Saturday, July 31, 2010

Ymadawiad Iona Jones

Mae'n drist nodi nad ydi S4C eisiau dweud wrthym pam bod eu cyn brif weithredwr, Iona Jones wedi ymddiswyddo.

Mi fyddai dyn wedi disgwyl y byddai corff sy'n derbyn £100,000,000 o bres y cyhoedd yn flynyddol yn teimlo'r angen i egluro ymddiswyddiad swyddog sy'n ennill £160,000 yn flynyddol o'r coffrau hynny. Ond ymddengys bod y cyhoedd yn ddigon da i ddarparu adnoddau ariannol i S4C, ond ddim digon da i gael gwybod pam bod prif weithredwr y corff hwnnw'n rhoi'r ffidil yn y to mor ddisymwth. Os 'dwi'n deall yn iawn, 'dydi o'n ddim byd o'n busnes ni.

'Dwi'n gweld _ _ _ 'dwi'n meddwl.

Cam arall ymlaen i sosialaeth


Diolch i PlaidWrecsam am y newyddion da o lawenydd mawr bod y Toriaid wedi dewis John Marek i sefyll trostynt yn Wrecsam. Chwi gofiwch bod John ddod i'r casgliad mai Forward Wales oedd y ffordd orau i hyrwyddo sosialaeth wedi i'r Blaid Lafur yn Wrecsam ei ddympio yn 2003.

Ymddengys ei fod bellach wedi dod o hyd i ffordd gwell fyth o hyrwyddo sosialaeth.

Friday, July 30, 2010

Pennaeth newydd i S4C


Arwel Ellis Owen ydi'r dyn i arwain S4C i dir yr addewid yn ol y Golwg 360. Yn ol yr un wefan mae Mr Owen hefyd yn arbenigwr ar Ogledd Iwerddon. Mae'r blog hwn eisoes wedi edrych ar 'arbenigedd' Mr Owen yn y maes hwnnw. Gobeithio bod ei allu i lywio sianel uwchlaw ei arbenigedd mewn materion Gwyddelig, neu fydd yna neb ond Arwel ei hun, rhyw hen ddynes sy'n byw yn Aberdaron a'i chi a'i chath yn gwylio'r peth erbyn y 'Dolig.

Thursday, July 29, 2010

Pwy fydd yn dioddef fwyaf yng Nghymru?

O farnu o hyn a hyn mae'n ymddangos bod y sector breifat yn y DU yn gyflym dynnu allan o'r dirwasgiad. Mae'r problemau mawr o hyd yn aros y sector gyhoeddus gan nad ydi mwyafrif llethol o toriadau mewn gwariant cyhoeddus wedi eu gweithredu eto. Mae sawl ffordd o fesur maint y sector gyhoeddus, ac un ffordd o wneud hynny ydi trwy ystyried pa ganran o'r gweithlu sy'n cael eu cyflogi yn y sector honno. Y cyfartaledd tros y DU ydi 21.1% - Fflint ydi'r unig ardal cyngor sir yng Nghymru sydd a llai na hynny yn gweithio yn y sector. Mae'r rhan fwyaf o ardaloedd cyngor sir gyda chanrannau sylweddol uwch na hynny. Fe'i rhestraf isod.

Dinbych 45%
Ceredigion 42%
Merthyr 39%
Abertawe 38%
Rhondda Cynol Taf 37%
Gwynedd 37%
Torfaen 36%
Conwy 35%
Caerfyrddin 35%
Bro Morgannwg 34%
Pen y Bont 34%
Mynwy - 34%
Powys 33%
Penfro 32%
Wrecsam 32%
Caerffili - 31%
Blaenau Gwent - 31%
Casnewydd 31%
Caerdydd 31%
Castell Nedd Port Talbot 31%
Ynys Mon 29%
Fflint 17%

Mae'n dilyn felly y bydd y blynyddoedd nesaf yn rhai hynod o anodd i Gymru, ac mae'r tabl yn rhoi syniad go lew i ni pwy fydd yn teimlo'r rhan fwyaf o'r boen - a phwy fydd yn dod ohoni ychydig yn well.

Data i gyd o Datablog.

Wednesday, July 28, 2010

Beth sydd yn debygol o'ch lladd chi?

'Dwi newydd ddod o hyd i flog eithaf rhyfeddol - ymdrech gan y Guardian o'r enw Datablog. Ymwneud a data mae'r blog fel mae'r enw yn ei awgrymu - ac mi gewch ddata yn ymwneud a phob pwnc dan haul yno. Cymerer y blogiad yma sy'n datgelu sut mae pobl yn marw er enghraifft.

Ymddengys bod mwy o bobl yn marw trwy syrthio i lawr y grisiau (642) nag ydynt o farw trwy or ddosio ar gyffuriau (580). Mi'r rydych yn llawer mwy tebygol o farw yn syrthio o ben ysgol (60) nag ydych o syrthio yn ddamweiniol o ben clogwyn (5) - bu farw'r un faint trwy beidio a bwyta digon. Isel iawn ydi'r tebygrwydd o foddi mewn pwll nofio (5), ond mae mwy yn boddi yn y bath (22). Mae mwy yn crogi eu hunain yn ddamweiniol (253) na sy'n gwenwyno eu hunain trwy gymryd gormod o alcohol (170). Lladdwyd tri o gerddwyr o ganlyniad o gael eu tarro gan feics, ond ni laddwyd neb gan lygoden fawr. Lladdwyd mwy eto (366) ar law eu llawfeddygon. Lladdwyd 2 gan wenyn, ond ni laddwyd neb gan fellten. Bu farw 176 o ganlyniad i dagu ar eu bwyd ond dim ond 112 fu farw'n syrthio oddi wrth adeiladau tra bu farw mwy na'r oll o'r uchod efo'i gilydd trwy ei law ei hun (3,438).

Yr hyn sy'n llai diddorol ond yn bwysicach yn y bon ydi mor ragweladwy ydi achosion marwolaeth pobl. Mae tua hanner miliwn yn marw yn flynyddol yn y DU, ac mae mwyafrif llethol o'r rheini yn marw o'r un pethau - afeiechydon yn ymwneud a chylchrediad, cancr neu anadlu sy'n lladd tua 70% o bobl. 3% yn unig sy'n marw o ganlyniad i unrhyw beth ag eithrio afiechyd naturiol. 'Dydi'r pethau sy'n poeni llawer o bobl ddim yn debygol o'u lladd nhw - llofruddiaeth, damweiniau car, damweiniau awyren, gor ddefnydd o gyffuriau ac alcohol, boddi, dal afiechydon heintys, mellt, anifeiliaid gwyllt.

Ond 'tydi ystadegau yn bethau rhyfeddol dywedwch?

Seimon i Lais Gwynedd?

Mae helynt Gwilym Euros yn hen hanes bellach wrth gwrs, ond un agwedd ar y mater sydd heb gael fawr o sylw ydi pwy mae Llais Gwynedd am ei gael yn ymgeisydd ar gyfer Meirion Dwyfor yn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf. 'Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud bod Gwilym wedi ymddiswyddo'r ymgeisyddiaeth yn dilyn yr helynt, er na fyddai mewn sefyllfa i sefyll beth bynnag wrth gwrs - dydi hi ddim yn bosibl sefyll o'r carchar mewn etholiadau ym Mhrydain ers yr 80au cynnar pan newidwyd y rheolau i atal carcharorion Gwyddelig rhag cael eu hethol i San Steffan.



Hyd yn hyn mae'r ymgeisyddiaeth wedi bod yn wag. Serch hynny mae yna sibrydion o gwmpas y bydd y dewis yn cael ei wneud yn fuan, ac yn ol y sibrydion hynny y Cynghorydd Seimon Glyn fydd y dewis hwnnw. 'Dydw i ddim mewn sefyllfa i farnu os ydi'r genadwri yn wir wrth gwrs, ond mi fyddai'n ddewis diddorol ar sawl cyfri.

