Mewn trafodaeth ymhellach i lawr y dudalen yma, mae Alwyn yn gwneud y sylw canlynol:
Yr hyn rwy'n methu ei ddeall yw pam bod Gwyddelod Pabyddol ar wasgar yng Nghymru a'r Alban yn gymaint o graig i'r Undeb ac mor wrthwynebus i'r achosion cenedlaethol ar y tir mawr.
Mae'n bwynt diddorol.
I ddechrau 'dwi ddim yn cytuno efo'r gososiad 100%. O fewn tafliad carreg i fy nhy fi yng Ngogledd Caernarfon mae yna bedwar aelod o Blaid Cymru sydd o gefndiroedd Gwyddelig, neu rannol Wyddelig (OK - y Mrs ydi un ohonyn nhw). 'Dwi ddim yn meddwl bod patrymau pleidleisio Gwyddelod y dref yma'n arbennig o wahanol i rai Cymry dosbarth gweithiol cynhenid y dref - maen nhw'n pleidleisio naill ai i Lafur neu i Blaid Cymru ac maent yn gallu symud rhwng y naill blaid a'r llall. Ond - ac mae'n ond mawr, pobl a symudodd i Gymru yn y pum degau a'r chwe degau ydi'r rhan fwyaf o Wyddelod Caernarfon. Mae'r gymuned Wyddelig yn y De yn un llawer iawn hyn - ac mae hynny'n yn arwyddocaol. Mae mwyafrif pobl y gymuned honno yn pleidleisio i Lafur, ac maent wedi gwneud hynny ers dau ddegau'r ganrif ddiwethaf. Mi wnawn ni ystyried pam ymhellach ymlaen.
Gardd Goffa Newtown - hen gymdogaeth Wyddelig yng NghaerdyddYn ychwanegol at hynny, 'dwi'n cofio pan oeddwn i yn y coleg yn Aberystwyth ers talwm, roedd nifer o fyfyrwyr o gefndir Gwyddelig De Cymru yn llawer mwy penboeth na'r sawl yn ein mysg oedd o gefndir cenedlaetholgar Gymreig traddodiadol (cyfarchion os ti'n digwydd darllen Dave).
Soniais yngynt bod rhai o fy nghymdogion o gefndir Gwyddelig. Mae un o'r rheiny, fel fy ngwraig (Lyn) yn dod o Gaerdydd. Trwy gyd ddigwyddiad mae'n ymddangos bod ei chyn dadau hi, a chyn dadau fy ngwraig yn gymdogion yn
Landore Court (slym Gwyddelig) Caerdydd ar ddechrau'r ganrif diwethaf. Roedd ei theulu hi - y Sextons, a theulu hen nain Lyn - yr O'Driscolls yn dod yn wreiddiol o Orllewin Cork. Doedd hyn ddim yn gyd ddigwyddiad - cafwyd mewnfudiad sylweddol o Wyddelod o'r rhan honno o'r wlad trwy borthladdoedd De Cymru yn ystod blynyddoedd y Newyn Mawr -
an Gorta Mór . Cyn hynny 'doedd yna ddim niferoedd sylweddol o Wyddelod yn byw yng Nghymru (er bod rhai, yn arbennig ym Morgannwg a Gwent).
O Orllewin Cork yr oedd llawer iawn o'r trueniaid yma'n dod - lle gwyllt, gwledig anghysbell, lle a ddioddefodd yn enbyd yn ystod y newyn - a lle oedd bryd hynny'n unieithog Wyddelig. Duw a wyr beth oeddynt yn ei wneud o ddinasoedd De Cymru yng nghanol y bedwerydd ganrif ar bymtheg, O Bandon mae teulu'r Mrs yn dod yn wreiddiol. 'Dwi bron yn siwr mai o ardal Timoleague mae teulu Mari'n dod. Dydi Sexton ddim yn enw cyffredin yn Iwerddon y tu allan i ddinas Limerick, ond mi stopidd y Mrs a minnau i grwydro mynwent yn abaty Timoleague yn ddiweddar. Sextons oedd chwarter da o'r sawl oedd wedi eu claddu yno. Welais i ddim Sexton ar garreg bedd arall yn yr Iwerddon.
