Friday, April 15, 2016

Delwedd mwyaf digri'r ymgyrch?

Rhywbeth wedi ei roi at ei gilydd mewn panic ar ol gweld pa ffordd mae'r gwynt yn chwythu yn y Gogledd - a hyd yn oed wedyn mae'n ymddangos bod Llafur wedi anghofio bod bron i hanner poblogaeth y Gogledd yn byw i'r gorllewin o 'r Rhyl.  

O wel, mae'n siwr bod y 'metro' yn dangos bod Llafur wedi rhoi 'r ffidil yn y to yn Aberconwy a Gorllewin Clwyd.





2 comments:

Anonymous said...

Amhosib i'w ddeall. Gallaf weld mae prif rheilffordd y Gogledd ydi'r linell goch uchaf, ond beth am yr un is sy'n gyfochrog iddi ? Lein trwy Dinbych a Llansannan i Lanrwst, efallai.

Anonymous said...

Ken Skates yw awdur maniffesto Llafur, a dyma un o'i gimmicks o.
mae o'n mynd ymlaen hyd syrffed am uno'r gogledd ddwyrain gyda Chaer, Lerpwl a Manceinion.
Mae Carwyn yn ei amddiffyn trwy ddweud nad oedd gan Lywodraeth Cymru reolaeth ar reilffyrdd yn lllawn, ac fod y rheolaeth hynny ar ddod, ymhlith rhyw BS arall am fwy o rymoedd yn dod fydd yn eu galluogi nhw i weithredu hwn.
Serch hynny, beth bynnag fo'r grymoedd newydd sydd ar ddod, fydd gan Lywodraeth Cymru ddim rheolaeth dros isadeiledd na thrafnidiaeth Caer, Lerpwl a'r cyffuniau!
Ond yn bwysicach fyth, wrth drafod y cynllun yma yn ei drafodaeth o Langollen, dywedodd Carwyn nad oedd yn gwybod faint y byddai'r cynllun yn ei gostio gan ei fod yn ddibynol ar faint o bres fydd yn dod i fewn.
Felly, nid yw'r maniffesto wedi cael ei gostio!