Friday, March 29, 2013

Yr hyn y gall y dyn yma ei wneud i gynnal y Gymraeg

 

 Byddai'n well - yn llawer gwell petai cenedlaetholwr yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg ar ran llywodraeth Cymru - ond os oes rhaid cael Llafurwr mae'n debyg bod Leighton Andrews cystal a neb.  Go brin bod neb yn amau didwylledd ei gefnogaeth i'r iaith.

Cyhoeddwyd strategaeth iaith Gymraeg ganddo yn ddiweddar.  Gellir ei gweld yma.  Does gen i ddim yn erbyn yr hyn sydd ynddi, er bod rhywfaint ohono'n ymylol - ond hoffwn gynnig fy mewath fy hun.  Ym marn Blogmenai y canlynol ydi'r elfennau pwysicaf o ran arbed yr iaith - pwysicach o lawer na llawer o'r hyn sydd yn nogfen Mr Andrews.



1.  Mi gychwynwn ni efo'r peth pwysicaf.  Petaem yn gwbl onest y gwir amdani ydi bod yna ormod o gyflenwad a rhy ychydig o alw am bron i pob gwasanaeth Cymraeg.  Yr eithriad mawr ydi addysg cyfrwng Cymraeg.  Dydw i ddim yn meddwl bod yna unrhyw amheuaeth bod llawer mwy o bobl eisiau i'w plant dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg na sydd yn ei gael. Yn wir yn ol un astudiaeth byddai mwy na hanner rhieni Cymru yn anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg petai addysg felly ar gael yn weddol hawdd.  Ar hyn o bryd mae ychydig mwy na phumed o blant cynradd y wlad yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.  Addysg cyfrwng Cymraeg ydi'r unig beth sy'n cynhyrchu siaradwyr Cymraeg o'r newydd mewn niferoedd sylweddol.  O gyflenwi hynny yn effeithiol, byddai llawer o bethau eraill yn dilyn.



Rwan, mae darpariaeth addysg - ar hyn o bryd o leiaf - yn nwylo'r awdurdodau lleol.  Mae rhai ohonynt yn dda am sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg, tra bod eraill yn anobeithiol o wael.  Mae yna elfennau o'r ddarpariaeth addysg na fyddai unrhyw awdurdod addysg yn meiddio gwneud smonach ohonynt petai dewis ganddo.   Dydi methu a sicrhau darpariaeth amddiffyn plant addas neu methu a gosod trefn i wella perfformiad ysgolion sy'n tan gyflawni ddim yn opsiwn i unrhyw awdurdod lleol.  Byddai methiant o'r math yma yn creu risg arwyddocaol y byddai'r awdurdod addysg yn colli rheolaeth ar y gyfundrefn addysg o fewn ei thiriogaeth.  Dylai parodrwydd i asesu'r galw am addysg Gymraeg ac ymateb i'r galw hwnnw gael ei drin yn union fel codi safonau ac amddiffyn plant gan y corff arolygu, ESTYN.  Byddai newid pwyslais o'r math yma gwneud mwy i gynnal y Gymraeg nag unrhyw beth arall y gallaf feddwl amdano.

2.  Dilyn y data.  Mae'r Cyfrifiad yn ffynhonnell data gwerthfawr - hanfodol hyd yn oed, ond mae'n rhoi darlun braidd yn amrwd i ni.  Mae'n dweud beth sydd yn digwydd yn lle - ond ddim gair am pam.  Mae angen arolwg trylwyr a chynhwysfawr sy'n dod i gasgliadau ynglyn ag agweddau pobl at drosglwyddiad iaith, dysgu'r Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg ar hyd a lled Cymru.  Rydym angen strategaethau gwahanol i wahanol rannau o'r wlad.  Dydi'r Cyfrifiad ddim yn ein darparu efo'r math o ddata rydym ei angen i ffurfio sail i'r ymarferiad hwnnw.

3.    Peidio ag ofni grwpiau sydd a budd mewn dal pethau yn ol.  Mae Leighton Andrews wedi dangos dewrder wrth fynd i'r afael a rhai o broblemau'r gwasanaeth addysg - ac mae i'w edmygu am hynny - hyd yn oed os ydi rhai o'r pethau mae wedi eu gwneud yn profi'n anghyfforddus i bobl fel fi.  I'r graddau hynny mae wedi sefyll yn erbyn grwpiau buddiant.  Serch hynny mae sefyll tros y Gymraeg yn golygu sefyll yn erbyn grwpiau gwahanol - corfforaethau mawr a rhannau o'r Blaid Lafur Gymreig..  Dydi'r ffaith iddo wrthod safonau'r Comisiynydd Iaith ddim yn awgrymu ei fod yn teimlo fel sathru ar gyrn y corfforiaethau mae Deddf Iaith 2011 yn garreg yn eu hesgid.  Mae'r elfennau gwrth Gymreig yn y Blaid Lafur yn fwy o her eto iddo.  Bydd gwrando ar yr elfennau hynny yn sicrhau nad ydi'r Gymraeg yn symud cam ymlaen.
. Rhoi anghenion mewnol y Blaid Lafur Gymreig cyn dim byd arall ydi un o nodweddion hanesyddol y corff hwnnw - ac mae'n batrwm o ymddygiad gwleidyddol sydd wedi bod yn niweidiol iawn i Gymru yn y gorffennol.

