Monday, January 31, 2011

Ffigyrau'r mis



Diolch - fel arfer - i bawb fu garediced a galw draw yn ystod y mis.

Saturday, January 29, 2011

Pam bod y BBC am ddiffinio natur yr ochr Na ar ein rhan?

Mae'r ffrae bach ynglyn a goblygiadau penderfyniad True Wales i beidio a gwneud cais i'r Comisiwn Etholiadau i fod yn gynrychiolydd swyddogol yr ymgyrch Na yn dinoethi gwirionedd sylfaenol ynglyn a'r BBC yng Nghymru.

Gellir gweld prif elfennau'r ffrae yn y tri linc canlynol, gwefan WalesOnline, blog Saesneg Alwyn ap Huw a blog golygydd gwleidyddol y Bib yng Nghymru, Betsan Powys. Yr hyn a geir mewn gwniadur ydi awgrym gan yr ymgyrch Ia na ddylai'r cyfryngau roi triniaeth arbennig i True Wales ar draul elfennau gwrth ddatganoli eraill, apel gan Alwyn i'w ymgyrch o a'r Lwnis gael statws cyfartal i un True Wales, a Betsan yn ei thro yn rhoi ei throed i lawr a dweud mai'r Bib fydd yn dewis pwy sy'n cael dadlau tros yr achos Na ar eu rhaglenni, a neb arall. Yr awgrym pendant ydi mai True Wales fydd yn cael gwneud hynny.

Wele resymu Betsan:

We'll decide who to interview based - not on whether they've sent an envelope to the Electoral Commission - but after considering things like whether a group, or individual, has a demonstrable track record of campaigning on the issue, have campaigning capacity and whether they represent that side of the debate to the greatest extent. In other words you try to use editorial judgement when you decide who to interview and how often.
Cyn mynd ymlaen mae'n werth nodi pwysigrwydd y Bib i'r ymgyrch - lleiafrif o bobl Cymru sy'n darllen papurau Cymreig neu Gymraeg, bydd penderfyniad True Wales yn golygu na fydd yna ddarllediadau gwleidyddol ac ychydig iawn o raglenni newyddion a materion cyfoes Cymreig sydd ddim yn dod o stabl y Gorfforaeth. Mi fydd dylanwad y Bib ar ganfyddiad pobl o'r refferendwm yn llawer, llawer cryfach na sy'n arferol mewn sefyllfa fel hyn.

Rwan o bob dim yr ydym yn ei wybod am y Bib yng Nghymru yr hyn sy'n ei nodweddu fwy na dim arall ydi ei barchusrwydd a'i natur sefydliadol - a bydd ei ddehongliad o sut y dylid cyflwyno'r ymgyrch Na yn adlewyrchu hynny. Bydd y Bib eisiau cyflwyno'r refferendwm i ni ar ei ffurf a'i ddelwedd ei hun - yn barchus ac yn sefydliadol.

Mae yna pob math o elfennau sy'n wrthwynebus i ddatganoli yng Nghymru - UKIP, nytars gwrth Gymreig fel y rhai sy'n plagio tudalennau sylwadau blog Betsan, elfennau ceidwadol a Seisnig ym mywyd cenedlaethol Cymru, Llafurwyr o Oes y Cerrig ac ati. Fyddan ni ddim yn cael gweld yr amrywiaeth yma gan y Bib - byddant yn saniteiddio'r ochr Na, yn gwneud iddi ymddangos yn fwy rhesymol a llai rhagfarnllyd nag ydyw mewn gwirionedd. Trin True Wales fel petai nhw ydi'r ymgyrch Na swyddogol ydi'r ffordd y byddant yn gwneud hynny.

Ac unwaith eto bydd y Bib yn cyflwyno darlun cyfyng o wleidyddiaeth Cymru ger ein bron - darlun sy'n dweud llawer mwy wrthym am y BBC nag yw am Gymru. Mae diwylliant mewnol y lled fonopoli cyfryngol yma ymhlith y prif resymau pam bod hafn rhwng y Gymru mae'r rhan fwyaf ohonom yn byw ynddi o ddiwrnod i ddiwrnod, a'r fersiwn parchus, diddrwg, didda rydym wedi ein cyflyru i rhyw deimlo y dylem fyw ynddi.

Friday, January 28, 2011

Pam bod Eleanor Burnham yn anghywir ynglyn a chyflwyno trefn bleidleisio AV yng Nghymru

Mae'r galwadau cynyddol am drefn pleidleisio AV yn etholiadau Cynulliad yn achosi peth penbleth i mi.

Mi fydd darllenwyr rheolaidd yn gwybod nad wyf yn hoff o'r drefn sydd gennym ar hyn o bryd - trefn rhestr wedi ei chymysgu a'r dull traddodiadol Brydeinig - First Past the Post (FPTP). Mae'r dull yn llwgr, yn gwobreuo methiant ac yn grymuso pleidiau gwleidyddol ar draul etholwyr. Ond mae iddi un rhinwedd yng nghyd destun Cymru - mae'n dileu'r posibilrwydd o lywodraeth mwyafrifol Llafur parhaol. Dyna fyddai'n digwydd efo FPTP. Mae daearyddiaeth gwleidyddol Cymru yn sicrhau y byddai'n rhaid i Lafur gael llai na tua 30% cyn colli mwyafrif llwyr. Cawsant 24 o'r 40 sedd uniongyrchol gyda 32.2% yn unig o'r bleidlais yn 2007.

Tra na fyddai'r drefn AV yn arwain at batrwm mor anheg, byddai'n fanteisiol iawn i Lafur (mewn cyd destun Cymreig). Byddai llywodraethau Llafur gyda mwyafrif llwyr yn llawer mwy tebygol o dan drefn felly nag ydyw ar hyn o bryd. Mae'n hawdd gweld pam bod hyn yn apelio at Carwyn Jones, ond yn fwy anodd gweld pam bod Ceidwadwyr a Lib Dems eisiau trefn felly.

Rwan, mae'r blog yma wedi awgrymu trefn wahanol yn y gorffennol - trefn STV gydag etholaethau aml aelod. Defnyddir y drefn yma mewn etholiadau yn Ne Iwerddon, mewn etholiadau llywodraeth leol yn yr Alban, ac ym mhob etholiad ag eithrio rhai San Steffan yng Ngogledd Iwerddon. Ymhellach, mae'r blog yma wedi awgrymu y gellid defnyddio'r siroedd presennol fel etholaethau aml aelod.

Byddai llawer o fanteision i drefn felly - cadw'r berthynas rhwng aelod ag etholaeth, trefn fwy teg a chyfrannol, grymuso etholwyr yn hytrach na gwleidyddion ac etholaethau y gallai pobl uniaethu efo nhw er enghraifft. Mae'n drefn debyg i'r un mae plaid Eleanor Burnham yn ei hargymell. Mae'r tu hwnt i mi pam bod Eleanor yn awgrymu trefn arall a fyddai ond o fantais i Lafur.

ON - cyn i rhywun godi'r peth, 'dwi'n gwybod bod Guto Bebb yn cael ei ddyfynnu yn yr erthygl, ond 'dydi o ddim yn manylu ynglyn a pha drefn y byddai'n ei hoffi.