Monday, July 26, 2010

Helynt H M Stanley

'Dwi'n rhyw ddeall bod yna ychydig o ffrae wedi codi ochrau Dinbych ynglyn a chodi cerflun o H M Stanley. Ymddengys bod rhai yn poeni y byddai braidd yn ddi chwaeth codi cerflun o ddyn sydd wedi ei gysylltu a gwahanol erchyllderau yn y Congo. 'Dydw i ddim ddim yn gweld hyn yn beth arbennig o rhyfedd a dweud y gwir - mae'r DU yn llawn hyd yr ymylon o gerfluniau o bobl a fyddai heddiw yn cael eu hystyried yn droseddwyr rhyfel. Amgaeaf sampl fechan.



'Bomber' Harris - gollwng 1.7 miliwn tunnell o ffrwydrolion ar ddinasoedd yr Almaen a lladd tua 350,000 o sifiliaid yn bennaf. Roedd y ddiweddar Fam Frenhines yn ddigon hapus i fynd i'r seremoni ddadorchuddio.



Oliver Cromwell - lladd llawer o boblogaeth dinasoedd Wexford a Drogheda yn ogystal ag estraddodi efallai 50,000 o ddynion, merched a phlant o'r Iwerddon fel caethweision i'r Caribi.


Richard the Lionheart - llofruddio 2,700 o garcharorion Mwslemaidd wedi iddo gymryd dinas Acre ym 1191.



Walter Raleigh - cymryd rhan mewn dwy gyflafan enwog yn Rathlin Island a Smerwick. Lladdwyd 600 o ddynion, merched a phlant oedd yn perthyn i'r Clann Macdonald yn Rathlin wedi iddynt ildio. Lladdwyd y rhan fwyaf trwy eu taflu o ben clogwynni.




Francis Drake - mor ladrata a chymryd rhan yn y digwyddiad bach anffodus yn Rathlin Island y cyfeirwyd ato uchod.

Fyddwn i ddim eisiau cysylltu fy hun yn bersonol efo'r cerflun i Stanley wrth gwrs, ond y ffaith amdani mae gen i ofn ydi bod hanes datblygiad Prydain i wladwriaeth ac yna ymerodraeth yn un hynod anymunol sy'n gyforiog a phenodau o dywallt gwaed sylweddol. Mae'n amhosibl dathlu'r hanes hwnnw heb ddathlu'r penodau bach anymunol hynny hefyd.

Sunday, July 25, 2010

Fideos gwleidyddol yr haf 4 - Byd y Gombeen

'Dwi wedi son rhyw ychydig ar y blog yma ac ar flog Vaughan yn ddiweddar am wleidyddiaeth y gombeen. Mae lleiafrif da o aelodau'r Dail yn bobl y gallwn eu disgrifio fel gombeen. Y mwyaf lliwgar o'r rhain ydi TD annibynnol o South Kerry o'r enw Jackie Healy Rae. Gobeithio bod yr isod yn ffenestr fach ddiddorol i chi ar fyd lliwgar y gombeen gwleidyddol.

Fideo o Jackie yn derbyn enwebiaeth ei gefnogwyr i sefyll yn etholiad 2007 ydi'r cyntaf.



Jackie yn delio efo'r wasg yn ei ffordd ddihafal ei hun:






Jackie yn gadael swyddfeydd y llywodraeth wedi gwasgu rhyw gonsesiwn neu'i gilydd o'u crwyn:



'Dwi'n cymryd mai rhywun sydd o blaid priodas sifil yn dychanu Jackie yn hytrach na darllediad gwleidyddol gan Jackie ydi'r nesaf.



Darn arall o ddychan (gobeithio) sy'n cyfeirio at y ffaith bod y llwyth Healy Ray i gyd yn gwisgo capiau - gan gynnwys Danny a Michael sy'n gynghorwyr yn South Kerry.



Jackie yn gwneud yr hyn mae'n ei wneud orau - crafu am bleidleisiau - mewn ras beics y tro hwn.

Saturday, July 24, 2010

Y cwymp yng nghefnogaeth y Lib Dems ac etholiadau'r Cynulliad

Mae'r blog yma wedi nodi (mewn ffordd ychydig yn sbeitlyd efallai) bod y Lib Dems yng Nghymru pob amser yn cael un sedd yn fwy na'r isafswm posibl y byddai'n bosibl iddynt ei gael mewn etholiad Cynulliad. Y nifer gwaethaf posibl mae'n debyg i 'brif' blaid fyddai 5 - un sedd ranbarthol o pob rhanbarth. Chwech fydd y Lib Dems yn ei gael pob tro. Ond ydi hyn yn wir? Mae'r polau diweddaraf yn awgrymu bod y gefnogaeth i'r Lib Dems wedi chwalu ers iddynt gael eu hunain yn rhannu gwely efo'r Toriaid yn San Steffan. Roedd YouGov yn ddiweddar yn awgrymu mai 13% o etholwyr y DU sy'n eu cefnogi bellach. 23% oedd y lefel (Prydeinig) ym mis Mai a 22% yn 2005. Ychwaneger at hyn y ffaith bod y Lib Dems wastad yn perfformio'n gryf mewn etholiadau cyffredinol a lleol ond yn sal mewn rhai Ewrop a Chynulliad ac mae'n dechrau ymddangos bod problemau go iawn ar y gorwel.

Ystyrier y ffigyrau hyn. Yn etholiad cyffredinol 2005 cafodd y Lib Dems 22% o'r bleidlais tros Brydain ac 18.4% yng Nghymru. Cyfieithodd hyn i 14.8% yn etholiadau'r Cynulliad yn yr etholaethau ac 11.7% ar y rhestrau yn 2007. Hynny yw roedd y Lib Dems yng Nghymru yn cael 83% o'r hyn y cafodd y blaid tros Brydain yn ei gael yn 2007, ac roeddynt yn cael 80% o hynny yn etholiadau'r Cynulliad yn yr etholaethau a 63.5% ar y rhestrau. 'Dwi'n gwybod bod hyn yn beth peryglus i'w wneud - ond os cymerwn bod cefnogaeth y Lib Dems tros Brydain bellach yn tua 15% (fel mae'r polau yn awgrymu), yna byddai'r gefnogaeth yng Nghymru yn 12.45% (mewn termau San Steffan). A chymryd mai tua 80% ar lefel etholaethol a 63% ar y rhestrau o hynny all y Lib Dems ei ddisgwyl ar lefel Cynulliad, yna byddai eu canran o gwmpas 10% yn yr etholaethau ac 8% ar y rhestrau. 'Dydi hyn ddim yn uchel.

Mi fyddai perfformiad felly (petai'r cwymp yn unffurf) yn hawdd yn gallu arwain at golli sedd y Lib Dems yn rhanbarth y Gogledd, er y dylai'r ddwy sedd ranbarthol arall - yn y De Dwyrain a'r Gorllewin De Cymru fod yn eithaf diogel. Eto a chymryd cwymp unffurf mi fyddai sedd uniongyrchol Kirsty Williams ym Mrycheiniog a Maesyfed, mewn perygl gwirioneddol ac mi fyddai Trefaldwyn yn siwr o syrthio. Petai'r ddwy yn syrthio mae'n sicr y byddai'r Lib Dems yn ennill sedd ranbarthol. I lawr yng Nghanol Caerdydd mi fyddai'n rhaid i Nigel Howells (sy'n sefyll yn lle Jenny Randerson) weddio na fyddai'r 3,500 i 4,000 o bleidleisiau mae'n debygol o golli yn mynd yn uniongyrchol i Lafur - er efallai y gall ddisgwyl pleidleisiau tactegol gan y Toriaid yma, a byddai colli'r sedd yn arwain at ennill un ranbarthol beth bynnag.

Felly mae pob un o'u seddi mewn perygl mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ag eithrio rhai Peter Black a Mrs German. Mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf y bydd yna dipyn o graffu ar y polau ymysg Lib Dems Cymru tros y misoedd nesaf.

STV

Mae yna fymryn o drafodaeth draw ar flog Vaughan ynglyn a'r dull pleidleisio STV (neu a bod yn fwy manwl efallai STV etholaethau aml aelod). Mae'r blog yma, ynghyd a nifer o ffynonellau eraill, wedi argymell y dull hwn ar gyfer etholiadau Cynulliad yn y dyfodol. Mae Vaughan wedi magu rhai amheuon ynglyn a'r dull yn sgil darllen llyfr o'r Iwerddon o'r enw The Ship of Fools. Yn yr Iwerddon mae'r dull yn cael ei ddefnyddio amlaf (Gyda llaw Prydain 'roddodd' y dull i Iwerddon yn nyddiau olaf eu dylanwad yn y wlad honno).

