Showing posts with label dulliau pleidleisio. Show all posts
Showing posts with label dulliau pleidleisio. Show all posts

Wednesday, December 28, 2011

Blogiadau o'r gorffennol 1

'Dwi wedi bod yn rhyw chwarae efo'r syniad o ail gyhoeddi hen flogiadau o'r gorffennol yn achlysurol rwan bod yna swmp go helaeth yn archif blogmenai, ac mi hoffwn i gychwyn efo'r blogiad yma o 2009.

Mae'r blogiad yn ymwneud a sustem ethol aelodau'r Cynulliad ac yn dadlau tros drefn STV gyda'r siroedd fel unedau etholaethol.  Mae ail gyhoeddi'r  blogiad yn amserol oherwydd bod trafodaeth ar y mater ar hyn o bryd gyda Llafur yn awgrymu trefn FPTP fyddai'n sicrhau eu bod nhw'n ennill etholiadau gyda llai na thraean o'r bleidlais, a'r Toriaid o blaid ehangu'r gyfundrefn rhestrau cyfangwbl ddiffygiol a llwgr sydd gennym ar hyn o bryd.  Am rhyw reswm mae'r Blaid yn gogwyddo tuag at awgrym y Toriaid, er mai STV ydi eu polisi swyddogol (os 'dwi'n deall yn iawn).

Yn nhudalen sylwadau fy mlogiad diwethaf dywed Aled - Yn bersonol, mi hoffwn i weld Cymru yn arwain y blaen hefo hyn a chyflwyno system bleidleisio STV. Byddai hyn yn rhoi mwy o rym a mwy o ddewis i etholwyr wrth ethol eu cynrychiolwyr gwleidyddol, ac fe allai annog mwy o ymgeiswyr annibynnol i sefyll fyddai hefyd yn llesol i ddatblygiad democratiaeth yng Nghymru.

Ag anghofio am ennyd na fyddai Cymru ar y blaen - defnyddir STV (neu STV gydag etholaethau aml sedd i fod yn fanwl) ym mhob etholiad ag eithrio etholiadau San Steffan yng Ngogledd Iwerddon, ac mewn etholiadau lleol yn yr Alban, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno.
Wna i ddim egluro'r dull yn y blogiad hwn - os oes gennych ddiddordeb gallwch ddarllen amdano yma.
Mi fyddwn serch hynny yn nodi bod i'r dull yma o bleidleisio sawl mantais - rhestraf rai isod:
(1) Mae'n fwy cyfrannol na First Past The Post (FPTP).(2) Mae'n rhoi mwy o rym i'r etholwyr a llai i beiriannau pleidiol.(3) Nid oes unrhyw bleidlais yn cael ei gwastraffu - os nad ydi'r person mae rhywun yn rhoi ei bleidlais gyntaf iddo / iddi, gall yr ail, trydydd neu bedwaredd dewis helpu i ethol rhywun.(4) Nid oes yna etholaethau sydd ond yn cael eu cynrychioli gan un blaid am cyhyd a chanrif.(5) Mae'n caniatau i bleidiau llai gystadlu am seddi a chael bod yn rhan o lywodraethau.(6) Mae'n gorfodi cynrychiolwyr etholedig i weithio'n galed.(7) Mae'n cynnal, ac yn wir yn atgyfnerthu'r cysylltiad rhwng aelodau etholedig ag etholaethau penodol.(8) Mae diwrnod y cyfri yn hwyl i bawb ond yr ymgeiswyr.

Y ffordd y byddwn yn gwneud hyn ar lefel Cymru gyfan fyddai trwy ddiddymu'r etholaethau presennol a gwneud pob sir yn etholaeth seneddol, a dosbarthu seddi yn ol poblogaeth y siroedd hynny. Er enghraifft gellid rhoi un sedd ar gyfer pob 50,000 o bobl sy'n byw mewn sir, ac un arall ar ben hynny i pob sir. Byddai hyn yn rhoi tair sedd i Wynedd, dwy i Fon ac efallai 7 i Gaerdydd. Mi fyddai gan o leiaf dwy o'r pleidiau gynrychiolaeth ym Mon a Gwynedd, ac mae'n debyg y byddai pob un o'r prif bleidiau gyda chynrychiolaeth yng Nghaerdydd.
Byddai hyn yn golygu cynnydd yn y nifer o ASau Cymreig - i tua 82 (o 60), ond mae'n debyg y bydd hyn yn digwydd beth bynnag os enillir refferendwm y flwyddyn nesaf.
Oes yna unrhyw un efo dadl yn erbyn?