Thursday, January 27, 2011

Gwrth Gymreigrwydd Paul Matthews a safonau dwbl y cyfryngau prif lif

'Fydda i ddim yn un am gymryd sylwadau gwrth Gymreig yn y cyfryngau gormod o ddifri, er bod llawer yn neidio i ben y caets i dantro pan mae A A Gill neu Clarkson yn dweud rhywbeth neu'i gilydd i dynnu sylw atyn nhw eu hunain.

Serch hynny, mae'r sylwadau gwrth Gymreig gan Paul Matthews, llefarydd ar ran True Wales,yn codi cwestiynau diddorol am agweddau gwaelodol y cyfryngau prif lif tuag at Gymru. Yn ol y wefan Click on Wales dywedodd Matthews hyn wrth Insider Media Limited - I am a Welsh person. We’re not the most innovative or creative, and very often those that are, move out of Wales. Rwan 'dydi'r geiriau ddim mor ymfflamychol a sylwadau Gill, Robinson, Clarkson ac ati, ond mae eu hawgrym yn weddol amlwg - mae'r Cymry yn israddol i'r Saeson, mewn un agwedd hynod bwysig ar fywyd o leiaf.

Mae sylwadau gan unigolion cyhoeddus (neu led gyhoeddus) y gellir eu dehongli fel rhai gwrth Seisnig yn creu storm yn y cyfryngau yn rheolaidd - awgrym sy'n cael ei phriodoli'n anheg i Simon Brooks y dylid meddiannu tai mewnfudwyr yn heddychlon, honiad Gwilym ab Ioan bod rhannau o Gymru yn dumping ground for oddballs and misfits, sylwadau Seimon Glyn y dylid rheoli mewnfudo i ardaloedd Cymraeg eu iaith, ac y dylid mynnu bod mewnfudwyr yn dysgu'r iaith.

Eto, prin bod yna siw na miw wedi dod o gyfeiriad y cyfryngau prif lif ynglyn a sylwadau Paul Matthews. Meddyliwch sut ymateb fyddai yna o gyfeiriad y cyfryngau petai rhywun o'r ymgyrch Ia - Roger Lewis er enghraifft - yn dweud bod Cymru angen mwy o annibyniaeth oddi wrth Lloegr oherwydd nad ydi'r Saeson yn bobl ddyfeisgar na chreadigol. Byddai'r ymgyrch yn cael ei chladdu o dan domen o hysteria a chasineb cyfryngol am wythnosau.

Ydi hi'n bosibl bod y cyfryngau - hyd yn oed y cyfryngau Cymreig - yn rhyw dderbyn bod gwrth Gymreigrwydd yn rhan naturiol o drefn pethau, tra'n gweld unrhyw awgrym o wrth Seisnigrwydd fel pechod o'r radd eithaf?

Uno Mon a Gwynedd - un neu ddau o sylwadau brysiog



Cynlluniau tybiedig Carl Sarjeant i orfodi Cyngor Mon i uno efo Cyngor Gwynedd ydi'r stori wleidyddol fawr yn y Gogledd ar hyn o bryd.

'Rwan, mae'n fwy na phosibl mai ymgais i ddychryn cynghorwyr Mon ydi'r newidiadau munud olaf i'r Mesur Llywodraeth Leol sydd ger bron y Cynulliad ar hyn o bryd - newidiadau fyddai'n caniatau i'r llywodraeth orfodi i gynghorau uno.

Ond mae'n bosibl bod Carl yn bwriadu gorfodi'r newid go iawn. Byddai goblygiadau i hyn. Yn gyntaf mae yna 75 cynghorydd yng Ngwynedd a 40 ym Mon ar hyn o bryd. 'Does yna ddim posibilrwydd o gwbl y byddai gan y cyngor newydd 115 o gynghorwyr - byddwn yn disgwyl nifer nes at hanner hynny. Byddai hyn yn arwain at newid sylweddol ym mhersonel y cyngor newydd. Byddai hefyd yn ei gwneud yn anos o lawer i gynghorwyr annibynnol gael eu hethol.

Problem arall fyddai'r amseriad. 'Does yna ddim llawer o amser cyn yr etholiadau cyngor nesaf - tua 15 mis. Go brin bod hyn yn amser digonol i gymryd y camau sylweddol fyddai eu hangen cyn uno'r ddau gyngor. 'Dydi hi ddim yn debygol y byddai Sargeant am ddisgwyl tan yr etholiadau canlynol - tros i bum mlynedd yn y dyfodol - cyn gweithredu ei newidiadau. Felly mae'n debyg y byddai'r etholiadau yng Ngwynedd (ac efallai Mon, os na fydd y Cynulliad yn anfon comisiwn anetholedig i redeg y sioe) yn cael eu gohirio hyd 2013 neu 2014. Mae cynsail diweddar i hyn - gohirwyd etholiadau lleol Gogledd Iwerddon oedd i fod i'w cynnal yn 2009, hyd eleni oherwydd cynlluniau uno yno.

Dyddiau difyr.

Wednesday, January 26, 2011

Pol ITV / YouGov

Ychydig iawn o newid sydd yna ers y mis diwethaf o ran cefnogaeth y pleidiau:

Etholaethau: Toriaid 21%, Llafur 45%, Lib Dems 7%, Plaid Cymru 21%
Rhanbarthau: Toriaid 20%, Llafur 41%, Lib Dems 8%, Plaid Cymru 21%

Mae symudiad ychydig mwy yn y ffigyrau refferendwm fodd bynnag:


Rhag Ion
Ia 46% 49%
Na 25% 26%


Gweler yma am fanylion llawn.

Ystadegau hunaniaeth genedlaethol plant ysgol

Bu ychydig o ddadlau yma yn ddiweddar ynglyn ag ystadegau iaith a hunaniaeth. I'r sawl sydd a diddordeb, rhyddhawyd ystadegau hunaniaeth plant ysgol (yn ol diffiniad rhieni) fesul etholaeth seneddol a rhanbarth etholiadol heddiw.