4.  Deall yr hyn mae am ei gyflawni.  Mae angen i lywodraeth Cymru gael targedau uchelgeisiol ond cyraeddadwy.  Mae holl gynghorau sir Cymru angen targedau felly hefyd - ac mae'n rhaid i'r targedau hynny fod yn addas ar gyfer eu sefyllfa unigol nhw.  Mae'n realistig disgwyl i gynghorau Gwynedd a Chaerdydd gynyddu'r niferoedd a'r ganran sy'n siarad yr iaith.  Y gorau y gellir ei obeithio am Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd ydi bod y dirywiad yn cael ei arafu'n sylweddol.  Mae Gwynedd angen mynd i'r afael efo Bangor, mae Merthyr angen cynnig yr opsiwn o addysg cyfrwng Cymraeg idrigolion y fwrdeisdref.  Dylai bod perthynas rhwng llwyddiant i gyrraedd targedau a setliad ariannol blynyddol y cynghorau.  Mae goblygiadau ariannol i awdurdod lleol os yw'n methu cwrdd a thargedau ail gylchu gwastraff, dylai bod goblygiadau tebyg os yw'n methu cwrdd a thargedau iaith rhesymol.  

Wednesday, March 27, 2013

O'r Fali i Ddinas Dinlle

Mae'n debyg bod penderfyniad i symud y gwasanaeth achub yn y Fali i ddwylo preifat a bod y cwmni preifat yn ei dro yn ail leoli ar gyrion Caernarfon yn fater dadleuol, ac mae'n naturiol bod gwleidyddion Ynys Mon yn cwyno am y peth.

Dwi ddim yn gwybod digon am y mater i fynegi barn, ag eithrio i nodi ei bod yn ddigon naturiol bod cwmni preifat yn dod i benderfyniadau ar sail masnachol.  Ond mae un agwedd gadarnhaol i'r stori o leiaf.  Roedd y ffaith bod y Llu Awyr yn gyfrifol am achub bywydau ar y mynyddoedd neu yn y mor yn bropoganda effeithiol i sefydliad sydd yn ei hanfod yn defnyddio llawer o'i adnoddau ac ynni yn mynd i wledydd pell i ladd rhai o drigolion y gwledydd hynny.  Roedd yna pob amser rhywbeth yn rhyfedd am y syniad o un o feibion Charles Windsor mewn Sea King yn achub bywydau, tra bod y llall mewn gwlad bell yn mynd o gwmpas mewn gunship Appache yn dod a bywydau tramorwyr i derfyn yn eu gwlad eu hunain.

O leiaf bydd yr amwyster bach yma ynglyn a phwrpas y lluoedd diogelwch yn dod i ben.  

Saturday, March 23, 2013

Tref Gymraeg Mr Price

Dwi ddim yn siwr beth i'w wneud o syniad Adam Price i 'godi tref' newydd Gymraeg ar lannau'r Fenai, ond mae'n codi pwynt diddorol - sef bod y Gymraeg yn datblygu i fod yn iaith fwyfwy trefol.  Ceir 15 o wardiau 80%+ sy'n siarad y Gymraeg ac maen nhw i gyd wedi eu canoli ar drefi neu bentrefi mawr.  Ceir saith ward arall sy'n ymylu ar 80%, ac mae chwech o'r rheiny yn rhai trefol hefyd.

Yn wir pan safodd Toni Schivone ar Faes Caernarfon ym Mis Ionawr nonodd ei bod yn bosibl mai dwsin o wardiau yn unig fyddai a mwy na 70% yn siarad yr iaith trwy Gymru.  Roedd yna ddeg o rai efo mwy nag 80% yn siarad y Gymraeg o fewn ychydig filltiroedd o ble'r oedd yn siarad - y cwbl ohonynt yn yr Arfon ol ddiwydiannol.

Dydi'r rhesymau am hyn ddim yn anodd iawn i'w egluro ar un ystyr.  Mae ardaloedd trefol y Gogledd Orllewin yn rhannu agweddau diwylliannol ehangach  yr ardal sy'n sicrhau trosglwyddiad iaith effeithiol iawn, mae'r gyfundrefn addysg yn gefn i'r Gymraeg, mae'r gallu i siarad y Gymraeg yn bwysig o ran cyflogaeth, ac mae'r lefelau o fewnfudo yn isel.  Y ffaith nad oes yna lawer o fewnfudo o Loegr i ardaloedd trefol sy'n egluro pam bod Arfon (y tu allan i Fangor) bellach yn fwy Cymreig na Gogledd Meirion a Dwyfor.  Dydi mewnfudo ddim yn cael llawer o effaith ar drosglwyddiad iaith yn y Gogledd Orllewin, ond mae'n llusgo'r canrannau i lawr yn yr ardaloedd gwledig.  Lefelau mewnfudo sydd wrth wraidd y gwahaniaethau yn y canrannau sy'n gallu siarad yr iaith yn y rhan fwyaf o'r Gogledd Orllewin.

Mi fyddwn i hefyd yn awgrymu bod y patrwm gwledig / trefol yn dal oddi mewn i wardiau unigol hefyd.  Er enghraifft mae Trefor (pentref ol ddiwydiannol) a Llithfaen yn yr un ward (Llanaelhaearn), ond mi fyddwn yn betio bod y ganran sy'n siarad y Gymraeg yn Nhrefor yn sylweddol uwch nag ydyw'n Llithfaen. Mae'r ganran sy'n siarad y Gymraeg yn  uwch yng Nghaernarfon nag yw yn Neiniolen, ond fyddech chi ddim yn credu hynny petaech yn mynd am dro i stad tai cymunedol sylweddol Pentre Helen yng nghanol y pentref.  Byddai'n rhaid i chi fynd i gyrion Deiniolen  - Dinorwig, Gallt y Foel, Clwt y Bont neu Fachwen i ddod o hyd i'r di Gymraeg.  Cafwyd cwymp arwyddocaol yn y ganran sy'n siarad y Gymraeg yn Llanberis, ond nid ar stadau tai Dol Elidir, Dol Peris na Maes Padarn yng nghanol y pentref ddigwyddodd y cwymp hwnnw.

Ac mae yna resymau amlwg am hynny hefyd - mae'r Cymry ar rhyw olwg yn fwy tebyg i'r Saeson mae'r mewnfudwyr wedi eu gadael ar ol yn Lloegr nag ydynt i'r mewnfudwyr eu hunain.  Maent eisiau byw yn agos at wasanaethau a siopau.  Mae'r mewnfudwyr yn amlach na pheidio wedi gadael llefydd trefol yn Lloegr sydd a darpariaeth dda o ran gwasanaethau am rhywbeth amgen.  Dydi symud o stad tai yn Warrington i un yn Neiniolen ddim yn gwneud synnwyr i bobl felly.

Mae Adam yn gywir i resymu mai cymunedau trefol sy'n gyrru twf economaidd, Mae hefyd yn gywir i resymu bod bodolaeth cymunedau trefol Cymraeg eu hiaith yn bwysig i ddyfodol yr iaith.  Y drwg efo cynllunio i ehangu'r ardal drefol ar lannau gorllewin Afon Menai ydi y byddai hynny'n cael effaith negyddol ar gymunedau Cymraeg mwy gwledig Ynys Mon a gorllewin a de Gwynedd.  Wedi'r cwbl hyn a hyn o Gymry Cymraeg sydd ar gael i gyflenwi datblygiad trefol Cymraeg. Mae'r Gymru Gymraeg angen cymunedau trefol, ond mae hefyd angen tiriogaeth sylweddol. Byddai newid cydbwysedd lle mae'r Cymry Cymraeg yn byw yn debygol o leihau maint y Gymru Gymraeg yn sylweddol.

Thursday, March 21, 2013

Rhaid wrth dderyn glan i ganu Mr Andrews

Mae Leighton Andrews yn mynd mymryn yn rhy bell  pan mae'n dweud nad ydi'r Eisteddfod, Cymdeithas yr Iaith, CBAC, Cynghorau Cymru, S4C, Prifysgol Cymru ac ati wedi addasu i ddatganoli, ond mae ganddo fo bwynt.  Mae llawer o sefydliadau Cymreig yn ymddwyn - mewn rhyw ffordd neu'i gilydd - fel petai'r  ffurf ar ddemocratiaeth Gymreig sydd wedi tyfu ers blynyddoedd olaf y ganrif ddiwethaf erioed wedi digwydd.  Efallai bod Cymdeithas yr Iaith mor euog o hyn a neb o hyn.

Ond am rhyw reswm anghofiodd Leighton son am y sefydliad Cymreig mwyaf ohonyn nhw i gyd - y Blaid Lafur Gymreig.  Ni all arweinydd y blaid yma fynd trwy cymaint ag un sesiwn holi'r Prif Weinidog heb gyfeirio at San Steffan ac mae'n cael ei halian i Lundain i gael ffrae os ydi'n meiddio gwneud ei farn yn glir ynglyn a pha bwerau ychwanegol y dylid eu datganoli i Fae Caerdydd.  Ar ben hynny mae'n ymddangos bod Llafur yn credu y dylai Cymru gael ei gor gynrychioli gan Aelodau Seneddol yn San Steffan i'r un graddau heddiw ag oedd yn cael ei gor gynrychioli bymtheg mlynedd yn ol.

Meddyliwch mewn difri - os ydych chi'n byw yng Nghaer rydych yn cael eich cynrychioli ar lefel seneddol gan Stephen Mosley.  Os ydych yn byw ychydig filltiroedd i lawr yr A483 yn Wrecsam rydych yn cael eich cynrychioli gan Lesley Griffiths, Llyr Huws Gruffydd, Aled Roberts, Mark Isherwood, Antoinette Sandbach ac Ian Lucas.  Cyn 1998 roedd gan y ddwy etholaeth un aelod seneddol yr un.




Tuesday, March 19, 2013

Sesiynau holi'r Prif Weinidog

Mae Vaughan Roderick yn hollol gywir i nodi nad ydi sesiynau holi'r Prif Weinidog yn y Cynulliad yn gweithio yn arbennig o dda, ac mai un o'r  prif resymau am hynny ydi strwythur y sesiynnau hynny -  aelodau yn darllen eu cwestiynau yn gloff, aelodau ddim yn dangos iot o ddiddordeb yn yr hyn sy'n mynd ymlaen, a dim digon o gwestiynau atodol i arweinwyr y gwrth bleidiau fynd i'r afael efo 'atebion' Carwyn Jones.

Ond efallai na fyddai Vaughan yn meindio i mi wneud awgrym  pellach.  Byddai yn gwneud Byd o les petai'r Llywydd yn dweud wrth Carwyn Jones am ateb y blydi cwestiwn pob tro mae'n dechrau rwdlan am David Cameron, George Osborne neu unrhyw beth arall sy'n digwydd yn San Steffan.

