Wednesday, April 06, 2016

Maniffesto'r Blaid a methiant Llafur

Ar ol sterics a theatrics Llafur ddoe wedi cyhoeddi maniffesto Plaid Cymru mae'n siwr y dylid dweud gair am y ddogfen ei hun.  Mae'n ddogfen hir a hynod fanwl - ac mae'n torri tir newydd.  Nid maniffesto yw mewn gwirionedd ond cynllun i ail strwythuro'r ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu yng Nghymru, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n rhoi anghenion pobl Cymru yn gyntaf ac anghenion strwythurau rheolaethol a llywodraethol yn ail.  Mae'n ddogfen wirioneddol arloesol, ac o'i gweithredu byddai'n gwella bywydau y rhan fwyaf o bobl Cymru mewn llawer o ffyrdd gwahanol.  Mae'n un o'r dogfennau mwyaf arwyddocaol i gael ei chyhoeddi yng Nghymru ers sefydlu datganoli - a chyn hynny.  Dylai unrhyw un sydd a diddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru ei darllen.  Gellir gwneud hynny yma.




Roedd ymateb y pleidiau eraill yn ddisgwyliadwy am wn i.  Disgrifiodd y Toriaid ddogfen gynhwysfawr sydd wedi ei chostio'n fanwl - ac yn annibynnol - fel 'ffuglen' - ond heb ehangu ar eu dadansoddiad treiddgar.  

Byddai rhywun wedi meddwl y byddai Llafur - efo'u record o lywodraethu sydd wedi cael Cymru ar waelod bron i pob tabl perfformiad Ewropiaidd - wedi petruso i edrych os oedd yna unrhyw syniadau y gallent eu derbyn yno - ond na, neidiodd yr hogiau ar ddehongliad oedd wedi ei wreiddio yn eu problemau llythrennedd eu hunain (diffyg dealltwriaeth o'r gwahaniaeth rhwng toriad / cut ac arbediad / saving) a honni bod y Blaid yn bwriadu torri £1.5 bn o'r Gwasanaeth Iechyd, er bod y ddogfen yn ei gwneud yn hollol glir y byddai'r gwariant ar iechyd yn cynyddu bron i £1bn erbyn 2020.  Yn wir aeth y gwirionaf a'r mwyaf hysteraidd ohonyn nhw y tu allan i ysbyty i ddychryn pobl oedd yn ymweld a pherthnasau sal efo gwybodaeth ffug a'u perswadio i roi eu henwau a'u cyfeiriadau ar 'ddeiseb'.  'Dwi'n edrych ymlaen i weld pa ddefnydd sy'n cael ei wneud o'r wybodaeth bersonol yma sydd wedi cael ei hel ar sail anwiredd.

Dwi erioed wedi cael cymaint o negeseuon personol ar trydar na gefais i ddoe gan bobl oedd yn gandryll oherwydd y celwydd a'r camarwain.  'Does 'na ddim pwynt gwylltio bois - a benthyg idiom Saesneg Don't get mad, get even.  Y peth gorau fedrwch ei wneud ydi chwarae eich rhan yn y broses etholiadol er mwyn rhoi cyfle i'r Blaid gael gweithredu ar y ddogfen wych yma a thrawsnewid y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu yng Nghymru.  Gwnewch unrhyw beth yr ydych yn teimlo y gallwch ei wneud yn ystod y mis a deuddydd nesaf - canfasiwch, cyfranwch, taflenwch, siaradwch gyda chymdogion, ffrindiau a theulu, cymerwch boster gardd, perswadiwch eraill i wneud hynny, gwirfoddolwch i farcio yn y bythau pleidleisio, helpwch i gael y bleidlais allan ar y diwrnod, gwnewch yn siwr bod pawb yn eich teulu wedi cofrestru i bleidleisio, ystyriwch ofyn am bleidlais bost i bawb yn y teulu.  

Mae sterics ddoe wedi dangos gwacter Llafur - gwacter deallusol a gwacter ysbrydol.  Yn wyneb dogfen sy'n amlinellu'n fanwl sut i fynd i'r afael a'i methiant am ddwy flynedd ar bymtheg hir, yr unig ymateb oedd gan Lafur oedd neidio'n ol i'r un hen ffosydd - gwneidyddiaeth yr anterliwt, dychryn pobl, camarwain pobl, trin yr etholwyr fel petaent yn wan eu meddwl.  Doedd ganddyn nhw ddim byd arall i'w gynnig - dim oll, zilch.  

Os oes yna unrhyw beth yn crisialu'r hyn ydi Llafur yng Nghymru heddiw, wele'r trydariad hwn echdoe:


Mae'r blaid yn dathlu tlodi Cymru - tlodi sydd wedi cael ei greu gan ei cham lywodraethiant ei hun i raddau helaeth.

Mae Cymru'n haeddu gwell a gall Cymru wneud yn well - ond cyn i hynny ddigwydd mae'n rhaid i'r Blaid Lafur 'Gymreig' sydd wedi methu mor gyson ac am gymaint o amser fod yn rhywbeth ymylol i fywyd cyhoeddus yng Nghymru.  Mae yna gyfle i roi cychwyn go lew ar hynny ym mis Mai.  Peidiwch a gwastraffu'r cyfle.





2 comments:

Anonymous said...

Ma trydar ddim yn ennill etholiad! Felly pwy a wyr faint syn mynd i darllen y maniffesto ma. Nid pobl cymru oedd yn 'mad' gyda ymateb llafur, ond rhai pobl ar gwasanaethau cymfeithas. Nid trydar a baneri sydd yn ennill etholiad.

Anonymous said...

Plaid am greu "Utopia" yn Cymru ond dim yn dweud pwy sydd yn mynd i dalu.Duw an helpo.