Efallai y dyliwn gychwyn trwy rhoi eglurhad brysiog o sut mae'r dull yn gweithio. Mae i pob etholaeth fwy nag un aelod (3-5 yn achos etholiadau Dail Eireann yn Ne Iwerddon, 6 yn achos etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon). Caiff yr etholwr bleidleisio i gymaint, neu gyn lleied o ymgeiswyr ag mae eisiau, ond rhaid gwneud hynny mewn trefn - 1,2,3,4 ac ati. Y bleidlais gyntaf a gyfrifir yn gyntaf. Os, o gyfri'r pleidleisiau cyntaf, bod un ymgeisydd yn cyrraedd y trothwy i gael ei ethol (quota) yna fe'i etholir. Mae union faint y trothwy yn ddibynnol ar sawl sedd sydd i'w dyrannu - os mai tair sydd ar gael mae'r trothwy yn 25% + 1, os mai 4 mae'n 20% + 1, os yw'n 5 mae'n tua 16.5% + 1, ac os yw'n 6 mae'n tua 14.5% + 1. Gellir gweld esiampl o'r dull cyfri mewn etholaeth 5 sedd (Dun Laoghaire) yma.

Gyda bod rhywun wedi cyrraedd y trothwy bydd ei bleidleisiau ychwanegol (hy y nifer sy'n uwch na'r trothwy) yn cael eu dosbarthu (yn unol a'r ail ddewis). Os nad oes rhywun yn cyrraedd y trothwy wedi rownd o gyfri, bydd yr ymgeiswyr ar y gwaelod yn cael eu tynnu allan a bydd eu hail (neu drydydd) pleidleisiau yn cael eu dosbarthu. Bydd y broses yma'n mynd rhagddi, tan y bydd pob sedd wedi ei llenwi - gan amlaf trwy gael y nifer anghenrheidiol o ymgeiswyr yn cyrraedd y trothwy. O ganlyniad bydd pob etholaeth efo mwy nag un aelod. Gall nifer o'r aelodau fod o'r un plaid (mae 5 o 6 aelod Cynulliad West Belfast yn perthyn i Sinn Fein er enghraifft), neu gall pob un fod o bleidiau gwahanol (mae 4 aelod Dublin Mid West yn perthyn i bleidiau - Fianna Fail, Y Blaid Werdd, y PDs a Llafur).

Rwan, does yna ddim gold standard o ran systemau pleidleisio - mae i pob un ei manteision a'i anfanteision - neu mi fyddai pawb yn defnyddio'r un drefn. Rhestraf manteision ac anfanteision STV isod:

Anfanteision
  • Cymhleth - i'r sawl sy'n cyfri o leiaf.
  • Ddim yn gwbl gyfrannol. Mae tua 45% o'r bleidlais fel rheol yn ddigon i Fianna Fail ennill grym ar ei phen ei hun.
  • Mae yna dueddiad (yn Ne Iwerddon, ond nid yn y Gogledd) i ethol math arbennig o ymgeisydd - person sy'n dda iawn am sortio problemau unigolion a sydd a chysylltiadau eang yn lleol, ond nad yw o anghenrhaid yn dda i ddim am unrhyw beth arall. Gombeen man.
  • Llai o debygrwydd o lywodraeth un plaid (credwch neu beidio mae yna rai sy'n ystyried hyn yn anfantais).
Manteision

  • Mwy cyfrannol, ac felly mwy teg na'r drefn bresenol.
  • Pleidlais neb (bron) yn cael ei gwastraffu - mae pleidlais y rhan fwyaf o bobl (hy pawb sydd yn pleidleisio i rhywun na enillodd) o dan ein trefn ni. A dweud y gwir mae pleidlais ambell un wedi cael ei gwastraffu ym mhob etholiad trwy ei fywyd.
  • Cysylltiad yn cael ei gadw rhwng aelodau ac etholaethau unigol. Mae'r cysylltiad hwn yn cael ei wanhau neu ei dorri mewn llawer o gyfundrefnau cyfrannol.
  • Mae'n grymuso'r etholwyr ar draul pleidiau gwleidyddol. Er enghraifft o dan y gyfundrefn sydd gennym yn y Cynulliad mae pwyllgor rheoli'r Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi dewis ar ran yr etholwyr pwy fydd pedwar o aelodau nesaf y Cynulliad. Mae'n llawer mwy anodd sarhau'r etholwyr yn y ffordd yma o dan STV gan bod mwy nag un ymgeisydd o'r un blaid yn sefyll yn aml. Mae pob etholiad yn Ne Iwerddon yn gyforiog efo ymgeiswyr sy'n cael eu ffafrio gan y sefydliadau pleidiol yn colli i rai (o'r un plaid) sy'n boblogaidd yn lleol.
  • Elegant o safbwynt mathemategol (OK 'dydi hyn ond o ddiddordeb i anoracs megis fi).
  • Mae'n sicrhau mwy o amrywiaeth o ran y pleidiau sydd ar yr arlwy i'r etholwyr. Mae pleidiau yn fwy tebygol i ffurfio a sefyll os ydi'r trothwy ar gyfer sicrhau cynrychiolaeth etholedig yn gymharol isel.
  • Mae'n ei gwneud yn fwy tebygol bod safbwyntiau gwleidyddol lleiafrifol yn cael cynrychiolaeth senrddol. Er enghraifft ceir 5 TD Gwyrdd yn y Dail (Senedd De Iwerddon) allan o tua 150 aelod. Un aelod Gwyrdd a geir yn San Steffan (o tua 650 aelod), ac eleni ydi'r tro cyntaf i hynny erioed ddigwydd.
  • Does yna ddim o'r fath beth a sedd saff gan amlaf - mae'n rhaid i dri aelod Fianna Fail mewn cadarnle fel Laois-Offaly weithio'n galed am eu bod yn gwybod y bydd yna bedwar ar y rhestr yn yr etholiad nesaf. Gall pobl bleidleisio yn eu herbyn nhw yn bersonol heb beidio a phleidleisio i'r blaid.
  • Mae'n gwneud diwrnod y cyfri yn wirioneddol gynhyrfus. Gan bod pob rownd o gyfri yn cael ei ddatgan yn unigol gellir barnu ym mhle mae pawb o gymharu a'i gilydd.

Thursday, July 22, 2010

Is etholiad arall yn y Blaenau!


Felly mae yna sylwedd i'r sibrydion sydd wedi bod ar led tros y dyddiau diwethaf, ac mae cynghorydd Llais Gwynedd arall o Flaenau Ffestiniog wedi ymddiswyddo. Dafydd Hughes, Bowydd a Rhiw y tro hwn. Mi fydd yna is etholiad mewn dau neu dri mis yn ol pob tebyg.

Mae yna gryn ddarogan y byddai hyn yn digwydd ers cwpl wythnosau, ac mae yna nifer o sibrydion ynglyn a'r rheswm tros yr ymddiswyddiad. 'Dydw i ddim yn bwriadu eu trafod yma mae gen i ofn. Os ydynt yn wir byddant yn cael eu gwyntyllu yn y cyfryngau prif lif maes o law, ac os nad ydynt, busnes Dafydd Hughes yn unig ydi'r rheswm am y penderfyniad.

Wednesday, July 21, 2010

Fideos yr haf 3

Un arall o archif Blogmenai - y fideo propoganda gwaethaf yn hanes gwleidyddiaeth Cymru - neu unrhyw wlad arall yn ol pob tebyg. Ymdrech Aneurin Glyndwr ac Eluned Morgan i gychwyn ymgyrch etholiadau Ewrop 2009 gyda thipyn o glec. Mwynhewch.

Tuesday, July 20, 2010

John Dixon (yr un Lib Dem) a'i broblem fach grefyddol


Ymddengys bod y Cynghorydd Lib Dem o Gaerdydd, John Dixon mewn mymryn o ddwr poeth efo'r Ombwdsman llywodraeth leol am gyfeirio at yr Eglwys Scientoleg fel un stupid. Mi gewch chi benderfynu pa mor afresymol ydi canfyddiad John, a pha mor briodol ydi o i'r Ombwdsman wario pres y cyhoedd yn ymchwilio i'r mater.



