Dydi blogiadau Saesneg ddim yn gyffredin ar Blogmenai - er efallai bod y sawl yn eich plith sydd efo cof da yn gallu dwyn i gof un neu ddau yn y gorffennol gweddol bell. Mae yna resymau tros y blogiadau hynny - i wneud yn siwr bod rhywun neu'i gilydd yn eu deall ydi'r rheswm gan amlaf.
Dydi awdur y blog Syniadau, Michael Haggett ddim yn rhugl ei Gymraeg eto, felly mae'r ymateb isod i'r blogiad yma yn y Saesneg.
Dydi awdur y blog Syniadau, Michael Haggett ddim yn rhugl ei Gymraeg eto, felly mae'r ymateb isod i'r blogiad yma yn y Saesneg.
The initial thing to say is that I have a certain amount of
sympathy with some of the points Michael has raised - especially the inappropriateness
of elected Plaid representatives attacking the concept of independence. Independence is a core nationalist
principle.
However the exact method by which electricity is
generated isn't a core nationalist principle or indeed a nationalist principle of
any description. A blanket refusal to countenance
the production of energy with a nuclear reactor might be party policy, but the
party is made up of human beings & humans don't agree on everything. The party isn't a bee hive, & a hive
mentality isn't healthy for any
organization. Attitudes to independence
& electricity production shouldn't be conflated.
If you live in the North Western corner of Wales - as
perhaps 40% of Plaid members do, the nuclear issue is problematic. On the one hand there's party policy, &on the other there's real politics - and real life.
Quality employment is scarce & our base is made up of the ordinary
working people who live around us - friends, neighbours, acquaintances - real
people with real families to keep, with real mortgages to pay with real household
budgets to manage. Our base, our people
- the people we need to protect & look after. Incidentally - & it is incidental -
there's a real election to fight in a real constituency which has for a number
of generations had a nuclear facility as one of its main sources of employment. This might not be satisfying from the point
of view of an ideologue, but that's how it is.
Now most people on
the ground understand this. There isn't
uniformity within Plaid ranks in the North West regarding WylfaB, but people
from both sides of the argument understand the lay of the land. Now I hesitate to outline Rhun's position for
him, but he probably believes that WylfaB presents Ynys Mon & the wider
North West region with economic opportunities, but recognizes that questions
need to be answered before the development goes ahead - questions about future
costs, waste, linguistic & community impact etc. He also believes that any benefits
that accrue from any development should impact locally. This is a logical position as well as a
principled one.
As I've suggested before I find it regrettable that the
Syniadau blog is intent on focusing a far wider campaign on the one issue
Labour wants to fight the campaign on. This
is the sole area they are able to gain any traction - having a
parachuted candidate who's got the thankless task of defending a decade & a
half of Labour ennui, failure & incompetence. Yet the author of the blog spends his time looking for press interpretations of
something or other that Rhun said or something written on a 140 character format to indicate that he's rabidly
pro nuclear - & on finding what he wants to find having an almighty public strop about it.
The personal nature of some of the latest comments is even
more regrettable. Rubbishing the views
of the candidate on a specific issue is one thing, rubbishing the candidate
personally is quite another - & it's
very difficult to imagine why any party member would do such a thing in the
middle of an important election campaign. Everybody who knows the man understands him to
be decent, intelligent, principled & hard working. At no
point during this debate has anybody made vicious personal comments about the
author of Syniadau, & I very much hope that situation continues.
Now there are various side issues which are relevant to this argument - the failure of the very
large Northern membership to fully engage in internal party debates & make
it's numerical superiority count, the appropriateness of having an old
fashioned blanket anti nuclear stance in an environment where dependence on
fossil fuels needs to be cut & renewable sources are unpopular being just two.
But the issue I'd like to focus on is this - there's
little we can learn from Labour, but discipline is an exception. They have their arguments in a room &
they pull together in public. Some of us
have a great deal to learn from
that.
24 comments:
"But the issue I'd like to touch on is this - there's little we can learn from Labour, but discipline is an exception. They have their arguments in a room & they pull together in public. Some of us have a great deal to learn from that."
Have you been asleep for the past couple of months?
If you're on about Leighton, he's been dispatched to Treorci to reflect on his sins.
Dwi'n deall Cymraeg—ag yn enwedig Cymraeg sgrifenedig—yn ddigon da, Cai, ond mae sgrifennu Cymraeg yn fwy o broblem i fi.
Dwi wedi copïo dy sylwad i fy mlog. Bydda i'n ceisio ateb dy bwyntiau yno nes ymlaen. Gwell 'da fi gadw popeth yn yr un lle.
Popeth yn iawn Michael.
Efallai ei bod llawn cystal bod y blogiad yn Saesneg ag ystyried dy fod wedi ei chopio ar dy flog dy hun.
Mewn ystafell gudd y bu'r ffrae rhwng y brawd Milliband a'r brodyr undebol, felly ? . Ai breuddwydio'r peth y gwnes i ?
