Wednesday, July 31, 2013

Ffigyrau'r mis


Pob lwc Rhun


Darogan canlyniad is etholiad Ynys Mon

Reit y rhan hawdd i ddechrau.  Mae Rhun am ennill a hynny yn gyfforddus.


Rwan am y darogan mwy anodd.  Mae'r gyfradd pleidleisio yn debygol o fod yn isel.  Dwy is etholiad sydd wedi bod yn hanes y Cynulliad Dwyrain Abertawe (2001) 22.6% a Blaenau Gwent (2006) 49.6%.  Mae'r gyfradd pleidleisio yn debygol o fod rhwng y naill a'r llall yn Ynys Mon.  Cynhalwyd is etholiad Blaenau Gwent ar yr un diwrnod ag is etholiad San Steffan, ac roedd yn cael ei chynnal mewn amgylchiadau anarferol iawn.  Byddai'r gyfradd pleidleisio mewn is etholiad Cynulliad arferol ym Mlaenau Gwent yn llawer is.

Erbyn dydd Llun roedd 54% o'r 8,800 o'r pleidleisiau post a ddosbarthwyd gan Gyngor Mon wedi eu dychwelyd.  Gellir darogan y bydd tua 60% wedi eu dychwelyd erbyn 'fory.  Mae hyn yn isel, mae 70% i 80% o bleidleiswyr post yn dychwelyd eu pleidleisiau gan amlaf.  Mae hynny yn aml 50% ar ben y gyfradd pleidleisio cyffredinol.  Byddai cyfradd pleidleisio o 60% yn awgrymu cyfradd gyffredinol o 40%. Gallai fod yn is na hynny.  Dwi'n gwybod y bydd ymdrech anferth fory gan y Blaid i gael ei chefnogwyr allan - ond mae'n dalcen caled i ymladd yn erbyn tueddiadau cryf i beidio a phleidleisio mewn is etholiadau - ac mae hynny yn arbennig o wir am is etholiad yng nghanol haf sydd wedi ei hamddifadu o sylw cyfryngol tan yn ddiweddar.   Byddai dod yn agos at  y 48.6% a welwyd yn etholiad 2011 yn gryn gamp.  Un cysur i'r Blaid o hynny ydi bod ei mwyafrif canrannol yn debygol o fod yn uchel iawn os ydi'r gyfradd pleidleisio yn isel iawn.  Mae Pleidwyr yn llawer gwell na neb arall am bleidleisio - yn y Gogledd Orllewin o leiaf.  Ar ben hynny gallai ymdrech lwyddiannus gan y Blaid i gael ei chefnogwyr allan, a diffyg llwyddiant gan y pleidiau unoliaethol i wneud hynny arwain at ganlyniad trawiadol iawn.

O, a thra rydym yn son am bleidleisiau post, y sibrydion sy'n dod o gyfeiriad y sawl sydd wedi gweld y rhai a ddychwelwyd ydi bod Rhun ymhell ar y blaen.  Mae Llafur a Phlaid Cymru yn cytuno ar hynny - nid bod y naill blaid na'r llall yn debygol o gadarnhau hynny.

Y Toriaid oedd yn ail yn 2011.  Fyddan nhw ddim yn ail y tro hwn.  Ar ddiwrnod da gallai'r Dde ddisgwyl hyd at 30% ar Ynys Mon.  Mae'r bleidlais honno wedi ei hollti y tro hwn rhwng y Toriaid ac UKIP, ac mae UKIP wedi gwneud gwell sioe o ymgyrchu na'r Toriaid.  Bydd y Toriaid yn hynod lwcus o ddod yn drydydd.  Ynys Mon ydi un o'r etholaethau gwaethaf i'r Lib Dems a fydd dim yn newid y tro hwn - byddant yn colli eu hernes ynghyd a Katherine Jones.

Llafur sy'n debygol o ddod yn ail.  Mae eu pleidlais mewn etholiadau Cynulliad hyd yn hyn wedi amrywio o 4,681 i 7,181.  Os byddant yn gwneud joban go lew ar gael eu pleidlais ar Ynys Cybi ac mewn un neu ddau o leoedd trefol eraill gallant ddod yn agos at waelod yr amrediad yna.  O fethu gwneud hynny gallant syrthio o dan 4,000, neu hyd yn oed 3,500 - rhywbeth fyddai yn eu rhoi yn anghyfforddus o agos at UKIP.

A di ystyru pleidlais anferthol 1999 mae pleidlais y Blaid wedi bod yn yr amrediad 9,452 i 10,653.  Mae'n anodd, ond yn bosibl cadw'r bleidlais honno mewn cyd destun is etholiad ganol haf sydd heb gael fawr ddim sylw cyfryngol o gwbl.  Byddai cadw pleidlais y llynedd yn rhoi'r Blaid tros 45%.  Byddai hwnnw'n  berfformiad da iawn.   Byddai dod yn agos at yr uchafswm yn rhoi tua hanner y bleidlais i'r Blaid.  Dyna ddylai'r targed fod a byddai cyrraedd hynny yn ganlyniad gwych.  Byddai cyrraedd y 52.6% a gafodd Ieuan Wyn yn ol yn 1999 yn un anhygoel.

Croeso i unrhyw un sydd am ddarogan y canlyniad wneud hynny ar y dudalen sylwadau.  

Monday, July 29, 2013

Pam bod gan y Blaid le i fod yn obeithiol yn Ynys Mon

Dwi ddim eisiau galw is etholiad Ynys Mon eto, ond dyma i chi un neu ddau o argraffiadau  - argraffiadau cwbl bersonol dwi'n prysuro i nodi.   Well i mi roi fy nghardiau ar y bwrdd cyn cychwyn - does gen i ddim mynediad i fawr ddim data.  Mae'r hyn sydd gen i i'w ddweud wedi ei seilio ar fy argraffaiadau o fod allan yn canfasio - a dwi wedi gwneud hynny yn Ne yr ynys yn bennaf.  I'r sawl nad ydynt yn gyfarwydd a daearyddiaeth etholiadol Ynys Mon mae cefnogaeth y Blaid fel rheol ar ei gryfaf yng nghanol yr ynys, wedyn y De, tra bod y gefnogaeth yn is yn y Gogledd ac ar Ynys Cybi.

