Thursday, September 06, 2018

Cais bach i aelodau’r Blaid

Yn hanesyddol dydi etholiadau arweinyddol heb fod yn brofiadau cadarnhaol iawn i bleidiau gwleidyddol yn y DU - na thu hwnt o ran hynny.  Yn wir mae rhai ohonynt wedi agor holltau sydd wedi diferu gwenwyn i mewn i gylchrediad pleidiau am flynyddoedd - neu ddegawdau.  Mae hyn wedi tueddu i fod yn arbennig o wir yng nghyd destun her i arweinydd cyfredol plaid.  Meddylier Heath / Thatcher neu Thatcher / Major er enghraifft.


Ond mae yna lawer mwy na hynny - ac nid yn hanes y Toriaid yn unig - roedd yr etholiad am is arweinyddiaeth y Blaid Lafur rhwng Tony Benn a Dennis Healy ymysg y gornestau mwyaf gwenwynig a chynhenus yn hanes gwleidyddiaeth y DU.  Mae’n debyg i ymdrechion dan din Harold Wilson i gymryd arweinyddiaeth Llafur oddi ar Gaitskell yn 1960 a’r dirprwy arweinyddiaeth oddi ar George Brown yn 1962 greu drwg deimlad wnaeth barhau am flynyddoedd - er i Wilson gael ei ffordd yn 1963 wrth gwrs.


Arweiniodd yr ornest ddiwethaf i’r Blaid yn 2012 yn anuniongyrchol at ymadawiad ei chyn arweinydd Dafydd Elis Thomas.  Wnaethom ni ddim dod allan o’r ymgais arweinyddol flaenorol i DET gymryd rhan ynddi  - yr un yn erbyn Dafydd Wigley yn 1991 - yn ddi graith chwaith.  


Mae’n cyfeillion Gwyddelig yn gwneud y pethau yma yn well na neb arall wrth gwrs.  Mae’n  debyg i un o’r nifer o geisiadau i ddiorseddu Charlie Haughey fel arweinydd Fianna Fail arwain at ymladd corfforol rhwng rhai o’i haelodau seneddol yng nghoridorau Dáil Éireann.  Holltodd y blaid yn fuan wedyn.


Rwan mae ymgyrchu negyddol yn anorfod mewn Etholiad Cyffredinol.  Mae’r dechneg o glustfeinio ar union eiriad rhyw wleidydd neu’i gilydd, dehongli’r hyn sydd wedi ei ddweud mewn modd sy’n gwneud i bwy bynnag sydd wedi eu llefaru ymddangos i gymryd safbwynt afresymegol neu amhoblogaidd a rhoi cyhoeddusrwydd i hynny yn rhan o wead etholiadau rhwng pleidiau gwahanol.  Dwi wedi ei wneud o fy hun - dwi ddim yn arbennig o gyfforddus pan dwi’n gwneud hynny - ond ‘does yna ddim llawer o ddewis pan mae pob plaid arall wrthi.


Mae moesoli  yn rhan o wleidyddiaeth etholiadol hefyd - gweld drygioni mawr yn safbwynt pobl eraill.  Dydi dweud bod y Toriaid yn ‘elynion y bobl’ - er ei bod yn ymddangos bellach na ddywedwyd y  geiriau yna- ddim yn rhoi unrhyw un y tu allan i werthoedd sifig arferol chwaith.


Mae plaid sy’n defnyddio ei grym llywodraethol i geisio gwneud trwch y boblogaeth yn dlotach am resymau sy’n ymwneud a’i gwleidyddiaeth mewnol ei hun yn elyn i drwch y boblogaeth.  Ffaith syml ydi o - os cafodd yr ymadrodd ei ddweud neu beidio.  Dyna sydd yn digwydd efo Brexit - mae’r llywodraeth Doriaidd yn gwybod gyda sicrwydd 100% y bydd Brexit yn gwneud y rhan fwyaf o bobl yn dlotach nag ydyn nhw rwan - ond mae nhw’n gwthio ymlaen efo’r peth beth bynnag.


Mae etholiad oddi fewn plaid yn wahanol.  Rydan ni wedi gweithio efo’n gilydd yn y gorffennol, a bydd rhaid i ni weithio efo’n gilydd yn y dyfodol.  Mae hyn yn arbennig o wir am blaid sydd a’i haelodaeth yn gymharol fach - rhywfaint i’r gogledd o 8,000.  Dylai natur sylfaenol etholiad mewnol fod yn wahanol i etholiad lle mai’r gwrthwynebwyr ydi cynrychiolwyr pleidiau eraill.  


Ar pob cyfri dylai cefnogwyr ganmol eu hymgeisydd eu hunain am ei agwedd tuag at Brexit, annibyniaeth, mwd niwclear neu beth bynnag.  Does yna ddim o’i le mewn honni bod barn un person yn rhagori ar farn y gweddill chwaith.  Does yna ddim o’i le mewn gwneud achos tros un ymgeisydd yn hytrach nag un arall chwaith.  Ond mae crafu o gwmpas am gyfle i gam gynrychioli agwedd a barn wleidyddol un neu fwy o’r ymgeiswyr eraill yn sylfaenol hunan niweidiol o safbwynt pleidiol.  


Felly - os gwelwch yn dda un ac oll - a gawn ni wneud hyn mewn ffordd gall a chwrtais?