Thursday, September 15, 2011

Is etholiadau Penrhyndeudraeth a Diffwys a Maenofferen

Mi fydd darllenwyr Golwg360 yn debygol o fod o dan yr argraff mai ymgeiswyr Llais Gwynedd yn unig sydd yn sefyll yn is etholiadau Penrhyndeudraeth a Diffwys a Maenofferen ddiwedd y mis.  Gan nad ydi eu hadroddiad yn trafferthu son am unrhyw ymgeiswyr ag eithrio rhai'r meicro grwp - Rhian Jones a Catrin Elin Roberts - mae'n debyg bod rhaid i Flogmenai geisio dod a rhyw fath o gydbwysedd i'r darlun.  Gallwch ddarllen am ymgeiswyr Llais Gwynedd yn y linc  'dwi wedi ei darparu uchod.

Un ymgeisydd arall sy'n sefyll yn Diffwys a Maenofferen, Mandy Williams - Davies, 45, ac mae'n sefyll ar ran Plaid Cymru.  Mae Mandy wedi ei geni a'i magu yn y Blaenau, mae'n aelod o'r cyngor tref, mae wedi sefydlu busnes lleol ac mae'n aelod o'r siambr fasnach.  Mae hefyd yn fam i ddau o blant sy'n mynychu Ysgol Maenofferen.


Ceir dau ymgeisydd ym Mhenrhyndeudraeth.  Dafydd Thomas, neu Dafydd Morfa ydi'r ymgeisydd annibynnol.  Fedra i ddim dod o hyd i lun o Dafydd yn anffodus, ond mae'n ymgeisydd profiadol sydd wedi cael ei ethol ar ran Plaid Cymru a'r grwp Annibynnol yn y gorffennol - ac wedi cael llwyddiant yn erbyn ambell i ymgeisydd adnabyddus iawn.  Mae gan Dafydd ddwy broblem fodd bynnag - mae'n sefyll yn gymharol bell o'i ward ei hun. ac nid yw wedi bod yn arbennig o lwyddiannus mewn etholiadau diweddar yn ei ward ei hun.  Mae'n wynebu talcen go galed.

Gareth Thomas, 53 ydi ymgeisydd Plaid Cymru.  Fel Donna, cafodd Gareth ei eni a'i fagu yn lleol, ac mae'n aelod cyfredol o'r cyngor plwyf.  Bu'n ynad heddwch yn y gorffennol, mae'n gadeirydd rhaglen Ewropiaidd yng Ngwynedd, ac mae'n is gadeirydd Fforwm Gwledig Cymru.  Bu'n gweithio am ugain mlynedd yng ngorsawf bwer Trawsfynydd cyn mynd ati i sefydlu cwmni TJP Cymru, cwmni sy'n cefnogi elysennau a grwpiau cymunedol.  Mae ganddo dri o blant.



Mae'r Blaid wedi profi cryn lwyddiant mewn is etholiadau lleol yn ddiweddar yng Ngwynedd a thu hwnt - a hynny er gwaethaf nad ydi'r cyd destun ehangach wedi bod yn arbennig o ffafriol.  Y prif reswm am hyn ydi'r ffaith ein bod wedi llwyddo i gyflwyno ymgeiswyr o ansawdd uchel sy'n gweddu eu cymdogaethau yn dda ger bron yr etholwyr. Mae'n galonogol nodi y byddwn mewn sefyllfa i wneud hynny ym Mhenrhyn a'r Blaenau ar Fedi 28 hefyd. 

Friday, January 28, 2011

Pam bod Eleanor Burnham yn anghywir ynglyn a chyflwyno trefn bleidleisio AV yng Nghymru

Mae'r galwadau cynyddol am drefn pleidleisio AV yn etholiadau Cynulliad yn achosi peth penbleth i mi.

