Saturday, April 16, 2016

Ymgyrch bosteri Arfon

Fy nghar i a char Eurig bore 'ma ar gyfer yr ail don o godi posteri ochrau G'narfon.  Roedd gennym ni 8 ar ol erbyn canol y prynhawn.  Roedd 'na griwiau eraill allan mewn rhannau eraill o'r etholaeth hefyd.  Rydan ni eisoes wedi rhannu mwy o bosteri nag erioed o'r blaen, a rydan ni 'n dal i orfod archebu.  Mae yna eitha sioe i'w gweld mewn rhannau helaeth o'r etholaeth erbyn hyn.






A wele Rheinallt a Dafydd wrthi yn Nyffryn Ogwen.







2 comments:

Anonymous said...

Digon o bres yn pot y blaid.

Cai Larsen said...

Yn wahanol i'r pleidiau unoliaethol does yna fawr ddim pres yn dod o gwmniau mawr, undebau ac ati. Rydan ni'n codi ein pres ein hunain.