Sunday, March 17, 2013

Carwyn Jones ac Aelodau Seneddol San Steffan

Os ydi'r Western Mail i'w gredu mae Carwyn Jones wedi cael amser caled gan Aelodau Seneddol ei blaid oherwydd iddo ddweud wrth Gomisiwn Silk ei fod eisiau datganoli pwerau sy'n ymwneud a'r gyfundrefn gyfreithiol i Gymru heb gael yr OK ganddyn nhw.  Yn wir mae'n ymddangos eu bod wedi perswadio Ed Miliband i ddweud na fydd mwy o ddatganoli 'yn flaenoriaeth' i'r llywodraeth Llafur nesaf yn ei dymor cyntaf - hy wneith o ddim digwydd.

Mae'r stori yma yn hen stori mewn gwirionedd - Llafur yn cynllunio datganoli yng Nghymru am resymau sy'n ymwneud a gwleidyddiaeth mewnol y Blaid Lafur yn hytrach nag er mwyn gwneud i ddatganoli weithio yn effeithiol.   Mae llawer o'r gwendidau yn y gyfundrefn ddatganoli yng Nghymru yn deillio yn uniongyrchol o'r ffaith bod Llafur yn ystyried eu buddiannau ei hun yn bwysicach na chael system lywodraethu effeithiol yng Nghymru.

Mae'n rhan o hen stori arall hefyd - yn y pen draw mae barn y Blaid Lafur yn Llundain yn gor bwyso barn y Blaid Lafur yng Nghymru.  Rhith ydi'r gred fod y Blaid Lafur Gymreig yn endid annibynnol.  Mi gaiff Carwyn Jones ddod i unrhyw benderfyniad mae o ei eisiau - cyn belled nad yw hynny'n groes i farn ei feistri yn San Steffan.

Friday, March 15, 2013

Hyfdra Leighton Andrews


Hmm - felly mae Leighton Andrews yn ystyried mai 'stynt gwleidyddol' ydi sefyll yn ei erbyn mewn etholiad. 

 Dydi hi ddim yn hawdd meddwl am wleidydd arall mewn gwlad ag iddi draddodiad democrataidd sydd a meddwl mor uchel ohono ei hun fel ei fod yn llafurio o dan yr argraff bod pobl sy'n cystadlu am ei sedd yn gwneud hynny am resymau pitw.  Mae'r hyfdra yn ddigon a mynd a gwynt dyn.


Tuesday, March 12, 2013

1950, 1960 a heddiw

Taenlen newydd gan William Dolben a geir isod. Cymharu'r ffigyrau a gynhyrchwyd ganddo ddoe a'r ffigyrau ar gyfer 'Cymry Cymraeg cynhenid' mewn ysgolion yn 1950 a 1960 mae'r daenlen yma.  Mae colofn H yn dynodi'r ganran o blant 5 i 11 oedd yn siarad y Gymraeg adref yn 1950, ac mae colofn I yn rhoi'r un wybodaeth ar gyfer 1960.

Rwan mae angen ambell i rybudd cyn mynd ati i ddod i gasgliadau ysgubol - dydi'r ffiniau ddim yr un peth, dydan ni ddim yn siwr o fethedoleg casglu data 1950 a 1960 ac mae'r cwymp rhwng 1950 a 1960 yn amheus o fawr mewn ambell i achos.

Serch hynny mae'r ffigyrau yn ddigon diddorol ar sawl cyfrif .  Er enghraifft ymddengys bod llai na hanner plant Sir Gaerfyrddin yn siarad y Gymraeg adref hyd yn oed ym 1960.  Mae yna lawer mwy o blant Caerdydd yn siarad y Gymraeg adref heddiw nag oedd ym 1950, ac mae'r un peth yn wir i raddau llai yn nifer o ardaloedd y De Ddwyrain.  Mae'r cwymp yn y canrannau oedd yn siarad yr iaith adref wedi bod yn fwy serth nag yn yr unman arall.

Gyda llaw dydi hi ddim yn bosibl dod i gasgliadau ystyrlon yng nghyd destun Gwynedd oherwydd bod ardaloedd (Seisnig a phoblog) Llandudno a Chonwy yn gynwysiedig yn ffigyrau 1950 a 1960.

Monday, March 11, 2013

Cymharu'r Cyfrifiad a ffigyrau ysgolion mewn perthynas a'r Gymraeg

Mae yna dipyn o sgwrs wedi bod yn mynd rhagddi ynglyn a pha mor ddibynadwy ydi'r ffigyrau cyfrifiad mewn perthynas a phlant ysgol.  Yr awgrym a geir ydi bod gor gyfrifo plant oed ysgol mewn rhai rhannau o Gymru.  Fel rhan o'r drafodaeth honno mae William Dolben wedi mynd ati i gymharu faint o blant sy'n rhugl yn ol ffigyrau ysgolion a faint sy'n siarad y Gymraeg yn ol y Cyfrifiad a dod i gasgliadau o'r gwahaniaeth rhwng y ddau.  Doedd hi ddim yn bosibl i William gyhoeddi ei dabl ar y dudalen sylwadau, felly 'dwi wedi gwneud hynny yma.

