Thursday, March 31, 2011

Y drwg efo gwleidydda personol


Cliciwch ar y ddelwedd i'w gweld yn iawn.

Y drwg efo gwleidydda personol ydi y gall unrhyw un chwarae'r gem os oes yna darged addas ar gael. Pan bod y sawl sy'n gwleidydda'n bersonol yn darged delfrydol ei hun mae'n gofyn am drwbwl braidd.

Un o bleserau bach cadw blog gwleidyddol ydi'r holl stwff gwleidyddol sy'n cyrraedd blwch derbyn e bost dyn. Er enghraifft daeth y poster isod tros y penwythnos.

Rwan peidiwch a fy nghamddeall i - 'dwi ddim yn cytuno a neges greiddiol y poster, sef y dylid pleidleisio yn dactegol yn erbyn Llafur. I'r gwrthwyneb, fyddwn i ddim yn awgrymu i neb yng Nghymru i bleidleisio i unrhyw blaid unoliaethol o dan unrhyw amgylchiadau.

Wedi dweud hynny mae'r poster yn ddiddorol oherwydd ei fod yn dangos sut y gellir defnyddio arddull Hain o wleidydda personol yn erbyn Hain ei hun. Mi fyddwn i wedi gallu meddwl am bethau mwy cas i'w dweud am Hain (ac yn wir 'dwi wedi yn y gorffennol ar y blog yma), ond mae rhai o'r pwyntiau yn canfod y targed yn ddigon twt. Gwneir defnydd o'r ffaith bod Hain yn gymeriad cynhenus sy'n creu gwrthdaro hyd yn oed oddi mewn i'w blaid ei hun.

Gyda llywodraeth y Cynulliad yn gymharol boblogaidd, a Carwyn Jones yn mwynhau mis mel gwleidyddol cymharol hir, mae ffigwr sinicaidd, chwerw nad oes ganddo fawr hygrededd bellach fel Hain yn darged da - hyd yn oed os nad yw'n sefyll etholiad ar Fai 5.

Wednesday, March 30, 2011

I ble bydd seddi rhestr y Gogledd yn mynd?

A barnu oddi wrth y dadansoddiad yma ar Britain Votes mae yna pob math o bosibiliadau. Mae posibilrwydd bach iawn i pob un o'r pedwar Tori, gael ei ethol mae'n bosibl hefyd i Heledd Fychan a Llyr Hughes Griffith gael seddi. Mae yna bosibilrwydd hefyd i UKIP ennill sedd. Mae'n weddol sicr na fydd Llafur yn ennill sedd ranbarthol ac mae'n debygol iawn y bydd y Lib Dems yn colli eu sedd ranbarthol nhw. Y sefyllfa fwyaf tebygol efallai ydi dau Dori, un Plaid Cymru a'r olaf rhwng Sanbach (Tori) a Heledd Fychan (Plaid Cymru).

Monday, March 28, 2011

Newyddion da i'r SNP


Mae yna aml i un - fi yn gynwysedig - wedi bod yn darogan ers tro byd nad oes gan yr SNP fawr o obaith i ddal gafael ar rym yn Senedd yr Alban. Ond gyda'r etholiadau hynny yn dynesu, mae'n ymddangos bod symudiad sylweddol i'w cyfeiriad, ac mae cyfres o bolau yn cadarnhau hynny. Er enghraifft mae pol TNS-BMRB/STV a gyhoeddwyd heddiw yn awgrymu bod pethau bellach mor agos ag y gallant fod.

Pan fydd yr ymgyrch yn mynd rhagddi bydd mwy a mwy o ffocws ar y ddau Weinidog Cyntaf posibl - Iain Gray ac Alex Salmond. fydd y gymhariaeth yna ddim o fantais i Lafur.

John Redwood a'r cyfrifiad

Roedd yn anodd peidio gwenu wrth ddarllen yr holl bethau oedd yn mynd trwy feddwl John Redwood wrth bendroni uwch ei ffurflen cyfrifiad os mai Prydeiniwr neu Sais ydi o – datganoli i Gymru / yr Alban, anhegwch gorfod llenwi’r ffurflen, cynllwyn dychmygol gan Alex Salmond, Barnett, hawliau sifil, tueddiad Cymry ac Albanwyr i fwynhau gweld Lloegr yn colli mewn chwaraeon, yr Undeb Ewropeaidd, balkanisation (beth bynnag ydi hynny) , y llywodraeth Lafur diwethaf. Roedd pob ystyriaeth yn wleidyddol mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn esiamplau digon gogleisiol o hunan dosduri’r Dde Seisnig.

Ond – roedd Redwood yn gywir ar un ystyr o leiaf – mae’r weithred o lenwi’r ffurflen yn un sydd yn ei hanfod yn wleidyddol, gyda’r cwestiynau ynglyn ag ethnigrwydd, hunaniaeth, iaith, crefydd a nifer o’r lleill o ran hynny ag arwyddocad gwleidyddol iddynt. Felly mae pethau wedi bod erioed wrth gwrs – pan mae llywodraethau yn dechrau cyfri pobl a choledu gwybodaeth amdanynt, yna mae’r broses yn un wleidyddol yn ogystal ag yn un fiwrocrataidd.

Gyda chyn lleied o bobl yn pleidleisio, na’n cymryd rhan mewn unrhyw fath arall o wleidydda yn yr oes sydd ohoni, mae’n rhyfedd braidd mai llenwi’r ffurflen cyfrifiad fydd gweithred fwyaf gwleidyddol llawer iawn o bobl eleni.

Sunday, March 27, 2011

Seisnigrwydd yr Undebau Credyd

Diolch i PlaidWrecsam am dynnu sylw at y newyddion trist nad ydi y North Wales Credit Union yn gwneud defnydd o unrhyw fath o'r Gymraeg ar eu gwefannau. Mae'n arbennig o drist nodi bod hyd yn oed gwefan Undeb Credyd y Llechen yn gyfangwbl Saesneg - er bod mwyafrif llethol cwsmeriaid yr Undeb yn Gymry Cymraeg, ac er ei bod yn derbyn cymorth ariannol gan y Cynulliad. Mae pencadlys yr Undeb yn Stryd Llyn, Caernarfon.

Os oes unrhyw un yn amau'r angen am ddeddf a chomisiynydd iaith i amddiffyn hawliau Cymry Cymraeg, mae'r hyfdra rhyfeddol yma'n ateb yr amheuon hynny'n eithaf twt. Gallwch gwyno trwy e bostio'r cyfeiriad yma: info@northwalescu.co.uk

Tref Caernarfon, Andy Banner-Price a Llais Gwynedd


Cliciwch ar y delweddau os na allwch eu gweld


Llythyr ydi'r cyntaf gan berchenog gwesty - neu Dy Gwledig Plasdinas, sydd wedi ei leoli yn y Bontnewydd, ger Caernarfon at gynghorydd yr ardal honno, Chris Hughes. Mae Chris wrth gwrs yn aelod o Lais Gwynedd. Llythyr uniaith Saesneg gan Chris i Gyngor Tref Caernarfon yn gofyn i gynghorwyr y cyngor hwnnw beth maent yn bwriadu ei wneud i ymateb i ofidiau'r perchenog, Mr Banner-Price ydi'r ail.