Albaneg


Cymreig Seisnig Gwyddelig Prydeinig Arall






Gogledd Cymru 52.1 13.0 0.4 32.1 2.3
Aberconwy 56.2 4.7 0.4 37.0 1.7
Alyn a Glannau Dyfrdwy 25.8 30.8 0.8 40.6 1.9
Arfon 76.7 6.3 0.2 14.0 2.8
De Clwyd 53.2 10.5 0.3 34.2 1.9
Gorllewin Clwyd
46.9 10.0 0.5 40.9 1.7
Delyn 50.1 16.1 0.5 31.4 1.8
Dyffryn Clwyd 48.2 16.1 0.3 33.0 2.4
Wrecsam 55.0 8.4 0.5 31.2 4.9
Ynys Môn 66.6 8.2 0.4 23.7 1.1
Gorllewin a'r Canolbarth 57.3 10.9 0.4 29.1 2.3
Brycheiniog a Maesyfed 48.0 14.9 0.5 34.1 2.5
Dinefwr / Dwyrain Caerfyrddin 62.2 6.5 0.2 30.1 1.0
Grlln Caerfyrddin / De Penfro 62.1 11.3 0.4 23.8 2.4
Ceredigion 63.3 12.1 0.5 20.3 3.7
Dwyfor Meirionnydd 71.7 9.8 0.2 17.4 0.9
Llanelli 64.9 4.3 0.4 27.3 3.0
Trefaldwyn 37.4 22.3 0.5 38.0 1.8
Preseli Penfro 51.5 7.1 0.4 38.8 2.3
Gorllewin De Cymru 68.5 4.2 0.3 24.1 3.0
Aberafon 72.2 4.2 0.3 21.8 1.6
Penybont 65.7 4.7 0.2 27.3 2.2
Gwyr 69.8 4.1 0.3 23.7 2.0
Castell Nedd 74.7 3.8 0.3 20.3 1.0
Ogwr 78.7 3.2 0.2 16.5 1.3
Dwyrain Abertawe 62.9 3.9 0.2 28.7 4.3
Gorllewin Abertawe 53.3 5.7 0.4 30.7 9.8
Canol De Cymru 60.4 2.8 0.3 31.8 4.7
Canol Caerdydd 50.5 2.5 0.4 36.6 10.0
Gogledd Caerdydd 54.7 1.7 0.4 37.0 6.3
De Caerdydd / Penarth 54.6 3.9 0.6 32.4 8.4
Gorllewin Caerdydd 55.0 3.4 0.4 33.4 7.9
Cwm Cynon 74.2 1.9 0.1 22.7 1.0
Pontypridd 67.3 2.4 0.1 28.5 1.6
Rhondda 81.1 2.5 0.1 15.4 0.8
Bro Morgannwg 49.1 3.5 0.4 45.0 1.9
Dwyrain De Cymru 60.4 4.0 0.2 32.8 2.6
Blaenau Gwent 76.5 2.8 0.1 19.4 1.2
Caerffili 70.6 2.5 0.2 25.8 0.8
Islwyn 65.9 2.2 0.1 31.2 0.6
Merthyr Tydfil a Rhymni 78.9 1.8 0.2 16.4 2.7
Mynwy 36.7 9.5 0.5 51.3 2.0
Dwyrain Caerfyrddin 45.1 5.2 0.2 44.6 4.8
Gorllewin Casnewydd 52.1 4.0 0.4 37.2 6.2
Torfaen 61.0 3.7 0.2 33.8 1.3
Cymru 59.5 6.8 0.3 30.3 3.0

'Dwi'n nodi ambell i bwynt sy'n fy nharo fi - yn ddi amau bydd eraill yn gweld rhywbeth arall yn y ffigyrau.
Bulleted List
  • Hunaniaeth Gymreig ar ei wanaf yng Ngogledd Cymru, ac ar ei gryfaf yng Ngorllewin De Cymru.
  • Arfon, Ogwr, Rhondda, Blaenau Gwent a Merthyr ydi'r etholaethau sydd a mwy na tri chwarter plant yn cael eu diffinio o dan y categori Cymreig - pob un yn etholaethau gyda chanran uchel o'u poblogaeth yn ddosbarth gweithiol a threfol.
  • Dim ond Alyn a Glannau Dyfrdwy sydd a mwy o blant Seisnig na Chymreig.
  • Aberconwy, Gorllewin Clwyd, Alyn a Glannau Dyfrdwy, Brycheiniog a Maesyfed, Trefaldwyn, Preseli Penfro, Canol Caerdydd, Gogledd Caerdydd, Bro Morgannwg, Mynwy, Gorllewin a Dwyrain Casnewydd gyda mwy na thraean plant yn cael eu diffinio yn Brydeinig. Mae etholaethau mwyaf dosbarth canol Cymru ymysg y rhain.
  • Arfon - lleoliad yr arwisgiad - ydi'r etholaeth efo'r hunaniaeth Brydeinig wannaf.
Ffigyrau i gyd yn ganrannol - data llawn ar gael yma.

Tuesday, January 25, 2011

Delwedd boncyrs ddiweddaraf True Wales

Diolch i Syniadau am dynnu ein sylw at y llun gorffwyll o amhriodol diweddaraf mae True Wales yn ei ddefnyddio fel rhan o'u 'hymgyrch' gwrth ddatganoli.

Cyngor Mon a Chyngor Gwynedd i uno?

Mae Betsan yn awgrymu ar ei blog bod newidiadau posibl i'r Mesur Llywodraeth Leol sy'n gwneud ei ffordd trwy'r Cynulliad ar hyn o bryd, yn awgrymu bod cynlluniau ar y gweill i orfodi Cyngor Mon i uno efo Cyngor Gwynedd.

Mae Cyngor Mon wrth gwrs yn ddihareb oherwydd methiant llwyr rhai o'i gynghorwyr i gydweithredu a chyd dynnu efo'i gilydd ac efo swyddogion. Tra bod Cyngor Gwynedd efo enw llawer gwell yn hyn o beth, mae'r cyngor hwnnw yn llai effeithiol am gyd weithio'n briodol ers ethol nifer o gynghorwyr Llais Gwynedd yn 2008. Gallai ychwanegu rhai o gymeriadau cwbl anhydrin Cyngor Mon i'r pair greu cymysgedd eithaf ffrwydrol mae gen i ofn.

Gwefan newydd Plaid Cymru

Mae'n dda gweld gwefan newydd Plaid Cymru. Fel gwefan Ia Dros Gymru mae'n ymdrech gaboledig sy'n cynnig gwasanaeth drefnus, effeithiol ac atyniadol.

Nid bod y naill wefan na'r llall yn cymharu ag un uniaith Saesneg True Wales wrth gwrs, sy'n edrych fel petai wedi ei chreu gan fyryriwr chweched dosbarth fel rhan o gwrs cychwynol - rhywbryd tua 2004.

Monday, January 24, 2011

Cytuno i amddiffyn swyddi a gwasanaethau

Mae'r cytundeb rhwng y Cynulliad, yr undebau a llywodraeth leol ynglyn a sut i ymdopi efo'r toriadau a ddaeth o gyfeiriad y Toriaid a'r Lib Dems yn ddatblygiad diddorol. Bwriad y cytundeb ydi sefydlu strategaeth Cymru gyfan i leihau'r toriadau mewn swyddi, amddiffyn gwasanaethau a chysoni'r ffyrdd o ymateb i'r bygythiadau.

Mae'r math yma o ddatblygiad yn dangos potensial y Cynulliad i ddod a gwahanol gydrannau o fywyd Cymreig at ei gilydd, er lles pawb. Y ffaith bod gwleidyddiaeth yng Nghymru wedi polareiddio llai na gwleidyddiaeth Brydeinig sy'n gwneud adeiladu consensws cymaint haws yma. Mi fyddai'n amhosibl cymryd mantais o hynny oni bai bod gan Gymru sefydliad cenedlaethol i ymgorffori ei gwleidyddiaeth cymharol gynhwysol a rhesymol.

Mae'r arfer o sefydlu consensws yn cyferbynnu efo gwleidyddiaeth mwy ffyrnig a rhanedig San Steffan - ac mae'n darparu un ddadl arall pam y dylid cael mwy o ddylanwad tros ein bywyd o Fae Caerdydd a llai o ddinas Llundain.

Sunday, January 23, 2011

Mwy ar dreialon Fianna Fail


Pan roedd yn edrych na allai pethau fynd ddim gwaeth ar lywodraeth Fianna Fail Brian Cowen, ymddiswyddodd un o brif gydrannau y glymblaid lywodraethol, Y Blaid Werdd, o'r llywodraeth heddiw.

