pleidleisiodd yr 8 i aros.


Yr etholaethau mwyaf Cymraeg o ran iaith ydi Arfon (66%), Meirion Dwyfor (65%), Ynys Mon (57%), Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr (55%) a Cheredigion (47%).  Pleidleisiodd Ceredigion, Arfon a Meirion Dwyfor i aros, a byddai Ynys Mon wedi gwneud hefyd oni bai am dref Seisnig (o ran iaith) Caergybi.  Aeth Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr yr un ffordd a gweddill y De Orllewin.


Dim ond tair etholaeth sydd a mwy na 5% o’i phoblogaeth mewn amaethyddiaeth, pysgota neu goedwigaeth - Preseli Penfro, Brycheiniog a Maesyfed a Threfaldwyn.  Pleidleisiodd y cwbl i adael.


Mae 28 o etholaethau Cymru yn derbyn arian Amcan 1 o’r UE.  6 bleidleisiodd i aros - Arfon, Gorllewin Abertawe, Ceredigion, Pontypridd, Meirion Dwyfor a Phen y Bont.  Pleidleisiodd y gweddill i adael.


Dydi edrych ar y refferendwm yn y ffordd yma ddim yn newid y canlyniad mewn unrhyw ffordd wrth gwrs ond mae o’n ymarferiad digon diddorol.  Mae’n egluro’n rhannol agweddau’r gwahanol bleidiau yng Nghymru i’r sefyllfa rydym yn cael ein hunain ynddi - ac yn bwysicach o bosibl mae’n rhoi syniad i bleidiau sut y dylid ymgyrchu mewn etholaethau gwahanol.