Yn cytuno'n llwyr gyda Blog Menai. Rhaid i bob plaid fod yn eglwys oddefgar a rhaid i bob gwleidydd call ymarfer dipyn bach o realpolitik. Mae gogwydd anoddefgar Syniadau yn siomedig ac mae'n rhaid gofyn beth sy'n ei ysgogi i ddilyn y fath drywydd o burdeb Talibanaidd?
WnB,
However, Leighton wasn't fighting for a seat in an election.
Wel ella bod chdi'n meddwl bod o'n iawn, ond dwi ddim. Sgwn i os mai MI5 ta MI6 sy'n talu ei gyflog o?
Rhaid imi ddweud, dwi wedi bod yn gegrwth o ddarllen rhai o'r pethau am Rhun ap ar flog Syniadau dros yr wythnosau diwethaf - p'un ai'n fwriadol ai peidio, mae'r sylwadau fel petaen nhw'n dod gan rywun sydd ddim isio iddo ennill ac yn ceisio tanseilio ei ymgyrch (er tydw i ddim o'r farn mai dyma nod Syniadau, baswn i'n prysuro i ddweud).
Ond wir-yr, mae'n rhyfeddol y gallai unrhyw un â chrebwyll gwleidyddol feddwl bod yr hyn mae'n ei ddweud, a hynny ar ffurf mor gyhoeddus â blog, yn unrhyw gymorth o gwbl i'r ymgyrch, neu i Blaid Cymru yn gyffredinol.
Pan mae'n dod at ennill etholiad, y gwir plaen ydi mae gan Blaid Cymru lot fawr i'w ddysgu gan y blaid Lafur.
Duw mae'n hen stori HoR - rhywun yn dod i rhyw goleg neu ei gilydd, wedyn yn anisgwyl yn ymuno efo Adfer, CyI, UMCA a pob dim arall sy'n mynd. Wedyn mae o'n dechrau codi twrw a gneud pethau gwirion. Ac wedyn mae o'n diflannu. Hen, hen stori sy'n mynd yn ol i'r 1960au o leiaf.
Slob di'r cew siwr Dduw.
"renewable sources are unpopular"
Dydyn nhw ddim. http://pfr.co.uk/pfr/news/252/Independent-UK-Energy-Research-Council-report-finds-75-percent-of-people-support-wind-energy-in-the-UK/
Dwi'n lled gytuno a'r hyn ti'n ei ddweud am realiti'r sefyllfa yn lleol o ran Wylfa B: ond dwi hefyd yn meddwl bod Michael yn lleisio barn dros lawer ohonom ac fel aelodau dylem ddiolch iddo am fod yn barod i ofyn y cwestiynau caled sy'n rhaid eu gofyn.
Dwi dal i feddwl bod PC llawer rhy amddiffynol ar y mater hwn ac yn rhy ofnus o ddylanwad y Blaid Lafur ar feddylfryd yr etholwyr- mae canfasio mewn sawl man wedi dangos i mi pa mor wirioneddol feddal yw'r bleidlais Lafur. bellach ar yr ynys. Mae'n wirioneddol bosib i osod agenda genedlaetholgar ar y mater erbyn hyn.
Yn yr hystings nos fory- iawn os yw Rhun yn defnyddio realpolitik a dweud os daw Wylfa B mae'n rhaid sicrhau manteision lleol. Ond mi fyddai'n siomedig iawn os na fydd o hefyd yn bod yn fwy ymosodol a herio Llafur(a'r pleidiau eraill) i gefnogi datganoli rym dros ynni i Gymru erbyn 2016.
Yn bersonol, hoffwn yn ei weld yn dadlau mai mater i Gymru gyfan ydi a ddylai Wylfa B fynd yn ei flaen ai peidio. Ond mae digon o amser I gyflwyno'r ddadl honno eto.
Diolch am y ddolen i'r adroddiad llawn Prifysgol Caerdydd ar gyfer UKERC, Gareth. O'n i'n gwybod amdano fe o'r erthygl yn WalesOnline yr wythnos diwethaf, yma.
Mae'r adroddiad UKERC yn dangos agwedd pobl y DU yn gyffredinol, ond mae 'na adroddiad arall gan Brifysgol Bangor sy'n dangos agwedd pobl leol yn benodol, yma. Dim ond lleiafrif o bobl leol (35%) am weld swyddi yn cael eu creu mewn sector ynni niwclear; mae mwyafrif (74%) am weld swyddi yn cael eu creu mewn sector ynni adnewyddadwy.
Ti'n dethol yn ofalus Michael.
Petaet eisiau gwneud hynny gallet fod wedi honni bod ynni niwclear yn fwy poblogaidd na hydro a ddim llawer llai poblogaidd na ynni gwynt. Neu gallet fod wedi nodi bod 72% o'r farn y byddai'r swyddi a ddoi yn sgil y datblygiad yn llesol i Ynys Mon. Neu bod 88% yn credu mai mantais WylfaB fyddai dod a gwaith i Ynys Mon.