Mae'n debyg na fydd y llywodraeth yn cwympo yn syth - mae'r prif bleidiau eisiau i fesur ariannol fynd trwy'r Dail yn gyntaf - ond mae'n debyg y bydd yna etholiad cyn diwedd mis Chwefror. Fel rydym wedi nodi yn y gorffennol, ychydig iawn o bleidiau democrataidd sydd wedi bod yn fwy llwyddiannus na Fianna Fail erioed. Rhan o'r rheswm am hyn ydi eu bod wedi llwyddo i fod yn tipyn o pob dim i bawb am gyfnod hir, gan apelio at geidwadwyr gwledig, pobl dosbarth gweithiol trefol a phobl sy'n ystyried eu hunain yn weriniaethwyr.

Yn anffodus i'r blaid, mae yna ddigon o bleidiau eraill i apelio at y cydrannau hyn o'u cefnogaeth - bydd eu pleidlais geidwadol yn mynd at Fine Gael, eu pleidlais dosbarth gweithiol trefol at Lafur ac i raddau llai Sinn Fein a man bleidiau'r chwith, a bydd y gweriniaethwyr - yn arbennig felly yn yr etholaethau sy'n cyffwrdd a'r ffin yn troi at Sinn Fein. 'Does gan Fianna Fail ddim hyd yn oed sicrwydd mai nhw fydd prif blaid yr wrthblaid pan ddaw mis Mawrth. Anaml iawn mae plaid wleidyddol wedi gweld ei chefnogaeth yn datgymalu yn y ffordd yma o'r blaen - mewn unrhyw wlad.

Saturday, January 22, 2011

Proses nid digwyddiad - mae'r ddadl yn gweithio'r ddwy ffordd

Un o brif ddadleuon Rachel Banner a'r ymgyrch Na ydi y byddai pleidlais Ia yn ein rhoi ar lethr llithrig tuag at annibyniaeth.

'Rwan mae yna ychydig o wirionedd y tu cefn i hyn. Mae yna bobl - fel fi - sy'n gweld datganoli fel proses fydd yn arwain at adeiladu gwladwriaeth Gymreig tros amser, bricsen wrth fricsen. Ond lleiafrif sy'n meddwl hynny, ac mi fyddai yna sawl refferendwm arall cyn y gellid sefydlu cyfundrefn wleidyddol annibynnol i Gymru. Fyddai yna ddim cwestiwn o sefydlu Cymru annibynnol heb refferendwm ar yr union bwnc hwnnw.

'Does yna ddim gwahaniaeth rhesymegol rhwng dadlau y gallai pleidlais gadarnhaol arwain at annibyniaeth a dadlau y byddai pleidlais negyddol yn peryglu bodolaeth y Cynulliad ei hun. Mi fyddai pleidlais negyddol yn gwanio'r Cynulliad, a byddai'n hwb sylweddol i'r sawl sydd am gael gwared o'r sefydliad.

'Dwi'n gwybod bod llawer ar yr ochr Ia yn anghytuno efo fi, ond os ydi'r ochr Na yn benderfynol o ddefnyddio'r bygythiad o annibyniaeth fel un o ddadleuon creiddiol eu hymgyrch, mae'n ymddangos i mi ei bod yn briodol dadlau y byddai pleidlais Na yn bygwth y Cynulliad. Byddai hynny wrth gwrs yn bygwth y pethau hynny sydd yn effeithio ar fywyd diwrnod i ddiwrnod pobl sydd wedi dod yn sgil y Cynulliad - presgripsiwns rhad ac am ddim, hawl i'r henoed deithio ar fysus am ddim, ffioedd dysgu rhesymol ac ati.

Cowen wedi mynd - wel wedi hanner mynd o leiaf


Fel 'dwi'n sgwennu hwn mae Brian Cowen yn ymddiswyddo fel arweinydd Fianna Fail, ond yn aros fel Taoiseach - ac hynny ychydig ddyddiau wedi iddo ennill pleidlais o ddiffyg hyder gan ei gyd aelodau seneddol Fianna Fail.

Felly mi fydd Fianna Fail am yr ychydig wythnosau nesaf efo arweinydd a phrif weinidog gwahanol - mae'r sefyllfa yn gwbl ryfeddol.

Thursday, January 20, 2011

Mathew Rhys - Peidleisiwch Ia

Cyfarfod yr ymgyrch Ia yng Nghaernarfon

Gari Wyn ac Alun Ffred gyda Charles Windsor yn y cefndir yn cadw golwg ar bethau - rhag i bethau fynd tros ben llestri

Cafwyd cyfarfod cadarnhaol iawn o'r ymgyrch Ia yng Nghaernarfon heno. Roedd torf dda o bobl o pob oed wedi hel ynghyd i wrando ar siaradwyr ar ran y Lib Dems, Llafur a Phlaid Cymru. Cafwyd trafodaeth digon bywiog ar y diwedd ynglyn a sut i gynnal yr ymgyrch yn lleol.

Trafod ymgyrch llawr gwlad oeddem wrth gwrs - y ground war rydym wedi son amdano yn y gorffennol. Mi fydd y math yma o ymgyrchu etholiadol yn fwy pwysig yn yr etholiad yma nag yw yn y rhan fwyaf o etholiadau yn dilyn penderfyniad bisar True Wales i beidio a chofrestru fel ymgyrch Na swyddogol. Ni fydd darllediadau gwleidyddol ar y teledu, ni fydd £70,000 ar gael i dalu am drefniadaeth ac ni fydd y gwasanaeth post yn cael ei ddefnyddio i ddosbarthu deunydd etholiadol.

Golyga hyn y bydd ymgyrchu stryd i stryd yn bwysicach o lawer na sy'n arferol. Mae'n debygol iawn bod llawer mwy o adnoddau dynol ac ariannol gan yr Ymgyrch Ia. Gallai penderfyniad True Wales arwain at ymgyrch wirioneddol anghytbwys - ac at gweir iddyn nhw eu hunain ar Fawrth 3 - cweir a allai dorri ewyllys y gwrth ddatganolwyr am gyfnod maith.

Mwy o GUBU ar ochr arall y Mor Celtaidd


Mae yna draddodiad yn yr Iwerddon lle bydd diwedd bywyd llawer o lywodraethau yn cael ei nodweddu gan ffraeo ac anhrefn cyffredinol - ond mae digwyddiadau heddiw a'r ychydig ddyddiau diwethaf yn rhyfeddol hyd yn oed wrth safonau Gwyddelig.

Sgandal lle mae'n ymddangos i'r Taoiseach gael gem o golff gydag aelodau o fwrdd rheoli banc AIB ychydig ddyddiau cyn achub croen y banc cwbl anghyfrifol yma gyda phres y cyhoedd, ymgais i ddisodli Cowen a fethodd ynghanol cryn dipyn o newid meddwl a throi breichiau, llu o ymddiswyddiadau cwbl anisgwyl ac anhygoel o'r Cabinet, clamp o ffrae rhwng partneriaid y glymblaid, Fianna Fail a'r Blaid Werdd, a ffraeo rhwng gwahanol aelodau Fianna Fail.

Daeth yr acronym GUBU yn rhan o eirfa wleidyddol Iwerddon wedi i Charles Haughey ddefnyddio'r term grotesque, unbelievable, bizarre and unprecedented wrth ddisgrifio un o'r llu o sgandalau rhyfeddol a ddigwyddodd yn ystod ei gyfnod fel Taoiseach. Gelwid ei lywodraeth yn GUBU Government wedi hynny.