Mi fydd darllenwyr rheolaidd yn gwybod nad wyf yn hoff o'r drefn sydd gennym ar hyn o bryd - trefn rhestr wedi ei chymysgu a'r dull traddodiadol Brydeinig - First Past the Post (FPTP). Mae'r dull yn llwgr, yn gwobreuo methiant ac yn grymuso pleidiau gwleidyddol ar draul etholwyr. Ond mae iddi un rhinwedd yng nghyd destun Cymru - mae'n dileu'r posibilrwydd o lywodraeth mwyafrifol Llafur parhaol. Dyna fyddai'n digwydd efo FPTP. Mae daearyddiaeth gwleidyddol Cymru yn sicrhau y byddai'n rhaid i Lafur gael llai na tua 30% cyn colli mwyafrif llwyr. Cawsant 24 o'r 40 sedd uniongyrchol gyda 32.2% yn unig o'r bleidlais yn 2007.

Tra na fyddai'r drefn AV yn arwain at batrwm mor anheg, byddai'n fanteisiol iawn i Lafur (mewn cyd destun Cymreig). Byddai llywodraethau Llafur gyda mwyafrif llwyr yn llawer mwy tebygol o dan drefn felly nag ydyw ar hyn o bryd. Mae'n hawdd gweld pam bod hyn yn apelio at Carwyn Jones, ond yn fwy anodd gweld pam bod Ceidwadwyr a Lib Dems eisiau trefn felly.

Rwan, mae'r blog yma wedi awgrymu trefn wahanol yn y gorffennol - trefn STV gydag etholaethau aml aelod. Defnyddir y drefn yma mewn etholiadau yn Ne Iwerddon, mewn etholiadau llywodraeth leol yn yr Alban, ac ym mhob etholiad ag eithrio rhai San Steffan yng Ngogledd Iwerddon. Ymhellach, mae'r blog yma wedi awgrymu y gellid defnyddio'r siroedd presennol fel etholaethau aml aelod.

Byddai llawer o fanteision i drefn felly - cadw'r berthynas rhwng aelod ag etholaeth, trefn fwy teg a chyfrannol, grymuso etholwyr yn hytrach na gwleidyddion ac etholaethau y gallai pobl uniaethu efo nhw er enghraifft. Mae'n drefn debyg i'r un mae plaid Eleanor Burnham yn ei hargymell. Mae'r tu hwnt i mi pam bod Eleanor yn awgrymu trefn arall a fyddai ond o fantais i Lafur.

ON - cyn i rhywun godi'r peth, 'dwi'n gwybod bod Guto Bebb yn cael ei ddyfynnu yn yr erthygl, ond 'dydi o ddim yn manylu ynglyn a pha drefn y byddai'n ei hoffi.

Saturday, July 24, 2010

STV

Mae yna fymryn o drafodaeth draw ar flog Vaughan ynglyn a'r dull pleidleisio STV (neu a bod yn fwy manwl efallai STV etholaethau aml aelod). Mae'r blog yma, ynghyd a nifer o ffynonellau eraill, wedi argymell y dull hwn ar gyfer etholiadau Cynulliad yn y dyfodol. Mae Vaughan wedi magu rhai amheuon ynglyn a'r dull yn sgil darllen llyfr o'r Iwerddon o'r enw The Ship of Fools. Yn yr Iwerddon mae'r dull yn cael ei ddefnyddio amlaf (Gyda llaw Prydain 'roddodd' y dull i Iwerddon yn nyddiau olaf eu dylanwad yn y wlad honno).

Efallai y dyliwn gychwyn trwy rhoi eglurhad brysiog o sut mae'r dull yn gweithio. Mae i pob etholaeth fwy nag un aelod (3-5 yn achos etholiadau Dail Eireann yn Ne Iwerddon, 6 yn achos etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon). Caiff yr etholwr bleidleisio i gymaint, neu gyn lleied o ymgeiswyr ag mae eisiau, ond rhaid gwneud hynny mewn trefn - 1,2,3,4 ac ati. Y bleidlais gyntaf a gyfrifir yn gyntaf. Os, o gyfri'r pleidleisiau cyntaf, bod un ymgeisydd yn cyrraedd y trothwy i gael ei ethol (quota) yna fe'i etholir. Mae union faint y trothwy yn ddibynnol ar sawl sedd sydd i'w dyrannu - os mai tair sydd ar gael mae'r trothwy yn 25% + 1, os mai 4 mae'n 20% + 1, os yw'n 5 mae'n tua 16.5% + 1, ac os yw'n 6 mae'n tua 14.5% + 1. Gellir gweld esiampl o'r dull cyfri mewn etholaeth 5 sedd (Dun Laoghaire) yma.