Mynwent TimoleagueSaith deg pump o flynyddoedd yn ddiweddarach roedd Gorllewin Cork yng nghanol stormydd mawr y Rhyfel Eingl Wyddelig a'r Rhyfel Cartref - doedd
cyflafan Kilmichael na
Béal na mBláth y man y lladdwyd
Michael Collins ddim ymhell o Bandon a Timoleague. Mae'r holl enwau ar gofgolofnau man drefi'r ardal yn dystiolaeth i hynny hefyd. Roedd y digwyddiadau hynny ymhell yn y dyfodol pan roedd lwmp sylweddol o'r boblogaeth a oroesodd yng Ngorllewin Cork yn gwneud eu ffordd tua'r llongau oedd i'w cludo i Dde Cymru, ond roeddynt i gael effaith arwyddocaol ar wl;eidyddiaeth eu disgynyddion - a'u gyrru i gyfeiriad gwleidyddol anisgwyl.
Kilmichael'Rwan, does yna ddim mymryn o amheuaeth i hunaniaeth cenedlaethol a gwleidyddol Gwyddelod De Cymru oroesi ymhell i mewn i'r ganrif ddiwethaf. Mae'r hunaniaeth cenedlaethol yn dal i fodoli i raddau. 'Does yna ddim amheuaeth chwaith i hynny effeithio'n sylweddol ar y ffordd roeddynt yn ymresymu'n wleidyddol. Cefnogi prif ffrwd cenedlaetholdeb cyfansoddiadol Gwyddelig wnaeth y gymuned Wyddelig yn Ne Cymru wedi 1868, er bod tystiolaeth o gefnogaeth arwyddocaol i'r
Fenians ar hyd y De cyn hynny. Mae'r ymgiprys rhwng dwy ffrwd o syniadaeth cenedlaetholgar yn Iwerddon, y naill yn gyfansoddiadol a'r llall yn anghyfansoddiadol a milwriaethus yn nodwedd o genedlaetholdeb Gwyddelig ers canrifoedd. Mae'n dal yn fyw heddiw.
Yn ystod y bedwerydd ganrif ar bymtheg (ac am gyfnod wedyn wrth gwrs) lleiafrif bach oedd a'r hawl i bleidleisio. Does dim amheuaeth bod y Gwyddelod yn y De oedd a'r hawl i bleidleisio yn ymresymu mewn ffordd neilltuol Wyddelig wrth wneud hynny - ond nid oedd hynny'n golygu eu bod o anghenrhaid i gyd yn pleidleisio yn yr un ffordd.
Er enghraifft, yn etholiad 1874 roedd Rhyddfrydwyr y De yn gwneud yn fawr o'u cydymdeimlad ag achosion Gwyddelig, ond roedd y Toriaid yn gefnogol i addysg enwadol. Er bod mwyafrif llethol Gwyddelod cyffredin (di bleidlais) o blaid y Rhyddfrydwyr mae'n debyg i leiafrif sylweddol o'r sawl a gai bleidleisio roi eu pleidlais i'r Toriaid - gan sicrhau mai crafu adref wnaeth y Rhyddfrydwyr yng Nghaerdydd a cholli ym Mynwy (Casnewydd ydi'r ardal efo'r dwysedd mwyaf o bobl o gefndir Gwyddelig yng Nghymru). Mae'r rhwyg yma rhwng gofynion yr Eglwys ac ystyriaethau cyfansoddiadol hefyd yn hen rwyg sydd wedi goroesi. Wedi dweud hynny mae'n debyg i gefnogaeth i'r Rhyddfrydwyr ymysg Gwyddelod y De fynd yn fwy cadarn o lawer wedi i'r
Irish Nationalist Party ffurfio cysylltiadau clos efo nhw - er i addysg godi ei ben sawl gwaith wedyn, a chostio pleidleisiau Gwyddelig i'r Rhyddfrydwyr.