Mae digwyddiadau'r dyddiau diwethaf yn gweneud i hyd yn oed lywodraethau Haughey ymddangos yn eithaf sefydlog a phwyllog. Galwyd etholiad heddiw, a bydd yn cael ei chynnal ar Fawrth 11. Dylai'r ymgyrch fod yn hwyl o'r radd flaenaf.

Wednesday, January 19, 2011

Effaith etholiadol AV

Ar gais arbennig cyfranogwr anhysbys ar dudalen sylwadau'r blogiad diwethaf sydd yn , ahem, adnabod, Ed Vazey gair neu ddau am y stori yn Golwg ynglyn a sylwadau arbenigwr ar systemau etholiadol o'r enw Dr John Cox.

Yn ol Dr Cox mi fydd y newidiadau yn y gyfundrefn bleidleisio, sy'n cael eu trafod yn Nhy'r Arglwyddi ar hyn o bryd, yn peryglu holl seddi Plaid Cymru a'r Lib Dems yng Nghymru yn etholiadau San Steffan.

Rwan mae yna ddwy wedd i'r newidiadau sy'n cael eu cynnig yn y mesur - lleihau'r nifer o etholaethau a chyflwyno cyfundrefn bleidleisio AV. Mae'r Dr Cox yn gywir i nodi y gallai lleihau'r nifer o etholaethau niweidio Plaid Cymru a'r Lib Dems (mae llawer yn dibynnu ar yr union ffiniau newydd wrth gwrs), ond mae'n anghywir i honni bod y drefn AV yn gwneud hynny. Mae hefyd yn anghywir i honni bod ymgeisydd angen 50% o'r etholwyr i ennill sedd. 50% o bleidleisiau cyntaf a phleidleisiau 'is' y sawl sy'n trosglwyddo eu pleidleisiau sydd ei angen - ac ni fydd pawb o bell ffordd yn trosglwyddo.

Mae natur gwleidyddiaeth etholiadol yn y DU yn creu proses o bolareiddio rhwng y Toriaid a Llafur yn ystod ymgyrch etholiadol San Steffan. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod pawb yn deall mai un o ddwy blaid fawr yn unig all arwain y llywodraeth, ac mae'r ymgyrch yn cael ei dominyddu gan naratif y pleidiau hynny sy'n mynnu bod dyfodol nefolaidd a gwych o flaen pawb os y byddan nhw yn cael eu hethol tra bod gwewyr, tlodi ac angau o flaen pawb os caiff y blaid arall ei hethol.

O dan yr amgylchiadau hyn bydd pobl yn anhebygol o roi eu pleidlais gyntaf i Lafur a'r ail i'r Toriaid - na roi'r gyntaf i'r Toriaid a'r ail i Lafur. Mi fyddwn yn awgrymu y bydd tueddiad o dan amodau presenol i Doriaid roi eu hail bleidlais i'r Lib Dems, ac i gefnogwyr Llafur fynd am y Blaid.

Tuesday, January 18, 2011

Ed Vaizey - ymgymerwr cynhebrwng S4C


Nid yn aml 'dwi'n cael fy hun ddim yn siwr beth i'w ddweud - ond dyna'r sefyllfa ar ol darllen am berfformiad rhyfeddol gweinidog darlledu San Steffan, Ed Vaizey, o flaen y Pwyllgor Dethol Cymreig heddiw.

Ymddengys nad ydi'r llywodraeth yn bwriadu sefydlu mecanwaith i amddiffyn cyllideb S4C pan fydd yn cael ei drosglwyddo i'r BBC ymhen pedair blynedd. Serch hynny, yn ol Vaizey, mae’r BBC yn annhebygol iawn o dorri cyllideb S4C a bod pobl wedi bod yn edrych ar yr ochor dywyll.

Mae'n ffodus nad oes yna lawer o bobl yn edrych ar y Pwyllgor Dethol yn mynd trwy'i bethau ar y teledu, neu mi fyddai yna syrcas o werthwyr ceir ail law, gwerthwyr time shares a ffenestri dwbl, benthycwyr arian, merched dweud ffortiwn, prynwyr hen bethau ac ati y tu allan i'w ddrws ffrynt bore fory. Os ydi Vaizey o ddifri yn credu y bydd honiadau Mark Thompson bod y Bib yn ymroddedig i ddarlledu Cymraeg yn sicrhau y bydd cyllideb y sianel yn saff wedi 2015, mi gredith y creadur gwirion unrhyw beth.

Nid dweud bod Mark Thompson yn gelwyddog ydw i wrth gwrs - 'dwi'n siwr bod Thompson a'r BBC yn ymroddedig i ddarlledu Cymraeg - yn union fel maent yn ymroddedig i Radio 1,2,3,4 a 5 Live, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru, BBC Radio Scotland, BBC Radio nan Gaidheal, BBC Radio Ulster, BBC Radio Foyle, BBC World Service ynghyd a llu o sianeli radio rhanbarthol yn Lloegr.

Ac wedyn wrth gwrs mae yna BBC One a BBC Two BBC Three, BBC Four, BBC News, BBC Parliament, CBBC CBeebies, BBC Northern Ireland, Scotland a Wales, BBC Alba, BBC Asia yn ogystal a fersiynau rhanbarthol Seisnig o BBC One. Gallwch gymryd yn ganiataol bod Thompson a'r BBC yn ymroddedig i'r oll o'r uchod hefyd.

Ac yna mae yna'r Wefan enfawr a drud _ _ _ - 'dwi'n blino - mae'r rhestr yn ddi ddiwedd.

Hyd yn oed a derbyn sicrwydd Thompson am ei ymroddiad i S4C, a chredu mai fo fydd cyfarwyddwr cyffredinol y Bib am byth, byth, bythoedd, mae rwdlan Vaizey yn dal yn boenus o naif. Ar ol 2015 mi fydd rhaid i S4C gystadlu efo pob math o bethau eraill mae'r Bib yn 'ymroddedig' iddyn nhw, ac mi fydd y Bib yn teimlo gwasgfa ariannol. 'Does yna ddim lle o gwbl i gredu y bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i ddarlledu Cymraeg. Yn wir, mae creu dadl pam y dylai'r Bib wneud hynny yn hynod anodd - nid darlledu trwy gyfrwng y Gymraeg ydi prif bwrpas y Bib.

Bydd S4C yn cystadlu efo holl gydrannau eraill y Bib am gyllid, a bydd yn gwneud hynny o dan gryn anfantais - bydd y Bib yn chwilio am gostau cynhyrchu isel a chynulleidfaoedd uchel. Bydd S4C yn cynnig costau cynhyrchu uchel a chynulleidfaoedd bychain. Bydd mewn sefyllfa wan i fargeinio, a bydd yn gwywo a chrebachu'n gyflym.

Monday, January 17, 2011

Tlodi syniadaethol a deallusol yr ymgyrch Na

Mae'n debyg gen i bod natur anymunol a phersonol ymgyrchu True Wales yn adrodd cyfrolau am y diffyg dadleon synhwyrol sydd ar gael iddynt.

Pan mae ymgyrch yn gorfod awgrymu bod eu gwrthwynebwyr yn credu'r hyn maent yn ei gredu oherwydd drygioni, gwendid, llygredd neu ddiffygion persenoliaeth eraill, mae'n arwydd pendant o dlodi syniadaethol a deallusol yr ymgyrch honno.