Awdur oedd yn yfed i raddau ychydig yn ormodol o'r enw L Ron Hubbard ydi tad, mam, nain a thaid y lobs sgows o syniadau yma. Mae'n debyg iddo gymryd bet tra yn ei ddiod y gallai greu 'crefydd', cael hanner Hollywood i gredu ynddo a thaflu pres i'w gyfeiriad. Enilliodd y bet.

Dyma'r fytholeg sydd y tu ol i'r crefydd yn fras:

Roedd yna broblem gor boblogi mewn rhyw blaned neu'i gilydd felly dyma'r prif ddyn, Xenu yn mynd a llawer o'r bobl oedd yn ormodol yno i'r Ddaear cyn mynd ati i'w chwythu i abergofiant gyda bomiau niwclear mewn ogof. Yn naturiol ddigon dihangodd eu heneidiau, a adwaenir fel Thetans, ond roedd Xenu gam o'u blaenau - llwyddodd i'w dal nhw i gyd mewn 'magl eneidiau', a'u gorfodi i wylio ffilmiau propoganda. O ganlyniad i edrych ar y dywydiedig ffilmiau daeth y Thetans druan i gredu mewn Duw, Iesu Grist a'r Diafol ac maent o gwmpas y lle i gyd yn ceisio gweithio eu ffyrdd i mewn i'n cyrff mewn clystyrau gan achosi pob math o broblemau anymunol i ni oll. Yr ateb i'r holl broblemau a achosir gan hyn ydi rhywbeth o'r enw Dianetics - cysyniad nad oes gan Flogmenai yr ynni i'w drafod yr amser yma o'r nos.

Fideos gwleidyddol yr haf 2

Fideos yn ymwneud a digwyddiadau yn Chile yn 1973 sydd gen i heddiw.

Delweddau wedi eu gosod at ei gilydd i eiriau olaf Salvador Allende a draddodwyd i'r wlad ar y radio fel roedd y lluoedd diogelwch yn ymosod ydi'r fideo cyntaf. Mae'r delweddau yn dangos yn bennaf seremoni urddo Allende yn arlywydd ynghyd a digwyddiadau yn ystod coup detat y fyddin, ac yn arbennig yr ymysodiadau gan y llu awyr ar, La Mondea - y Palas Arlywyddol a arweiniodd at farwolaeth Allende - er yn ol pob tebyg hunanladdiad oedd achos y farwolaeth. Sylwer fel mae Allende eisoes yn cyfeirio ato ei hun yn y gorffennol.





Arlywydd arall, Richard Milhous Nixon oedd yn ysgwyddo llawer o'r gyfrifoldeb am yr hyn ddigwyddodd. Buddsoddwyd $10,000,000 gan lywodraeth America yn ystod yr ymgyrch arlywyddol (yn Chile) ym 1970 yn ceisio sicrhau na chai Allende ei ethol. Mae'n weddol sicr i'r CIA geisio dwyn perswad ar luoedd arfog Chile i ymosod ar y strwythurau democrataidd a dod a'r llywodraeth i lawr cyn yr urddo arlywyddol, er i'r rheiny wrthod ar y cychwyn.

O fethu gwneud hynny aethwyd ati i geisio dwyn perswad ar y senedd i gymeradwyo arlywyddiaeth Allende, ond unwaith eto methiant oedd hynny. Aeth llywodraeth Nixon ati wedyn i ariannu streic gan yrrwyr loriau - rhywbeth a ddisefydlogodd y wlad yn sylweddol. Er nad oes yna amheuaeth i'r CIA geisio sicrhau coup yn 1970, 'does yna ddim prawf bod eu dylanwad mor uniongyrchol yn 1973 - er bod yna lawer iawn o amheuon. Gwyddir i Kissinger honni i'r UDA greu yr amgylchiadau priodol ar gyfer coup 1973, ond nad oeddynt wedi bod a chysylltiad uniongyrchol a'r digwyddiad. Mae'n debyg nad oes rhaid i mi nodi eironi'r ffaith bod llywodraeth Weriniaethol, Americanaidd wedi tanseilio llywodraeth ddemocrataidd trwy hyrwyddo streiciau ac ymyraeth milwrol er mwyn sefydlu unbeniaeth neo ffasgaidd.

'Dwi wedi dangos y fideo nesaf o'r blaen - teyrnged hyfryd y canwr Gwyddelig, Christy Moore i'r canwr Chileaidd, Victor Jara a arteithwyd ac a laddwyd ynghyd a miloedd o bobl eraill gan y fyddin yn y cyfnod wedi'r coup.



Fideo o ail gynhebrwng Jara ydi'r olaf. Cafodd ei gorff ei godi o'i fedd yn 2009 fel rhan o'r broses o hel tystiolaeth er mwyn dod a chyhuddiadau yn erbyn milwr o'r enw José Adolfo Paredes Márque mewn cysylltiad a'r llofruddiaeth. Fe'i ail gladdwyd yn yr un man yn dilyn hynny.

Monday, July 19, 2010

Y broblem i Lafur

Mae'r blog yma wedi nodi sawl gwaith mai'r peth gorau all ddigwydd i Lafur yng Nghymru ydi colli grym yn San Steffan. Yn hanesyddol mae'r Blaid Lafur Gymreig wedi adeiladu eu cefnogaeth yng Nghymru pan nad ydynt mewn grym yn Llundain.

Yn sgil colli ar lefel Brydeinig, mae'r Blaid Lafur yma yn llawn hyder, mae eu haelodaeth wedi cynyddu, maent wedi gwneud yn dda yn yr ychydig is etholiadau cyngor sydd i'w ers yr Etholiad Cyffredinol, ac mae'r dystiolaeth polio sydd ar gael yn argoeli'n dda iddynt. Maent yn siwr o fod yn llawn gobaith o gael rheoli ar eu pennau eu hunain wedi Etholiad y Cynulliad, yn union fel y gwnaethant o 2003 i 2007. Ond eu problem fawr ydi'r gyfundrefn etholiadol sydd gennym yng Nghymru - ac yn arbennig y gyfundrefn aelodau ychwanegol. Mae'r blog yma wedi nodi gwrthwynebiad llwyr i'r gyfundrefn honno ar sawl achlysur, ac mae'n eironig am wn i mai'r gyfundrefn honno ydi'r unig beth all gadw'r Blaid mewn grym y tro nesaf. Mae'n eironi ychwanegol mai cyfundrefn a gafodd ei chyflwyno gan y Blaid Lafur Brydeinig ydi hi.

Y broblem yn sylfaenol i Lafur ydi hyn - mae'n ddifrifol o anodd iddynt ennill seddi rhestr. Ar hyn o bryd mae ganddynt ddwy - ac mae'r rheiny yn y Canolbarth a'r Gorllewin. Joyce Watson ac Alun Davies ydi'r rheiny. Mi fydd yn anodd iddynt wella ar y perfformiad yna ar lefel rhanbarthol, a gallai llwyddiant yn Llanelli neu Benfro arwain at ostyngiad yn y gynrychiolaeth eisoes dila yma. Yn y bon, i fod yn siwr o ennill yn glir mae'n rhaid i Lafur sicrhau o leiaf 30 sedd ar lefel cetholaethol. Yn Etholiad San Steffan 2010 cawsant 26, ac yn Etholaethau'r Cynulliad 2007 cawsant 24. Eu llwyddiant mwyaf yn hanes y Cynulliad oedd 2003 - ond hyd yn oed yma, ei chrafu hi a wnaethant gyda 30 sedd - pob un yn sedd etholaethol.

Felly mae'n rhaid iddynt ennill seddi nad ydynt yn eu dal ar lefel Cynulliad na San Steffan ar hyn o bryd. Gallwn ddiystyru nifer cyn cychwyn. 'Dydi hi ddim yn bosibl i Lafur ennill yr un o'r seddi gwledig iawn yng Nghanolbarth Cymru - Dwyfor / Meirion, Ceredigion, Trefaldwyn a Brycheiniog a Maesyfed. Tra eu bod wedi cynrychioli tair ar lefel San Steffan, mae hynny yn y gorffennol pell, pan oedd y tirwedd gwleidyddol yn dra gwahanol. 'Dydyn nhw ddim yn gystadleuol yn y rhain. Daw hyn a ni at uchafswm o seddi uniongyrchol o 36.

