Showing posts with label Golwg. Show all posts
Showing posts with label Golwg. Show all posts

Thursday, January 05, 2012

Gwilym Owen - rhif 94

Mae'r blog yma wedi nodi ar sawl achlysur dueddiad anymunol Gwilym Owen i gyflwyno ei ragfarnau fel petaent yn ffeithiau, ac mi fydd yn gwneud hynny yn ei golofnau yn Golwg bron yn ddi ffael. 

Er enghraifft yn ei erthygl olaf cyn y Nadolig (Rhag 15) aeth ati i nodi mor dila ac arwynebol  ydi ein Cymreictod yn wyneb nifer o broblemau cyllidol sydd gan rai o'n sefydliadau cenedlaethol.  Rwan mae'n wir bod hunaniaeth a diwylliant yn aml ar drugaredd grymoedd economaidd pwerus, ond mae'r awgrym bod hunaniaeth Gymreig yn rhywbeth sy'n gwbl ddibynol ar sefydliadau sy'n cael eu noddi o'r pwrs cyhoeddus yn un anarferol os nad unigryw.  Ond 'dydi Gwilym ddim yn gweld unrhyw reswm yn y Byd i ddatblygu nag egluro ei ddamcaniaeth ryfedd - mae'n ei gosod ger ein bron fel petai'r weithred honno  ynddi'i hun yn ei gwneud yn ffaith.

Mae truth heddiw yn ymestyn at binacl newydd fodd bynnag - hyd yn oed ag ystyried y safonau uchel mae Gwilym wedi eu cyrraedd yn y gorffennol.  Ceir un syniad cynhenus ar ol y llall - dim ond Dafydd Elis Thomas sy'n ddigon deallus ac angerddol i arwain y Blaid, 'twpdra' ydi'r syniad o annibyniaeth i Gymru, sbarduno a chefnogi'r blaid Lafur ydi priod waith Plaid Cymru, rhagrith cywilyddus ydi o i blant 'cenedlaetholwyr' fynychu prifysgolion yn Lloegr - o ac mae yna feirniadaeth hynod brin o'r Blaid Lafur Gymreig - 'does yna neb ond Leighton Andrews efo tan yn ei fol.

'Rwan ar un olwg mae rhai o'r gosodiadau yma yn ddiddorol os yn rhyfedd- neu o leiaf gallant fod yn ddiddorol o gael eu datblygu.  Byddai'n bosibl dadlau er enghraifft bod amodau economaidd anodd yn newid rol  gwrthbleidiau a bod cefnogi yn bwysicach na gwrthwynebu ar hyn o bryd, neu gellid adeiladu achos i gefnogi'r gred bod yr Arglwydd Elis Thomas yn fwy deallus ac angerddol nag Elin Jones, Simon Thomas a Leanne Wood.  Gellid mynd ati i egluro pam bod Cymru'n wlad mor anarferol nad yw'n addas iddi fod yn annibynnol, ac yn sicr gellid esbonio'r syniad rhyfeddol y gall  un person fod yn gywilyddus o ragrithiol oherwydd penderfyniad neu wleidyddiaeth person arall.

Ond na, 'does yna ddim oll yn cael ei ddatblygu, dim yn cael ei egluro, dim yn cael ei gyfiawnhau.  Dim, nada, zilch.  Beth sydd gennym yn y bon ydi hen ddyn chwerw yn defnyddio'i golofn fel rhyw fath o machinegun i saethu i gyfeiriad cyffredinol y sawl nad ydyw'n hoff ohonynt.

Mae yna nifer o golofnwyr eraill llawer gwell yn 'sgwennu i Golwg - Angharad Mair er enghraifft.  Rwan 'dwi'n derbyn bod  Angharad yn dod o gyfeiriad gwleidyddol digon tebyg i fy un i - er nad ydw i'n cytuno efo hi pob tro o bell ffordd.  Mae pawb yn dod o rhywle, ac o ganlyniad mae gan bawb ei ragdybiaethau, felly hefyd Angharad.  Ond mae hi'n cymryd y drafferth i ddatblygu ei dadleuon, i gyfiawnhau ei safbwyntiau ac i roi cyd destun iddynt.  Mae hi hefyd yn osgoi'r negyddiaeth sarhaus sy'n nodweddu pob dim mae Gwilym yn ei gynhyrchu.

'Dwi wedi dweud o'r blaen nad ydi cyflogi Gwilym Owen i daflu ei ragfarnau i bob cyfeiriad prin yn wahanol i gyflogi Billy Hughes neu Eric Howells i wneud yn union hynny.  'Does yna fawr ddim 'dwi wedi ei ddarllen gan Gwilym ers hynny wedi rhoi lle i mi newid fy meddwl.  Mae'n ymdebygu fwyfwy i rhyw Alf Garnett Llafuraidd.

