Friday, April 01, 2016

Gwneud sioe o godi pais ar ol piso

O'r Financial Times:


Felly gorchest ydi'r holl 'weithgarwch' gan Lywodraeth Cymru tros y dyddiau diwethaf.  Roedd gweinidogion y llywodraeth yn gwybod o'r gore bod Tata am gau Port Talbot - ond wnaethon nhw ddim byd tan y datganiad y diwrnod o'r blaen.  Gwneud sioe o godi pais ar ol piso.

Mae'r stori bron yn ddameg o sut mae'r Blaid Lafur yng Nghymru'n gweithio -gwneud dim tan mae'n rhy hwyr, ac yna gwneud llawer o swn a beio'r Toriaid, ac wedyn syrthio i gysgu nes bod rhywbeth arall yn digwydd.

No comments: