Thursday, April 14, 2016

Rhag eich bod wedi anghofio _ _

_ _ _ roeddwn yn meddwl y byddai'n syniad i ni atgoffa ein hunain o sut aeth pethau y tro o'r blaen - gan gychwyn efo Rhanbarth y Gogledd.  Os ydym yn cymryd perfformiad 2011 fel y llinyn mesur dwy sedd gwirioneddol saff sydd yna - Alyn a Glannau Dyfrdwy i Lafur (mwyafrif 24.5%) ac Arfon (mwyafrif 30.5%).  Ag ystyried canlyniad Ynys Mon yn 2013 (mwyafrif 42.3% i Blaid Cymru) gallwn gymryd na fydd newid yno chwaith.  

Hyd yn ddiweddar byddwn wedi dweud bod Llafur mewn peth perygl yn Delyn, Wrecsam, De Clwyd a Dyffryn Clwyd - ag ystyried stori 2015 a'r canfyddiad cyffredinol bron yn y Gogledd nad ydi llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi chwarae teg i'r Rhanbarth.   Ond gan bod y Toriaid wedi mynd ati i olchi ei holl ddillad budr yn gyhoeddus yn ddiweddar, mae'n debyg y gall y Blaid Lafur ymlacio rhyw gymaint.  

Mae gan Darren Millar 17% o fantais tros Lafur ac 20% o fantais tros y Blaid yng Ngorllewin Clwyd, sy'n edrych yn eithaf saff, ond petai cefnogaeth y Toriaid yn syrthio'n ol i'r hyn oedd cyn 2011 (30au% canol) a phetai'r Blaid neu Llafur yn creu canfyddiad mai nhw sy 'n fwyaf tebygol o'u curo, gallai pethau fod yn agos - ac mae ymgeisydd y Blaid yn llawer, llawer mwy adnabyddus na'r un Llafur.

Sy'n ein gadael efo Aberconwy.  Mae gan Janet Finch Saunders fwyafrif o 7.7% a 34% o'r bleidlais.  Fyddai hynny ddim yn sail cadarn i ddal sedd - hyd yn oed i Aelod Cynulliad sydd wedi gwneud argraff.  Dydi Janet Finch Saunders heb wneud hynny - a bod yn garedig.  Byddwn yn awgrymu mai dyma'r sedd fwyaf tebygol o newid dwylo yn y Gogledd yn yr amgylchiadau sydd ohonynt.  Trystan Lewis sydd fwyaf tebygol o fanteisio ar hynny.  























1 comment:

Anonymous said...


Diddorol iawn.