Saturday, December 03, 2011

Cymorthdaliadau'r Cyngor Llyfrau a Gwilym Owen

Mae’n ddiddorol darllen erthygl Gwilym Owen mewn cylchgrawn sy’n derbyn cymhorthdal sylweddol gan y Cyngor Llyfrau (Golwg Rhagfyr1af) ynglyn a chymorthdaliadau i gylchgronau Cymraeg.  Cwyno'n groch mae Gwilym bod nifer o gylchgronau eraill  hefyd yn derbyn cymorthdaliadau - er bod y rheiny'n cael llai o bres o lawer na mae Golwg yn ei gael.

Yr hyn sydd gan Gwilym ydi bod y cylchgronau nad yw eisiau i’r Cyngor Llyfrau eu cynnal yn rhai ‘dosbarth canol’ ac ‘elitaidd’, ac o’r herwydd dylid rhoi’r arian sy’n cael ei wario arnynt i’r Cymro – sydd o bosibl yn nhyb Gwilym  yn denu darllenwyr nad ydynt yn ddosbarth canol nag yn elitaidd. Mewn geiriau eraill mae am i holl arian cymhorthdal y Cyngor Llyfrau gael ei ddosbarthu rhwng tri chylchgrawn yn unig – yr un mae’n ysgrifennu iddo, Barn a’r Cymro. Hynny yw, dau bapur cymharol debyg i’w gilydd i’r graddau eu bod yn bapurau wythnosol sy’n delio yn bennaf a newyddion a materion cyfoes, ac un arall sy’n fwy eclectic a dadansoddol o ran cynnwys.

Rwan mae yna sawl problem gweddol amlwg efo hyn oll. Fel rheol defnyddir cymorthdaliadau o'r math yma i sicrhau amrywiaeth darpariaeth yn hytrach nag i roi cymorth i’r cylchgronau sydd a’r cylchrediad uchaf – er mai isel ydi cylchrediad Golwg a’r Cymro hefyd mewn gwirionedd. Byddai dilyn cyngor Gwilym yn arwain at sefyllfa lle byddai’r rhan fwyaf o’r cymorthdaliadau yn mynd at ddau gylchgrawn tebyg i’w gilydd sy’n dyblygu gwaith ei gilydd i raddau helaeth. Hynny yw, byddai’r amrywiaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn diflannu i bob pwrpas.

Yn ychwanegol ,mae yna gwestiwn yn codi unwaith eto ynglyn a rhagfarnau Gwilym. ‘Dydi hi ddim yn glir (hyd y gwn i) faint o bobl wahanol sydd yn darllen yr amrywiol gylchgronau Cymraeg. Er bod gwahaniaethau rhwng cynnwys Y Cymro a Golwg, tybed faint o ddarllenwyr sy’n darllen y ddau? Ac ymhellach, tybed faint o ddarllenwyr Taliesin sydd hefyd yn darllen Y Cymro? ‘Dydw i ddim yn gwybod, ond ‘dydi Gwilym ddim yn cyflwyno unrhyw dystiolaeth nad cyfran go lew o ddarllenwyr Y Cymro a Golwg sydd hefyd yn darllen y stwff 'elitaidd'.

Fel sy’n arferol efo Gwilym, mae’r erthygl yn ddiog i’r graddau nad oes yna ddim tystiolaeth o waith ymchwil annibynnol ynddi. Mae ei holl dystiolaeth yn dibynnu ar ffigyrau darlleniad a chymhorthdal a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Golwg. Mi fyddai gan Gwilym ddadl petai’n gallu dangos bod yna wahanol bobl yn darllen Y Cymro o gymharu a’r papurau eraill. Byddai ganddo ddadl gryfach petai’n gallu dangos bod yna swmp o ddarllenwyr potensial i’r Cymro yn rhywle neu’i gilydd. Ond ‘dydi o ddim yn gwneud hynny, nag yn wir yn ceisio gwneud hynny. Felly mae Gwilym eisiau anfon Barddas, Y Traethodydd a Thaliesin i’r un bun sbwriel a Thu Chwith heb hyd yn oed geisio dangos sut y byddai hynny’n cynhyrchu mwy o ddarllenwyr Cymraeg, heb son am gynyddu’r amrywiaeth sydd ar gael.