Gyda bod rhywun wedi cyrraedd y trothwy bydd ei bleidleisiau ychwanegol (hy y nifer sy'n uwch na'r trothwy) yn cael eu dosbarthu (yn unol a'r ail ddewis). Os nad oes rhywun yn cyrraedd y trothwy wedi rownd o gyfri, bydd yr ymgeiswyr ar y gwaelod yn cael eu tynnu allan a bydd eu hail (neu drydydd) pleidleisiau yn cael eu dosbarthu. Bydd y broses yma'n mynd rhagddi, tan y bydd pob sedd wedi ei llenwi - gan amlaf trwy gael y nifer anghenrheidiol o ymgeiswyr yn cyrraedd y trothwy. O ganlyniad bydd pob etholaeth efo mwy nag un aelod. Gall nifer o'r aelodau fod o'r un plaid (mae 5 o 6 aelod Cynulliad West Belfast yn perthyn i Sinn Fein er enghraifft), neu gall pob un fod o bleidiau gwahanol (mae 4 aelod Dublin Mid West yn perthyn i bleidiau - Fianna Fail, Y Blaid Werdd, y PDs a Llafur).

Rwan, does yna ddim gold standard o ran systemau pleidleisio - mae i pob un ei manteision a'i anfanteision - neu mi fyddai pawb yn defnyddio'r un drefn. Rhestraf manteision ac anfanteision STV isod:

Anfanteision
  • Cymhleth - i'r sawl sy'n cyfri o leiaf.
  • Ddim yn gwbl gyfrannol. Mae tua 45% o'r bleidlais fel rheol yn ddigon i Fianna Fail ennill grym ar ei phen ei hun.
  • Mae yna dueddiad (yn Ne Iwerddon, ond nid yn y Gogledd) i ethol math arbennig o ymgeisydd - person sy'n dda iawn am sortio problemau unigolion a sydd a chysylltiadau eang yn lleol, ond nad yw o anghenrhaid yn dda i ddim am unrhyw beth arall. Gombeen man.
  • Llai o debygrwydd o lywodraeth un plaid (credwch neu beidio mae yna rai sy'n ystyried hyn yn anfantais).
Manteision