Y cyfnod 1916 i 1922 yn Iwerddon oedd yn gyfrifol am newid patrymau pleidleisio'r Gwyddelod yn y De. Doedd
Gwrthryfel 1916 ddim yn boblogaidd ymysg Gwyddelod y De, ond roedd dienyddio'r arweinwyr yn ddigwyddiad gwleidyddol arwyddocaol oherwydd iddo wanio cenedlaetholdeb cyfansoddiadol yn Iwerddon, a gwanio'r cyswllt rhwng y Rhyddfrydwyr a'r
Irish Nationalist Party. Dyma pryd y dechreuodd Gwyddelod yn rhannau o'r De symud tuag at y Blaid Lafur, a'r
Independent Labour Party - yn arbennig felly ym Merthyr.
Yn y cyfamser newidiodd etholiad 1918 yn yr Iwerddon y tirwedd gwleidyddol yno'n llwyr - fe chwalwyd cenedlaetholdeb cyfansoddiadol yn gyfangwbl, a symudodd Iwerddon yn ol at draddodiad gwleidyddol
Wolf Tone. Effeithwyd ar wleidyddiaeth Gwyddelod y De gan hyn - ac eto daeth yn haws i Wyddelod bleidleisio i Lafur, ac yn fwy arbennig i'r ILP. Er enghraifft, erbyn 1921 roedd gan yr
Irish Self Determination League gysylltiadau clos iawn efo'r ILP. Roedd gwleidyddion Llafur ac ILP lleol hefyd yn uchel iawn eu cloch yn erbyn rhai o weithredoedd lluoedd diogelwch Prydain yn Iwerddon yn ystod y cyfnod.
Y cam mawr, fodd bynnag, oedd ffurfio
Gwladwriaeth Rydd yn Iwerddon ym 1922. Roedd y digwyddiad hwn yn 'rhyddhau'r' gymuned Wyddelig yn Ne Cymru i integreiddio yn wleidyddol ac yn gymdeithasol. Roeddynt yn cael eu rhyddhau o'r berthynas draddodiadol efo'r Rhyddfrydwyr, ac roeddynt yn gallu pleidleisio mwy yn ol gofynion eu buddiannau economaidd nhw eu hunain. Pobl drefol dosbarth gweithiol oedd y rhan fwyaf ohonynt erbyn hynny, ac roedd llawer ohonynt eisoes yn weithgar yn yr undebau Llafur. Daeth Llafur i sefydlu ei hun fel prif blaid - unig blaid mewn mannau - y De diwydiannol yn ystod cynni'r tri degau. Am y tro cyntaf roedd Gwyddelod De Cymru yn defnyddio'r un rhesymeg na phawb arall yn y De wrth bleidleisio - ac roedd y rhesymeg hwnnw'n eu gyrru i gyfeiriad y Blaid Lafur.
Mae Alwyn yn cyfeirio at wrth Gymreigwyr Llafur o gefndiroedd Gwyddelig fel Paul Murphy a Don Touhig. Mae Paul Flynn a Kevin Brennan o'r un traddodiad yn union. Mae yna ffrwd wrth Gymreig i wleidyddiaeth Llafur y De, ac mae yna ffrwd sydd ddim yn wrth Gymreig. Adlewyrchu hynny mae Messrs Touhig, Brennan, Flynn a Murphy - nid adlewyrchu'r traddodiad gwleidyddol Wyddelig yng Nghymru. Mae hwnnw i bob pwrpas wedi hen farw.
Os oes rhywun efo diddordeb yn y materion uchod, darllenwch lyfr Paul O'Leary (Gwyddel Cymreig arall oedd yn Aberystwyth yr un pryd a fi) Immigration & Integration. 'Dwi wedi pori yn hwnnw am rai o'r manylion uchod.