Efallai y dylwn ddweud gair neu ddau am dref Caernarfon - i'r rhai ohonoch sydd yn byw ymhell oddi wrthi. Mae'n dref o tua 10,000 o bobl ar arfordir gogleddol Gogledd Orllewin Cymru. Mae'n dref gymdeithasegol gymhleth gydag un o wardiau cyfoethocaf y Gogledd yn ymestyn ar hyd y Fenai, ond un o wardiau mwyaf difreintiedig y Gogledd ymhellach i'r de. Mae i'r dref ddosbarth gweithiol, trefol sylweddol - ond mae iddi hefyd ddosbarth canol. Yr hyn sydd yn taro ymwelwyr nad ydynt yn gyfarwydd a Gogledd Orllewin Cymru ydi cryfder y Gymraeg yma - y Gymraeg a glywir yn llawer amlach na pheidio ar y strydoedd - pob stryd - a'r Gymraeg a ddefnyddir gan amlaf gan bobl o pob dosbarth cymdeithasol. Yn ol cyfrifiad 2001 roedd rhwng 80% a 90% o boblogaeth pob ward yn y dref yn siarad yr iaith. Mae'n dref sydd hefyd wedi derbyn buddsoddiad preifat a chyhoeddus. Lleolir canolfan hamdden a chanolfan denis yn y dref, mae yma hefyd ganolfan gelfyddydol, amgueddfeydd, datblygiad sylweddol wrth Doc Fictoria. Cafwyd gwaith sylweddol diweddar i uwchraddio'r maes a llawer o'r tai cymdeithasol sydd yn y dref. Ceir amrediad eang o siopau sydd at ddant twristiaid, mae yna amrywiaeth o dafarnau a chlybiau nos yn y dref ac mae yna lawer iawn mwy o lefydd bwyta na sydd i'w cael yn ninas Bangor sydd ychydig filltiroedd i ffwrdd. Mae canolfan hwylio Cymru ar gyrion y dref, ceir canolfan ddringo yng Ngheunant, ac mae'r dref yn agos at yr Wyddfa a Pharc Cenedlaethol Eryri. Dyna pam (ynghyd a'r castell wrth gwrs) bod canoedd o filoedd o dwristiaid yn heidio i'r dref yn flynyddol.

Rwan, mae'n ymddangos i mi mai pobl Caernarfon ydi problem Mr Banner-Price yn y bon. Efallai bod yna lawer o bobl ifanc ar hyd strydoedd y dref - ond eu tref nhw ydi hi. Ymhle mae Mr Banner-Price eisiau iddynt fynd i siopa a hamddena? Efallai bod pobl yn smocio y tu allan i dafarnau, ond mae'n anghyfreithlon smocio'r tu mewn i dafarn - mae gan bobl hawl i smocio a mynychu tafarn. Gall y dref fod yn swnllyd - yn arbennig wedi iddi nosi - ond mae'n dref fyrlymus, a bydd pobl yn dod yma o bell ac agos am noson allan - yn arbennig felly Cymry Cymraeg o ardaloedd gwledig. Mae yna ychydig o ethos tref porthladd wedi aros efo'r dref - er nad ydi wedi bod yn dref felly am ddegawdau lawer.

'Dydi hyn oll ddim yn broblem i'r rhan fwyaf o'r canoedd o filoedd o bobl o'r ochr arall i Glawdd Offa a thu hwnt sydd yn ymweld a'r dref yn flynyddol - ac yn aml yn dychwelyd. Problem Mr Bonner-Price ydi natur ei sefydliad, a'r cleiantel sy'n dod i aros yno. Gall aros ym Mhlasdinas gostio cymaint a £250 y person y noson (er os ydych yn rhannu 'stafell ac yn mynd ar amser distaw gallwch gael cryn fargen). Mae'n debyg gen i y byddai pobl sy'n gallu talu cymaint a hyn yn fwy cyfforddus yn Stratford Upon Avon nag ydynt yn Nhre'r Cofis, ac mae'n ddigon posibl nad ydynt yn teimlo'n saff ac yn gyfforddus pan fyddant yn dod i gysylltiad a phobl o ddosbarthiadau cymdeithasol eraill. Ond eu problem nhw ydi hynny - nid problem trigolion Caernarfon. Mae'n ddigon posibl bod person sydd wedi treulio ei fywyd mewn pentref cefnog yn Surrey yn teimlo'n anghyfforddus yn cystadlu am sylw wrth y bar ar nos Sadwrn brysur yn y Goron - ond felly mae pethau mae gen i ofn - pan mae'r rhan fwyaf o bobl yn mynd ar eu gwyliau, maen nhw'n derbyn bod pethau ychydig yn wahanol i'r hyn ydynt adref.

Mae Caernarfon yr hyn ydyw - tref fyrlymus, fler, ddiddorol, Gymreig sydd a'r rhan fwyaf o'i phoblogaeth o gefndir dosbarth gweithiol. Felly y bu am ganrifoedd, ac felly y bydd gobeithio. Mae gen i ofn na fydd pobl y dref yn cowtowio i gleiantel cyfoethog Mr Bonner-Price, ta waeth faint mae hwnnw'n cwyno, a tha waeth faint o gefnogaeth mae'n llwyddo i'w ddenu gan gynghorwyr Llais Gwynedd.

Friday, March 25, 2011

Cymru'n Un 2?

Draw ar Flog Hen Rech Flin mae Alwyn yn mynd trwy'i bethau oherwydd awgrymiadau Ieuan Wyn Jones nad yw'r Blaid yn debygol o glymbleidio efo'r Toriaid, ac yn bygwth rhoi ei bleidlais bost yn y bin sbwriel yn hytrach nag yn y post. Mae'r math yma o beth yn digwydd yn achlysurol ar flogiau Alwyn.

Casineb Alwyn at Lafur oherwydd ei ganfyddiad o 'wrth Gymreigrwydd' y blaid honno ydi un o'r rhesymau am ei anhapusrwydd. Rwan mae'n hawdd creu naratif sy'n portreadu Llafur fel plaid wrth Gymreig - byddai enwau megis George Thomas, Don Touig, Kim Howells ac ati yn codi yn aml mewn stori felly. Gellid hefyd wrth gwrs greu naratif tebyg am y Toriaid - byddai'r enwau a'r hanesion canlynol yn codi'n aml yn hwnnw - Delwyn Williams, David Davies, gwrthwynebiad y Toriaid i'r Swyddfa Gymreig a datganoli yn 79 a 97, toriadau diweddar i gyllideb S4C ac ati.


Gellid creu naratif fyddai'n dweud stori wahanol am y ddwy blaid wrth gwrs - mi fyddai Cledwyn Hughes, Elustan Morgan, Carwyn Jones, cefnogaeth i ddatganoli, sefydlu'r Swyddfa Gymreig ac ati yn codi mewn stori felly am y Blaid Lafur, ac mi fyddai Wyn Roberts, Glyn Davies, sefydlu S4C, deddfau iaith ac ati yn codi mewn un am y Toriaid.

Y gwir ydi nad ydi'r naill blaid na'r llall yn cael eu gyrru gan syniadaethau cenedlaetholdeb Gymreig - felly maent iddynt elfennau sydd yn wrthwynebus i genedlaetholdeb Cymreig, ac mae iddynt elfennau nad ydynt yn wrthwynebus. Weithiau maent yn gwneud pethau sydd at ddant y cenedlaetholwr Cymreig, ac weithiau maent yn gwneud rhywbeth gwrth genedlaetholgar. Fel rheol canlyniad i bwysau o gyfeiriad cenedlaethlwyr Cymreig ydi'r camau cadarnhaol - weithiau o gyfeiriad Plaid Cymru, ac weithiau o gyfeiriad mudiadau amgen megis Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Llywodraeth Cymru'n Un ydi'r esiampl orau o allu cenedlaetholwyr i ddylanwadu er budd Cymru. Ers 2007 mae'r achos cenedlaethol wedi cymryd camau breision ymlaen - hawliau deddfu i'r Cynulliad, deddf iaith, coleg ffederal, comisiynydd iaith, uwchraddio system drafnidiaeth oddi mewn i'r wlad, codi statws henebion cynhenid Gymreig, Holtham, ymrwymiad i greu gwlad ddwyieithog ac ati. Yn wir go brin i Gymru symud yn ei blaen cymaint yn ystod unrhyw gyfnod yn ei hanes.