Categori arall o seddi ydi rhai gorllewinol sy'n cael eu dal gan Blaid Cymru, ond lle mae Llafur o leiaf yn gystadleuol - Ynys Mon, Arfon, Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr a Llanelli. Mae dwy o'r rhain - Arfon, a Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr yn nwylo'r Blaid ar lefel San Steffan hefyd, ac mae'n anodd iawn dychmygu Llafur yn ennill y rheiny. Mi fydd canran pleidlais y Blaid bron yn ddi eithriad yn well mewn etholiad Cynulliad nag un San Steffan, ac mae'r mwyafrifoedd ar lefel Cynulliad yn sylweddol iawn. Daw hyn a'n huchafswm i 34.

Llafur sy'n dal Llanelli ac Ynys Mon ar lefel San Steffan, ac mi fyddant yn fwy gobeithiol ynglyn a'r rhain mi dybiwn i. Fodd bynnag, mae ganddynt fynyddoedd i'w dringo yma hefyd. Mae'r ddau aelod Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, a Helen Mary Jones yn adnabyddus iawn yn genedlaethol ac yn lleol. Does gan Ynys Mon fawr ddim hanes o daflu cynrychiolydd sydd eisoes wedi ei ethol o'i sedd, a byddai Llafur angen gogwydd o 11%. Mae gogwydd felly yn hynod anarferol. Byddant angen 7% o ogwydd yn Llanelli - mae hynny'n fwy posibl, ond dydw i ddim yn disgwyl iddo ddigwydd. Er nad enilliodd y Blaid yn yr etholiad San Steffan eleni, roedd yna ogwydd digon iach tuag atynt o gymharu a'r un blaenorol, ac mae pob etholiad diweddar yn yr etholaeth wedi gweld gogwydd tuag at y Blaid o gymharu a'r un cyferbyniol blaenorol. Felly os ydi ein damcaniaethu yn gywir, mae'r uchafswm bellach yn 32.

Perfformiodd Llafur yn well na'r disgwyl yn Aberconwy eleni - ond eto trydydd digon gwael oeddynt yn 2007 a'r Toriaid a enillodd eleni. Mae'r ogwydd oddi wrth Plaid Cymru sydd ei angen yn sylweddol (8.5%) ac mi fydd y ffaith bod y Blaid mewn clymblaid efo Llafur yng Nghaerdydd am ei gwneud yn haws i'r Blaid gadw'r Llafurwyr hynny sydd wedi pleidleisio'n dactegol iddi. Brwydr agos rhwng y Blaid a'r toriaid fydd hon - mae'n anodd dychmygu Llafur yn cael eu trwynau i mewn. A dyna ni ar 31.

Mae yna nifer o seddi Toriaidd y bydd Llafur yn eu llygadu - Caerfyrddin / De Penfro - mae Angela Burns yn eithaf anobeithiol, ac mae ei mwyafrif yn fach iawn, er mai ras tair ffordd fydd hon. Er bod mwyafrif Jonathan Morgan i'r Ceidwadwyr yng Ngogledd Caerdydd yn edrych yn un parchus iawn, mae'r ffaith i Julie Morgan ddod mor agos i ddal y sedd eleni yn awgrymu bod gan Lafur obaith go iawn yma 'dydi'r Toriaid methu cymryd yn ganiataol eu bod am wneud yn well ar lefel Cynulliad na mewn etholiad San Steffan fel Plaid Cymru. Mae mwyafrif o 11% gan Paul Davies yng Ngogledd Penfro Preseli, sydd yn ei gwneud yn enilladwy i Lafur, ac mae 7% Darran Millar yng Ngorllewin Clwyd hefyd yn llai na chyfforddus. Serch hynny mae Nick Ramsay yn edrych yn gwbl ddiogel ym Mynwy, ac felly hefyd Jenny Randerson yng Nghanol Caerdydd - er bod rhywbeth yn dweud wrthyf bod dyddiau'r Lib Dems o gael pethau'n hawdd yma ar ddod i ben. Felly dyna ni ar 29. Os ydi'r damcaniaethu yn gywir byddai Llafur bellach angen o leiaf un sedd ranbarthol - a byddant yn debygol yn y Canolbarth a'r Gorllewin, hyd yn oed pe byddai'r ddwy sedd Sir Benfro wedi cwympo.

Felly, mae'n bosibl i Lafur ennill mwyafrif llwyr, ond mae'n anodd - a byddai'n rhaid i bob dim fynd o'u plaid ar y diwrnod. (hyd yn oed wedyn byddai'n rhaid i Lafur beidio a cholli unrhyw un o'u seddi eu hunain, a gallai hynny'n hawdd ddigwydd - mwy am hyn eto). 'Dwi'n mawr obeithio na fydd hynny yn digwydd - y blynyddoedd pan oedd Llafur yn rheoli ar ei phen ei hun oedd y rhai gwaethaf o ran llywodraethiant Cymru ers sefydlu'r Cynulliad. Dyma'r blynyddoedd pan grwydrodd gwariant cyhoeddus yng Nghymru oddi wrth ei bwrpas creiddiol a thuag at gwahanol ffads Llafuraidd. Mae'n bwysig nad ydi hynny'n digwydd eto mewn cyfnod o gynni.

Diweddariad: Gweler sylwadau Voughan draw ar ei flog. Diddorol fel arfer.

Sunday, July 18, 2010

Fideos gwleidyddol yr haf - 1

Mae'r haf yn ddistaw o safbwynt gwleidyddiaeth, a thra fy mod yn bwriadu parhau i flogio yn y ffordd arferol 'dwi'n rhyw fwriadu gwneud rhywbeth 'dwi wedi dechrau ei wneud sawl gwaith yn y gorffennol - dangos fideos gwleidyddol.

Trail of Tears ydi'r gyntaf - mae'r gan yn un hyfryd er nad ydw i'n rhy siwr pwy sy'n canu'r fersiwn ymaf - ond mae'n un hardd.

Y Trail of Tears gwreiddiol wrth gwrs oedd y term am symud aelodau llwythi'r Cherokee, Creek, Seminole, a Choctaw o'u tiroedd brodorol i diriogaethau artiffisial yn ystod yr 1830au. Proses a arweiniodd at farwolaeth llawer ohonynt.

Thursday, July 15, 2010

Llais Gwynedd yn cadw sedd Gwilym Euros

Deallaf bod ymgeisydd Llais Gwynedd wedi cadw sedd Diffwys a Maenofferen i'r grwp sydd wedi bod yn ddi gynghorydd am gyfnod yn sgil ymddiswyddiad diweddar Gwilym Euros Roberts.

Richard LLOYD-JONES Llais Gwynedd 185

Paul Eurwel THOMAS Plaid Cymru 181

Wednesday, July 14, 2010

Ymweliad a Swyddfa'r Heddlu

Mi gefais fy hun yng ngorsaf yr heddlu, Caernarfon heddiw. Dim byd rhy ddifrifol i chi gael dallt, ond roedd rhaid i mi fynd a fy nhrwydded i'r lle oherwydd i mi gael copsan ddydd Sul yn gor yrru ar ffordd osgoi Llanidloes wrth wneud fy ffordd adref o briodas yng Nghaerdydd. Yn ol yr heddwas mae yna nifer o geir heddlu ar hyd ar A470 o Lanidloes i Gaerdydd ar ddyddiau Sul oherwydd bod llawer o feicwyr o Dde Cymru a Chanolbarth Lloegr yn ymgynyll ar Fannau Brycheiniog. Ymddengys bod y cyfryw bobl efo enw drwg am yrru fel cathod i gythral. Felly os ydych yn cael eich hun yn gyrru yn Ne Cymru ar yr A470, peidiwch a dweud nad ydych wedi cael rhybydd gan flogmenai.