Go brin bod yna ymgyrch mwy idiotaidd wedi ei chynnal mewn unrhyw refferendwm yn hanes y DU na hon.





Sunday, January 16, 2011

Pam bod Gillan yn fygythiad i'r Toriaid

Mae yna nifer wedi cyfeirio at Cheryl Gillan yn sgil y llanast diweddaraf i ddod o gyfeiriad y ddynas - Welsh Ramblings er enghraifft - a'r sylwadau diddorol yma gan Alwyn sy'n ei gosod mewn cyd destun hanesyddol.

Wna i ddim ychwanegu at y sylwadau hynny ag eithrio i bwysleisio pa mor niweidiol ydi Gillan i achos y Toriaid Cymreig. Mae'r blaid, yng nghyd destun y Cynulliad wedi cymryd llwybr eithaf clir (ers i Nick Bourne gymryd yr awennau o leiaf). Maent wedi dod yn nes at dir canol gwleidyddiaeth Cymru mewn materion cymdeithasol ac economaidd - mae'r tir canol yng Nghymru i'r chwith i'r tir canol Prydeinig wrth gwrs - maent wedi gwneud eu hunain yn fwy 'Cymreig' mewn materion cyfansoddiadol a ieithyddol, ac maent wedi gwneud eu gorau i gyflwyno'r ddelwedd o fod yn effeithiol (competent). Mae'r ddau newid cyntaf wedi bod yn eithaf llwyddiannus, er eu bod yn ymddangos yn dreuenus o aneffeithio a di glem o ran creu polisi yn aml.

Mae ethol llywodraeth sy'n cael ei harwain gan y Ceidwadwyr yn San Steffan wedi cymhlethu'r strategaeth yma - ac o bosibl wedi ei gwneud yn anghynaladwy. Mae ymysodiadau llywodraeth San Steffan ar S4C a lleoliad gwleidyddol asgell dde'r glymblaid mewn materion economaidd yn tynnu'n groes i'r hyn mae Bourne yn ceisio ei wneud.

O dan amgylchiadau fel hyn mae'n allweddol i'r cyswllt rhwng San Steffan a Chymru fod efo'r gallu a'r dealltwriaeth i geisio lleddfu'r tyndra mae'r sefyllfa newydd yn ei greu rhwng y ddelwedd o'r blaid Geidwadol mae Bourne am ei chyflwyno, a'r un sy'n cael ei chyflwyno yn ddyddiol gan y cyfryngau.

Mae'n weddol amlwg nad ydi Gillan yn addas ar gyfer y pwrpas yma - 'does ganddi hi fawr o ddiddordeb na dealltwriaeth o wleidyddiaeth Cymru - ac mae hynny'n boenus o amlwg. Mae hyn yn ei dro yn atgyfnerthu'r canfyddiad nad oes fawr o ots gan lywodraeth San Steffan am Gymru.

John Redwood oedd yr Ysgrifennydd Gwladol diwethaf i fod yn gwbl anaddas. Nid diffyg gallu, na diffyg diddordeb oedd ei broblem , ond gwleidyddiaeth ymhell i'r dde o wleidyddiaeth Cymru, a phersenoliaeth anatyniadol iawn i lawer o Gymry. Roedd yn wyneb trychinebus o anaddas i'r Toriaid yng Nghymru.

Er iddo roi'r ffidil yn y to fel Ysgrifennydd Gwladol yn 1995 er mwyn sefyll yn erbyn John Major am arweinyddiaeth ei blaid, roedd y ddelwedd roedd wedi ei chreu yn niweidiol iawn i'r Toriaid ddwy flynedd yn ddiweddarach. Roedd eu methiant i ennill sedd o gwbl yng Nghymru yn etholiadau San Steffan 1997 a 2001 yn deillio yn rhannol o gwymp yn eu cefnogaeth ac yn rhannol oherwydd pleidleisio tactegol yn eu herbyn. Roedd delwedd wleidyddol anaddas yn cyfrannu at y ddau ffactor yma. Gallai'r modd mae Gillan yn gwyrdroi'r ddelwedd mae Bourne yn ceisio ei chyfleu gael effaith nid anhebyg i'r hyn a ddigwyddodd efo Redwood.

Petai gan y Toriaid fewath o synnwyr byddant yn cael gwared o'r ddynas cyn gynted a phosibl.

Saturday, January 15, 2011

Graffiau'r Lib Dems

Fedrwn i ddim peidio a chwerthin o weld y graff *dychanol) yma ar politicalbetting.com. Cyfeiriad ydi o wrth gwrs at arfer anymunol y Lib Dems o gynhyrchu graffiau di ystyr i 'brofi' mai dim ond nhw sy'n gallu curo Plaid X mewn rhyw etholiad neu'i gilydd.

'Dydi'r ddadl mai ond y Lib Dems all guro Llafur ddim yn edrych yn addawol iawn yn yr is etholiad a gaiff ei galw yn sgil ymddiswyddiad Eric Illsley yn Barnsley Central - chwech yn fwy o bleidleisiau a gafodd i Lib Dems na'r Toriaid. Ond 'dwi'n siwr y bydd creadigrwydd y Lib Dems yn y maes o gam arwain etholwyr yn delio efo'r broblem fach yma yn ddigon di drafferth.

Thursday, January 13, 2011

Cof Cheryl yn methu eto fyth



'Draw ar ei flog mae Vaughan yn cael trafferth deall pam nad oedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, eisiau cyfaddef ei rhan mewn mesur yn 2002 i ddiddymu'r angen am ganiatad cyn symud organau dynol o gyrff marw er mwyn eu trawsblannu.

Mae'r ateb yn weddol syml mi dybiwn, mae gan y ddynas gof uffernol o wael. 'Dydi hi ddim hyd yn oed yn cofio ffeithiau cwbl syml sy'n ymwneud efo'i gwaith diwrnod i ddiwrnod - pwy ydi Prif Weinidog Cymru er enghraifft.

Yn ffodus mae ei chof yn gweithio'n well mewn perthynas ag agweddau eraill ar ei bywyd. Mae'n cofio bwydo ei chwn, ac mae hefyd yn cofio gwneud yn siwr mai'r cyhoedd sy'n talu am fwyd i'r dywydiedig gwn.

Wednesday, January 12, 2011

Y Tea Party a'r gwrth ddatganolwyr

Gadawyd y sylw isod gan Macsen ar dudalen sylwadau fy mlogiad ddoe.

True Wales = Tea Party Cymru.

Gwleidyddiaeth gwrth-wleidyddiaeth, gwrth-wleidyddion, ymosod ar y 'crachach' (Cymry Cymraeg, Caerdydd, Washington DC) ond ddim ar bobl sydd â wir grym ac sy'n wir crachach ac sy'n cadw nhw'n dlawd - bancwyr, City of London, system dreth sy'n dal i elwa'r dosbarth rentier yn fwy na threth-dalwyr cyffedin.

Macsen


'Rwan mae'r sylw yn un diddorol, ac yn wir yn un treiddgar - ond yn y bon 'dwi'n anghytuno efo fo. Er bod tebygrwydd rhwng dadleuon y Te Parti a'r gwrth ddatganolwyr, mae'r reddf waelodol sy'n eu gyrru yn sylfaenol wahanol. Mi geisiaf egluro.