Canlyniad ydi hyn oll i wleidyddiaeth y pragmatydd, ac nid i wleidyddiaeth y purydd. Cyfaddawd ydi Cymru'n Un, ond un sydd wedi dod a llawer iawn i Gymru - ac o ganlyniad mae'n anodd gweld pam bod cenedlaetholwyr fel Alwyn a HoR yn casau'r Cytundeb i'r fath raddau. Mi fyddwn wedi rhyw feddwl y byddai'r rhan fwyaf o genedlaetholwyr yn gobeithio am fwy o'r hyn a gafwyd - ond dyna fo, dwi ddim yn un da iawn am ddeall sut mae eraill yn meddwl.

Mae peth sylwedd i ddadl Alwyn y byddai clymblaid efo'r Toriaid a'r Lib Dems (pe etholir unrhyw Lib Dems) yn cynyddu gallu'r Blaid i ddylanwadu ar lywodraeth San Steffan. Ond ydi hynny'n dal dwr mewn gwirionedd? Ydi hi'n debygol bod cael Nick Bourne yn ddirprwy brif weinidog yn y Cynulliad yn ddigon uchel ar restr blaenoriaethau Cameron i'w annog i ildio consesiynau mawr? Dwi ddim yn meddwl rhywsut.

Yn bwysicach, mae yna'r mater o realpolitik. Mae'r brand Toriaidd yn wenwynig yn y rhan fwyaf o Gymru. Yn 2007 doedd hynny ddim mor bwysig oherwydd bod Llafur hefyd yn amhoblogaidd iawn. Felly roedd Clymblaid yr Enfys yn wleidyddol bosibl.

'Dydi hynny ddim yn wir yn 2011. Fel mae pethau ar hyn o bryd, mae'n ddigon posibl y bydd Llafur mewn sefyllfa i ffurfio llywodraeth ar eu pen eu hunain ym Mis Mai. Byddai clymu'r Blaid - gyda'r gydadran sylweddol o'i chefnogaeth sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus, neu sy'n ddibynol ar wariant cyhoeddus mewn ffyrdd eraill - i frand gwenwynig y Toriaid yn sicrhau degau o filoedd o bleidleisiau ychwanegol i Lafur. Byddai hynny yn ei dro yn sicrhau llywodraeth fwyafrifol Llafur.

Go brin y bydd agenda'r cenedlaetholwr yn symud modfedd yn ei blaen am bedair blynedd o leiaf mewn amgylchiadau felly. Yn wir mae'n fwy na thebyg mai llithro'n ol fyddai pethau.

Thursday, March 24, 2011

Problemau bach Julian Ruck


Mae'n debyg y dylid cydymdeimlo efo'r awdur Cymreig, Julian Ruck. Yn ol ei flog mae'r iaith Gymraeg yn gwneud iddo fethu trenau - ac mae hynny yn brofiad anymunol iawn wrth gwrs. 'Dydi Julian ddim yn hoffi'r Gymraeg, ond nid y ffaith ei bod yn gwneud iddo fethu ei dren ydi'r unig reswm nad yw'n hoff o'r iaith - dydi o ddim yn hoffi ei swn chwaith:

That may sound shocking considering I’m a Welsh author, but cards on the table, this particular form of communication sounds like a turkey being strangled and should, like the Dodo, have been confined to the history books years ago.

Constantly having this gobbledygook rammed down my throat is too much. It’s made me miss my train on more than a few occasions I can tell you.

Yn anffodus 'dydi Julian ddim yn manylu ynglyn a sut yn union mae'r iaith Gymraeg yn ei ddrysu i'r fath raddau fel na all gyflawni tasg mor elfennol a dal tren. 'Dydi o ddim yn dweud chwaith os ydi ei gyflwr Paflofaidd yn ei ddrysu mewn ffyrdd eraill, a'i atal rhag cyflawni tasgau syml eraill - gwneud defnydd priodol o'r toiled er enghraifft.

Rwan, mae'n weddol siwr bod darllenwyr blogmenai i gyd bron yn Gymry Cymraeg, felly efallai y byddai'n syniad i mi bostio cyfeiriad e bost Julian rhag ofn bod rhai yn eich plith eisiau ymddiheuro am fod yn siaradwyr iaith sy'n peri'r fath broblemau - enquiries@julianruck.co.uk

Wednesday, March 23, 2011

Ydi Cymru'n Un wedi creu dwy Blaid Lafur?

Mae'n mynd yn arfer braidd yn ddiweddar i'r Blaid Lafur yn Llundain, a fersiwn Gymreig y blaid siarad efo dau lais cwbl wahanol. Owen Smith oedd wrthi ychydig ddyddiau yn ol yn grwgnach am gynlluniau'r Blaid i godi arian cyfalaf er bod Jane Hutt yn ymddangos yn ddigon hapus efo'r cynlluniau hynny - ac yn wir wedi trafod cynlluniau tebyg ei hun.

Ac wedyn dyna i ni Peter Hain yn ymosod ar Ieuan Wyn Jones, a Carwyn Jones yntau yn amddiffyn ei ddirprwy. Mae hefyd yn weddol amlwg bellach nad oedd Hain eisiau gweld refferendwm ar bwerau deddfu i'r Cynulliad am flynyddoedd - yn groes i Gytundeb Cymru'n Un, ac yn groes i bolisi swyddogol ei blaid ei hun.

Pan ffurfiwyd Cymru'n Un, roedd rhai pobl yn meddwl y byddai'r cytundeb yn creu tyndra, ac efallai hollt oddi mewn i Blaid Cymru. Mae'n ymddangos bod y darogan yn gywir - ond mewn perthynas a'r blaid anghywir - cadwodd Plaid Cymru yn rhyfeddol o gytun yn sgil y clymbleidio a Llafur.

Mae'n ymddangos bod y Blaid Lafur Gymreig, fodd bynnag, wedi ei hollti rhwng y sawl sydd a'u ffocws ar y Cynulliad, a rheiny sy'n gweld San Steffan yn ganolbwynt y Bydysawd. Yn wir mae'n ymddangos weithiau nad ydi'r cynrychiolwyr etholedig yn y naill sefydliad yn ymwybodol o'r hyn mae eu cyd Lafurwyr yn y sefydliad arall yn ei ddweud, na'i wneud. Efallai nad oes yna unrhyw strwythur mewnol gan y blaid i gyd gynllunio - nag yn wir i gyd siarad.

Bydd yn ddiddorol gweld pa effaith gaiff y lleihad arfaethedig yn niferoedd aelodau seneddol Llafur yn San Steffan ar yr hollt cynyddol ac arwyddocaol yma oddi mewn i'r blaid.

Tuesday, March 22, 2011

Ffynonellau arfau Gaddafi

A lluoedd Prydain - ymysg eraill - wrthi bymtheg y dwsin yn difa arfau rhyfel yn y Dwyrain Canol efallai ei bod werth atgoffa ein hunain o ffynhonnell y mynyddoedd o arfau sydd yn bla ar y rhan arbennig yma o'r byd. Daw'r rhan fwyaf o'r stwff o ddigon o'r Gorllewin ac o gyn wledydd y Bloc Comiwnyddol.

Isod ceir manylion allforion arfau o Brydain i'r Dwyrain Canol y llynedd - 'dwi wedi dwyn yr holl wybodaeth o datablog y Guardian.

Mi fydd y mwyaf (ac yn wir y lleiaf) sylwgar yn eich plith yn sylwi i beth o'r arfau bychan a'r offer ymosod ar dorfeydd sydd wedi eu defnyddio yn erbyn ei ddinasyddion gan Gaddafi tros yr wythnosau diwethaf wedi eu gwerthu iddo gan y DU. Mae'n anodd iawn dychmygu ar bwy ond ei bobl ei hun y byddai Gaddafi yn defnyddio offer 'rheoli' torfeydd.