 Heb fod yn rhy dechnegol, lle mae'r rhif yng ngholofn G yn uchel, mae gwahaniaeth mawr rhwng y nifer a ystyrir yn rhugl yn y ffigyrau a geir o ysgolion a'r niferoedd sy'n siarad y Gymraeg yn ol y Cyfrifiad.  Felly mae yna berthynas agos rhwng ffigyrau'r ysgolion a rhai'r Cyfrifiad yng Nghaerdydd, tra bod gwahaniaeth mawr yng Nghasnewydd.  Yr awgrym yma ydi bod ffigyrau Cyfrifiad Caerdydd yn fwy dibynadwy na rhai Casnewydd - mewn perthynas a phlant o leiaf

Rwan dydi'r Cyfrifiad ddim yn ystyried pa mor rhugl mae pobl yn siarad y Gymraeg, felly mae'n fater braidd yn oddrychol , pwy sy'n gallu siarad yr iaith a phwy na all wneud hynny.  Serch hynny mae'r ymarferiad yn un hynod ddiddorol, ac mae'n awgrymu bod gor gyfrifo siaradwyr Cymraeg sylweddol yn rhai o'r siroedd sy'n agos at y ffin efo Lloegr.



Saturday, March 09, 2013

Goblygiadau pol Ashcroft i Gymru

Dydi Blogmenai ddim yn trafferthu edrych ar bolau Prydeinig unigol fel rheol, ond mae pol achlysurol Michael Ashcroft yn un arbennig ac mae'n cynnig mwy na'r rhan fwyaf o bolau piniwn arferol.  Mae'n canolbwyntio ar etholaethau ymylol - y rhai sy'n penderfynu etholiadau Prydeinig, mae'r sampl yn anferth a felly'n ei gwneud yn bosibl i edrych ar ranbarthau unigol mewn ffordd ystyrlon, mae'n grwpio etholaethau yn ol deinameg gwleidyddol a daearyddiaeth ac mae'n cymryd i ystyriaeth y ffaith bod pobl yn aml yn gadael i ffactorau lleol ddylanwadu ar y ffordd maent yn pleidleisio.  Yn anffodus - yn wahanol i'r Alban, dydi Cymru ddim yn cael ei thrin fel uned arwahan - felly mae angen ychydig o waith cyn gallu dod i gasgliadau am etholaethau Cymreig.  Dydi'r pol ddim yn edrych ar etholaethau lle mae Plaid Cymru'n gystadleuol chwaith.  Serch hynny dyma ymgais i ddod i gasgliadau am etholaethau Cymreig o ddata pol Ashcroft.

I ddechrau mae'r pol yn awgrymu bod gogwydd o 5.5% oddi wrth y Lib Dems tuag at y Toriaid mewn etholaethau gwledig lle mae'r melynion yn gyntaf a'r gleision yn ail.  Awgryma hyn y collid Brycheiniog a Maesyfed.

Mae'r ogwydd oddi wrth y Lib Dems tuag at Lafur yn anferth mewn etholaethau Cymreig a Seisnig lle mae'r naill yn gyntaf a'r llall yn ail - 17.1%.  Awgryma hyn y byddai'r Lib Dems yn colli o filltiroedd yng Nghanol Caerdydd.

Does yna ddim categori yn y pol sy'n ffitio'n union efo seddi ymylol Toriaidd / Llafur yng Nghymru, felly mae dod i gasgliadau yma yn fwy anodd.  Mae'r gogwydd tuag at Lafur yn amrywio o 5% yn Llundain i 10.5% yn yr etholaethau o gwmpas aber yr Afon Tafwys.  Ond os ydym yn cymryd bod y gogwydd oddi wrth y Toriaid at Lafur yng Nghymru o gwmpas cymedr holl etholaethau ymylol Toriaid / Llafur  ardaloedd Ashcroft, cawn ogwydd o 8.1%.  Canlyniad gogwydd felly i'r Toriaid fyddai colli Aberconwy, Preseli / Penfro, De Penfro / Gorllewin Caerfyrddin, Bro Morgannwg a Gogledd Caerdydd.  Cant neu ddau fyddai ynddi yng Ngorllewin Clwyd.

Petai canfyddiadau pol Ashcroft yn cael eu gwireddu yn 2015, tair sedd yn unig y gallai pleidiau'r glymblaid fod yn hyderus eu cadw - Mynwy, Brycheiniog a Maesyfed a Threfaldwyn.  Y Toriaid fyddai'n ennill y dair yn ol pob tebyg.  'Dydi cyfyngiadsu'r pol ddim yn caniatau i ni ddod i gasgliadau am Ceredigion.

Gellir gweld data'r pol yma.

Thursday, March 07, 2013

Gwilym Owen - rhagor o nonsens yn Golwg

Mae'n anffodus bod darn diweddaraf Gwilym Owen yn Golwg yn dangos holl nodweddion gwaethaf y cynnyrch mae yn ei gyflwyno ger ein bron trwy golofnau'r cofnodolyn  - anallu i seilio ei ddadleuon ar ffeithiau cadarn, defnydd ymfflamychol o iaith a pharodrwydd i gymryd ei yrru gan ei ragfarnau.

Yr hyn sydd wedi troi'r drol y tro yma ydi'r ffaith i Leanne Wood ddal record y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd i gyfri mewn perthynas ag addysg.  Bydd darllenwyr cyson colofn Gwilym yn gwybod ei fod o'r farn mai priod bwrpas Plaid Cymru ydi cefnogi'r Blaid Lafur. Mae'n ymateb trwy ymosod ar record Cyngor Gwynedd ym maes addysg, ac yn anffodus mae peth o'i sail tros wneud hynny yn ffeithiol anghywir.  Cyn mynd ymlaen mae'n debyg gen i y dyliwn ddatgan diddordeb yma - dwi'n gweithio yn y maes addysg yng Ngwynedd.