  • Mwy cyfrannol, ac felly mwy teg na'r drefn bresenol.
  • Pleidlais neb (bron) yn cael ei gwastraffu - mae pleidlais y rhan fwyaf o bobl (hy pawb sydd yn pleidleisio i rhywun na enillodd) o dan ein trefn ni. A dweud y gwir mae pleidlais ambell un wedi cael ei gwastraffu ym mhob etholiad trwy ei fywyd.
  • Cysylltiad yn cael ei gadw rhwng aelodau ac etholaethau unigol. Mae'r cysylltiad hwn yn cael ei wanhau neu ei dorri mewn llawer o gyfundrefnau cyfrannol.
  • Mae'n grymuso'r etholwyr ar draul pleidiau gwleidyddol. Er enghraifft o dan y gyfundrefn sydd gennym yn y Cynulliad mae pwyllgor rheoli'r Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi dewis ar ran yr etholwyr pwy fydd pedwar o aelodau nesaf y Cynulliad. Mae'n llawer mwy anodd sarhau'r etholwyr yn y ffordd yma o dan STV gan bod mwy nag un ymgeisydd o'r un blaid yn sefyll yn aml. Mae pob etholiad yn Ne Iwerddon yn gyforiog efo ymgeiswyr sy'n cael eu ffafrio gan y sefydliadau pleidiol yn colli i rai (o'r un plaid) sy'n boblogaidd yn lleol.
  • Elegant o safbwynt mathemategol (OK 'dydi hyn ond o ddiddordeb i anoracs megis fi).
  • Mae'n sicrhau mwy o amrywiaeth o ran y pleidiau sydd ar yr arlwy i'r etholwyr. Mae pleidiau yn fwy tebygol i ffurfio a sefyll os ydi'r trothwy ar gyfer sicrhau cynrychiolaeth etholedig yn gymharol isel.
  • Mae'n ei gwneud yn fwy tebygol bod safbwyntiau gwleidyddol lleiafrifol yn cael cynrychiolaeth senrddol. Er enghraifft ceir 5 TD Gwyrdd yn y Dail (Senedd De Iwerddon) allan o tua 150 aelod. Un aelod Gwyrdd a geir yn San Steffan (o tua 650 aelod), ac eleni ydi'r tro cyntaf i hynny erioed ddigwydd.
  • Does yna ddim o'r fath beth a sedd saff gan amlaf - mae'n rhaid i dri aelod Fianna Fail mewn cadarnle fel Laois-Offaly weithio'n galed am eu bod yn gwybod y bydd yna bedwar ar y rhestr yn yr etholiad nesaf. Gall pobl bleidleisio yn eu herbyn nhw yn bersonol heb beidio a phleidleisio i'r blaid.
  • Mae'n gwneud diwrnod y cyfri yn wirioneddol gynhyrfus. Gan bod pob rownd o gyfri yn cael ei ddatgan yn unigol gellir barnu ym mhle mae pawb o gymharu a'i gilydd.

Thursday, June 24, 2010

Papur trafod 'Torri a Chysoni' a Llywodraethiant Cymru

Yr ateb i'r cwis bach ydi y byddai pob un o'r etholaethau yn cael eu diddymu a'u canibaleiddio er mwyn galluogi i etholaethau cyfagos gyrraedd yn agos i 'r 77,000 o etholwyr mae'r Toriaid am eu gweld ym mhob etholaeth San Steffan erbyn yr etholiad nesaf. Neu o leiaf dyna fyddai'n digwydd petai llywodraeth San Steffan yn mabwysiadu'r model a argymhellir gan Gymdeithas Newid Etholiadol Cymru fis diwethaf.

'Dwi wedi gwneud ymarferiad tebyg yn y gorffennol, ond mae hwn yn well o lawer gan ei fod wedi cyfri'r etholwyr yn llawer mwy cysact na wnes i. Mae rhai o'r argymhellion yn ymddangos yn eithaf 'naturiol', tra bod eraill yn hynod o anaturiol. Er enghraifft ni fyddai rhoi'r Bari yn ol i Fro Morgannwg, rhannu Sir Gaerfyrddin i ddwy etholaeth (y naill yn drefol a'r llall yn fwy gwledig) neu leihau'r nifer o etholaethau yng Nghaerdydd yn creu rhyw endidau artiffisial. Ar y llaw arall byddai creu etholaeth o Geredigion a rhannau o Bowys a Phenfro yn llawer llai naturiol.

Ta waeth - mater i'r Comisiwn Ffiniau fydd penderfynu ar yr union ffiniau yn y pen draw, ond mae'n weddol amlwg y bydd rhaid creu nifer o etholaethau go ryfedd yr olwg er mwyn cadw i'r rheol 77,000. Mae'n anhebygol iawn y bydd gan y Comisiwn y disgresiwn i wyro mwy na 3.5% y naill ffordd neu'r llall oddi wrth y rhif targed. Oherwydd hynny, mae'n ddigon posibl y bydd llawer o awgrymiadau'r Gymdeithas Newid Etholiadol yn weddol agos at yr hyn fydd yn digwydd mewn gwirionedd.