Country
All strategic export licenses
Total value of military & military/other licences
TOTAL MILITARY LICENSES
Examples of products sold Q4 2009 to End Q3 2010
Algeria 270,262,166 270,008,961 5 Combat helicopters
Bahrain 6,361,444 3,063,425 45 Aircraft parts; assault rifles; tear gas; ammunition
Egypt 16,804,843 4,007,966 31 Bombs, missiles, body armour,
Iran 424,174,977 0 0 Non-military such as civil aircraft components, imaging cameras
Iraq 476,555,614 4,772,784 31 Body armour, weapon sights, gun parts
Israel 26,733,874 4,639,459 91 Armoured plate, gas mask filters, signalling equipment, radar equipment
Jordan 20,972,889 11,994,142 51 Armoured vehicles, gun parts, gas mask filters
Kuwait 14,487,907 6,473,940 38 Anti-riot shields; patrol boats; military software
Lebanon 6,206,142 784,282 5 Body armour; shotguns
Libya 214,846,615 33,899,335 25 Ammunition; crowd-control equipment; tear gas
Morocco 2,165,881 1,149,102 18 Bomb-making parts; 'swarming' ropes; thermal imaging equipment
Oman 13,986,422 9,361,120 122 Combat aircraft parts; parts for unmanned 'drones'; tank parts
Qatar 13,122,884 3,875,753 22 Crowd-control ammunition; military cargo vehicles; missile parts
Saudi Arabia 139,718,960 64,311,296 98 4-wheel drive vehicles; armoured personnel carriers, air surveillance equipment
Syria 2,676,460 30,000 1 Small arms ammunition
Tunisia 4,504,745 131,273 10 Radar equipment; gun parts
United Arab Emirates 210,415,462 15,890,384 152 Military software; heavy machine guns; weapon sights
Yemen 285,247 160,245 4 Body armour; ammunition
Total 1,864,282,532 434,553,467 749
'Dydi'r DU ddim ar ei phen ei hun wrth gwrs - mae nifer o wledydd yn gyfrifol am arfogi Gaddafi. Gallwch weld y manylion yma.

Monday, March 21, 2011

Prifddinas partion brenhinol

Anaml iawn y bydd blogmenai yn trafod materion brenhinol - ond dyma i chi ail flogiad ar y pwnc mewn ychydig oriau. Ymddengys bod ein prifddinas ymysg yr ardaloedd mwyaf parod i gynnal parti i ddathlu'r diwrnod mawr yn y DU - gyda Llundain yn unig efo mwy o bartion ar y gweill. Llongyfarchiadau hefyd i Weriniaeth Sosialaidd Rhondda Cynon Taf am ddangos cymaint o frwdfrydedd brenhinol.

Beth bynnag - dyma'r sgor hyd yn hyn o ran partion sydd wedi eu trefnu, neu sydd yn y broses o gael eu trefnu.

SIR Nifer Partion
Ynys Mon 0
Blaenau Gwent 0
Pen y Bont 3
Caerffili 15
Caerdydd 30
Caerfyrddin 2
Ceredigion 0
Gwynedd 0
Conwy 10
Dinbych 0
Fflint 6
Gwynedd 0
Merthyr 0
Mynwy 2
Castell Nedd Port Talbot 3
Casnewydd 4
Penfro 2
Powys 3
Rhondda Cynon Taf 17
Abertawe 7
Torfaen 1
Bro Morgannwg 4
Wrecsam 5

Data i gyd gan y BBC

Ymweliad brenhines Lloegr ag Iwerddon i fynd rhagddo wedi'r cwbl


'Dwi'n siwr y bydd yn fater o gryn ryddhad i ddarllenwyr blogmenai ddeall bod ymweliad Elizabeth Windsor ag Iwerddon o Fai 17 i Fai 20 yn saff. Yn gynharach roedd yn ymddangos bod problem go ddrwg wedi codi wedi i berchenog y Players Lounge - tafarn yng nghanol Dulyn - John Stokes wahardd Mrs Windsor a'i theulu o'i dafarn, a gwneud y sefyllfa yn glir ar faner anferth ar flaen ei sefydliad. Yn ol Mr Stokes:

I'm just warning her that she won't get served if she decides to drop in for a drink, to save me the embarrassment of having to tell her if she turns up, because it's a well-known pub and she might.
Aeth ymlaen i egluro pam nad oedd am ganiatau i Mrs Windsor na'i theulu yfed yn ei dafarn:

I don't believe she has any right coming here whatsoever.
When you hear the figures being thrown around about how much it will cost to bring her over, it's a disgrace. Surely money can be better used elsewhere?

"My mother died of a brain hemorrhage when she was just 51 and they told us she could have been saved if she'd had a hospital bed. Why are we spending that money on this visit when we could invest in hospital beds?
Beth bynnag, mae'r stori yma o leiaf yn diweddu'n hapus. Aeth un o gomisiynwyr y Garda i weld Mr Stokes a dweud wrtho y byddai'n colli ei drwydded i werthu alcohol oni bai ei fod yn tynnu'r faner i lawr ar unwaith.

Felly dyna ni - mae Mrs Windsor yn rhydd i ymweld a thafarnau Dulyn ac i fynd am beint o stowt i dafarn Mr Stokes o ran hynny. Os ydi hi'n dewis gwneud hynny, gobeithio y bydd yn cofio mynd a'i phres efo hi. Mae ei mab hynaf yn enwog am ymweld a thafarnau pan mae ar ymweliadau swyddogol, a disgwyl cael ei beint am ddim oherwydd nad yw yn yr arfer o gario waled - tric sydd pob amser yn gweithio iddo fo ond byth i mi am rhyw reswm.

Saturday, March 19, 2011

Pa mor briodol i Gymru ydi methodoleg YouGov ?

Mae Alwyn yn gwbl gywir i dynnu sylw at broblemau yn y polau YouGov sy'n cael eu cyhoeddi gan ITV - er nad yw ei awgrym (ysgafn gobeithio) y dylai cenedlaetholwyr geisio gwyrdroi'r pol trwy danysgrifo i gymryd rhan ynddo, a honni eu bod yn darllen y Mirror yn apelio rhyw lawer ataf i. Yn fy marn bach i 'dydi polau piniwn ddim yn effeithio rhyw lawer ar bolau go iawn yn y rhan fwyaf o amgylchiadau (er bod eithriadau). Oes yna unrhyw un yn cofio'r Lib Dems yn polio 33% yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol y llynedd?



Fel mae Alwyn yn nodi, mae'r ganran sy'n dweud eu bod am bleidleisio i Lafur cryn dipyn yn is yn y ffigyrau craidd nag yw erbyn i'r ffigyrau gael eu trin er mwyn ceisio eu gwneud yn gynrycholiadol o farn sampl cytbwys o'r etholwyr. Mae YouGov yn gofyn i bobl pa bapur maent yn ei ddarllen, ac maent yn pwyso pob pleidlais yn eu pol yng ngoleuni yr atebion hynny. Credant eu bod yn gwybod faint sy'n darllen pob papur mewn gwirionedd, ac maent yn gwybod bod y papur mae pobl yn ei ddarllen yn rhoi awgrym cryf o'r blaid maent yn pleidleisio iddi.

A chymryd y pol YouGov diweddar i ystyriaeth mae'n amlwg bod eu dull o bwyso pleidleisiau i weddu patrymau darllen papur newydd yn cynyddu'r ganran Llafur yn sylweddol iawn. 'Rwan does yna ddim o'i le yn yr arfer o gynyddu gwerth rhai pleidleisiau a lleihau gwerth rhai eraill - mae'r cwmniau polau i gyd yn gwneud hyn mewn rhyw ffordd neu'i gilydd er mwyn gwneud eu canlyniadau yn gywirach. Ond mae'r ffaith bod y dull o ddefnyddio arferion darllen papur pobl yn anarferol iawn a bod y pwysiad tuag at Lafur mor drwm yn codi nifer o gwestiynau.