Un peth amlwg ydi bod adnabyddiaeth pobl o Rhun yn llawer cryfach nag ydi eu hadnabyddiaeth o'r enwau eraill sydd ar y papur pleidleisio.  Mae hyn yn bwysig mewn unrhyw etholaeth, ond mae'n arbennig o bwysig mewn etholaeth sydd a thraddodiad annibynnol cryf fel Ynys Mon.  Mae yna lawer o bobl ar yr ynys yn pleidleisio tros y sawl sy'n gyfarwydd, a'r sawl sydd a chysylltiadau lleol cryf - fel mae'r etholiadau lleol diweddar yn dangos yn glir.  A waeth i ni fod yn blaen ddim - mae gan y Blaid ymgeisydd llawer cryfach na'r un o'r pleidiau unoliaethol.

Yr ail beth sy'n amlwg ydi nad yw'r pleidiau unoliaethol wedi cysylltu yn llwyddiannus efo'r etholwyr.  Un o'r arwyddion amlycaf i ganfasiwr bod gan ei blaid broblemau ydi bod naratif un neu fwy o'r pleidiau eraill i'w chlywed ar y stepan drws.  Mae hynny'n dangos bod y pleidiau hynny wedi cyfathrebu eu neges i'r etholwyr.  Dydw i heb gael y profiad hwnnw o gwbl y tro hwn.

Yn drydydd ychydig iawn o dystiolaeth ymgyrchu gan y pleidiau unoliaethol sydd i'w weld ar hyd a lled yr ynys.  Dwi ddim yn amau bod ymgyrchu lleol wedi bod gan Llafur ac UKIP, ond does yna ddim ymgyrchu ynys gyfan gwerth son amdano wedi digwydd.  Dwi'n gwybod bod rhai cyfeillion wedi bod yn dweud bod Llafur yn gallu gwneud gwyrthiau o ganolfanau ffonio - dwi ddim yn derbyn hynny.

Yn bedwerydd mae'r cyfryngau wedi cadw'n weddol glir o'r etholiad ac wedi gadael i beiriannau ymgyrchu'r pleidiau ei chwffio hi ar lawr gwlad.  Mae'r hyn sydd gan y Blaid i'w gynnig yn hyn o beth yn llawer, llawer mwy -a mwy pwerus -na'r hyn sydd gan y pleidiau unoliaethol i gyd efo'i gilydd.  Mae'n brofiad anarferol i mi ganfasio efo pobl nad ydw i wedi eu cyfarfod o'r blaen.  Yn ystod yr etholiad yma dwi wedi canfasio efo dwsinau o bobl nad ydw i wedi eu cyfarfod o'r blaen.  Mae yna nifer sylweddol iawn o bobl wedi bod allan yn ymgyrchu.  Byddai'n syndod i mi petai cymaint wedi bod allan mewn unrhyw etholiad diweddar yng Nghymru i unrhyw blaid.
Yn bumed mae'n ymddangos bod pleidlais y Dde wedi ei hollti.  Mae tua chwarter y bleidlais ym Mon - mwy weithiau - yn  mynd i'r pleidiau adain Dde.  Mae ymgyrch ddi glem y Toriaid ynghyd ag ymgyrch mwy brwdfrydig UKIP yn awgrymu y bydd yr ail o'r rhai  yn cael mwy o bleidleisiau na'r cyntaf.

Rwan dydi hyn oll ddim yn golygu bod yr etholiad wedi ei hennill eto - mae yna ddigon o dystiolaeth o'r di faterwch sydd wedi bod yn bla ar wleidyddiaeth Cymru a Phrydain ers 1997.  Mae yna lawer o waith i'w wneud eto o ran sicrhau bod pleidleiswyr yn mynd allan i bleidleisio.  Os bydd y Blaid yn llwyddo yn hynny o beth tros y dyddiau nesaf, mae gennym ddigon o le i fod yn obeithiol am nos Iau gofiadwy.Ond mae llawer o waith i'w wneud cyn hynny.

Saturday, July 27, 2013

Ar record etholiadaol penigamp Ieuan Wyn Jones

Mae yna rhyw dueddiad - ac nid o gyfeiriad gelynion y Blaid yn unig i ddilorni record etholiadol Ieuan Wyn Jones.  Roeddwn yn siarad efo rhywun a ddylai wybod yn llawer gwell ar Ynys Mon y diwrnod o'r blaen oedd yn fy sicrhau (yn gwbl gyfeiliornus) i fwyafrif Ieuan syrthio ym mhob etholiad  ers talwm iawn.   Efallai y dylai'r sawl sy'n llafurio oddi tan yr argraff yma gymryd y drafferth i edrych ar ganlyniadau etholiadau go iawn.


  • Dydi'r Blaid erioed wedi ennill etholiad Cynulliad na San Steffan ar Ynys Mon heb enw IWJ ar y papur pleidleisio.
  • Does yna neb yn hanes yr etholaeth - ar lefel San Steffan na Chynulliad - wedi dod yn agos at yr 18,580 pleidlais gafodd Ieuan yn etholiad San Steffan 1987.  14,874 ym mlwyddyn penllanw Llafur yng Nghymru -1966 - ydi'r mwyaf o bleidleisiau gafodd Cledwyn Hughes erioed. 
  • 1966 oedd yr unig dro i Cledwyn gael mwy nag hanner y bleidlais yn Ynys Mon.  Ieuan ydi'r unig berson arall i wneud hynny ers 1945.  (1999 Cynulliad).  Dim ond tri oedd yn sefyll yn etholiad 1966.
  • Y ganran isaf o'r bleidlais i Ieuan ei chael fel enillydd  oedd 37.1% (Etholiad Cyffredinol 1992).  Mae hyn yn uwch na'r ganran uchaf i Albert Owen ei chael erioed (35% 2001).  Ar yr un achlysur pan gollodd (1983) cafodd yr un ganran a llawer mwy o bleidleisiau na gafodd Albert Owen pan enillodd yn 2010.  Yn wir cafodd Ieuan fel collwr fwy o bleidleisiau na gafodd Albert Owen erioed fel enillydd.
  • Dim ond Cledwyn Hughes sydd wedi ennill mwy o etholiadau ( mewn hanes modern) na Ieuan.  (7 i 6).  Enillwyd mwy o etholiadau gan Ieuan na Megan Lloyd George (5). 
  • Does yna neb wedi dod yn agos at y mwyafrif gafodd Ieuan yn etholiad y Cynulliad 1999.  Cledwyn Hughes yn ol ym 1964 (mwyafrif 6,537 / 23.1%) ddaeth agosaf at fwyafrif Ieuan o 9288  - 29.5% yn yr etholiad hwnnw.  Ah - erbyn edrych yn iawn mae yna un canran fwyafrifol uwch - 1910.  
Ar sawl cyfri, Ieuan ydi'r gwleidydd mwyaf llwyddiannus yn hanes etholiadol Ynys Mon.

