Tuesday, April 19, 2016

Cywiro datganiadau camarweiniol - rhif 101


Wna i ddim ailadrodd fy hun - gallwch weld pam mae hon yn gamarweiniol yma.

Dydi celwydd ddim yn syndod wrth gwrs - ons mae'n dipyn y syndod bod Llafur yn trafferthu i ganfasio'r trydarwr - mae o'n aelod o'r Blaid, yn fotio i'r Blaid pob tro ac mae ganddo glamp o arwydd Plaid Cymru yng ngwaelod ei ardd.  Mae o'n gwneud i rhywun ofni braidd am ansawdd eu data - ac yn wir eu golwg.

O.N Dwi'n brysur rwan - ond mi fyddwn yn cael golwg ar faniffesto enwog Llafur pan ga i ddau funud.

1 comment:

Elis said...

"Dydi celwydd ddim yn syndod wrth gwrs - ons mae'n dipyn y syndod bod Llafur yn trafferthu i ganfasio'r trydarwr - mae o'n aelod o'r Blaid, yn fotio i'r Blaid pob tro ac mae ganddo glamp o arwydd Plaid Cymru yng ngwaelod ei ardd. Mae o'n gwneud i rhywun ofni braidd am ansawdd eu data - ac yn wir eu golwg."

Deall y pwynt ond eto mae gen i gof i Hywel Williams ddweud adeg yr etholiad llynedd iddo fo ganfasio ty oedd ag arwydd Alun Pugh yn yr ardd. Ar ol pum munud o sgwrs roedd perchennog y ty wedi tynnu arwydd Alun Pugh i lawr a rhoi un Hywel i fyny yn ei le. Fedar y Blaid ddim ennill seddi heb newid meddyliau cefnogwyr pleidiau eraill felly er ei bod hi'n berffaith iawn inni gwyno am gelwyddau Llafur, fedrwn ni ddim gwarafun iddyn nhw drio newid meddyliau'n cefnogwyr ni!