Y brif broblem ydi bod sampl YouGov yn ymddangos i fod anghynrychioladol iawn o'r boblogaeth yn gyffredinol - a'r mwyaf y camau mae'r cwmni yn gorfod eu cymryd i gywiro sampl amhriodol, y mwyaf y potensial i greu canlyniadau nad ydynt yn cynrychioli'r wir farn wleidyddol ar lawr gwlad. Y broblem eilradd ydi'r graddau mae YouGov yn deall y berthynas rhwng patrymau pleidleisio a phatrymau darllen papurau newydd yng Nghymru - ac yn arbennig felly mewn etholiadau Cynulliad. Ar gyfer patrymau pleidleisio San Steffan mae model YouGov wedi ei greu.

O graffu yn fanylach ar fanylion y pol mae'n amlwg bod rhai o'r canfyddiadau yn awgrymu camgymeriadau polio (er fy mod yn derbyn bod margin of error lled fawr i is setiau pob pol bron). Er enghraifft ydi hi yn gredadwy mewn gwirionedd bod cefnogaeth Llafur cyn gryfed yng Ngorllewin a Chanolbarth Cymru - gyda'i phedair etholaeth wledig sydd a chefnogaeth Lafur isel iawn- a Chanol De Cymru drefol? Ydi hi'n gredadwy bod cefnogaeth Plaid Cymru yn gryfach yng Ngorllewin De Cymru lle nad oes ganddi cymaint ag un aelod Cynulliad etholaethol nag yw yn y Canolbarth a'r Gorllewin lle mae ganddi bedwar? Ydi hi'n gredadwy bod unarddeg gwaith cymaint o gefnogaeth i'r Blaid Werdd yng Nghanol De Cymru sefydlog ei phoblogaeth na sydd yn y Gorllewin a'r Canolbarth, gyda'i holl fewnfudwyr sy'n chwilio am ffordd amgen o fyw? Ydi hi'n bosibl i bleidlais y Lib Dems chwalu ar hyd a lled Prydain, ond cynyddu yng Ngogledd Cymru? Ydi hi'n bosibl bod cefnogaeth y Lib Dems wedi syrthio o 12.4% i 1% yng Ngorllewin De Cymru, ac mai sedd Peter Black ydi'r un lleiaf saff ymysg y Lib Dems sy'n ceisio cael eu hail ethol, yn hytrach na'r saffaf?

'Rwan peidiwch a cham ddeall - 'dwi'n falch bod cwmniau o'r diwedd yn fodlon polio yn gyson yng Nghymru - 'dwi'n dymuno'n dda i'r cyfuniad ITV / YouGov. 'Dwi'n falch iawn bod polau tracio misol yn cael eu cynnal yng Nghymru o'r diwedd. 'Does yna neb yn fwy tebyg na fi o chwerthin ar ben gwleidyddion sy'n gwneud mor a mynydd o bolau sy'n dweud yr hyn maent eisiau ei glywed tra'n wfftio'n llwyr rhai sydd a neges nad ydynt yn ei hoffi. Mi fyddwn i hefyd yn derbyn bod stori fras polio YouGov - cynnydd i Lafur a chwalfa i'r Lib Dems yn debygol o fod yn wir. Ond 'dwi'n meddwl ei bod yn deg nodi hefyd bod gwaith i'w wneud o hyd ar fethodoleg y cwmni yng nghyd destun etholiadau Cynulliad. Mi fydd yr etholiadau o ddefnydd iddynt yn hyn o beth - bydd yn feincnod i fesur effeithiolrwydd eu methodoleg arni. Mae'r 'wyddoniaeth' o bolio yn ifanc yng Nghymru o hyd.

Gellir gweld y data moel yma, a sylwadau politicalbetting.com yma.

Thursday, March 17, 2011

I ble'r aeth ffrindiau tywydd teg Gaddafi?

Mae'n dda deall bod y Cyrnol Gaddafi wedi rhyw hanner cadw un o'i ffrindiau o leiaf - yr Hogyn o Rachub - a hynny er gwaethau'r ffaith bod llawer o'i ffrindiau eraill yn cadw yn rhyfeddol o ddistaw ynglyn a'u cyfeillgarwch ar hyn o bryd.





Wednesday, March 16, 2011

Llongyfarchiadau i Gyngor Mon _ _ _ _

_ _ _ ar fod y cyngor cyntaf yng Nghymru i gael eu pwerau wedi eu trosglwyddo i gomisiynwyr annibynnol. Yn wir hyd y gwn i dyma'r tro cyntaf i'r ffasiwn beth ddigwydd yn y DU. Pwy fyddai wedi disgwyl i Gyngor Mon o bawb fod mor flaengar ac arloesol?

Mae'n rhaid bod pawb ar yr ynys yn hynod falch o'u cynghorwyr heno.

Tuesday, March 15, 2011

Cyflogau Aelodau Cynulliad a'r Bib

Hmm - roedd yn ddiddorol gweld eitem y Bib ar Wales Today heno - eitem oedd yn ymwneud a'r ffaith bod Aelodau'r Cynulliad yn cael eu cyflogau wedi rhewi am bedair blynedd. Aeth y rhaglen ati i holi tri o bobl - roedd dau ohonynt eisiau gweld cyflogau'r aelodau yn cael eu haneru. Byddai hyn yn golygu y byddai'r sawl sydd a'r gyfrifoldeb am lunio polisi a deddfau iechyd, addysg, a hybu'r economi yng Nghymru yn cael eu talu llai na thrydanwyr, plymars, gweithwyr carffosiaeth, pobl trwsio ffonau, ffitars, pysgotwyr, nyrsus, gofaint ac ati. Nid oes rhaid dweud na chafodd y ffwlbri yma ei herio gan y cyflwynydd (Tomos Dafydd), ond yn hytrach aeth ati i nodi'n wybodus bod aelodau'r Cynulliad gyda rhai o'r cyflogau gorau yng Nghymru - fel petai'n arferol i wleidyddion weithio'n wirfoddol mewn gwledydd eraill.

Wel, efallai bod cyflog o fwy na £50,000 yn uchel mewn termau Cymreig - ond mae yna ddigon o lwybrau eraill y gellir eu dilyn er mwyn cael gwell cyflog - gallai gyrfa yn y BBC fod yn lwybr hynod broffidiol er enghraifft. Yn ol y Telegraph yn 2010 roedd 300 o fiwrocratiaid y Bib yn ennill mwy na £100,000. Yn wir cafodd Mark Thompson, y Prif Weithredwr £664,000 ymhell, bell mwy nag unrhyw wleidydd ym Mhrydain. Mae cyflog Cyfarwyddwr BBC Cymru yn llawer uwch nag ydi cyflog Gweinidog Cyntaf Cymru - a chyflog David Cameron o ran hynny. Wnawn ni ddim son am rai o'r 'ser' sy'n ymddangos ar y sgrin - roedd un ohonyn nhw, hyd yn ddiweddar yn ennill bron cymaint a phob aelod Cynulliad gyda'i gilydd.

Rwan, dwi'n siwr bod yr holl bobl yma sy'n cael cyflogau enfawr ar draul y sawl sy'n gorfod talu am eu trwyddedau teledu efo pethau ofnadwy o bwysig i'w gwneud - llawer pwysicach na'r manion sy'n mynd ag amser aelodau'r Cynulliad. Ond - ag ystyried yr amgylchiadau - efallai y byddai mymryn o wyleidd-dra yn briodol ar ran y Bib pan maent yn rhedeg eitemau ar gyflogau pobl eraill.

Monday, March 14, 2011

Y Toriaid yn dewis ymgeisydd i Arfon

Aled Davies, amaethwr o Bowys ydi'r dyn lwcus.

Ymddengys ei fod yn gyn asiant i Glyn Davies. 'Dydi Arfon ddim y math o etholaeth lle mae'n bosibl i Dori gael unrhyw lwyddiant ynddi, felly mae'n edrych braidd fel petai'n cael ei hel i'r Gogledd i gael ychydig o brofiad etholiadol cyn cymryd drosodd gan Glyn - pan fydd hwnnw'n rhoi'r gorau iddi.