Fel y byddai dyn yn disgwyl gan gorff sydd a'r geiriau newid etholiadol yn ei enw, mae yna awgrymiadau ar gyfer creu cyfundrefn gyfrannol ar gyfer etholiadau'r Cynulliad. Ceir nifer o awgrymiadau, ond yr un mwyaf diddorol ydi sefydlu trefn STV aml aelod gan ddefnyddio ardaloedd awdurdodau lleol fel etholaethau. Mae'r blog hwn wedi awgrymu trefn debyg iawn yn y gorffennol. Mae'r ffaith y bydd llawer o bobl yn cael eu hunain mewn etholaethau San Steffan nad yw'n hawdd uniaethu efo nhw yn cryfhau'r ddadl tros gael etholaethau ar lefel etholiadau Cynulliad y gall pobl uniaethu efo nhw'n weddol hawdd. Mae'n anodd meddwl am unedau sy'n fwy cyfarwydd i bobl na'r siroedd maent yn byw ynddynt.

*



*Mae pob un o'r delweddau uchod wedi eu ahem - benthyg - o Torri a Chysoni a Llywodraethiant Cymru. Gobeithio na fydd y Messrs Baston ac ap Gareth yn rhy flin - maen nhw'n cael y cyhoeddusrwydd yn rhad ac am ddim.

Diweddariad 25/6/10 -gweler yr erthygl yma o Syniadau.

Thursday, November 05, 2009

STV a'r Cynulliad

Rydym wedi trafod y dull yma o bleidleisio sawl gwaith ar y blog hwn. Ddoe cafwyd dau flogiad hynod ddiddorol - yma ac yma ar Syniadau. Edrych mae'r ddau ar beth fyddai wedi digwydd petai etholiadau Cynulliad 2007 wedi eu hymladd yn unol a'r gyfundrefn yma. Mae un yn cymryd y byddai yna 60 sedd (y drefn bresenol) ac mae'r llall yn edrych beth fyddai'n digwydd petai yna 80 sedd. Mae'r ddau flogiad yn ffrwyth cryn dipyn o waith ac maent werth eu darllen.

Yr unig beth sydd gen i i'w ychwanegu ydi hyn - mae'n anodd darogan beth a fyddai'n digwydd o dan gyfundrefn STV oherwydd gallai'r gyfundrefn ynddi ei hun effeithio yn sylweddol ar y ffordd mae pobl yn pleidleisio - efallai y byddai patrymau pleidleisio pobl yn addasu os y byddai'r drefn yn wahanol. Mewn un math o etholiad yn unig (etholiadau Ewrop) yr ydym yn defnyddio pleidleisio cyfrannol yn unig yng Nghymru (nid STV ydi'r drefn honno) ond mae'r ffordd mae pobl yn pleidleisio mewn etholiadau felly yn gwbl wahanol i sut y byddant yn gwneud mewn etholiadau San Steffan a rhai'r Cynulliad o ran hynny.

Yn y ddwy wladwriaeth Wyddelig y bydd STV yn cael ei ddefnyddio amlaf. Dydi trefn bleidleiso ddim yn effeithio llawer ar batrymau pleidleisio yn y Gogledd lle mae'r teyrngarwch i bleidiau yn arbennig o gryf, a theyrngarwch i wleidyddion unigol yn wanach.

Mae'r sefyllfa yn wahanol yn y De. Mae'r gyfundrefn yno yn gwneud personoliaethau'r sawl sy'n sefyll a ffactorau daearyddol yn ystyriaethau pwysig wrth bleidleisio. Mae hefyd yn negyddu'r angen i bleidleisio yn dactegol - 'does yna ddim pwrpas gwneud hynny gydag STV. Mae gan y man bleidiau ac ymgeisyddion annibynnol obaith gwirioneddol o gael y sedd olaf mewn etholaeth - erbyn y cyfri olaf mae dewisiadau sy'n isel ar y papur yn dod yn bwysig ac mae yna pob math o bethau anisgwyl yn digwydd.