Mae llawer o themau'r ymgyrch Na ar un olwg yn wrth wleidyddol - ond nid gwrth wleidyddol ydynt mewn gwirionedd, ond gwrth Gymreig. Er enghraifft, mae'r rhesymeg bod y Cynulliad yn ddrud, am godi trethi ac ati ar un olwg yn syrthio i'r patrwm hwn.

Ond o dan unrhyw linyn mesur bron, mae llywodraeth San Steffan yn ddrytach i ni o lawer na'r Cynulliad - nhw sy'n codi trethi, nhw sydd newydd godi TAW, mae Aelodau Seneddol yn cael mwy o gyflog a mwy o gostau nag Aelodau Cynulliad, mae yna 500,000 o weision sifil yn gweithio i lywodraeth San Steffan a thua 6,000 i'r Cynulliad.

Roedd yna swnian rhyfeddol am gost adeilad newydd y Cynulliad o gyfeiriad y gwrth ddatganolwyr. £67,000,000 oedd cost yr holl adeilad. Costiodd Portcullis House - bloc o swyddfeydd i 200 o Aelodau Seneddol San Steffan a agorwyd yn 2001, £235m. Costiodd y coed ffigys sy'n addurno'r lle £150,000, aeth £2,000,000 am fleinds trydanol i pob Aelod Seneddol a ddefnyddiai'r lle, a chafodd pob un gadair ar gost o £440 yr un. Gwariant San Steffan ar gyfer 2010 oedd £661,000,000,000. Gwariant y Cynulliad oedd £15,000,000,000.

Rwan, fyddwn ni ddim yn clywed swnian am hyn oll gan y gwrth ddatganolwyr - nid gwariant llywodraethol ydi'r broblem, gwariant llywodraethol Gymreig ydi'r broblem.

Yn yr un modd mae'r honiadau o lygredd llywodraethol yn dangos safonau dwbl rhyfeddol. Ag eithrio ymgais Nick Bourne i gael y cyhoedd i dalu am ei 'stafell molchi a'i ymdrech yntau ac Alun Cairns i gael i pod am ddim, mae'r Cynulliad yn drawiadol o lan. Ar y llaw arall cafodd San Steffan ei foddi gan tsunami o gyhoeddusrwydd gwael yn sgil y sgandal treuliau y llynedd. Gwnaeth y cyhoeddusrwydd hwnnw y sefydliad yn destun gwawd oddi mewn ac oddi allan i'r DU. Er hynny crafu o gwmpas am rhywbeth i'w ddweud am y Cynulliad mae'r gwrth ddatganolwyr, 'does yna ddim gair am y cafn a adwaenir fel San Steffan. Nid llygredd ydi'r broblem, ond llygredd Cymreig (dychmygol fel mae'n digwydd).

Nid ydi aneffeithiolrwydd o ran goruwchwylio'r economi yn broblem chwaith - os ydi hynny wedi digwydd ar lefel Brydeinig. Mi gostiodd yr hyn a ddigwyddodd yn sgil methiant diweddar llywodraeth y DU i oruwchwylio'r banciau £850,000,000,000 i'r trethdalwr - digon o arian i gyllido Cymru am bron i 60 o flynyddoedd. Ond aneffeithiolrwydd Cymreig ydi'r broblem - ac unwaith eto, mae hwnnw'n ddychmygol i raddau helaeth. Does yna ddim cwestiwn ynglyn ag addasrwydd y DU i fod yn gyfrifol am ei heconomi ei hun yn codi yn sgil y drychineb banciau wrth gwrs.

Mae Prydain yn wlad sydd wedi ei dominyddu gan elitiaid ffurfiol ac anffurfiol ers sefydlu'r wladwriaeth. Yn wir mae ganddi gyfundrefn ddosbarth chwerthinllyd o gymhleth a ffurfiol, gydag arglwyddi, marchogion, barwniaid, ieirll, tywysogion ac ati ar hyd y lle i gyd.

Mae mwyafrif llethol y cabinet presenol wedi bod mewn ysgolion bonedd ac maent yn gyfoethog iawn, mae tros i hanner aelodau seneddol Ceidwadol wedi bod mewn ysgolion felly hefyd. Ceir cyn ddisgyblion y sector breifat yn dominyddu grisiau uchaf mwyafrif llethol y galwedigaethau a phroffesiynau sy'n talu'n dda yn y DU. 6.5% o blant sydd yn mynychu ysgolion bonedd. Ond 'dydi'r elitiaeth yma ddim yn broblem, y 'crachach' a'r 'Taffia' ydi'r broblem - ein fersiwn tila a di ddim ni o elitiaeth.

Ychwaneger at hyn y casineb at yr iaith, y rwdlan am buro ethnig a thypdra'r Cymry ac mae'n weddol eglur mai casineb tuag at Gymru sy'n gyrru'r ymgyrch Na. Gelyniaeth a chasineb tuag at awdurdod llywodraethol sy'n gyrru'r Te Parti. Mae'r deilliannau yn gallu edrych yn debyg, ond mae'r ddeinameg sy'n gyrru'r ddau dueddiad yn dra gwahanol.

Tuesday, January 11, 2011

Pam bod yr ymgyrch Na yn denu cymaint o nytars?

Fydda i ddim yn dilyn tudalennau sylwadau gwefannau fel Wales Online a Blog Bethan yn aml iawn - mae criw bach o wrth Gymreigwyr obsesiynnol yn bla arnynt. Ond mi wnes i eithriad heno ac edrych ar y sylwadau ynglyn ag un stori ar ddatganoli ar WalesOnline.

Er bod y sylwadau at ei gilydd yn hynod anwybodus, ac yn aml yn hysteraidd o ran goslef, maen nhw'n ddiddorol i'r graddau eu bod yn rhoi darlun i ni o rai o elfennau'r naratif sydd wedi ei ddefnyddio gan yr ymgyrch Na yn y gorffennol, a sy'n debygol o gael ei ddefnyddio'r tro hwn.

Yn gyntaf pres - ymddengys bod mwy o ddatganoli am fod yn ddrud iawn ac am gostio llwyth i ni mewn trethi:

Only 60 AM, they'll never cope especially with only six translators each.
This is just empire building for more AM & big pay rises.


Vote No to avoid this current lot costing us more and more and more money, just when it is in short supply.

Vote yes and you will be paying income tax to London and Cardiff , there is to much money already being wasted ,first of all politicians of all parties want to start looking after the interest and listen to the people they represent , before giving any of them more power!

'Rwan 'does a wnelo'r refferendwm ddim oll a threthi nag arian. Os oes yna ddadl ariannol o gwbl mae'n debyg y gellid honni y byddai cael gwared o'r drefn bresennol o gicio deddfwriaeth yn ol ac ymlaen o Gaerdydd i Lundain yn fwy cost effeithiol. Ond mae cost ychwanegol honedig cymryd penderfyniadau yng Nghaerdydd wedi bod yn ganolog i'r ddau refferendwm diwethaf ac mi fydd yn hwn.

Mae elitiaeth, y Taffia a'r crachach yn thema bythol wyrdd arall. 'Dydi hi byth yn gwbl glir pwy ydi'r crachach a'r Taffia - ond mae ganddyn nhw rhywbeth i'w wneud efo'r iaith ac maen nhw yn bobl ddrwg iawn. Mae yna hefyd amheuaeth ynglyn a'u hiechyd meddwl.