Cyn gorffen efallai y dyliwn gyfeirio at ymysodiad Gwilym ar Bethan Jenkins. Ymysg y sylwadau sarhaus mae'n disgrifio ei sylw y dylid rhyw led wladoli’r Western Mail fel un o’r ‘sylwadau mwyaf twp a glywyd yn ddiweddar’. Mi fyddwn yn rhyw gytuno nad hwn ydi’r syniad gorau i Bethan ei gael erioed – ond ydi’r syniad mor dwp a syniad Gwilym ynglyn a sut y dylid penderfynu sut i ddosbarthu cymorthdaliadau i’r wasg Gymraeg ? Dyma sydd ganddo i’w ddweud ar y pwnc – _ _ _ o gofio bod y papur (Y Cymro) bellach yn cyflogi Karen Owen un o’r hacs gorau yn yr iaith Gymraeg onid yw’n amser ailystyried _ _ (faint o gymhorthdal mae’r Cyngor Llyfrau yn ei roi i’r Cymro).

Rwan ‘dwi’n gwybod bod Karen yn effeithiol a rhyfeddol o gynhyrchiol – ond wir Dduw ‘dydi hi ddim yn bosibl llywio polisi dosbarthu cymorthdaliadau ar sail pwy sydd yn gweithio yn lle. Beth goblyn fyddai Gwilym yn ei ddweud petai Tu Chwith yn recriwtio Karen – a’r arian mae eisiau ei anfon i’w dilyn o gwmpas y wlad.

Wednesday, November 09, 2011

Propoganda Gwilym Owen

'Dwi'n gobeithio nad oes yna neb o dan yr argraff fy mod yn datblygu obsesiwn am Gwilym Owen - 'does yna neb hyd 'dwi'n cofio wedi ymddangos mewn dau flogiad olynnol ar Flog Menai o'r blaen - ond 'dwi newydd weld ei erthygl ddiweddaraf yn Golwg, a fedra i ddim ymatal rhag ymateb i beth o'r nonsens boncyrs sydd ynddi.

Defnyddio papur rhad ac am ddim Cyngor Gwynedd i ymosod ar y cyngor mae Gwilym, ac mae'n cynhyrchu nifer o honiadau lled hysteraidd ar sail cynnwys y papur hwnnw.  Efallai y byddwn yn dod yn ol at rai o'r rhain eto, ond yr hyn 'dwi am ganolbwyntio arno yn y blogiad yma ydi honiad rhyfedd Gwilym bod adroddiad ar gael sy'n dangos mai 27% yn unig o blant ysgolion cynradd y sir sy'n siarad Cymraeg efo'u ffrindiau.

Gan nad ydi Gwilym yn trafferthu dweud wrthym unrhyw beth am yr adroddiad mae'n anodd gwybod yn union at beth mae'n gyfeirio.  Oni bai am y posibilrwydd bod yr adroddiad yn bodoli yn gyfangwbl yn ei ddychymyg ei hun, yr unig beth y gallaf feddwl  bod y dyn fod yn rwdlan amdano ydi  Arolwg Defnydd Cymdeithasol o'r Gymraeg gan Blant Sector Cynradd Gwynedd gan Dylan Bryn Roberts ac Enlli Thomas, a gyhoeddwyd y llynedd.

'Dydi'r adroddiad hwnnw ddim yn edrych ar holl ysgolion Gwynedd - mae'n edrych ar gynrychiolaeth fechan - gyda hanner yr ysgolion hynny wedi eu lleoli yn nalgylch mwyaf Seisnig a gwledig y sir - dalgylch Tywyn.  Does yna ddim un ysgol o'r canolfannau poblog yn ardal Caernarfon lle mae'r canrannau o blant sy'n dod o gefndiroedd Cymraeg yn hynod uchel, ond mae yna ddwy ysgol ym Mangor lle maent yn isel.  Mae'r ddwy ysgol sy'n cynrychioli Dwyfor yn agos at arfordir de Dwyfor - mae de Dwyfor yn wahanol iawn i arfordir gogleddol a pherfedd y penrhyn.  Un ysgol yn unig sydd o'r pentrefi a'r trefi llechi poblog a Chymreig.  Mae 77 o'r 145 plentyn a ddefnyddir fel sail i'r data yn dod o ardal Tywyn - ardal fwyaf Seisnig a lleiaf poblog y sir.

Mewn geiriau eraill mae'r sampl yn llawer, llawer mwy Seisnig nag ydi'r sir yn ei chyfanrwydd.  Nid oes bai ar awduron yr adroddiad wrth gwrs - 'doedden nhw ddim yn ceisio cynhyrchu ffigyrau cynrychioladol o'r sir i gyd - cynhyrchu ffigyrau sy'n cynrychioli'r ysgolion roeddynt yn ei samplo mae'n nhw.  Gwilym sy'n smalio eu bod yn cynhyrchu ffigyrau cynrychioladol.