Thursday, July 25, 2013

Capmwaith diweddaraf Gwilym Owen

Dydi bisar ddim yn air digon cryf rhywsut i ddisgrifio colofn ddiweddaraf Gwilym Owen yn Golwg.

Mae dyn yn rhyw gymryd mai'r rheswm bod Golwg yn talu i Gwil am ei druth pythefnosol ydi oherwydd eu bod (am resymau sy'n amlwg yn unig i olygydd Golwg) eisiau iddo fynegi ei farn am y Byd a'i bethau - neu a bod yn fwy manwl am Gymru a'i phethau.  Efallai bod y farn honno yn ymdebygu i rhywbeth wedi ei lusgo o Oes y Cerrig yn amlach na pheidio, ond dyna mae Golwg ar ei ol.



Mae ymdrech y rhifyn cyfredol yn ymwneud bron yn llwyr a phroblem fach gafodd Gwil ei hun - sef cael ei ddychanu ar raglen radio Tudur Owen (sgwn i os ydyn nhw yn perthyn?).  Os dwi'n cofio yn iawn ymddangosodd deinasor bach o'r enw Gwilym ar raglen Tudur  ac roedd gan y deinasor lais tebyg iawn i un Gwilym Owen.  Penderfynodd teulu (dychmygol) Bron Meirion ei fabwysiadu, ac yn naturiol ddigon roedd rhaid rhwbio ei drwyn yn ei faw pob hyn a hyn - er mwyn sicrhau ei fod yn ffit i aros yn y ty.

Wnaeth Gwil ddim cymryd hyn oll yn dda - mynodd ymddiheuriad gan y Bib - ac yn gwbl anhygoel mi gafodd un - yn ol ei dystiolaeth ei hun o leiaf.

 Rwan mae yna rhywbeth yn ddigri yn hyn oll - y boi sy'n ei tharannu hi am rhywun neu'i gilydd yn rheolaidd, sy'n galw am sacio hwn a dilorni'r llall pob cyfle gaiff yn ofnadwy, ofnadwy o groen denau ei hun yn wyneb mymryn o ddychan di niwed.  Ond o ddifri - ydi'r Bib yng Nghymru mor lleddf a llwfr nes eu bod yn ymddiheuro i bobl sy'n wrthrychau mymryn o ddychan ysgafn a di niwed mewn eitem gomedi ar y radio.  Neu efallai mai gwedd arall ar barchedig ofn y Gorfforaeth yng Nghymru o'r Blaid Lafur sydd ar waith.  Dydyn nhw ddim i fod i wneud sbort  am ben eu propogandwyr hunan bwysig.

ON - Gwil - fy neinasor bach sensitif i, os ti'n darllen  - os ti byth yn dod yma i chwilio am ymddiheuriad, gwna'n siwr nad wyt ti'n cachu ar y llawr neu mi fyddaf yn rhwbio dy drwyn ynddo nes ei fod yn ddu, las, frown.  O - a fyddi di ddim yn derbyn dy ymddiheuriad chwaith.  Dallt?

Wednesday, July 24, 2013

Diffyg sylw cyfryngol i is etholiad Ynys Mon

Rwan peidiwch a chamddaeall - dydw i ddim yn cwyno gormod am unwaith - mae etholiadau yn gweithio'n well o safbwynt y Blaid (yn y Gorllewin a'r Gogledd Orllewin o leiaf) pan mae hi'n frwydr syml rhymgddi hi a'r pleidiau unoliaaethol heb ymyraeth cyfryngol.  Mae'r cyfryngau yn rhoi proffeil i ymgeiswyr sy'n gwneud dim i godi eu proffeil eu hunain.

Ond mewn difri ond tydi'r diffyg sylw cyfryngol yn anhygoel?  Mae is etholiad Ynys Mon yn hynod bwysig i'r graddau bod mwyafrif llwyr i Lafur yn y fantol.  Meddyliwch yr hw ha fyddai yna gan y cyfryngau Prydeinig petai'n is etholiad San Steffan gyda chytbwysedd mwyafrifol yn San Steffan yn y fantol.

Mae'n dystoolaeth - os bu tystiolaeth erioed - nad yw'r cyfryngau Cymreig yn cymryd y Cynulliad wirioneddol o ddifri hyd heddiw.

Tuesday, July 23, 2013

Bodffordd

Un o'r criwiau oedd allan yn Ynys Mon heno - ym Modffordd oedd hwn.  Dwi'n deall bod yr ymateb yn rhagorol. 

Roedd rhaid i Llyr a mi fynd i daflennu yng Ngwalchmai a Llangefni am bod gormod o bobl allan.






Ble mae Tal?

Fel dwi'n 'sgwennu'r blogiad yma mae  gan y Blaid o leiaf bedwar tim allan yn canfasio ar |Ynys Mon a thim arall yn taflennu.  Y prynhawn yma mi fydd yna o leiaf bump tim canfasio allan a thim taflennu.  Heno bydd  o leiaf bump tim canfasio allan a thim taflennu.  Bydd y trefniadau yn debyg am weddill yr wythnos.