Mi fydd darllenwyr Golwg yn gwybod mai Christina Rees, cyn wraig Ron Davies fydd yn sefyll tros Lafur.
. Mae'n fargyfreithiwr a hyfforddwr sboncen ac wedi bod yn weithgar ar ran y Blaid Lafur ers oes yr arth a'r blaidd. Bu'n rhaid iddi gamu i'r adwy wedi i Alwyn Humphreys ddianc i'r ystafell molchi i ail osod ei fascara wedi iddo fo a gweddill Llafurwyr De Clwyd gael ffrae fach a dechrau waldio ei gilydd efo'u bagiau llaw.

Efallai na fyddai Alwyn wedi bod yn hapus yn Arfon, hyd yn oed petai trwy rhyw ryfedd wyrth wedi llwyddo i gael ei ethol.

Sunday, March 13, 2011

Gwynedd a'r refferendwm

Mae'n arfer gan bleidiau gwleidyddol gadw golwg go fanwl ar flychau pleidleisio fel maent yn cael eu gwagio, a phan fydd y pleidleisiau sydd ynddynt yn cael eu dosbarthu. Dyma'r ffordd orau o arenwi pa ardaloedd sydd fwyaf cefnogol i'r gwahanol bleidiau. Anaml iawn y bydd y wybodaeth yma'n cael ei ryddhau oherwydd ei fod yn wybodaeth sydd yn wleiddyddol sensitif. Mae refferendwm yn wahanol wrth gwrs - 'does yna ddim llawer o ddefnydd y gall pleidiau eraill eu wneud o ddeilliannau'r ymarferiad. Felly dyma beth gwybodaeth am natur y refferendwm yng Ngwynedd.

Rhanbarth Pleidlais Ia
Dinas Bangor 70%
Tref Caernarfon 81%
Dyffryn Ogwen 82%
Arfon Wledig 78%
Dwyfor 75%
Meirion 76%

O ran y bocsus unigol wna i ddim eu rhestru nhw i gyd - mae yna ormod ohonyn nhw - ond mi ro i rhyw flas i chi. Roedd 85% neu fwy o'r pleidleisiau efo croes wrth Ia yn y bocsus canlynol:

Rachub, Bethesda, Gerlan, Y Garth (Bangor), Golan, Tremadog, Pencaenewydd, Trefor, Llaniestyn, Botwnnog, Aberdaron, Corris, Y Bala, Ffestiniog, Canolfan y WI Blaenau, Aelwyd yr Urdd Blaenau, Llanuwchllyn, Y Bontnewydd, Penrhyndeudraeth, Rhyd y Main, Sarnau, Aberangell, Santes Helen (Caernarfon), Rhosgadfan, Llanwnda, Llandwrog, Penygroes, Llanllyfni.

Mae'r uchod yn debygol o fod ymysg y ffigyrau uchaf yng Nghymru wrth gwrs, gan i Wynedd bleidleisio'n drymach na'r unman arall tros roi pwerau deddfu i'r Cynulliad.

Roedd y canlynol yn 60% neu is:

Bronyfoel, Abersoch, Aberdyfi, Y Bermo, Dyffryn Ardudwy, Llwyngwril, Y Tywyn, Talsarnau, Bryncrug, Y Friog, Y Ganllwyd, Borthygest, Dinorwig.

Pleidleisiodd llai na 50% tros y cynnig yn Tywyn, Aberdyfi, Y Friog a Bronyfoel. Mae'n weddol amlwg o edrych ar y ddau restr bod perthynas agos rhwng maint y bleidlais Na a lefelau mewnfudiad. Mae'r bleidlais Ia hefyd yn drwm iawn mewn pentrefi chwarelyddol. O bosibl bydd ambell i gynghorydd Llais Gwynedd yn cael ychydig o amheuaeth ynglyn a doethineb eu penderfyniad i sefyll yn ol yn ystod yr ymgyrch o weld bod eu wardiau wedi pleidleisio Ia'n drwm iawn.

Dwi wedi rhoi lliw coch ar enwau'r ardaloedd lle roedd y samplau braidd yn rhy fach i fod yn gwbl ddibynadwy. Er bod sampl wedi ei gymryd o fwyafrif llethol y bocsus mae un neu ddau yn ddi sampl - gan gynnwys yr un sydd o fwyaf o ddiddordeb i mi. Os ydych eisiau gwybod y ganran am focs penodol gallwch adael neges ar dudalen sylwadau'r blogiad.

Paul Rawlinson sydd wedi bod yn gyfrifol am goledu a rhoi trefn ar yr holl wybodaeth gyda llaw - fedra i ddim meddwl am neb mwy effeithiol na Paul am wneud y math yma o waith.

Saturday, March 12, 2011

Pol ITV / YouGov a'r rhagolygon i'r Blaid

Mae'r stori yn hen braidd - ond mi ddyweda i air neu ddau ynglyn a hi beth bynnag - 'dwi ddim wedi bod mewn sefyllfa i flogio am ychydig ddyddiau.

Mae canfyddiad y pol yn torri'n groes i'r hyn yr oeddwn i yn rhyw ddarogan ychydig ddyddiau yn ol. Wele'r manylion:

ETHOLAETHAU:

Llafur: 48% (+16)

Ceidwadwyr: 20% (-2)

Plaid Cymru: 19% (-3)

Democratiaid Rhyddfrydol: 7% (-8)

Eraill: 7% (lawr 1)

RHANBARTHAU:

Llafur: 45% (+15)

Ceidwadwyr: 20% (-2)

Plaid Cymru: 18% (-3)

Democratiaid Rhyddfrydol: 5% (-7)

UKIP: 5% (-1)

Plaid Werdd: 4% (dim newid)

Eraill: 4% (-6)

Mae'r ffigyrau yn y cromfachau yn cymharu newid ers yr etholiad Cynulliad diwethaf yn 2007. Petai'r ffigyrau hyn yn cael eu gwireddu mewn etholiad go iawn - ac yn cael eu gwireddu yn unffurf ar draws y wlad byddai Llafur yn gwneud yn well o lawer nag a wnaethant mewn unrhyw etholiad Cynulliad blaenorol - a byddai'r newyddion yn ddrwg i bawb arall. Mae'n debyg y byddai'r Toriaid yn colli pob sedd uniongyrchol ag eithrio Mynwy, ac mi fyddai'r Blaid yn colli Aberconwy a Llanelli. Mae'n debyg y byddai'r Lib Dems yn colli Canol Caerdydd i Lafur a Maldwyn i'r Toriaid. Ni fyddai Brycheiniog a Maesyfed yn gwbl ddiogel chwaith. Yn waeth byddai gan Lafur gyfle eithaf o ennill sedd rhestr yn y De Ddwyrain, ac o bosibl un yn y Canolbarth hefyd. Byddai hyn yn rhoi 34 - 35 sedd allan o'r 60 iddynt - digon i reoli yn hawdd.

Rwan mae un neu ddau o bwyntiau i'w gwneud cyn mynd ymlaen. Yn gyntaf does yna ddim llawer o arwyddocad i'r newid lle misol rhwng y Toriaid a Phlaid Cymru. Mae margin for error o 3% i bolau YouGov - ac mae'r gwahaniaeth rhwng y ddwy blaid pob amser yn llai na hynny. Yr hyn sy'n glir ydi bod pleidlais y Lib Dems wedi chwalu, bod y Blaid a'r Toriaid yn agos at ei gilydd, a bod Llafur wedi cynyddu eu cefnogaeth yn sylweddol ac yn gyson. Mae gan Lafur hanes cyson o adeiladu cefnogaeth yn gyflym yng Nghymru pan nad ydynt mewn grym yn san Steffan - byddwn yn dychwelyd at hyn mewn blogiad arall.

