Thursday, July 20, 2017

Beleek a Brexit

Dwi'n digwydd bod yn teithio Iwerddon ar hyn o bryd, ac o ganlyniad mae blogio'n ysgafn iawn.  Serch hynny, hyd yn oed pan ar wyliau mae rhywbeth perthnasol i wleidyddiaeth Cymru'n codi.  

Yr hyn gododd y tro hwn oedd aros yn nhref fechan Beleek ger Lough Erne sydd wedi ei lleoli ar y ffin rhwng Swydd Fermanagh sydd yng Ngogledd Iwerddon  a Swydd Donegal sydd yn y Weriniaeth.  Yr bont tros yr Afon Erne ydi'r ffin.   Mae pob dim sydd i'r gorllewin i'r bont felly yn y Weriniaeth a phob dim sydd i'r gorllewin iddi yng Ngogledd Iwerddon.  Mae mwyafrif llethol y trigolion yn Babyddion ac felly yn genedlaetholwyr, er bod eglwys Brotestanaidd fechan yn y pentref - fel sydd yn y rhan fwyaf o drefi bach Fermanagh a Donegal.  

Mae tua tri chwarter y pentref wedi ei leoli yng Ngogledd Iwerddon tra bod y gweddill yn y Weriniaeth.  Mae'r ddwy eglwys, yr ysgol a'r rhan fwyaf o'r siopau a'r tafarnau yng Ngogledd Iwerddon, mae'r garej, y siop gwerthu olew, nwy a mawn a rhai o'r siopau a thafarnau eraill yn y Weriniaeth.  Petai'r bont yn troi'n ffin galed byddai'n ei gwneud yn anodd symud o un rhan i'r dref i'r llall i ymgymryd a busnes pob dydd - ymweld a theulu a ffrindiau, siopa, rhoi petrol yn y car, mynd am beint neu fynd i addoli. 

Roedd yna ffin o fath yn y gorffennol cymharol agos wrth gwrs. Roedd gan y fyddin wersyll wrth y bont a bu tipyn o dywallt gwaed o gwmpas a thu fewn i'r gwersyll yn dilyn ymysodiadau gan yr IRA o'r Weriniaeth.  Ond pwrpas y rhwystr hwnnw oedd atal symud arfau ac actifyddion Gweriniaethol o un wladwriaeth i'r llall. Roedd y rhan fwyaf o bobl y rhan fwyaf o'r amser yn cael croesi'n eithaf di dramgwydd - er bod yna adegau - yn dilyn ymysodiad er enghraifft - pan roedd croesi'n anodd i bawb.  

Y gwahaniaeth efo ffin galed ydi y gallai'n hawdd arwain at angen i reoli symudiadau pawb a phob dim.  Dyna allai methiant i ddod i gytundeb masnach rydd ynghyd ag atal symudiad rhydd pobl ei olygu i drigolion trefi fel Beleek.  Kesh ydi'r gymunded cymharol fawr agosaf i Beleek yng Ngogledd Iwerddon - mae hi tua ugain milltir i'r de ddwyrain - ac a barnu oddi wrth y mor o faneri'r Undeb sydd yno mae'n gymuned wahanol iawn i Beleek. 

Ac mae yna gymunedau eraill yn yr un sefyllfa wrth gwrs  - mae cymunedau yn aml yn tyfu o gwmpas pontydd, ac mae afonydd yn aml yn ffiniau rhyngwladol.  Mae Pettigo i'r gogledd o Beleek ac mae wedi ei rannu'n ddau gan yr Afon Ternon - sydd hefyd yn ffin rhyngwladol, ac wedyn mae Lifford i'r gogledd eto ar y ffin rhwng Donegal a Tyrone. 

Mae hyn oll yn ymddangos yn bell iawn o Gymru  ac yn broblem i rhywun arall - ac mae hynny'n wir i raddau.  Ond mae'r ffin wedi bod yn ardal hynod o ymfflamychol ers gwahanu'r wlad - ac yn wir cyn hynny.  Does yna ddim tystiolaeth well o hynny na'r cofebau i gofio pobl sydd wedi colli eu bywydau ar hyd y degawdau yn ymladd ar hyd y ffin.  



Mae ffin galed am ddad sefydlogi cymunedau fel Beleek, Lifford, Aughnocloy a Belcoo - ac mae dadsefydlogi un rhan o Ogledd Iwerddon yn hanesyddol wedi arwain at ddadsefydlogi ehangach yn eithaf cyflym - ac mae i hynny oblygiadau i bawb sy'n byw ar yr ynysoedd yma.

Friday, July 14, 2017

Gwilym Owen rhif _ _ _ beth bynnag

Agwedd y Blaid at Wylfa Newydd ydi testun hefru Gwilym Owen yn Holwg yr wythnos yma, methiant Cyngor Cenedlaethol y Blaid i ganiatau i'r grwp yng Nghonwy i glymbleidio efo 'r Toriaid oedd hi bethefnos yn ol, cwyno bod y Blaid yn cyd weithio efo'r Toriaid ydi hi weithiau, rhyw nonsens dychmygol am Gyngor Gwynedd yn cymryd 500,000 o gwynion mewn blwyddyn ydi hi dro arall, erthygl wedi ei chanoli ar gam ddealltwriaeth llwyr o adroddiad ar arferion ieithyddol plant yn ysgolion Gwynedd ydi hi dro arall ac ati, ac ati ac ati.

