Sunday, December 19, 2004

Pam eu bod nhw mor dlawd a ninnau yn gyfoethog?

Mae o'n beth rhyfedd bod trwch y boblogaeth yn gymharol gyfoethog mewn nifer gweddol fach o wledydd. Mae'n debyg bod asedau gwerth $9.4 triliwn gan dlodion y trydydd byd a'r cyn wledydd comiwnyddol - dwy waith cymaint o gyfalaf na sydd yn cylchdroi yng nghyflenwad arian yr UDA - neu i edrych arno mewn ffordd arall asedau cyfwerth a'r rhai a gynrychiolir gan gyfnewidfaoedd stoc Efrog Newydd. Tokyo, Llundain, Frankfurt, Toronto, Paris, Milan a'r NASDAQ efo'u gilydd. Eto, mae pawb bron yn dlawd. Pam?

Yn ol Hernando de Soto mae'r rheswm yn syml. Ni all yr holl asedau hyn gynhyrchu cyfalaf oherwydd nad oes iddynt drefn sy'n rhoi cynrychiolaeth gyfreithiol iddynt - ar ffurf dogfennau, marchnadoedd stoc ac ati - sy'n cael eu derbyn gan bawb. Mae'r asedau mewn gwirionedd y tu allan i'r drefn gyfreithiol - ac oherwydd hynny, ni ellir llawn fanteisio arnynt. Eglurir hyn yn llyfr De Soto The Mystery of Capital.

Dim i'w wneud efo agweddau, ethos economaidd, parodrwydd i weithio ac ati - ond popeth i'w wneud efo darnau o bapur sy'n dderbyniol i bawb.

Sunday, December 12, 2004

Rhy fach i lwyddo ar ein pennau ein hunain?

Dadl a ddefnyddir yn erbyn annibynniaeth i Gymru yn aml ydi ein bod yn rhy fach i lwyddo ar ein pennau ein hunain. Isod rhestraf y gwledydd cyfoethocaf yn y Byd (a mesur hynny mewn GDP beth bynnag).

1 Norwy - poblogaeth 4.6m, GDP $55,280 y flwyddyn y person, twf GDP 3%
2 Swisdir - poblogaeth 7.4m, GDP $51,490, twf GDP 2%
3 Iwerddon - poblogaeth 4.1m, GDP $48,250, twf GDP 4.9%
4 UDA - poblogaeth 295.7m, GDP $41,530, twf GDP 3.2%
5 Awstria - poblogaeth 8.2m, GDP $39,130, twf GDP 2.4%
6 Yr Iseldiroedd - poblogaeth 16.4m, GDP $38,950, twf GDP 2%
7 Prydain - poblogaeth 60.7m, GDP $38,670, twf GDP 2.3%
8 Ffindir - poblogaeth 5.3m, GDP $37,740, twf GDP 3%
9 Japan - poblogaeth 127.4m, GDP $37,550, twf GDP 1.7%
10 Ffrainc - poblogaeth 60.6m, GDP $36,630, twf GDP 2.4%
11 Gwlad Belg - poblogaeth 10.4m, GDP $36,430, twf GDP 2.5%
12 Yr Almaen - poblogaeth 82.7m, GDP $35,450, twf GDP 1.9%

Go brin bod angen i mi ychwanegu mwy.

Sunday, December 05, 2004

Y cytundeb heddwch, Paisley a'r dyfodol.

Ymddengys y bydd y DUP yn dod i benderfyniad yr wythnos yma os ydynt am eistedd oddi amgylch yr un bwrdd a SF, mewn gweinyddiaeth newydd. 'Does yna neb yn gwybod pa ffordd y byddant yn neidio, ond tybed faint o wahaniaeth wnaiff eu penderfyniad yn y diwedd? Mae newidiadau mawr ar droed beth bynnag.

Mae pawb yn gwybod am wn i bod newidiadau strwythurol arwyddocaol yn digwydd ym mhoblogaeth y Gogledd. Ond tybed faint sy'n ymwybodol o'r newidiadau ym mhatrwm gwleidyddol y De?

Cynhalwyd etholiadau lleol yn y Weriniaeth yn gynharach eleni, a chafwyd llu o ganlyniadau fel hyn a hyn a hyn ar hyd a lled ardaloedd dosbarth gweithiol y brifddinas yn ogystal a rhai fel hyn yn ardaloedd traddodiadol y Provos o gwmpas y ffin.

Canlyniad tebygol hyn ydi na fydd hi'n bosibl i Fianna Fail ennill grym am gyfnod maith eto heb gefnogaeth SF. Byddant mewn llywodraeth yn y De erbyn 2007, a byddant yn ol pob tebyg mewn llywodraeth yn y Gogledd hefyd - efo neu heb y DUP.

Byddant yn llywodraethu yn y De a'r Gogledd - beth bynnag am y ffin.

Wednesday, December 01, 2004

Canolfan y Mileniwm



Wel mae Canolfan y Mileniwm wedi agor o'r diwedd.

Mae'n debyg mai un o'n prif wendidau ni fel cenedl ydi ein bod yn swnian ac yn cwyno am ddatblygiadau y tu hwnt i'n milltir sgwar ein hunain, ac yn mwynhau bychanu ymdrechion eraill. Felly brysiaf i ddweud (cyn gwneud yn union hynny), ei bod ar un wedd yn beth cadarnhaol iawn bod Cymru efo'r adnoddau newydd sydd wedi ymddangos ym Mae Caerdydd ac yng nghanol y ddinas tros y blynyddoedd diweddar. Er yr holl wario pres cyhoeddus mewn ychydig o filltiroedd sgwar digon breintiedig beth bynnag, mae'n debyg ei fod yn gadarnhaol beth bynnag. Yn ddi amau mae'n rhoi cryn le i gredu ein bod yn magu hyder fel cenedl, yn dod yn ymwybodol ohonom ein hunain fel gwlad, yn gweld yr angen am brif ddinas go iawn i wlad go iawn.

Ond, o edrych ar arlwy'r Ganolfan tros y misoedd nesaf mae'n amlwg mai Saesneg a 'rhyngwladol', fydd naws y lle - o ran y ddarpariaeth gelfyddydol, beth bynnag. Digon naturiol mae'n debyg. Anaml iawn y gellid disgwyl llenwi 1,900 o seddi i weld cynhyrchiad Cymraeg.

Ond mae'r cwestiwn bach yn codi unwaith eto - "Oes yna le i ni, y Gymru Gymraeg yn y Gymru newydd hyderus"? 'Mond gofyn.