Dydw i ddim yn gwybod beth mae'r Blaid Lafur yn ei wneud, dydw i ddim wedi dod ar draws fawr ddim tystiolaeth o fodolaeth eu hymgyrch (mae'r un peth yn wir am y Lib Dems a'r Toriaid gyda llaw - er fy mod wedi dod ar draws taflenni UKIP).  Dydw i ddim wedi gweld cymaint ag un poster Llafur (na'r Lib Dems na'r Toriaid).  Dwi'n deall trwy gyfrwng trydar bod Llafur 'out canvassing in Holyhead, great reception, neu bod Tal yn bwyta bara brith tra'n edrych ar dy ei nain neu beth bynnag - ond dyna fo. 

A daw hynny a ni at ymgyrch Llafur ar y We.  Yn ol Tal fydd o ddim yn blogio yn ystod yr ymgyrch, ond mae'n rhoi tudalen i ni efo'r newyddion diweddaraf am ei ymgyrch.  Dydi honno heb ei diweddaru ers i rhyw ddynas digon ffeind yr olwg ym Miwmaris ddweud wrth Tal ac Edwina Hart ei bod yn ei gefnogi - chwe niwrnod yn ol.  Mae yna ambell i lun o Tal yn ymgyrchu wedi ymddangos yma ac acw ar negeseuon trydar pobl eraill - gan amlaf ar ffurf Tal ac Albert yn siarad efo rhywun.

Dydi'r ffrwd trydar Labour4YnysMon heb ei ddiweddaru ers ddydd Gwener, a dydi Tal heb drydaru ers ein darparu efo'r wybodaeth ddiddorol iddo gael oggie i de ddydd Sul.

Lle mae pawb?  Ydi Llafur yn ymgyrchu?  Ydi pawb wedi mynd adref?  Ydi'r oggie wedi gwneud Tal yn rhy sal i ymgyrchu?  

Sunday, July 21, 2013

Syniadau a Wylfa B

Dydi blogiadau Saesneg ddim yn gyffredin ar Blogmenai - er efallai bod y sawl yn eich plith sydd efo cof da yn gallu dwyn i gof un neu ddau yn y gorffennol gweddol bell.  Mae yna resymau tros y blogiadau hynny - i wneud yn siwr bod rhywun neu'i gilydd yn eu deall ydi'r rheswm gan amlaf. 

Dydi awdur y blog Syniadau, Michael Haggett ddim yn rhugl ei Gymraeg eto, felly mae'r ymateb isod i'r blogiad yma yn y Saesneg.


The initial thing to say is that I have a certain amount of sympathy with some of the points Michael has raised - especially the inappropriateness of elected Plaid representatives attacking the concept of independence.  Independence is a core nationalist principle. 

However   the exact method by which electricity is generated isn't a core nationalist principle or indeed a nationalist principle of any description.  A blanket refusal to countenance the production of energy with a nuclear reactor might be party policy, but the party is made up of human beings & humans don't agree on everything.  The party isn't a bee hive, & a hive mentality isn't  healthy for any organization.  Attitudes to independence & electricity production shouldn't be conflated. 

If you live in the North Western corner of Wales - as perhaps 40% of Plaid members do, the nuclear issue is problematic.  On the one hand there's party policy, &on the other there's real politics - and real life.  Quality employment is scarce & our base is made up of the ordinary working people who live around us - friends, neighbours, acquaintances - real people with real families to keep, with real mortgages to pay with real household budgets to manage.  Our base, our people - the people we need to protect & look after.  Incidentally - & it is incidental - there's a real election to fight in a real constituency which has for a number of generations had a nuclear facility as one of its main sources of employment.  This might not be satisfying from the point of view of an ideologue, but that's how it is. 

Now most  people on the ground understand this.  There isn't uniformity within Plaid ranks in the North West regarding WylfaB, but people from both sides of the argument understand the lay of the land.  Now I hesitate to outline Rhun's position for him, but he probably believes that WylfaB presents Ynys Mon & the wider North West region with economic opportunities, but recognizes that questions need to be answered before the development goes ahead - questions about future costs, waste, linguistic & community impact etc. He also believes that any benefits that accrue from any development should impact locally.  This is a logical position as well as a principled one. 

As I've suggested before I find it regrettable that the Syniadau blog is intent on focusing a far wider campaign on the one issue Labour wants to fight the campaign on.  This is the sole area they are able to gain any traction - having  a parachuted candidate who's got the thankless task of defending a decade & a half of Labour ennui, failure & incompetence.  Yet the author of the blog spends  his time looking for press interpretations of something or other that Rhun said or something written on  a 140 character format to indicate that he's rabidly pro nuclear - & on finding what he wants to find  having an almighty public strop about it.

The personal nature of some of the latest comments is even more regrettable.  Rubbishing the views of the candidate on a specific issue is one thing, rubbishing the candidate personally is quite another  - & it's very difficult to imagine why any party member would do such a thing in the middle of an important election campaign.  Everybody who knows the man understands him to be decent, intelligent, principled & hard working.   At no point during this debate has anybody made vicious personal comments about the author of Syniadau, & I very much hope that situation continues. 

Now there are various side issues which are relevant  to this argument - the failure of the very large Northern membership to fully engage in internal party debates & make it's numerical superiority count, the appropriateness of having an old fashioned blanket anti nuclear stance in an environment where dependence on fossil fuels needs to be cut & renewable sources are unpopular being just two.

But the issue I'd like to focus on is this - there's little we can learn from Labour, but discipline is an exception.  They have their arguments in a room & they pull together in public.  Some of us  have a great deal to learn from that. 

Canlyniadau etholiadau Cynulliad Ynys Mon hyd yn hyn

Rhag ofn bod rhywun alln acw efo tueddiadau anoracaidd fel finnau wele ganlyniadau etholiadau Cynulliad Ynys Mon hyd yn hyn - y cwbl wedi eu dwyn o wikipedia.