Rwan fel mae'r blog yma wedi dangos sawl gwaith mae llawer o'r hyn sydd yn erthyglau Gwilym Owen yn esiamplau o newyddiaduriaeth wael sydd wedi ei seilio ar wybodaeth ddiffygiol neu anwybodaeth llwyr yr awdur -  er bod ambell i beth yn llai rhagfarnllyd, ac felly o safon uwch. Ond nid dyna sydd gen i'r tro yma - yn hytrach yr hyn mae'r holl sefyllfa yn ei ddatgelu am gyflwr y wasg Gymraeg.

Gair bach yn gyntaf am pam bod Golwg yn rhoi rhwydd hynt i Gwilym Owen rwdlan yn rhagfarnllyd ac anwybodus pob pethefnos.  Dydan ni ddim yn gwybod i sicrwydd wrth gwrs - ond mae'n ffaith bod Golwg yn ddibynnol ar arian cyhoeddus, bod y Blaid Lafur yn rheoli i lle mae'r rhan fwyaf o arian cyhoeddus yng Nghymru yn mynd a bod y blaid honno yn anoddefgar iawn o'r sawl sy'n ei herio a'i beirniadu, ond yn hoff o'r sawl sy'n ymosod ar ei gelynion.  Mae dau a dau yn gwneud rhywbeth tebyg i bedwar gan amlaf.

Ychydig iawn o herio gwleidyddol sydd yna yn y wasg Gymraeg a Chymreig at ei gilydd.  Mae'r papurau Saesneg 'Cenedlaethol' efo mwy o ddiddordeb mewn newyddiaduriaeth storiol nag ymhel a gwleidyddiaeth - heb son am herio gweinyddiaethau gwleidyddol.  Ychydig iawn o wasg cyfrwng Cymraeg sydd yna bellach ag eithrio Golwg.  Gwilym Owen ydi un o'r ychydig bobl sydd yn herio yn wleidyddol - ac mae'r herio hwnnw bron i gyd wedi ei gyfeirio at un blaid, ac un blaid yn unig.

Y Toriaid sydd yn rheoli yn San Steffan, Llafur sydd yn rheoli ym Mae Caerdydd - ond mae cyfran chwerthinllyd o uchel  o'r beirniadu a herio gwleidyddol yng Nghymru wedi ei gyfeirio - nid at lywodraeth Cymru, na llywodraeth y DU - ond at blaid sydd yn rhedeg fawr ddim ag eithrio ychydig o gynghorau yng ngorllewin gwleidig Cymru, ac at Gyngor Gwynedd yn benodol.

Mae'n anodd iawn dychmygu bod llawer o wledydd eraill yn y Gorllewin lle mae'r wasg yn rhoi llonydd fwy neu lai i'r gweinyddiaethau llywodraethol, ond sy'n treulio eu hamser yn beirniadu a herio pleidiau lleiafrifol - er bod digon o sefyllfaoedd cyffelyb yn Nwyrain Ewrop wrth gwrs. 

Thursday, July 13, 2017

Tybed pa unoliaethwr _ _

_ _ _ fu'n dathlu gwyl fwyaf atgas a chyntefig Gorllewin Ewrop?

Does ddim rhaid gofyn nag oes?


Wednesday, July 12, 2017

Dathlu Prydeindod

Mae'r traddodiad unoliaethol - a chyfeillion Thereasa May wrth gwrs - wrthi'n dathlu eu Prydeindod heno yn y modd arferol - llosgi delweddau o'r hyn nad ydynt yn ei hoffi.  Ar ddiwrnod pan mae bygwth a sarhau gwleidyddion yn y newyddion yn San Steffan, mae'n drawiadol cymaint o ddelweddau o wleidyddion sy'n cael eu llosgi.  

Rhag ofn eich bod eisiau gwybod, mae KAT yn sefyll tros Kill All Taigs.  Gair sarhaus iawn am Babyddion ydi taigs.





























Friday, July 07, 2017

Yr etholiad mewn delweddau - rhan 2

Dwy etholiad wahanol _ _ _ y naill yn y Gymru Gymraeg a'r llall yn y Gymru ddi Gymraeg:






Yr etholiad mewn delweddau - rhan 1



Dwi wedi rhyw addo ers tro postio ychydig o ddelweddau ynglyn ag etholiad cyffredinol mis diwethaf - a heb wneud llawer - felly dyma ddechrau arni.

Dyma stopri'r ymgyrch yn ol y polau.  Mae'r graff cyntaf yn dynodi canfyddiadau Survation tros Brydain.  Survation oedd y cwmni polio mwyaf cywir.

Mae'r ail yn dangos canfyddiadau YouGov yng Nghymru.  Wnaethon nhw ddim yn rhy ddrwg chwaith.