Yr her i'r pleidiau eraill felly ydi gwneud y gorau o dirwedd etholiadol newydd sy'n ffafriol iawn i Lafur - ac mae tirwedd felly yn un anodd i wleidydda ynddo. O safbwynt y Blaid mi fyddwn yn cynnig cyngor canlynol:

a) Gwneud y gorau o'r manteision sydd gennym. Mae trefniadaeth y Blaid yn well nag un Llafur mewn nifer dda o etholaethau. Mae ymgyrch llawr gwlad yn fwy tebygol o fod yn effeithiol yn erbyn tueddiadau cenedlaethol mewn etholiad Cynulliad nag yw mewn etholiad San Steffan - 'dydi'r cyfryngau ddim yn gyrru'r ymgyrch i'r un graddau.

b) Mae ymgeiswyr y Blaid yn aml o ansawdd gwell na'u gwrthwynebwyr Llafur. Dylid seilio rhan o'r ymgyrch ar bersonoliaethau a record ymgeiswyr. Eto mae ffactorau lleol a phersonol yn bwysicach mewn etholiadau Cynulliad na mewn rhai San Steffan.

c) Mae honni bod buddugoliaeth mewn etholaeth yn sicr yn ennill pleidleisiau mewn etholiadau pan mae gwynt cryf y tu ol i blaid, ond 'dydi hynny ddim yn wir mewn etholiadau mwy anodd. Mewn amgylchiadau felly mae derbyn bod posibilrwydd o golli yn gallu bod yn fwy effeithiol o safbwynt etholiadol - gall annog pobl gwrth Lafur i bleidleisio'n dactegol i gadw Llafur allan.

ch) Mae creu naratif cenedlaethol gwrth Lafur yn anodd mewn amgylchiadau lle mae'r Blaid wedi rhannu grym efo nhw am bedair blynedd. 'Does yna fawr o bwrpas beio Llafur am yr argyfwng cyllidol chwaith - mae hynny'n hen hanes mewn termau etholiadol, ac mae'n amherthnasol i'r sefyllfa sydd ohoni yng Nghymru. Fy nheimlad i ydi y dylid pwysleisio poblogrwydd cymharol y llywodraeth glymbleidiol yng Nghaerdydd a cheisio creu naratif ei fod yn well trefniant na'r un blaenorol lle'r oedd Llafur mewn grym ar eu pennau eu hunain. Wedi'r cwbl roedd y llywodraeth hwnnw yn un hynod amhoblogaidd. Mae yna ddeunydd crai i weithio gyda fo - y gwahanol gynlluniau i gau ysbytai lleol rhwng 2003 a 2007 er enghraifft. Mae hefyd yn ffaith i'r bwlch enwog rhwng gwariant ar ysgolion yng Nghymru a Lloegr ddatblygu yn llwyr yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae naratif wedi ei seilio ar y cwestiwn - ydych chi yn eu trystio nhw i redeg y wlad ar eu pennau eu hunain? - yn effeithiol weithiau mewn sefyllfaoedd lle mae clymbleidio yn gyffredin. Er enghraifft, llwyddodd y PDs i ddwblu eu cynrychiolaeth yn y Dail (yn Iwerddon wrth gwrs) yn 2002 er bod y polau yn awgrymu y byddai eu pleidlais yn syrthio fel carreg. Canfyddiad pobl bod perygl i Fianna Fail reoli ar eu pennau eu hunain, a strategaeth gan y PDs o awgrymu mai nhw yn unig allai atal hynny rhag digwydd oedd yn gyfrifol am y llwyddiant anisgwyl hwnnw.

Wednesday, March 09, 2011

Ymgeisydd Llafur yn Aberconwy - eto

Ddiwrnod neu ddau yn ol roedd blogmenai yn darogan mai Alun Puw fyddai ymgeisydd Llafur yn Aberconwy fis Mai nesaf. Roedd yr aelod seneddol lleol, Guto Bebb o dan yr un argraff.

Fodd bynnag, y sibrydion diweddaraf ydi bod Eifion Williams o Wrecsam wedi ei ddewis trostynt. Bydd rhai yn cofio i Eifion sefyll tros Llafur yn etholiadau San Steffan 1997 yn hen etholaeth Caernarfon, a pherfformio'n ddigon parchus. Yn dilyn hynny cafodd ei ddewis yn isel ar un o'r rhestrau rhanbarthol yn etholiadau'r Cynulliad 1999 cyn diflannu o'r maes gwleidyddol am flynyddoedd.

Deallaf y bydd Llafur yn dewis ymgeisydd yn Arfon heno, yn dilyn ymddiswyddiad di symwth Alwyn Humphreys o'r blaid.

Tuesday, March 08, 2011

A fydd y refferendwm yn effeithio ar ganlyniadau etholiadau'r Cynulliad?


Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod y polau wedi bod yn gyson tros yr ychydig fisoedd diwethaf gyda Llafur yn y pedwar degau cynnar, y Blaid a'r Toriaid yn y dau ddegau cynnar a'r Lib Dems ymhell o dan 10%. 'Does yna ddim pol Cymreig wedi ei ryddhau ers y refferendwm, felly 'dydan ni ddim mewn sefyllfa i farnu os oes newid o unrhyw fath wedi ei wneud i lefelau cefnogaeth y pleidiau yng Nghymru ers hynny.

Y prif gwestiwn sy'n codi o ffigyrau fel hyn ydi os bydd gan Lafur ddigon o seddi i lywodraethu ar ei liwt ei hun. Y cwestiynau eilradd ydi os mai'r Blaid ynteu'r Toriaid sy'n debygol o ddod yn ail, a pha mor isel y gallai'r gynrychiolaeth Lib Dem syrthio.

Serch hynny, gallai'r refferendwm yn hawdd effeithio ar sut bydd pobl yn pleidleisio ym mis Mai - digwyddodd hynny yn 1999, a Phlaid Cymru wnaeth elwa'r tro hwnnw - ac elwa'n sylweddol. Beth allai ddigwydd y tro hwn? Mae'n amhosibl dweud i sicrwydd wrth gwrs - ond hwyrach y byddai'n ddiddorol ceisio darogan sut effaith caiff Mawrth 3 ar Fai 5.

Y peth cyntaf i'w nodi ydi bod mwyafrif llethol pleidleiswyr y Toriaid, a mwyafrif llai o gefnogwyr y Lib Dems wedi pleidleisio Na ar Fawrth 3. Mae'n bosibl y bydd rhai o'u cefnogwyr yn pechu tros dro o leiaf oherwydd i'w pleidiau beidio a gwrthwynebu ymestyn datganoli. Gallai hyn fod o gymorth i bleidiau amgen sydd wedi gwrthwynebu mwy o ddatganoli - ac yn arbennig felly UKIP.

Gallai hynny yn ei dro niweidio'r Toriaid (a'r Lib Dems o bosibl). Mae yna beth tystiolaeth polio ar gael bod tua 6% o bleidleiswyr Toriaidd yn y DU yn edrych i gyfeiriad UKIP ar hyn o bryd. Roedd canlyniad is etholiad Barnsley yn dystiolaeth pellach bod symudiad o'r math yma yn digwydd. Gallai'r tueddiad yma fod yn gryfach yng Nghymru yn sgil y refferendwm. Yn eironig ddigon efallai mai prif effaith gogwydd oddi wrth y Toriaid tuag at UKIP fyddai amddifadu'r Lib Dems o nifer o'u seddi.

Mae'r rhan fwyaf o seddi'r Lib Dems o dan fygythiad beth bynnag, ond os byddant yn cael pleidlais is nag UKIP yn rhai o'r rhanbarthau, ni fydd ganddynt obaith o gwbl o ddal gafael ar eu seddi. Gallai hynny ddigwydd yn hawdd. Er enghraifft yn 2007 cafodd y Lib Dems 7.8% o'r bleidlais yn y Gogledd, cafodd y BNP 5.1% ac UKIP 4.1%. Mae cefnogaeth y Lib Dems wedi efallai haneru tros Gymru ers hynny, ac os byddai hynny yn cael ei adlewyrchu yn y Gogledd byddai'r cwymp yn unig yn debygol o'u gwthio oddi tan y BNP ac UKIP - heb gymryd i ystyriaeth twf posibl yng nghefnogaeth y pleidiau hynny. 'Dwi'n disgwyl i UKIP wneud yn llawer gwell na'r BNP y tro hwn - mae'r BNP yn tueddu i elwa pan mae Llafur yn amhoblogaidd.