Mae Gwilym yn mynd ati i ymosod ar y sector addysg yng Ngwynedd o sawl cyfeiriad ar yr un pryd - y broses ail strwythuro ysgolion, cyflwr adeilad Ysgol y Groeslon ac ati.  Tra nad ydw i'n cytuno efo'r hyn mae Gwilym yn ei ddweud yma, dau honiad arall - honiadau cwbl ddi sail sydd gen i o dan sylw heddiw.

Yr honiad cyntaf ydi bod canran uchel o blant Gwynedd yn mynd i'r sector uwchradd yn anllythrennog.  Yn nodweddiadol 'dydi Gwilym ddim yn nodi ar ba sail mae'n gwneud datganiad mor ryfeddol ac ysgubol. Y gwir ydi bod neb - neu nesaf peth i neb yn mynd i'r sector uwchradd yn anllythrennog.  Mae yna ganran - fel ym mhob Awdurdod arall yn y DU - yn mynd i'r sector uwchradd heb gyrraedd y lefel disgwyliedig mewn iaith (lefel 4), ond mae'n sarhaus i blant sydd yn aml  ag anghenion dysgu sylweddol a sydd wedi ymdrechu'n galed i gyrraedd lefel 3 i ddweud na allant 'sgwennu na darllen.  Mae hefyd yn ddatganiad cwbl gamarweiniol.

Rhag ofn bod rhywun a diddordeb mewn ffeithiau yn hytrach na sterics mae perfformiad Gwynedd ar ddiwedd y sector cynradd yn gadarn iawn o gymharu a gweddill Cymru.  Mae perfformiad DPC (Dangosydd Pynciau Craidd) Gwynedd yn sylweddol uwch na Chymru ac wedi cynyddu ar raddfa uwch na’n genedlaethol dros gyfnod treigl ers 2009. Mae perfformiad 2012 yn dangos cynnydd o 3.4% ar berfformiad 2011.  Yn wir mae  perfformiad cymharol Gwynedd yn y DPC yn dda ac yn well na’r disgwyliad dros y pedair blynedd ddiwethaf, gyda Gwynedd wedi perfformio yn yr ail neu drydydd safle o holl awdurdodau Cymru dros gyfnod treigl tair blynedd.

Ar ben hynny mae'r sir gyda deilliannau llawer, llawer gwell na'r un arall o ran y Gymraeg.  O'r hanner cant ward sydd a mwy na 90% o blant oed ysgol yn siarad y Gymraeg mae 43 o'r rheiny yng Ngwynedd.  Gwynedd sydd â’r ganran uchaf o ddigon o ddisgyblion a asesir yn y Gymraeg yn Cyfnod Allweddol 1/2 a 3.Mae’r ganran a asesir yn y Gymraeg fel iaith gyntaf ar draws CS/CA1/CA2 a CA3 yn rhagorol mewn cymhariaeth gyda holl awdurdodau eraill Cymru.
Mae’r ganran sy’n cyrraedd y lefel disgwyliedig yn CA1/2/3 yn uchel iawn dros y cyfnod treigl ac yn uwch na’r holl Awdurdodau eraill y gellid gwneud cymhariaeth ystyrlon yn eu herbyn [Mon/Caerfyrddin/Ceredigion].

Mae Gwilym hefyd yn honni mai 27% yn unig o blant y sir sy'n dewis chwarae yn y Gymraeg ar dir ysgolion.  Mae Gwil yn hoff iawn o'r 27% 'ma, ac rydym wedi gwneud ychydig o waith ditectif i ddarganfod o ble daw'r ffigwr anhygoel o isel yma yn y gorffennol. Daw o adroddiad a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Gwynedd rai blynyddoedd yn ol.  Mae'r adroddiad yn ymwneud a'r defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg rhwng plant.

Rwan roedd y canlynol ymysg canfyddiadau'r  adroddiad - 

Iaith rhwng plant ar y buarth – 27% Cymraeg, 25% Cymraeg a Saesneg, Saesneg bron bob amser 19%, Saesneg rhan fwyaf 15%, Cymraeg rhan fwyaf 11%, Dim ateb 3%.

Felly pan mae Gwil yn dweud wrthym mai 27% sy'n gwneud defnydd o'r Gymraeg ar fuarth ysgol yr hyn nad yw yn ei ddweud wrthym ydi mai cyfeirio at y sawl sy'n defnyddio'r iaith 'pob amser' mae ei annwyl 27%..  Mae 81% yn gwneud peth defnydd o'r iaith mewn gwirionedd.  Ond nid dyna'r unig beth mae Gwil yn ei gadw oddi wrthym.  Wele'r ysgolion a gymrodd rhan yn yr arolygiad:


Ysgol Bro Cynfal, Ysgol Cwm y Glo Ysgol Cymerau Ysgol Edmwnd Prys Ysgol Glan Cegin Ysgol Gwaun Gynfi Ysgol Llanbedrog Ysgol y Garnedd, Ysgol Aberdyfi Ysgol Abergynolwyn Ysgol Bryncrug Ysgol Dyffryn Dulas Ysgol Llanegryn Ysgol Llwyngwril Ysgol Pennal
Ysgol Penybryn 