Ta waeth nid cynnig cyngor i yrrwyr na chwilio am gydymdeimlad ydi bwriad hyn o flogiad ond son am ddigwyddiad od yn swyddfa'r heddlu. Roedd yna arwydd mawr wrth y cownter oedd yn fy hysbysu i Siarad Cymraeg neu Saesneg yma. 'Dwi ddim yn amau am funud bod croeso i mi siarad y naill iaith neu'r llall, ond dim ond mewn un y gallwn gael fy neall, ac nid iaith naturiol mwyafrif llethol pobl G'narfon oedd honno.

Ar ddiwedd y broses o wirio fy nhrwydded gofynodd y blismones gwestiwn digon rhyfedd i mi - I am obliged to ask you are you Welsh _ _ _ you know do you speak Welsh? Gan fod yr ateb i'r ddau gwestiwn yn gadarnhaol (os braidd yn amlwg) rhoddais ateb cadarnhaol. Wedi meddwl am funud gofynais iddi os mai iaith fy nghartref ynteu fy ethnigrwydd oedd o ddiddordeb i Heddlu Gogledd Cymru. Eglurodd mai'r ethnigrwydd oedd o ddiddordeb iddynt - we have to make sure we don't pick on any minority group you see.

A dweud y gwir 'dydw i ddim yn ystyried fy hun yn aelod o grwp lleafrifol, ond yr hyn oedd yn peri syndod i mi a bod yn onest oedd bod y ddynas ac efallai Heddlu'r Gogledd yn diffinio ethnigrwydd yn nhermau bod a gallu i gyfathrebu mewn iaith arbennig. Mi eglurais iddi nad oedd y ddau beth yn cyfateb a thra bod yna berthynas gweddol agos yng Nghaernarfon rhwng y gallu i siarad Cymraeg ag ethnigrwydd Cymreig, bod rhannau mawr o'r Gogledd efo'r mwyafrif llethol o'u poblogaeth yn Gymry o safbwynt eu ethnigrwydd ond yn Gymry nad oes efo'r gallu i siarad Cymraeg.

Ymgodymodd efo'r cysyniad ymddangosiadol estron yma am ychydig o eiliadau cyn dweud Oh yes I suppose so _ _ _ I'm like that _ _ that's me I suppose. Rwan os ydi Heddlu Gogledd Cymru efo diddordeb gwirioneddol yng nghefndir ethnig y sawl maent yn delio a nhw, digon teg. Mi fydda innau yn hel gwybodaeth felly fel rhan o fy ngwaith pob dydd. Ond os ydi'r wybodaeth i fod o unrhyw ddefnydd ymarferol o gwbl i unrhyw un, efallai y byddai'n syniad egluro i swyddogion dyletswydd yn union beth ydi ethnigrwydd neu o leiaf roi cwestiwn safonol iddynt ei ofyn pob tro. Os ydi'r blismones dan sylw yn nodweddiadol o weddill swyddogion dyletswydd Heddlu'r Gogledd mae'n agos at 70% o'r bobl sy'n byw ar eu clwt nhw o dir ag ethnigrwydd nad yw'n un Cymreig.

Tuesday, July 13, 2010

O diar Mr Mundell


O diar, ymddengys bod unig Aelod Seneddol Ceidwadol yr Alban mewn tipyn bach o ddwr poeth.

Ymddengys iddo or wario ar ei ymgyrch a chuddio hynny efo tric bach cyfrifydd. Mae hyn yn anffodus yn groes i'r gyfraith. Gwariodd David Mundell y swm anferthol o £40,000 yn ceisio amddiffyn ei sedd yn Dumfriesshire, Clydesdale and Tweeddale, a thra nad ydi hyn ynddo ei hun yn torri unrhyw reolau, roedd y gwariant yn ail ran yr ymgyrch yn ormod yn llygaid y gyfraith. Felly honodd Mr Mundell i tua £700 oedd mewn gwirionedd wedi ei wario at ddiwedd yr ymgyrch gael ei wario mewn cyfnod cynharach.

Ddaw hi ddim i is etholiad wrth gwrs, ond petai'n dod i hynny mae'n dra thebygol y byddai'r Ceidwadwyr yn colli eu hunig sedd Albanaidd ac yn cael eu hunain yn ol yn lle'r oeddynt rhwng 1997 a 2005. Er iddynt gryfhau yn Lloegr a Chymru, plaid yr ymylon ydynt o hyd yn yr Alban - o ran cynrychiolaeth san Steffan o leiaf.

Sunday, July 11, 2010

Yr Urdd Oren, John Frum a'r Prince Philip Movement


'Fory ydi diwrnod mawr yr Urdd Oren yng Ngogledd Iwerddon - diwrnod y gorymdeithio mawr i ddathlu gwahanol ddigwyddiadau ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg a arweiniodd at oruwchafiaeth Protestaniaid yn yr Iwerddon - goruwchafiaeth sydd wedi ei dorri yn y Weriniaeth ers talwm, a goruwchafiaeth sydd o bosibl wedi ei dorri yn y Gogledd bellach hefyd. Mi fydd heno hefyd yn noson fawr wrth gwrs gyda Gogledd Iwerddon am ychydig oriau yn troi yn un o lefydd mwyaf llygredig (yn ystyr amgylcheddol y gair hwnnw) yn Ewrop oherwydd bod canoedd o dannau teiars ceir yn taflu mwg du i'r awyrgylch. Os ydych eisiau darllen mwy am y genadwri, edrychwch yma.

Mae'r diwrnod yn un cynhenus wrth gwrs, ac mae pobl o'r traddodiad arall yn gweld y llu o orymdeithiau Oren a gynhelir fel estyniad ar yr obsesiwn yng Ngogledd Iwerddon efo 'marcio'r' tir mae'r gwahanol garfanau yn ei ystyried yn eiddo iddyn nhw ac felly esgys i ddangos, neu smalio mai'r traddodiad Unoliaethol sy'n rhedeg y sioe o hyd. Yn wir mae miloedd lawer o Babyddion yn gadael Gogledd Iwerddon am ychydig ddyddiau.

Mae'r rhan fwyaf o orymdeithiau yn mynd trwy ardaloedd Protestanaidd lle nad ydynt yn asgwrn cynnen, ond mae ambell i un yn cyffwrdd ag ardaloedd cenedlaetholgar yn rhywle neu'i gilydd. Disgwyliwch glywed am rhywbeth neu'i gilydd yn digwydd o gwmpas yr Ardoyne - cadarnle Gweriniaethol yng Ngogledd Belfast, tros y diwrnod neu ddau nesaf. Mae yna orymdaith flynyddol sy'n ymlwybro'n agos iawn at yr ardal ddifreintiedig yma a ddioddefodd mwy na'r un arall yn ystod y trafferthion, a sydd wedi arwain at ddyddiau o ymladd ar sawl achlysur yn y gorffennol.

Yr hyn na fyddwn yn ei glywed yn aml ydi sylwadau a pheth mor od ydi cerdded mewn gorymdaith sydd ond ar agor i un sect crefyddol tra'n gwisgo siwt ddydd Sul, het bowlar a sash yn chwythu pibau, bangio drwm tra'n gweiddi ambell i slogan o gefnogaeth i fudiadau terfysgol Teyrngarol. Mae'n debyg mai'r rheswm am hyn ydi'r parch mae disgwyl i bawb ei ddangos at nodweddion diwylliannol pawb arall yn yr oes sydd ohoni, yn ogystal a'r sensitifrwydd llai diweddar at gonsyrns ac arferion bach rhyfedd ein cefndryd Unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon.

Ac mae'r ymddygiad yma yn wirioneddol rhyfedd i unrhyw lygad gwrthrychol. Y peth mwyaf tebyg y gallaf i feddwl amdano ydi ymddygiad dilynwyr amrywiol cargo cults ar ynysoedd anghysbell yn y Mor Tawel. Mi fyddwch yn ymwybodol mae'n debyg gen i mai ymddygiad lled grefyddol gan bobl frodorol sy'n cael eu achosi gan gysylltiad efo'r Byd Gorllewinol ydi cargo cult. Mae brodorion yr ynysoedd yma yn gweld pobl o'r Gorllewin, yn nodi eu bod yn ymddangos yn gyfoethog a phwerus ac yn ceisio efelychu rhai o nodweddion arwynebol diwylliant y Gorllewin gan feddwl mai'r rheiny ydi ffynhonell y cyfoeth a'r pwer. Dau esiampl enwog ydi'r Prince Philip Movement a John Frum.