Mae'n anhebygol y bydd refferendwm digon technegol ei natur yn rhoi cymaint o wynt yn hwyliau'r Blaid na ddigwyddodd yn dilyn y refferendwm diwethaf - ond mae'r ymdeimlad cadarnhaol tuag at Gymru a'i strwythurau gwleidyddol sydd wedi ei greu tros y dyddiau diwethaf yn sicr o fod o gryn gymorth. Gallai'n hawdd sicrhau bod y Blaid yn ail clir - a gallai hefyd wneud y gwahaniaeth rhwng bod mewn clymblaid a pheidio a bod mewn un. Byddai curo Llafur mewn etholaethau megis Aberconwy a Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn mynd cryn dipyn o'r ffordd tuag at wireddu hynny.

'Dwi ddim yn siwr faint o effaith gaiff y canlyniad ar bleidlais Llafur - mae'n anodd barnu. Mae'n anodd dychmygu y bydd y canlyniad o gymorth iddynt ddenu pleidleisiau o gyfeiriad Plaid Cymru, a 'dydi o ddim yn glir i mi sut y byddai o gymorth iddynt ddenu fawr neb gan y pleidiau eraill chwaith. Efallai mai eu prif obaith nhw ydi y bydd proffeil uchel diweddar Carwyn Jones yn ei gwneud yn haws iddynt gael eu pleidlais eu hunain allan.

Felly efallai - efallai - mai prif effeithiadau gwleidyddol y dyddiau diwethaf fydd cryfhau sefyllfa Plaid Cymru, gwanio'r Toriaid rhyw gymaint a'i gwneud yn fwy tebygol y bydd UKIP yn gwneud yn well na'r Lib Dems - fel y gwnaethant yn etholiadau Ewrop yn 2009.

Cawn weld.

Gweld y brycheuyn yn llygad ei frawd _ _


Gan bod Peter Hain yn llenwi'r oriau gweigion sydd ar gael iddo, yn sgil y ffaith ei fod mewn swydd dibwynt a di gyfrifoldeb, yn codi amheuon am effeithlonrwydd eraill, efallai ei bod yn werth holi'n frysiog pa mor effeithiol ydi Peter ei hun?

Byddwch yn cofio i Peter fethu'n dreuenus i gael ei ethol i'r cabinet cysgodol gan ei gyd aelodau seneddol Llafur, ac iddo ddod yn olaf ond pan safodd i fod yn ddirprwy arweinydd ei blaid. Methodd fynd yn is arweinydd, er gwaethaf iddo dderbyn cyfraniadau o hyd at £100,000 i gynnal ei ymgyrch - cyfraniadau na chofiodd i'w cyhoeddi - ac o ganlyniad cafodd ei hun mewn dwr poeth efo'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Gallwch weld y stori drist yma.

Wedyn efallai na ddylid anghofio anturiaethau bach Peter yn defnyddio ei enw fel gweinidog yn y llywodraeth i hyrwyddo cwmni cyfathrebu ei wraig, HaywoodHain. Ac wedyn dyna'r tro hwnnw pan bu ond y dim iddo ddymchwel llywodraeth Cymru'n Un trwy geisio torri'r cytundeb i gynnal refferendwm ar ei ben ei hun bach.

A rwan mae Peter yn mynd ymhell y tu hwnt i'w raddfa cyflog trwy gynnal ymgyrch bersonol yn erbyn arweinydd y blaid sy'n bartner i'w blaid ei hun ym Mae Caerdydd a di sefydlogi yr unig lywodraeth ym Mhrydain mae Llafur a rhan ynddo- a gwneud hynny yn groes i ewyllys arweinydd ei blaid yng Nghymru.

'Dwi'n siwr bod y Blaid Lafur Gymreig yn ystyried Peter yn gryn gaffaeliad.

Monday, March 07, 2011

Ieithwedd gwleidydda

Mi'r ydym wedi gweld cryn dipyn o ieithwedd amhriodol wrth wleidydda yn ystod yr wythnosau diwethaf - gan yr ochr Na yn y refferendwm wrth gwrs. Rydym eisoes wedi edrych ar rhai enghreifftiau - cymharu'r ochr Ia efo comiwnyddion, moch a chyfundrefnau unbeniaethol er enghraifft, awgrymu bod pawb sy'n ddigon dewr i fynegi cefnogaeth i'r ochr Ia yn euog o lygredd personol, cymharu penderfyniad democrataidd gan etholwyr Cymru efo cic gan ful ac ati.

Rwan, pan mae ieithwedd o'r math yma yn cael ei defnyddio - y bwriad fel rheol ydi ennyn ymateb emosiynol neu hysteraidd yn y gwrandawr neu'r darllenwr. Os ydym yn ceisio ennyn ymateb mwy deallus ac ymenyddol mae'r ffordd yr ydym yn defnyddio iaith yn wahanol - mae'n fwy pwyllog a rhesymol, a rydym yn osgoi gor ddweud a chymariaethau amhriodol. Mewn geiriau eraill rydym yn ymarfer rheolaeth ar yr iaith rydym yn ei defnyddio.

Nid True Wales yn unig sy'n gwleidydda yn y ffordd yma - mae'n nodwedd o'r ffordd y bydd elfennau eithafol yn gwleidydda. Emosiwn sy'n gyrru gwleidyddiaeth felly - mae'n dilyn felly bod yr ieithwedd a ddefnyddir yn eithafol. Wedi dweud hynny bydd pleidiau o bob math yn defnyddio iaith gor emosiynol weithiau - yn arbennig felly pan fydd etholiad ar y gorwel - dyna pam roedd David Jones yn son am ryfel gyrila yn erbyn y wladwriaeth Brydeinig heddiw. Creu gwres yn hytrach na goleuni ydi'r bwriad. 'Dwi wedi tynnu sylw at y math yma o wleidydda mewn perthynas a Llais Gwynedd yn y gorffennol - yn arbennig felly pan roedd Gwilym Euros yn cadw blog.

'Dydi hi ddim yn syndod ag etholiad Cynulliad ym mis Mai bod yr ieithwedd yma'n cael ei defnyddio drachefn gan Lais Gwynedd. Er enghraifft yn ol tudalen Facebook Cyfeillion Ysgol Llwyngwril cafwyd y neges yma gan un o gynghorwyr Llais Gwynedd:

Thank you very much indeed. Keep it up with the pressure. If Mubarak can be shifted in 18 days so can Plaid Cymru politicians on every level! There are National Assembly elections coming up in May and Gwynedd... Council elections in May 2012. We’ll take a leaf out of the Egyptians’ notebook on both occasions.

Rwan, mae'n gwbl briodol i rieni yn Llwyngwril, neu mewn unrhyw bentref arall gynnal ymgyrch i atal ysgol rhag cau. Mae hefyd yn gwbl briodol i Lais Gwynedd, neu unrhyw grwp arall drefnu eu hunain yn wleidyddol ac ymgyrchu yn wleidyddol. Dyna natur gwleidydda democrataidd.

Ond
mae'n amhriodol i gymharu gwrthwynebwyr sy'n arddel gwleidyddiaeth ddemocrataidd efo unbenaethiaid sydd wedi cynnal eu grym gwleidyddol am ddegawdau trwy ladd, carcharu ac arteithio.

Mae rhywbeth yn dweud wrthyf y byddwn yn dod ar draws mwy o'r math yma o beth tros yr wythnosau nesaf.