Welsh Assembly Election 2011: Ynys Môn[3]
PartyCandidateVotes%±%
Plaid CymruIeuan Wyn Jones9,96941.4+1.7
ConservativePaul Williams7,03229.2+16.2
LabourJoe Lock6,30726.2+8.8
Liberal DemocratsRhys Taylor7593.2−0.2
Majority2,93712.2
Turnout24,06748.6
Plaid Cymru hold

Welsh Assembly Election 2007: Ynys Môn[4]
PartyCandidateVotes%±%
Plaid CymruIeuan Wyn Jones10,65339.7+2.3
IndependentPeter Rogers6,26123.3+23.3
LabourJonathan Edward N. Austin4,68117.4−6.4
ConservativeJames Paul Robert Roach3,48013.0−15.5
Liberal DemocratsMrs. Mandi L. Abrahams9123.4−4.9
UKIPFrancis C. Wykes8333.1+2.2
Majority

Welsh Assembly Election 2003: Ynys Môn
PartyCandidateVotes%±%
Plaid CymruIeuan Wyn Jones9,45237.4−15.2
ConservativePeter Rogers7,19728.5+9.3
LabourWilliam G. Jones6,02423.8+0.9
Liberal DemocratsNicholas Bennett2,0898.2+3.0
UKIPFrancis C.Wykes4811.9N/A
Majority
Welsh Assembly Election 1999: Ynys Môn
PartyCandidateVotes%±%
Plaid CymruIeuan Wyn Jones16,46952.6N/A
LabourAlbert Owen7,18122.9N/A
ConservativePeter Rogers6,03119.2N/A
Liberal DemocratsJames H. Clarke1,6305.2N/A
Majority

Thursday, July 18, 2013

Rhan Tal Michael mewn 'stitch up' Llafur arall

Bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn gwybod i Tal Michael gael ei ddewis ym Mon yn rhannol oherwydd i John Chorlton gael ei wahardd rhag cael ei ystyried gan Bwyllgor Gwaith y Blaid Lafur yng Nghaerdydd.



Ddylai neb synnu  llawer wrth gwrs - trwy'r math yma o ddulliau y bydd ymgeiswyr Llafur yn cael eu hethol yn aml.  Ond yr hyn sy'n rhyfedd ydi i Tal gymryd rhan mewn stitch up eithaf enwog flynyddoedd yn ol.

Mae'r stori yn ymwneud ag un o gyd gynghorwyr Tal yn Islington yn ol yn y naw degau cynnar oedd eisiau mynd yn AS Llafur tua Leeds - dynas o'r enw Liz Davies.  Gwrthodwyd ymgeisyddiaeth Liz Davies oherwydd i gwynion gael eu gwneud amdani - sef  ei bod wedi heclo ac annog trais mewn cyfarfod o Bwyllgor Addysg Islington.  Penderfynodd y Pwyllgor Gwaith nad oedd yn berson addas i fod yn AS Llafur. 

Yn anffodus roedd pwy bynnag oedd wedi gwneud yr honiad wedi anghofio rheol cyntaf yr adroddwr anwiredd - paid byth ag enllibio twrna.  Bar gyfreithiwr ydi Liz Davies. Canlyniad y penderfyniad oedd achos enllib gyda thri o gynghorwyr Llafur yn ateb cyhuddiadau o enllib.  Tal Michael oedd un o'r rheiny.  Wnaeth yr achos ddim cyrraedd ei derfyn yn dilyn datganiad gan y tri eu bod bellach yn derbyn nad oedd sail i'r honiadau ynghyd a chyfraniadau ariannol ganddynt i ymgyrch etholiadol Jeremy Corbin. 

Ymddengys bod gan y ddynas acw bwynt pan ddywedodd bod golwg dan din ar Tal y tro cyntaf gwelodd ei lun rhyw rhyw bythefnos yn ol.

 Gellir gweld mwy am y stori yma ac yma.

ON - peidiwch a disgwyl gweld y stori yma ar gyfly y Bib na'r Western Mail

Wednesday, July 17, 2013

David Jones - helpar bach y Blaid Lafur

Siomedig iawn oedd datganiad Danny Alexander ynglyn ag ymateb y llywodraeth i Adroddiad Silk heddiw.  Mae'n ymddangos bod ymgynghoriad am fod ynglyn ag effaith y mater cymharol fach o ddatganoli'r dreth gwerthiant tai - y stamp.  Byddwch yn cofio i adroddiad gwreiddiol Silk awgrymu datganoli sleisen fawr o'r cyfrifoldebau codi treth -gan awgrymu y dylai'r llywodraeth ym Mae Caerdydd fod yn gyfrifol am godi tua chwarter ei chyllideb trwy gyfuniad o drethi - gan gynnwys rhan o'r  dreth incwm. 



Hyd yn oed os ydi'r dreth stamp yn cael ei ddatganoli yn y diwedd, mae'n dreth cymharol ddibwys sydd ddim yn codi swm sylweddol o arian. 

Rwan mae ymateb mwy llawn yn dod gan y llywodraeth ym Mis Medi - i fod.  Roedd yr ymateb i fod i ymddangos cyn diwedd gwanwyn eleni yn wreiddiol.  Mae'n debyg mai'r rheswm pam na wnaeth ymddangos ydi bod ffrae yn digwydd rhwng y Trysorlys a'r Swyddfa Gymreig - mae Danny Alexander yn ddatganolwr brwd wrth reddf, tra bod David Jones yn _ _ _ wel wrth ddatganolwr brwd wrth reddf.  Ym myd bach David Jones mae unrhyw ddatganoli yn ormod o ddatganoli.  Mae felly wedi cymryd misoedd i berswadio David i adael i'r mater cymharol ddibwys yma fynd  i ymgynghoriad. 

Mae'r blog yma wedi datgan dro ar ol tro yn y gorffennol y byddai datganoli pwerau trethu llawn yn newyddion drwg i'r Blaid Lafur yng Nghymru - ac yn wir gallai fod yn newyddion da i'r Toriaid Cymreig.  Mae hegemoni gwleidyddol Llafur yng Nghymru wedi ei sefydlu ar y ffaith eu bod yn gallu gwneud llawer o swn yn mynnu mwy a mwy o wariant cyhoeddus  heb orfod codi ffadan goch o dreth ar neb er mwyn codi'r arian sydd ei angen i wneud hynny.  Y peth diwethaf mae Llafur ei eisiau ydi i berthynas gael ei sefydlu rhwn gwariant cyhoeddus a threthiant.  Byddai perthynas o'r fath yn rhywbeth y byddai'r Blaid Lafur Gymreig yn ei gael yn anodd iawn.