Ac mewn termau anthropolegol mae yna gysylltiad clos rhwng yr Urdd Oren a lled grefyddau rhyfedd y Mor Tawel. Roedd rhai o arferion yr Urdd yn datblygu mewn cyfnod lle nad oedd y rhan fwyaf o'i dilynwyr yn gwybod rhyw lawer am Brydain, ac yn fwy arbennig Lloegr. Roedd eu profiad wedi ei gyfyngu i'r hyn roeddynt yn ei glywed gan eraill ac yn ei weld yn y wasg. Roedd yna ddosbarth o Saeson, yn arbennig yn Llundain, ond hefyd yn ninasoedd mawr rhanbarthol Lloegr oedd yn gwisgo siwtiau tywyll a hetiau bowlar. Roedd hyn yn ymddygiad an Wyddelig iawn - oedd yn ychwanegu yn arwyddocaol at ei apel. Felly dyna ni - nodwedd weledol i gynrychioli Protestaniaid Iwerddon, ac i'w gwahaniaethu oddi wrth eu cymdogion Pabyddol . Nodwedd oedd wedi ei seilio ar gamddaealltwriaeth o'r hyn ydi Prydeindod yn union fel mae cargo cult yn cam ddiffinio'r hyn ydi bod yn Americanwr mewn termau baneri, martsio, gynnau, pebyll, offer radio ac ati.

Saturday, July 10, 2010

Maes e

Mae'n dda deall bod ymgais yn cael ei gwneud i adfywio'r negesfwrdd Cymraeg maes e.

Ymryson ar y maes oedd fy mhrofiad cyntaf i o wleidydda ar y We. 'Dwi'n credu mai anghytuno a Guto Bebb ynglyn a rhywbeth neu'i gilydd oedd y sbardun - ac mi gefais sawl dadl digon ffyrnig ar adegau efo Guto ar y maes. 'Dwi'n rhyw gofio cael fy nwrdio o bryd i'w gilydd gan y gweinyddwyr am fod yn rhy ymysodol a thramgwyddo ar etiwcet y maes. Wna i ddim darparu linc - mi gewch chi fynd i chwilio eich hun os ydych eisiau. Roeddwn i'n defnyddio'r enw GT, tra bod Guto'n defnyddio amrywiaeth o enwau, gan gynnwys Boris a Cath Ddu.

Mae'r maes wedi bod yn ddistaw iawn am rai blynyddoedd bellach, ac mae'n anodd credu heddiw mor fywiog, amrywiol a phoblogaidd oedd y wefan pan oedd yn ei hanterth. Mae'n debyg gen i bod nifer o resymau pam ei bod mor ddistaw bellach, ac efallai bod yr arfer o flogio yn un o'r rhesymau hynny, a mae llanw a thrai ffasiwn yn ffactor hefyd. Yn sicr nid diffyg brwdfrydedd ar ran Hedd a'r criw bach o wirfoddolwyr sy'n cynnal y maes ydi'r broblem - maent yn gwneud ymdrech lew. Ac hefyd mae'n sicr bod cynnal negesfwrdd llwyddiannus yn beth digon posibl - hyd yn oed yn oes y blogiau, fel mae'r negesfwrdd hynod boblogaidd Gwyddelig politics.ie yn profi.

Serch hynny mae negesfwrdd bywiog a phoblogaidd yn cynnig nifer o bethau nad ydi blog yn ei wneud - amrywiaeth o ran pynciau trafod a chyfranwyr, cynulleidfa eang, ymatebion cyflym a chyfle i gynnal sawl dadl ar yr un pryd. Y peth pwysicaf fodd bynnag ydi'r ymdeimlad o gymuned a geir ar negesfwrdd - rhywbeth sy'n anodd ei efelychu ar flog. Mae yna ymdeimlad o berchnogaeth dorfol i negesfwrdd, tra bod persenoliaeth blogiwr unigol yn dominyddu pob blog.

Mae'r ffaith bod maes e wedi bod mor ddistaw yn ddiweddar yn golled i'r graddau bod yna gymuned fach Gymraeg wedi peidio a bodoli i pob pwrpas. Yn wir mi fyddwn yn meddwl bod y maes yn gyfle prin i bobl sy'n byw mewn ardaloedd llai Cymreig i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a chael bod yn rhan o gymuned Gymreig. Felly beth am fynd ati i gofrestru? - byddai'n braf adfywio'r fro bach Gymraeg yma.

Tuesday, July 06, 2010

I edrych ar bethau o safbwynt y Toriaid am eiliad

Go brin y bydd darllenwyr rheolaidd y blog hwn yn synnu deall fy mod yn croesawu argymhelliad pwyllgor Gerry Holtham i ganiatau i'r Cynulliad amrywio'r dreth incwm a rhai trethi eraill yng Nghymru.

'Dydi o ddim yn syndod mawr chwaith deall nad ydi David Davies eisiau gweld y Cynulliad yn cael y pwerau hyn rhag ofn iddo orfod talu mwy o drethi. 'Rwan mae'n hawdd deall na fyddai Tori cyfoethog am dalu mwy o drethi nag oes rhaid. Chwi gofiwch i Brynle Williams AC ddod a'r DU i stop ar gost o ganoedd o filiynau o bunoedd i'r trysorlys oherwydd nad oedd eisiau talu'r dreth ar danwydd - er erbyn meddwl, fel ffermwr mae'n debyg ei fod yn talu llai o dreth ar ei ddisl na bron i neb arall yn y DU. Ta waeth, 'dwi'n crwydro.

Byddwn hefyd yn disgwyl i David Davies fod yn erbyn unrhyw beth sy'n cryfhau'r Cynulliad oherwydd ei fod yn wrthwynebus i'r cysyniad o ddatganoli grym o Lundain. Ond beth petai David yn meddwl am fuddiannau ei blaid am ennyd yn hytrach nag am ei boced a'i ragfarnau? Petai'n gwneud hynny 'dwi'n rhyw deimlo y byddai'n dod i gasgliadau gwahanol ynglyn ag argymhelliad Holtham.

Mae i wleidyddiaeth diweddar Cymru batrwm hanesyddol eithaf syml, cylch o ddomiwnyddiaeth etholiadol gan y Blaid Lafur yn cael ei ddilyn gan gyfnod o rhywbeth llai na domiwnyddiaeth pan mae yna lywodraeth Lafur amhoblogaidd yn Llundain, yna y ddomiwnyddiaeth yn cael ei hail adeiladu wedi i Llafur golli grym yn Llundain. Y tro diwethaf i Lafur fod allan o rym yn San Steffan am gyfnod maith, aeth y broses mor bell ag i sicrhau bod y Toriaid yn colli pob un o'u seddau Cymreig - gan gynnwys yr un mae David bellach yn ei chynrychioli.

'Dydi o ddim yn cymryd athrylith i esbonio pam bod hyn yn digwydd. Mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn ddibynnol mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ar bres cyhoeddus. Felly pan mae Llafur allan o rym ac yn dadlau tros fwy o wariant cyhoeddus yng Nghymru mae'r neges yn atyniadol i'r rhan fwyaf o bobl Cymru. Mae hyn yn arbennig o wir pan mae yna lywodraeth Doriaidd Lundeinig yn torri yn sylweddol ar yr arian cyhoeddus sydd ar gael yng Nghymru.

Gan y byddai unrhyw gynnydd mewn gwariant cyhoeddus yng Nghymru yn dod allan o drethiant cyffredinol y DU 'dydi pobl Cymru byth yn gorfod talu yn uniongyrchol am y cynnydd mewn gwariant cyhoeddus mae Llafur yn galw amdano, ac yn wir yn ei weithredu pan mae ganddynt y grym i wneud hynny. Hynny yw prif apel etholiadol Llafur yng Nghymru ydi eu bod yn cynnig cinio am ddim i ni i gyd - mwy o wariant cyhoeddus nad ydym yn gorfod talu amdano. I lawer o bobl mae fotio i Lafur yn no brainer a chymryd benthyg idiom Eingl Americanaidd. I'r graddau yma mae gwleidyddiaeth Cymru yn sylfaenol anaeddfed - nid trefn etholiadol soffistigedig ydi un sy'n gwobreuo'r sawl sydd mewn sefyllfa i addo mwy a mwy a mwy o wariant cyhoeddus, heb bod yna gost ynghlwm a hynny.