Yn fy marn i byddai Cynulliad o 80 aelod wedi ei ethol o dan y drefn yma efo nifer o aelodau annibynnol a rhai gan bleidiau llai fel UKIP. Hwyrach y byddai'n anodd i blaid sy'n polareiddio pobl fel y BNP gael eu hethol - byddant yn ei chael yn anodd iawn i ddenu ail, trydydd a phedwerydd pleidlais pobl, ac mae hynny'n hanfodol. Byddai'r Lib Dems yn cael mwy o seddi ond llai o bleidleisiau - pleidlais dactegol ydi lwmp o'u pleidlais nhw - 'does yna ddim pleidleisio felly efo STV. Mae'n ddigon posibl na fyddai'r gwahaniaeth rhyngddyn nhw ac UKIP yn fawr iawn. 'Dwi'n meddwl y byddai'r Blaid yn elwa oherwydd bod llawer o'u prif bersonoliaethau efo mwy o ddiddordeb mewn sefyll i fynd i'r Bae nag i San Steffan. Byddai'r ffaith bod y drefn yn lled gyfrannol o beth cymorth i'r Toriaid ond byddai'n hynod niweidiol i Lafur - mae'r drefn bresenol yn garedig iawn tuag atyn nhw. Mi fyddant yn cael anghofio bod mewn grym ar eu pennau eu hunain am amser maith (byddant angen efallai 45% i sicrhau hynny).

Mae tactegau etholiadol yn hanfodol gyda'r math yma o etholiad - gall tactegau cywir olygu llawer mwy o seddi. Fianna Fail ydi pencampwyr tactegau STV yn y De, ac mae Sinn Fein yn eu cae eu hunain yn y Gogledd. Petai cyfundrefn STV yng Nghymru byddai'n syniad i strategwyr y pleidiau Cymreig gael sgwrs hir efo strategwyr y pleidiau hynny.

Monday, June 23, 2008

Y Blaid Geidwadol Gymreig – y blaid mwyaf anhunanol yn y Byd?

Cafwyd dadl yn ddiweddar yn y Cynulliad Cenedlaethol ynglyn a phleidleisio cyfranol. Roedd Peter Black, aelod y Democratiaid Rhyddfrydol tros Orllewin a Chanolbarth Cymru yn cynnig bod y Cynulliad yn gofyn am yr hawl i lunio deddf a fyddai’n mabwysiadu cyfundrefn gyfrannol o bleidleisio mewn etholiadau lleol yng Nghymru. Dyna ydi’r sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban ar hyn o bryd.

Yn naturiol ddigon pleidleisiodd y Democratiaid Rhyddfrydol o blaid y cynnig – a felly hefyd Plaid Cymru. Roedd y Blaid Lafur i gyd yn erbyn ag eithrio Rhodri Morgan a rhywun arall – ac mae’n ymddangos eu bod hwythau wedi pwyso’r botwm anghywir. Mae hyn yn eithaf traddodiad ymhlith aelodau Llafur bellach Ymddengys bod y deinasoriaid gwleidyddol yn cael anhawster i ddelio gyda’r dechnoleg newydd. Yr hyn a sicrhaodd bod y cynnig yn syrthio fodd bynnag oedd y ffaith i’r Ceidwadwyr atal eu pleidlais.

Ar un olwg mae hyn yn ymylu ar fod yn syfrdanol. Mae’r drefn sydd gennym ar hyn o bryd yn (First Past the Post - FPTP) yn neilltuol o anheg o safbwynt y Ceidwadwyr yng Nghymru. Ymhellach, gellir dadlau mai FPTP ydi conglfaen hegemoniaeth draddodiadol y Blaid Lafur yng Nghymru.

Heb fynd yn rhy dechnegol mae dau reswm am hyn. Yn gyntaf mae cryn dipyn o bleidleisio tactegol yn erbyn y Ceidwadwyr yng Nghymru, ac mae FPTP yn ddelfrydol ar gyfer pleidleisio tactegol. Yn fwy arwyddocaol mae pleidlais y Ceidwadwyr yn gymhedrol o ran canran ond wedi ei ddosbarthu yn fwy cyson tros y wlad nag un Plaid Cymru er enghraifft. Mewn sefyllfa o’r fath mae amrediad mawr yn fanteisiol pan mae canran y bleidlais yn is na thua 30%. Dyna pam bod Plaid Cymru wedi cael cymaint o seddi na’r Ceidwadwyr yn etholiad San Steffan 05 a mwy na nhw yn 01 a 97 er i ni gael llai o bleidleisia. Yn wir, ni chafodd y Toriaid unrhyw seddi o gwbl yn etholiadau San Steffan yn 01 a 97.