Ond peidiwch a disgwyl i'r Blaid Doriaidd Gymreig weld y mater mewn ffordd rhesymegol.  Mae greddf naturiol y Toriaidd (pethau sy'n dod o Loegr yn dda / pethau sy'n dod o Gymru yn ddrwg)  yn eu rhoi mewn sefyllfa lle maent yn cynnal hegemoni'r Blaid Lafur Gymreig.

David Jones a'i debyg oddi mewn i'r Blaid Doriaidd ydi ffrindiau gorau'r Blaid Lafur Gymreig.

Tuesday, July 16, 2013

Canfaswyr allan yn y Gaerwen


Unwaith eto, un o bedwar tim oedd allan yn canfasio Ynys Mon ar ran y Blaid heno.  

Monday, July 15, 2013

Canfasio yn Nwyran



Canfaswyr allan ar ran y Blaid yn Nwyran.  Un o bedwar tim oedd allan yn Ynys Mon heno. 

Sunday, July 14, 2013

Pam bod Llafur eisiau ymladd Ynys Mon ar faterion sy'n ddim oll i'w gwneud efo'r Cynulliad

Mae'r ateb yn eithaf amlwg am wn i.  Petai Llafur yn ymladd yr etholiad ar eu record fel llywodraeth yng Nghaerdydd fyddai ganddyn nhw ddim dadl o gwbl i'w chyflwyno.  Mae eu record mewn llywodraeth yn drychinebus - ac mae'n cyferbynnu'n  greulon efo record yr SNP yng Nghaeredin.

Ym maes addysg mae'r holl wasanaeth wedi ei amddifadu o fuddsoddiad addas, ac yn gwbl ddisgwyladwy mae safonau mewn cymhariaeth a gwledydd eraill wedi syrthio fel carreg.  A hyn o bryd mae ysgol ar ol ysgol, awdurdod lleol ar ol awdurdod lleol yn methu arolygiadau ESTYN.  Ac ar ben hynny mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi stopio tyfu, ac o dan rai mesyryddion mae'n crebachu - a hynny er gwaethaf addewidion i ymateb i alw gan rieni ac ehangu'r ddarpariaeth.

Petai ddim yn fater mor ddifrifol byddai'r perfformiad ym maes iechyd yn ddigri.  Cafwyd polisiau sydd wedi arwain at gynlluniau i gau ysbytai ac unedau arbenigol ar hyd a lled Cymru - cynlluniau sydd wedi dod ag ASau Llafur, ACau Llafur, a hyd yn oed gweinidogion Llafur allan ar y strydoedd yn protestio yn eu herbyn.  Yn y cyfamser mae'r 'gwasanaeth' ambiwlans yn mynd o ddrwg i waeth.  Mae'n flwyddyn gron ers i dargedau'r gwasanaeth ambiwlans gael eu cwrdd.

Mor ddrwg ag ydi'r uchod mae methiant Llafur i edrych ar ol economi Cymru yn ymylu at fod yn anhygoel.  Flynyddoedd yn ol, yn nyddiau cyntaf datganoli addawodd Llafur gau'r bwlch rhwng Cymru a gweddill Prydain o 1% y flwyddyn mewn termau GVA - prif fesurydd perfformiad economaidd.  Ers hynny mae'r bwlch wedi tyfu a thyfu a thyfu - a hynny er gwaethaf buddsoddiad o £6bn mewn gwariant strwythurol.  Mae perfformiad GVA Cymru bellach yn salach nag un Gogledd Iwerddon - gwlad a dreuliodd ddegawdau wedi ei rhwygo gan ryfel.  Yn wir mae Cymoedd Gwent reit ar waelod tabl Prydain ac yn agos at waelod tabl Ewrop.  Mae'n tua hanner perfformiad cyfartalog Lloegr.

A dyna pam mae Gwil, Tal, Alun, Albert, Carwyn ac ati mor awyddus i son am fater sy'n ddim oll i'w wneud efo'r Cynulliad yn hytrach na materion sy'n ymwneud a'r sefydliad hwnnw.  Mae eu gweinyddiaeth drychinebus yng Nghaerdydd yn ymdebygu i barodi gwyrdroedig o stori Midas - mae pob dim maen nhw'n ei gyffwrdd yn troi'n faw ci.  Ac maen nhw eisiau siarad am unrhyw beth - unrhyw beth - ond eu record mewn llywodraeth.  

Saturday, July 13, 2013

Ymdrech ddiweddaraf Gwil

Dwi braidd yn hwyr yn ymateb i golofn bropoganda Llafur Golwg y tro hwn - yn bennaf oherwydd pwysau gwaith.

Yr hyn sydd gan Gwil y tro hwn ydi bod y mudiad gwrth Wylfa B ar Ynys Mon - PAWB - yn fois iawn wedi'r cwbl ac y dylai pob ymgeisydd fynd ati'n syth bin i ymateb i'w cwestiynau arweiniol nhw am Wylfa B.  Rwan rhyw chwarae newid ochr ynglyn ag ynni niwclear mae Gwil wrth gwrs - y bwriad ydi cefnogi strategaeth Llafur o droi'r is etholiad yn refferendwm ar Wylfa B.

Mae'r strategaeth honno yn weddol idiotaidd wrth gwrs - rhywbeth tebyg i geisio troi etholiad San Steffan yn refferendwm ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.  Does gan y Cynulliad ddim mwy o ddylanwad tros bolisi niwclear na sydd gan San Steffan ar bolisi iechyd yng Nghymru.  Yn yr ystyr yna mae Llafur a Gwilym fel ei gilydd yn byw mewn Byd cyn ddatganoli.

Dwi heb gael cyfle i ganfasio ym Mon tan y penwythnos hwn oherwydd gofynion gwaith, ond dwi wedi bod wrthi'r prynhawn yma a neithiwr.  Ychydig cyn gorffen heddiw aeth dau gyd ganfasiwr a minnau ati i gyfri faint o weithiau oedd pobl wedi codi Wylfa B efo un o'r  tri ohomom.  Beth ydych yn meddwl oedd y cyfanswm - 100, 50, 10, 5?  Naci wir sero oedd y cyfanswm.  Doedd yna ddim un enaid byw wedi codi'r mater.  Neb.