'Rwan petai yna berthynas uniongyrchol rhwng gwariant a threthiant byddai'r cylch yma'n cael ei dorri, a byddai natur gwleidyddiaeth Cymru yn newid yn sylfaenol ac yn aeddfedu. Ydi'r newid yma'n debygol o ddigwydd? Wel efallai, ond mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf bod greddf unoliaethol y Blaid Doriaidd yn gryfach nag unrhyw reddf arall sydd ganddi - hyd yn oed y reddf o edrych ar ol eu buddiannau eu hunain.

Sunday, July 04, 2010

Pleidleisiwch i'ch hoff flogiau!

Ymddengys bod Total Politics yn cynnal eu cystadleuaeth (os mai dyna'r gair) flynyddol. Daeth y blogmenai yn drydydd trwy Gymru y llynedd, er nad ydi bron i 80% o'r boblogaeth yn gallu deall gair sy'n cael ei ysgrifennu arno.

Yn groes i honiadau gorffwyll ac eiddigeddus Paul Flynn wnes i ddim gofyn i neb am bleidlais - dim ond rhoi cyhoeddusrwydd i'r digwyddiad ac awgrymu i bobl fotio i flog Cymreig. Gan bod hynny wedi gweithio mor dda y llynedd, waeth i mi wneud yr un peth eleni - felly cofiwch fwrw pleidleisiau i flogiau Cymreig!

Cliciwch ar y ddelwedd isod os ydych eisiau pleidleisio:

Click here to vote in the Total Politics Best Blogs Poll 2010

Ffiniau newydd a'r Toriaid yng Nghymru

Mae pobl yn tueddu i gymryd y byddai cynllun y Toriaid i newid y ffiniau yng Nghymru er mwyn sicrhau mai tua 30 Aelod Seneddol fydd gennym yn hytrach na 40 yn effeithio yn bennaf ar y Blaid Lafur. Mae'r gred yma'n agos iawn at galonau'r Toriaid eu hunain wrth gwrs. Ond ydi hyn yn wir mewn gwirionedd? Rhestraf isod y seddau sydd ganddynt ar hyn o bryd:

Aberconwy
Gorllewin Clwyd
Trefaldwyn
Gogledd Penfro
De Penfro / Gorllewin Caerfyrddin
Bro Morgannwg
Gogledd Caerdydd
Mynwy

Mae'n anodd gweld unrhyw newid yn y Gogledd na fyddai'n arwain at uno'r rhan helyw o Aberconwy a Gorllewin Clwyd gyda gorllewin Aberconwy efallai yn mynd at Ynys Mon a dwyrain Gorllewin Clwyd yn mynd at De Clwyd a Dyffryn Clwyd. Felly byddai'r ddwy sedd bresennol yn troi yn un sedd.

Mae'n bur debyg y byddai'r ddwy sedd ym Mhenfro yn cael eu huno, gyda Gorllewin Caerfyrddin yn ymdoddi i ddwy sedd wedi eu creu oddi fewn i ffiniau Sir Gaerfyrddin. Felly unwaith eto byddai dwy sedd Doriaidd yn troi yn un.

Byddai troi Caerdydd yn ddinas tair sedd seneddol yn hytrach na phedair yn sicr o wneud Gogledd Caerdydd yn llai enilladwy i'r Toriaid petai rhannau o'r Gorllewin a'r Canol yn cael eu hychwanegu ati. Mae'r sedd eisoes yn hynod ymylol. Ar y llaw arall ni fyddai ychwanegu Penarth at Fro Morgannwg yn poeni Alun Cairns ym Mro Morgannwg rhyw lawer.

Mae'n debyg y byddai Maldwyn yn diflannu, ond etholaeth ar fenthyg ydi honno beth bynnag. Fyddai hi ddim yn nwylo'r Toriaid oni bai am anturiaethau bach rhyfedd ei chyn aelod seneddol digri o allblyg.

Mae'n fwy na thebyg mai ymestyn ffiniau Trefynwy i gwmpasu rhannau o Gasnewydd fyddai'r Comisiwn yng nghornel de ddwyreiniol y wlad. Byddai hynny o gymorth i Lafur, er na fyddai'n gwneud digon o wahaniaeth i ddi orseddu David Davies.

Felly yn ol pob tebyg byddai'r newidiadau yn costio sedd yn y Gogledd, dwy yn y Canolbarth a'r Gorllewin, ac un yng Nghanol De Cymru i'r Toriaid. Cyfanswm o bedair. Mae'n fwy na phosibl mai pum sedd Lafur fyddai'n cael eu colli. Felly dyna'r Toriaid un ar eu hennill. Tipyn o coup.

Saturday, July 03, 2010

Dau refferendwm ac etholiad

Mae Guto'n trafod y posibilrwydd o gael dau refferendwm ac un etholiad ar yr un diwrnod ym Mis Mai ar ei flog. 'Dydi Guto ddim yn gweld fawr o broblem efo'r syniad, ac yn wir mae'n dweud bod cynnal y tri etholiad ar wahan yn arwydd o ddiffyg ymddiriedaeth yn yr etholwyr. 'Dwi'n cytuno efo Guto yn amlach na pheidio, ond anghytuno 'dwi yn yr achos hwn.

Nid gallu neu anallu'r etholwyr i ddihatru'r papurau fydd o'u blaenau ydi'r prif bwynt. Yr awyrgylch gwleidyddol y bydd yr ymgyrchu yn ei greu ydi'r peth pwysig. Cymerer y refferendwm PR er enghraifft - byddai sylw cyfryngol sylweddol i hwnnw ar y newyddion 'cenedlaethol' ac yn y papurau 'cenedlaethol'. Nid cymaint o sylw ag etholiad cyffredinol wrth gwrs, ond llawer mwy na chaiff etholiad Gymreig. Mae llawer iawn mwy o bobl Cymru yn darllen papurau Prydeinig ac yn gwylio newyddion Prydeinig na sy'n ymddiddori newyddion Cymreig.

Byddai'r sylw beunyddiol i Clegg ac efallai Cameron yn dadlau eu hachosion yn boddi'r etholiad Gymreig - neu i'w roi mewn ffordd ychydig yn wahanol, byddai'n anodd clywed swn egwan yr ymgyrch Gymreig yng nghanol swn byddarol yr ymgyrch Brydeinig. Byddai etholiad sydd yn ei hanfod yn un Gymreig wedi ei Phrydaineiddio yn llwyr. Rydym eisoes wedi trafod bwriad Cheryl Gillan i roi help llaw i Nick Bourne yn 2015 trwy gynnal etholiad Prydeinig ar yr un diwrnod ag un Gymreig. 'Dydi'r cynllun bach yma ddim yn llawn mor uchelgeisiol, ond byddai'n cael effaith nid anhebyg.

'Dydi cynnal y refferendwm pwerau ddim yn cymaint o broblem a dweud y gwir. Mi fyddai wrth gwrs yn llusgo rhai pobl gwrth Gymreig na fyddai'n trafferthu pleidleisio mewn etholiad Cynulliad arferol i'r bythau pleidleisio, ac i'r graddau hynny byddai'n newid cymeriad yr etholiad. Ond o leiaf dadl Gymreig fyddai'r un pwerau ychwanegol, yn union fel yr etholiad ei hun. Fyddai'r etholiad heb ei llygru mewn ffodd sylfaenol.

Mae yna un broblem fach arall - un dechnegol efallai, ond problem serch hynny. Mae'n anarferol os nad yn unigryw yn ein system ni gofyn i bobl bleidleisio i ffurfio corff etholedig heb wybod yn union beth ydi hyd a lled pwerau'r corff hwnnw.

Thursday, July 01, 2010

Ffigyrau'r mis


Bydd darllenwyr cyson yn gwybod fy mod yn cyhoeddi ffigyrau darllenwyr y blog yma ar ddiwedd pob mis. Yn anffodus anghofiais mai ddoe oedd diwrnod olaf Mehefin - felly dyma'r ffigyrau ddiwrnod yn hwyr.