Dydi'r holiadur ddim yn gofyn 'Ydych chi o blaid WylfaB?' Mae'n debyg y byddwn i yn ateb yn gadarnhaol. Ond mi fyddai'n well gen i petai'r holl swyddi sydd eu hangen yn dod o greu ynni adnmewyddadwy - byddwn ymhlith y 74%. Ond dydi hi ddim yn glir bod y sector adnewyddadwy yn gallu creu'r hyn sydd ei angen.
Dydan ni ddim yn gwybod beth fyddai'r ateb i 'A fyddai'n well gennych £5bn o fuddsoddiad a 3,000 o swyddi o ddatblygu WylfaB ta £1bn a 600 o swyddi o orsaf biomas?' - ond gallwn ddychmygu beth fyddai'r casgliad.
Dwi ddim yn honni bod cefnogaeth unfryd i WylfaB - ond dwi'n honni bod agwedd y rhan fwyaf o bobl at y mater yn gymhleth. Mae'n briodol felly bod agwedd y Blaid yn gymhleth.
O a Gareth - mae pawb yn hoffi ffermydd gwynt cyn belled a'u bod ar stepan drws rhywun arall - gyda ti'n lleoli un maen nhw'n mynd yn amhoblogaidd yn lleol - nid bod hynny'n broblem i mi. Dwi'n reit hoff ohonyn nhw.
Dethol yn ofalus, y fi? Dwi wedi rhoi dolen i'r adroddiad am reswm, Cai.
Wrth gwrs mae hydro yn llai poblogaidd na ffurfiau eraill o gynhyrchu ynni. Ail-ddarllena'r cwestiwn: "Which of the following would you like to see developed on Anglesey as a way of producing energy?" Does 'na ddim mynyddoedd ym Môn.
Am y swyddi; mae manteision ac anfanteision gydag unrhyw ffurf o gynhyrchu trydan. Mae'r swyddi yn fantais, mae'r rhan fwyaf o bobl yn credu hynny. Ond beth yw eu barn hwy ar yr anfanteision? Mae 'na lawer mwy ohonyn nhw. Cwestiwn o gydbwysedd ydyw, ac mae'r anfanteision yn troi'r fantol. Felly mae'n well 'da pobl leol gweld swyddi yn cael eu creu mewn sector ynni adnewyddadwy na sector ynni niwclear.
Wrth gwrs fod mwyafrif yn dweud fod yn well ganddynt swyddi mewn egni adnewyddadwy. Waeth i rywun ofyn prun sydd orau ganddoch: gwastraff niwcliar yntau bara brith?
Ble mae'r swyddi mewn adnewyddadwy? Ble mae'r cyfalaf? Ble mae'r buddsoddiad? Ble mae'r elw? A oes gwir ddewis rhwng cael Wylfa B a chael ffynhonnell arall o ynni a chyflogaeth ar yr ynys?
Mae Syniadau yn bwrpasol, ac am resymau sy'n bur aneglur, yn pigo ar friw. Ac, hyd y gwelaf, wrth ei fodd yn gwneud hynny.
Dwi wedi bod allan yn canfasio yn Ngwalchmai heno am y seithfed neu'r wythfed gwaith ym Mon heno - ac am y tro cyntaf cododd Wylfa B(dwi wedi siarad efo cannoedd o bobl bellach).
Roedd un boi yn gadarn o blaid - roedd yn gweithio yn yr hyn sy'n weddill o Aliminiwm Mon. Roedd cwpl ifanc arall yn erbyn, ond roeddynt yn dweud eu bod yn deall yn iawn pam bod llawer o blaid. Roeddynt yn ystyried eu hunain yn lwcus bod swydd gan y ddau ohonyn nhw.
Dwi'n cytuno efo MH.
Dylid ymgeisyddion y Blaid fod yn onest ac yn agored. Mae camgymeriadau wedi digwydd yn y gorffennol a mae'r Blaid wedi talu pris am hynny.
Dwi'n cytuno gydag ef hefyd....ond mi fyddai'n gall i aros tan ar ol yr etholiad?
A fi. Mi ddylai ymgeiswyr y Blaid ymddwyn fel blaenoriaid mewn capel Efengylaidd - byth yn ennill lecsiwn ond yn siwr o gael mynd i'r nefoedd rhyw ddiwrnod.
Mi fyddai'n ddiddorol gwybod os oes gan MH unrhyw brofiad o gwbl o ymladd etholiad - unrhyw ddirniadaeth o sut I ennill un. Ta ydi o mor fi fawraidd nes ei fod yn treulio ei amser yn eistedd ar ei din wrth rhyw gyfrifiadur mewn swyddfa yn rhywle pell yn sarhau'r ymgeisydd tra bod dwsinau o wirfoddolwyr yn treulio eu diwrnodiau yn gweithio tros yr achos yng ngwres y mis Gorffennaf.
Gwyn eu Byd y stiwpid - hwy a etifeddant Deyrnas Nefoedd (ond ffyc ol arall).
Post a Comment