Ac yn yr ystyr yna efallai bod etholwyr Mon yn bobl ol ddatganoli tra bod Gwil a'r Blaid Lafur yn y bon yn greaduriaid cyn ddatganoli - yn llafurio o dan yr argraff ei bod yn bosibl gwneud rhywbeth sy'n ddim oll i'w wneud efo'r Cynulliad yn unig fater trafod etholiad Cynulliad.  

Mwy o bobl Cymru eisiau gadael Ewrop na sydd eisiau aros

Mae'n ddiddorol bod - yn ol pol piniwn Beaufort diweddar - mwy o bobl Cymru eisiau gadael yr Undeb Ewropiaidd na sydd eisiau aros.  Mae'r gred y dylid gadael yr Undeb yn arbennig o gryf yng Nghymoedd y De.

Os ydi hyn yn profi unrhyw beth mae'n profi nad ydi taflu pres at ardal yn gwneud y sawl sy'n taflu'r pres yn boblogaidd.  Mae'r UE wedi buddsoddi £3.2bn yn y Cymoedd a'r Gorllewin rhwng 2000 a 2006 ac yna £3.5bn arall rhwng 2007 a 2013.


Tuesday, July 09, 2013

Rod Richards yn ymuno ag UKIP

Nid UKIP ydi fy hoff blaid wrth gwrs, ond mae'n debyg y dyliwn gydymdeimlo efo ei haeodau ar y datblygiad diweddaraf yn ei hanes - Rod Richards yn ymaelodi.



Nodweddwyd cyfnod Rod fel Tori gan gyfres o sgandalau tabloid bisar, digwyddiadau rhyfedd efo canfaswyr Toriaidd ar ei stepan drws, cam ddefnydd o alcohol, ymddangosiadau lliwgar ar lawr y Cynulliad, ffraeo mewnol efo'i gyd Doriaid ac ati.  Yn wir etholiad San Steffan yn 1997 ac etholiad Cynulliad 1999 - y cyfnod lle'r oedd Rod yn gwneud y mwyaf o argraff yn y papurau - oedd y gwaethaf yn hanes etholiadol y Toriaid yng Nghymru.

Gobeithio na wnaiff lwyddo i wneud i'w blaid newydd yr hyn a wnaeth i'w hen un. 

Monday, July 08, 2013

Cip bach dros y dwr

Mi fyddwn weithiau yn cael cip ar wleidyddiaeth ein cymydog agosaf - Iwerddon.  Cip hynod frysiog fyddwn yn ei chael heddiw.

Yn ol pol Millward Brown diweddar mae cefnogaeth y pleidiau fel a ganlyn - Fianna Fail, 29%, Fine Gael 26%, Llafur 8%, Sinn Fein 19% ac Annibynnol 19%.  Mae polau eraill diweddar yn cadarnhau'r patrymau cyffredinol yma.

Rwan y tri pheth trawiadol ydi bod cefnogaeth Fianna Fail - y blaid sydd wedi dominyddu gwleidyddiaeth Iwerddon am ddegawdau lawer ond a welodd eu cefnogaeth yn syrthio trwy'r llawr yn yr etholiad diwethaf - wedi dechrau ail ddringo, bod Llafur wedi colli llawer iawn o gefnogaeth a bod Sinn Fein gyda mwy o gefnogaeth yn y Weriniaeth na maent wedi ei gael ers 1918.  Mae'n anodd troi canrannau i seddi yn system etholiadol yr Iwerddon, ond mae'r gyfundrefn yn tueddu i fod yn fwy caredig wrth bleidiau sydd a chefnogaeth gyson ar hyd y Wladwriaeth megis FF, neu FG nag wrth bleidiau megis SF sydd a'i chefnogaeth wedi ei ganoli o gwmpas a ffin ac yn ardaloedd dosbarth gweithiol Dulyn.  Ond gellir darogan y byddai'r dosbarthiad yn debyg i'r canlynol - FF - 55, FG - 48, Llaf - 4, SF - 27 ac Eraill - 24.

Yr hyn sy'n drawiadol am y ffigyrau yma ydi bod na dau lywodraeth posibl sydd yna - FF a FG neu FF a SF.  Dydi'r cyfuniad FG a SF ddim yn wleidyddol bosibl.  Mae'r ddau bosibilrwydd yn ysgytwol - mae hanes gwleidyddol y Wladwriaeth wedi ei nodweddu gan hollt sy'n mynd yn ol i'r Rhyfel Cartref - hollt mae FF a FG yn ei chynrychioli.  Mae'r syniad o blaid oedd tan yn ddiweddar efo'i holl gefnogaeth yn y Gogledd ac oedd wedi ei chlymu i'r IRA mewn llywodraeth hyd yn oed yn fwy ysgytwol.  Nid oedd SF hyd yn oed yn gallu ennill un sedd yn y Weriniaeth hyd 1997 ac roedd hynny mewn etholaeth oedd wedi ei hamgylchu ar dair ochr gan Ogledd Iwerddon.  Os bydd ffigyrau'r polau diweddaraf yn cael eu hailadrodd mewn etholiad byddant naill ai mewn llywodraeth neu'n arwain yr wrthblaid erbyn 2016.

Does yna ddim gwersi i Gymru na'r unman arall ar un olwg - Iwerddon ydi Iwerddon - mae gwleidyddiaeth etholiadol yno yn anarferol iawn  o ran natur.  Neu o leiaf does yna ddim gwersi ag eithrio un - o dan rai amgylchiadau gall y tirwedd etholiadol newid yn syfrdanol o gyflym.  Ychydig iawn o newid a gafwyd yn y Weriniaeth am 80 neu 90 o flynyddoedd - ond newidiodd amgylchiadau yn gyflym  - a newidiodd y tirwedd etholiadol yr un mor gyflym.

Saturday, July 06, 2013

Llwybr gyrfa Tal Michael

Y pedwerydd sylw ar dudalen sylwadau'r blogiad olaf ond un wnaeth i mi feddwl llwybr gyrfa mor hynod o anarferol sydd gan ymgeisydd Llafur yn is etholiad Mon, Tal Michael.



O chwilio mae'r hyn a ddywedir yn wir - mae 'r yrfa yn anarferol iawn.  Wedi gadael y brifysgol yn Rhydychen  aeth i weithio i'r Blaid Lafur yn San Steffan - lle'r oedd ei dad Alun yn aelod seneddol wrth gwrs.  Tua'r un pryd cafodd ei ethol yn gynghorydd ar Gyngor Islington.  Mae'n debyg bod ei waith yn San Steffan yn ymwneud a cyfraith a threfn.

Wedi i Lafur fynd i lywodraeth symudodd yntau ymlaen i weithio mewn llywodraeth leol - cafodd ddwy swydd yn Llundain -  pennaeth polisi corfforaethol i Gyngor Barnet, prif weithredwr corfforaethol yn Hackney cyn mynd i Ogledd Lloegr i fod yn  gyfarwyddwr partneriaethau a llywodraethiant yn Doncaster.  Wedi hynny symudodd i Ogledd Cymru fel Prif Weithredwr Heddlu Gogledd Cymru.

Rwan mae hon yn yrfa ddisglair i ddyn cymharol ifanc - daeth y swydd yn Barnet ag yntau ond yn saith ar hugain oed.  Does yna ddim o'i le mewn llwyddo'n ifanc wrth gwrs, ond mae natur yr yrfa yma yn codi cwestiwn diddorol.  Faint o'r penodi a wnaed gan gyd Lafurwyr?  Yn amlwg Llafur yn San Steffan roddodd y swydd San Steffan iddo.  Pan benodwyd Tal i'r swydd Barnet doedd yna ddim rheolaeth lawn gan neb tros y cyngor gyda Llafur a'r Toriaid yn agos iawn o ran cynghorwyr gyda'r Lib Dems ymhell y tu ol.  Llafur sydd yn rheoli Hackney fel rheol a nhw sydd wedi rheoli o 2001 ymlaen.  Yn anarferol doedd yna ddim rheolaeth un plaid o 1996 i 2001.  Dydi CV Tal ddim yn manylu ar bryd y cafodd y swydd Hackney, ond mae'r posibilrwydd pendant yno mai gan gyd Lafurwyr y cafodd y swydd honno -   mae Tal ar ei wefan yn disgrifio'r weinyddiaeth tra'r oedd yn gweithio yno fel un Llafur. Llafur fydd yn rheoli yn Doncaster bron yn ddi eithriad, ond er mai nhw oedd y blaid fwyaf o 2004 i  2010 doedd ganddyn nhw ddim rheolaeth lawn.  O ran Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru mae'n anhebygol bod Llafur efo mwyafrif, ond byddai ganddynt gryn ddylanwad ar y corff.  Yn amlwg Llafurwyr yng Nghaerdydd oedd yn gyfrifol am y penderfyniad i beidio a gadael i John Chorlton fynd ar y rhestr fer ym Mon.

Rwan does yna ddim byd o'i le fel y cyfryw mewn pobl sydd a chysylltiadau gwleidyddol a dydi hi ddim yn glir bod y sefydliadau cyhoeddus sydd wedi cyflogi Tal yn y gorffennol yn cael eu dominyddu gan Lafur pan wnaed y penodiadau.  Ond mae yna batrwm yma o ddyn sydd efo cysylltiadau Llafur cryf iawn yn cael ei benodi, a'i benodi a'i benodi i swyddi uchel mewn sefyllfaoedd lle mae dylanwad ei blaid yn gryf.

Yn anffodus i Tal fodd bynnag, nid cyd aelodau o'r Blaid Lasur fydd yn dewis pwy fydd Aelod Cynulliad nesaf Ynys Mon.

Monday, July 01, 2013

Cadw pethau yn y teulu - diweddariad

Yn ol y blogiwr adain dde Paul Staines mae gwraig Tal Michael, Mary wedi ei dewis i ymladd Aberconwy yn etholiad San Steffan tros Lafur.  

Cadw pethau yn y teulu

Mae'n un o nodweddion rhyfedd y Blaid Lafur Brydeinig bod cymaint o'i gwleidyddion yn perthyn i'w gilydd - y Benns, y Millibands, Ed Balls ac Yvette Cooper ac ati.

Mae hyn yn arbennig o wir am Gymru fach - meddyliwch am y peth:

Neil a Glenys Kinnock
Huw Lewis a Lynne Neagle
Rhodri a Julie Morgan
Naz a Gwion Malick
Alun a Tal Michael

Rwan does yna ddim byd o'i le fel y cyfryw mewn perthnasau yn gwneud yr un gwaith - mae'n digwydd ym mhob maes - o gigyddion i ffermwyr i athrawon i fecanics. Yr hyn sy'n gwneud dyn yn anghyfforddus pan mae'n digwydd efo gwleidyddion dro ar ol tro ar ol tro ydi bod mynd ymlaen yn wleidyddol oddi mewn i blaid yn dibynnu ar aelodau eraill o'r blaid honno, ac mae aelodau plaid yn agored i ddylanwad gan wleidyddion proffesiynol. O ganlyniad mae'r cwestiwn yn codi os ydi pawb yn cael yr un cyfle - os ydi pawb yn cael cyfle teg?

Mae enwebiaeth Tal Michael wedi ei nodweddu gan benderfyniad rhyfedd Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur i beidio a gadael i'r ffefryn lleol fynd ymlaen i hystings. Rwan does yna neb yn awgrymu am eiliad bod tad Tal wedi defnyddio ei ddylanwad i sicrhau'r deilliant yma. Ond mae'n bosibl dylanwadu heb wneud hynny'n fwriadol. Mae adnabyddiaeth ynddo'i hun yn gallu dylanwadu yn ddiarwybod i'r sawl sy'n dylanwadu. Ac mae'n debyg gen i y bydd amheuaeth o ddylanwad felly yn gysgod tros ymgeisyddiaeth Tal Michael oni bai bod Pwyllgor Gwaith y Blaid Lafur Gymreig yn cyhoeddi'r rhesymau pam na chafodd John Chorlton sefyll. Ond rhywsut dwi ddim yn rhagweld y bydd hynny'n digwydd.