Byddai wedi bod yn anodd creu sampl mwy Seisnig o ran cefndir y plant.  Daw hanner yr ysgolion, a mwy na hanner y sampl plant o Fro Dysynni - ardal isaf ei phoblogaeth a mwyaf Seisnig y sir.  Er mai tua 5% o blant y sir sy'n byw yno, daw mwy na hanner y sampl o'r ardal.  Daw dwy o'r ysgolion sy'n weddill o ail ardal mwyaf Seisnig y sir - ardal Bangor.  Does yna ddim un o'r ysgolion o'r cymunedau 80%+ sy'n siarad yr iaith - cymunedau sydd - pob un - yn boblog iawn yng nghyd destun Gwynedd.  

Felly trwy ddethol ei ystadegau yn ofalus iawn mae Gwil wedi troi stori sy'n adrodd bod 81% o blant sampl Seisnig iawn yn gwneud peth defnydd o'r Gymraeg i stori gyfangwbl gam arweiniol mai dim ond 27% o holl blant y sir sy'n defnyddio'r Gymraeg efo'i gilydd.  Y gorau fedrwn ni ei ddweud am Gwil ydi ei fod yn rhy ddiog i ddarllen adroddiad mae'n fodlon ei defnyddio i ddod i gasgliadau ysgubol a hysteraidd.  Y gwaethaf y gallwn ei ddweud yw ei fod yn ymarfer newyddiadura anonest a chelwyddog er mwyn sgorio pwyntiau gwleidyddol rhad ar ran y Blaid Lafur.

Wednesday, March 06, 2013

Llywodraeth San Steffan a Silk

Felly dydi llywodraeth San Steffan ddim am ildio dim - neu nesaf peth i ddim - pwer i'r Cynulliad Cenedlaethol?  Syrpreis, syrpreis.

Dydi'r ffaith bod Aelodau Cynulliad y Lib Dems a'r Toriaid efo barn cwbl wahanol ddim yn syndod chwaith.  Yn wir mae'n lled debygol y bydd yna wahaniaeth barn rhwng llywodraeth Cymru ac Aelodau Seneddol Llafur ynglyn a datganoli grymoedd hefyd.

Does a wnelo'r gwahaniaethau yma ddim oll a syniadaeth, egwyddor, credoau creiddiol ac ati.  Mae'n ganlyniad anhepgor o gael cyfundrefn lle mae dau sefydliad yn cystadlu am yr un grym.  Mae'r naill sefydliad yn tueddu i geisio hel mwy o'r rym iddo'i hun.  Mae'r sawl sydd yn gweithio - ac yn ymarfer grym - yn y naill sefydliad a'r llall yn tueddu i gael eu dylanwadu gan yr ysfa sefydliadol ehangach.  Mae cystadleuaeth rhwng San Steffan a'r Cynulliad bellach yn rhywbeth sydd wedi ei adeiladu i mewn i wead gwleidyddiaeth Cymru.

O safbwynt y cenedlaetholwr Cymreig mae gweld bwlch yn datblygu rhwng Andrew RT Davies, Carwyn Jones a Kirsty Williams a'u cyd unoliaethwyr yn San Steffan yn beth hynod gadarnhaol.  Ond mae hefyd yn bwysig bod dylanwad  unoliaethwyr y Cynulliad yn cael ei gryfhau ar draul unoliaethwyr San Steffan.  Un ffordd o wneud hyn ydi newid y cyd bwysedd niferol rhyngddynt.

Byddai cael mwy o aelodau yn y Cynulliad yn un ffordd o wneud hynny - a byddai cael llai o aelodau San Steffan yn ffordd arall.  Byddai cyfuniad o'r ddau yn well byth.  Dydi hi ddim yn gwneud synnwyr strategol i genedlaetholwyr Cymreig gefnogi cadw 37 o Aelodau Seneddol unoliaethol Cymreig yn San Steffan sydd yn amlach na pheidio efo nesaf peth i ddim i'w wneud ond cynllwynio sut i gadw cymaint a phosibl o rym yn eu sefydliad nhw. 

Tuesday, March 05, 2013

Oed y Cymry Cymraeg

Taenlen arall yn ymwneud a'r Cynulliad gan Ioan - ac un difyr  ydi hi hefyd.  Yr hyn mae wedi ei wneud y tro hwn ydi edrych ar oed cyfartalog oedolion Cymraeg eu hiaith o gymharu a rhai di Gymraeg.

Y peth cyntaf i'w nodi ydi bod oed cyfartalog Cymry Cymraeg ychydig yn is nag ydi oed y di Gymraeg.  Mae Ioan o'r farn mai dyma'r tro cyntaf erioed i hyn ddigwydd - a dwi'n siwr bod hynny yn gywir.  Yn wir mae'r Cymry Cymraeg yn ieuengach na'r di Gymraeg ym mhob man ond Abertawe, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Castell Nedd Port Talbot a Wrecsam.  Mae'r gwahaniaeth yn arwyddocaol iawn yn y De Ddwyrain.

Yng Ngwynedd yn unig aeth oedran y Cymry Cymraeg yn hyn, ac yng Nghaerfyrddin mae'r Cymry Cymraeg hynaf.  Aeth oedran y Cymry Cymreg tros Gymru i lawr 1.6  blwyddyn, er i oedran y di Gymraeg gynyddu 0.6 bl.



