Tuesday, April 12, 2016

Dal i ddisgwyl am gondemiad o dor cyfraith gan Lafur Arfon

Yn ol at ddifa posteri yn Arfon mae gen i ofn.  Mae yna adroddiadau am nifer o bosteri eraill wedi eu dwyn / torri mae gen i ofn.  

Byddwch yn cofio i mi (ymysg eraill) ofyn am gondemiad ddoe gan ymgeisydd Llafur yn Arfon, Sion Jones - ond yn anffodus ni chafwyd ymateb.  Mae'n debyg y dyliwn egluro pam bod arweiniad cryf yn bwysig yn hyn o beth - ac mi wnaf hynny trwy gyfeirio at y cyfryngau cymdeithasol.

Fel rydym wedi trafod yn y gorffennol mae Llafur yn tueddu i'w chael yn haws i ddweud celwydd na phleidiau eraill oherwydd bod gan y blaid a'i haelodau ragdybiaeth (cwbl ddi sail) eu bod yn fwy moesol na neb arall.  Pan rydym o dan yr argraff ein bod yn well nag eraill, mae gwneud rhywbeth fyddai fel arall yn anerbyniol yn ymddangos yn llai anerbyniol.  Mae hyn yn ymestyn i faterion eraill - megis difa neu ddwyn posteri - ac mae'n ymestyn o waelod i frig y blaid.  Pwy allai anghofio Wayne David yn llenwi ei gar efo arwyddion roedd wedi eu dwyn yn 2011?  

Mae'r agwedd hefyd yn bodoli ar y gwaelod.  Cymerer y trydariad yma gan Owen Bracegirdle mewn ymateb i drydariad gan rhywun oedd yn cwyno bod ei bosteri wedi eu dwyn. Mi wnawn ni fod yn garedig efo Mr Bracegirdle a chymryd mai joc o rhyw fath ydi'r trydariad yn hytrach na bygythiad i dorri'r gyfraith.


Fel rheol byddwn yn anwybyddu trydariad o'r fath - ond mae'n ymddangos bod yna gysylltiad rhwng Mr Bracegirdle a Sion Jones a'r Blaid Lafur yn Arfon.  




Ymddengys bod Mr Bracegirdle a Sion Jones yn mynychu Weatherspoons, Bangor efo'i gilydd yng nghwmni Cymdeithas Lafur, Prifysgol Bangor.  

Neu cymerer y trydariadau yma:




Unwaith eto mae yna gysylltiad rhwng y trydarwr a'r ymgeisydd:



Rwan, ar y lleiaf - y lleiaf - mae'n rhesymol casglu bod agweddau o gwmpas y Blaid Lafur yn Arfon sy'n canfod dwyn a malu eiddo pleidiau eraill yn fater ysgafn.  Dydi torri 'r gyfraith ddim yn fater ysgafn - a dyna pam ei bod yn bwysig bod Sion yn dangos arweiniad ac yn ei gwneud yn glir nad yw'r math yma o ymddygiad yn dderbyniol nag yn fater ysgafn.  Duw a wyr pam nad yw'n fodlon gwneud hynny.  









2 comments:

Anonymous said...

Mae rhiwbeth bach yn poeni pawb!

Anonymous said...

Sion Jones ydi Anon 6:16 tybed? Methu sillafu fel arfer!! IQ < 80