Mae FPTP yn anheg i’r Ceidwadwyr mewn etholiadau lleol hefyd. Er enghraifft mae eu pleidlais yn ddigon tebyg i un y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghaerdydd, ond mae ganddynt lai o lawer o seddi. Yn y mannau hynny lle mae’r Ceidwadwyr yn wan – y Gymru Gymraeg a’r maes glo nid oes ganddynt prin unrhyw gynrychiolaeth o gwbl. Anaml y byddant yn trafferthu i gynnig ymgeiswyr yn y lleoedd hyn oherwydd eu bod n gwybod nad oes ganddynt obaith o gael eu hethol. Byddai trefn gyfrannol yn rhoi cynrychiolaeth iddynt yn rhai o’r lleoedd hyn.- ac yn rhoi cyfle iddynt ddechrau adeiladu.

Mae FPTP bron yn ddi eithriad o fantais i’r Blaid Lafur yng Nghymru ar pob lefel. Yr unig eithriad posibl ydi’r etholiadau lleol yn gynharach eleni. Oherwydd i’w canran o’r bleidlais syrthio’n sylweddol ac i bobl ddechrau pleidleisio yn dactegol yn eu herbyn mae’r FPTP wedi dechrau milwrio yn eu herbyn mewn rhai rhannau o’r wlad – ond mae’n parhau i’w cynorthwyo mewn mannau eraill.

Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig hanes o wrthwynebu datblygiadau sydd o fantais etholiadol iddyn nhw eu hunain. Roeddynt yn chwyrn eu gwrthwynebiad i ddatganoli ac i’r gydadran gyfrannol o’r gyfundrefn pleidleisio. Oni bai am ddatganoli, a’r elfen gyfrannol ni fyddai’r Ceidwadwyr wedi bod a gwleidydd proffesiynol yng Nghymru o 1997 hyd at 2005. Y cwestiwn diddorol ydi pam?

‘Dwi ddim yn siwr a bod yn onest beth yw rhesymeg swyddogol y Blaid Geidwadol Gymreig am yr ymddygiad ymddangosiadol bisar yma. Efallai eu bod yn defnyddio esgus sy’n ymwneud ag amddiffyn y cyfansoddiad, neu rhywbeth cyffelyb. Byddai dadl o’r fath yn amlwg chwerthinllyd mewn cyd destun llywodraeth leol – gwan iawn ydi cysylltiad llywodraeth leol gyda’r cyfansoddiad anysgrifenedig Prydeinig, a fel y sonwyd uchod mae trefn gyfrannol yn bodoli mewn etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban heb greu anhrefn cyfansoddiadol. Mae llywodraethau Prydeinig o pob lliw wedi bod yn .hollol hapus efo trefniadau cyfrannol yn yr Iwerddon ers blynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf. Ymhellach trefn gyfrannol a geir mewn etholiadau Ewropeaidd ar hyd a lled Prydain.

Yn fy marn i yr eglurhad gwirioneddol ydi sefyllfa’r Blaid Geidwadol yn Lloegr. Mae cefnogaeth y Blaid Geidwadol yn Lloegr yn uwch nad yw yng Nghymru – yn llawer uwch. Yn wir mae ganddi’r potensial i gyrraedd canran o tua 45% o’r bleidlais. Os ydi plaid yn cyrraedd y math yma o gefnogaeth o dan cyfundrefn FPTP maent yn ennill llawer iawn o seddi – efallai 65% neu fwy.

Mewn geiriau eraill mae buddiannau’r Blaid Geidwadol Brydeinig yn bwysicach i’r Blaid Geidwadol Gymreig na buddiannau nhw eu hunain.

Mae hyn oll yn rhywbeth i’w gadw mewn cof pan mae pobl fel Glyn Davies, Dylan Jones Evans a Guto Bebb yn son am Blaid Geidwadol Gymreig gydag elfen gryf o annibyniaeth yn perthyn iddi.

Mae unrhyw endid sydd a mwy o ddiddordeb mewn amddiffyn buddiannau endid arall na rhai ei hun trwy ddiffiniad yn israddol. Fel mae pethau’n sefyll meddylfryd gwasaidd ydi un y Ceidwadwyr Cymreig – ac felly y bu hi erioed.