Ac oddi yma mae'n debyg gen i y daw 27% Gwilym Owen.  Mae'r adroddiad yn nodi fel a ganlyn:

Iaith y buarth rhwng plant –
27% Cymraeg,
25% Cymraeg a Saesneg,
19% Saesneg bron bob amser ,
15% Saesneg rhan fwyaf ,
11%, Cymraeg rhan fwyaf
3% Dim ateb .
Felly pan mae Gwilym yn honni mai 27% o blant y sir sy'n siarad Cymraeg efo'u ffrindiau, yr hyn mae yn ei olygu mewn gwirionedd ydi mai 27% o sapl Seisnig iawn sy'n siarad Cymraeg yn unig efo'u ffrindiau.  Mae yna 11% arall yn siarad Cymraeg fel arfer a 25% arall yn defnyddio'r ddwy. 

Y gwir ydi bod yr adroddiad yn awgrymu bod bron i ddwy draean o blant ardaloedd Seisnig (yn bennaf) yn y sir yn gwneud defnydd o'r Gymraeg wrth gyfathrebu efo'u ffrindiau - ffigwr rhyfeddol ac anisgwyl o uchel.  Ond trwy beidio a thrafferthu i roi cefndir y data i ni, a thrwy smalio bod y ganran '27% Cymraeg yn unig' yn cynrychioli'r holl ddefnydd a wneir o'r Gymraeg mae Gwilym yn gwneud iddynt ymddangos yn drychinebus o isel.  Mae seilio dadl ar gobyldigwc ystadegol fel hyn yn sylfaenol anonest.

Mae'r blog yma wedi tynnu sylw ar sawl achlysur yn y gorffennol at y ffaith bod gan y dyn dueddiad i gyflwyno ei ragfarnau ei hun fel ffeithiau - yma er enghraifft.  Am rhyw reswm mae Golwg wedi dod i'r casgliad y byddai'n wych o beth rhoi llwyfan iddo ein diddanu ni efo'r rhagfarnau hynny pob pethefnos.  Duw yn unig a wyr pam.  Byddai'n rheitiach iddyn nhw adael i Eric Howells a Billy Hughes fynd trwy'i pethau pob pethefnos ddim.

Saturday, June 04, 2011

A'r diweddaraf am y teulu brenhinol _ _ _

Diolch yn fawr i Golwg360 am adael i ni wybod bod William, Dug Caergrawnt wedi reidio ceffyl o'r enw Wellesley.

Ag ystyried cymaint o straeon brenhinol sy'n ymddangos ar Golwg360 yn ddiweddar, mae'n fy nharo y gallant greu adran benodol ar eu gwefan i ymdrin a'r pwnc hynod ddiddorol yma - rhywbeth tebyg i Court Circular y Times efallai, ond gydag ymroddiad gallai fod hyd yn oed yn well na hynny.

Mewn oes pan mae pob cyfrwng newyddion masnachol yn chwilio am bwynt gwerthu unigryw, mae'n anodd meddwl am unrhyw beth mwy unigryw na chael darllen trwy gyfrwng y Gymraeg am pob ffesant sy'n cael ei saethu yn Balmoral, hynt a helynt y corgwn brenhinol a manylion am arlwy pob parti harti ym Mhalas Buckingham.

Thursday, June 11, 2009

Erthygl Golwg

Mae erthygl yn Golwg ar dudalen 5 lle maent yn rhoi llais i'r sylwadau enllibus am awdur y blog hwn gan y Cynghorydd Gwilym Euros Roberts o Flaenau Ffestiniog.

'Dwi ddim am ddweud llawer gan fy mod yn bwriadu edrych ar y posibiliadau o fynd a'r papur i gyfraith.

Mi hoffwn nodi'r canlynol fodd bynnag:

Mae'n ymddangos i mi bod y papur yn fwriadol wedi mynd ati i hyrwyddo'r enllib gwreiddiol trwy ddyfynu darn dethol o fy sylwadau yn llwyr y tu allan i'w gyd destun, a gwneud hynny mewn modd sy'n ei gwneud yn bosibl i gredu fy mod yn dweud rhywbeth cwbl groes i'r hyn roeddwn yn ei ddweud mewn gwirionedd.

Mae'r ffaith eu bod wedi doctora fy ymateb iddynt trwy ddileu brawddeg sy'n egluro mai dadlau yn erbyn cyfranwr i fy mlog oedd yn ceisio creu cyswllt rhwng UKIP a Llais Gwynedd oeddwn, yn atgyfnerthu'r canfyddiad hwn.

Fydda i ddim yn trafod y mater yma eto nes i mi gael cyngor cyfreithiol llawn.

Mi fyddaf yn cyhoeddi unrhyw sylwadau gan gyfranwyr yn y dudalen sylwadau cyn belled a nad ydynt yn enllibus na sarhaus - yn ol yr arfer.