Monday, March 04, 2013

Goblygiadau buddugoliaeth i Lafur yn etholiad San Steffan 2015

Un peth sy'n dipyn o ddirgelwch i mi ydi'r gwahaniaeth anferth rhwng yr hyn sydd gan y polau piniwn i'w ddweud a barn y marchnadoedd betio ynglyn a chanlyniadau etholiad cyffredinol 2015.  Dydi'r marchnadoedd ddim yn ystyried y posibilrwydd o fwyafrif llwyr Llafur fawr cryfach na'r posibilrwydd o neb yn llwyddo i gael mwyafrif - fel yn 2010.

Eto - yn ol y pol YouGov diweddaraf y gallaf gael hyd iddo (Llaf 42%, Toriaid 32%, Lib Dems 12%), petai etholiad yn cael ei chynnal rwan byddai Llafur yn cael 379 sedd, y Toriaid 223 a'r Lib Dems 23.

Ymladdodd Llafur yr etholiad cyffredinol diwethaf yn erbyn storm gweddol berffaith - roeddent newydd wneud llanast llwyr o'r economi tra'n cael eu harwain gan yr arweinydd gwaethaf maent erioed wedi ei gael.  Bydd amgylchiadau 2015 yn llawer haws iddynt.  Mi fyddwn i'n rhyfeddu petai Llafur methu a chael mwyafrif llwyr ar eu pennau eu hunain.

Yn anffodus byddai hynny yn rhwym o arwain at gynnydd yn nifer yr Aelodau Seneddol Cymreig.  Dydi hegemoni Llafur ddim yn rhywbeth i'w groesawu - methiant economaidd parhaus a pharhaol ydi prif nodwedd yr hegemoni hwnnw.  Ond mae yna un cysur - a chysur go fawr.

Mae'r blog yma wedi dadlau yn y gorffennol bod yna gyfraith ddi feth i'w gweld yn hanes etholiadol diweddar Cymru.  Pan mae Llafur yn colli grym yn San Steffan mae'n adeiladu cefnogaeth etholiadol yn gyflym yng Nghymru, ac mae'r gefnogaeth honno yn amlygu ei hun ar pob lefel etholiadol.  Ond pan mae Llafur yn ennill grym yn San Steffan mae'n colli cefnogaeth etholiadol yng Nghymru - ac mae'n gwneud hynny yn eithaf cyflym hefyd.

Petai yna etholiad Cynulliad rwan yng Nghymru, byddai Llafur yn ennill.  Ond byddai buddugoliaeth i Lafur yn etholiadau San Steffan 2015 yn newid yr amodau etholiadol yng Nghymru yn llwyr erbyn 2016.  Byddai sefyllfa felly yn ei gwneud yn llawer, llawer mwy tebygol y gallai Plaid Cymru efelychu'r hyn ddigwyddodd yn 1998 a chynyddu ei phoblogrwydd a'i chynrychiolaeth ym Mae Caerdydd yn sylweddol.

Friday, March 01, 2013

Beth sydd gan Eastleigh i'w ddweud wrthym am Gymru

Ar un olwg ddim llawer - does yna ddim llawer o seddi cyfoethog sy'n ymylol rhwng y Lib Dems a'r Toriaid yng Nghymru.

Ond ac edrych tipyn yn fwy craff mae rhai o'r gwersi sydd wedi eu dysgu yn Lloegr yn berthnasol i Gymru hefyd:
  1. Ymddengys bod llawer o bobl yn cael cryn broblem pleidleisio i'r Toriaid - hyd yn oed pan roedd pethau yn mynd o'u plaid megis yn 2010.  Pan nad ydi amgylchiadau o'u plaid mae'r duedd yma'n mynd yn fwy trawiadol.
  2. Mae'r Toriaid yn agored iawn i golli pleidleisiau i UKIP.  Gallai hynny effeithio ar eu gobeithion o gadw y rhan fwyaf o'u seddi Cymreig.  Byddai gogwydd oddi wrth y Toriaid at Lafur yn ogystal a cholled pleidleisiau i UKIP yn farwol i'w gobeithion yn y bedair sedd a enillwyd gan Lafur yn 2010 (Gogledd Caerdydd, Aberconwy, Bro Morgannwg a De Penfro / Gorllewin Sir Gaerfyrddin).  
  3. Mor amhoblogaidd ag ydi'r Lib Dems mae yna lawer o bobl yn ei chael yn haws fotio iddyn nhw pan mai'r Toriaid ydi'r dewis amlwg arall.  Mae'r etholiad yma yn anarferol yn y ffaith bod y ddwy blaid oedd yn gyntaf ac yn ail mewn llywodraeth - dydi'r busnes 'is etholiad - pleidlais brotest' ddim yn gweithio.  Lle mai dewis Tori / Lib Dem fydd hi yn 2015 bydd y bleidlais Lib Dem yn anisgwyl o wydn.
  4. Er ei bod yn ymddangos bod y rhan fwyaf o seddi Lib Dem / Llafur yn siwr o gael eu colli, mae'n debygol bod cyfle da gan y Lib Dems i ddal y rhai Lib Dem / Toriaid.   Gweddol fach ydi mwyafrif Glyn Davies ym Maldwyn wrth gwrs - ac efallai nad ydi'r sedd yna mor saff i'r Toriaid a mae pawb wedi cymryd hyd yn hyn.