Vote NO! a yes vote will give more power to the Nationalist elite TAFFIA who want onlt to withdraw from the U.K. and will force businesses out of Wales with their lunatic Welsh language proposals.

Ond yr hyn sydd tu hwnt i unrhyw amheuaeth ydi bod na grwpiau bach iawn ydi'r crachach / Taffia, grwpiau sydd yn ceisio cymryd mantais ar bawb arall. Ffermwyr a gwleidyddion proffesiynol yn ol un - dau o'r grwpiau galwedigaethol lleiaf yng Nghymru yn yr oes sydd ohoni:

Yes supporters are a bunch of 'crachach' farmers and political elite afraid to show themselves in case their freebie existence and grant dependancy.



Ac wedyn wrth gwrs mae yna anallu'r Cymry i reoli eu bywyd cenedlaethol eu hunain - yn arbennig felly mewn materion economaidd, yn thema pwysig

Wales will end up Bankrupt, and the joke of the U.K. what we really need is to get rid of the pointless WAG and find our voice where it counts, and that's Westminster, where Wales has always had excellent politicians and we have had positve and real influence within the U.K. where we all belong.

Ac mae'n bwysig hefyd cofio peidio rhoi'r cyfle i'r Cymry gymryd rhan yn eu hoff hobi - puro ethnig:

if the yes vote is the winner. its one big fix. out off 200 hundred people i asked. in caerphilly. only 16 would vote yes. asked why their reply was that they could kick out non welsh speakers. there you have it total ethnic cleansing. taffy style.

Heb son am y ffaith ein bod ni'n bobl naturiol lwgr:

AM's look after themselves eg, ieuan wyn jones (air link from north to south) yet no link from ebbw vale to newport by train.
-Jocelyn davies has a flat in cardiff (why she only lives in newbridge), office in newbridge, house in treowen and she doesn't answer emails when things get tricky.
-edwina hart opens a mental health facility in swansea because she lives there.

Rwan mae'n eithaf hawdd chwerthin ar ben y llifeiriant o nonsens plentynaidd yma - ond ag anghofio'r ieithwedd anghymedrol am ennyd, mae llawer o'r themau yn rhai sydd i'w clywed gan bobl fel Rachel Banner neu i'w gweld ar wefan True Wales.

A dyna ydi'r ymgyrch Na yn y pen draw - ymdrech i'n argyhoeddi ein bod fel pobl yn hunanol, rhanedig, llwgr, sinigaidd ac isel ein gallu.

Mewn geiriau eraill mae'n ymgyrch sydd wedi ei seilio ar niwrosis a hunan gasineb - a dyna pam ei bod mor atyniadol i'r nytars sy'n cribinio'r We am rywle i gael dweud eu dweud a rhywun i ddarllen eu mwydro gwallgo.

Monday, January 10, 2011

Bradley Manning


Bradley Manning ydi'r milwr sydd ar hyn o bryd mewn carchar yn America o dan amheuaeth o ryddhau gwybodaeth i Wikileaks am ryfeloedd a chysylltiadau diplomyddol mewnol yr UDA. Ymysg y toreth o stwff sydd wedi ei ryddhau ceir y fideo gwirioneddol anymunol yma o filwyr Americanaidd mewn hofrenyddion yn llofruddio pobl ar y llawr yn Irac.



Beth bynnag, yn ol Radical Wales mae gan Bradley Manning gysylltiadau Cymreig, mae ei fam yn Gymraes, mae ganddo deulu yma a bu'n byw yng Nghymru am dair blynedd. Ar hyn o bryd mae wedi ei garcharu yng ngharchar milwrol Quantico yn Virginia. Mae'n cael ei gaethiwo mewn cell ar ei ben ei hun ac nid yw'n cael mynediad i awyr iach, goleuni naturiol ac nid yw'n cael ymarfer. Mae'r cyfeillion sydd yn y fideo yn dal a'u traed yn rhydd wrth gwrs.

Gellir cyfrannu i gronfa amddiffyn Bradley Manning yma.

Sunday, January 09, 2011

Is etholiad Oldham East & Saddleworth


Yn ol politicalbetting.com Llafur fydd yn ennill is etholiad Oldham East & Saddleworth yn weddol hawdd. Mi gofiwch i'r cyn aelod, Phil Woolas (y boi nad oedd am i Shirley Evans ac Evelyn Calcabrini gael dod i Gymru o'r Wladfa) golli ei sedd oherwydd iddo ddweud celwydd am ei wrthwynebydd Lib Dem, Elwyn Watkins. Mewn amgylchiadau cyffredin byddai'r Lib Dems yn disgwyl ennill yn eithaf hawdd - yn rhannol oherwydd cydymdeimlad tuag at Watkins, ond yn bennaf oherwydd bod y blaid yn effeithiol iawn am ymladd is etholiadau - yn arbennig lle mae yna lawer o bleidleisiau tactegol ar gael - sydd yn wir am Oldham East & Saddleworth.

Os bydd Watkins yn colli, bydd yn slap gyntaf o nifer posibl i'r glymblaid yn Llundain tros y pum mis nesaf. Byddai perfformiadau sal yn etholiadau'r Alban a Chymru yn ddigon drwg, byddai colli cannoedd o seddi cyngor ar hyd a lled y DU yn waeth, a byddai colli'r refferendwm AV yn gadael llawer o Lib Dems yn gofyn beth yn union maen nhw yn ei gael fel gwobr am adael i'w cefnogaeth ddatgymalu er mwyn i Cameron gael rhedeg y DU.

Os ydi'r glymblaid o dan straen ar hyn o bryd, mi fydd hi'n gwegian erbyn dechrau'r haf. Yr unig beth a allai ei hachub ydi'r posibilrwydd y bydd aelodau seneddol Lib Dem yn ofn am eu bywydau wynebu eu hetholwyr mewn etholiad cyffredinol, ac eisiau cicio'r diwrnod du y bydd rhaid iddynt wneud hynny cyn belled a phosibl i'r dyfodol.

Saturday, January 08, 2011

Pa gyfundrefnau addysg sydd orau am 'greu' siaradwyr Cymraeg?

Mae'n un o nodweddion rhyfedd (am wn i) rhannau o'r Gogledd ein bod yn tueddu i gysylltu hunaniaeth Gymreig a'r iaith Gymraeg yn agos iawn. Yn wir, pan oeddwn i'n blentyn mewn pentref yn Arfon roeddem (fel plant o leiaf) yn cysylltu hunaniaeth a iaith yn llwyr - Cymro oedd rhywun oedd yn siarad Cymraeg, Sais oedd rhywun na fedrai ond siarad Saesneg. Roedd hyn ar un olwg yn ddigon naturiol ar y pryd - go brin ein bod yn adnabod unrhyw bobl nad oeddynt yn siarad Cymraeg nad oeddynt yn Gymry. Doedd o ddim wedi gwawrio ar lawer ohonom bod llawer o bobl, hyd yn oed ym Mangor (ychydig filltiroedd i ffwrdd), nad oeddynt yn defnyddio'r Gymraeg oedd yn ystyried eu hunain yn Gymry.

Ta waeth, mae peth o'r cymhlethdod yma sy'n perthyn i ni fel Gogleddwyr yn codi ei ben yn y drafodaeth ynglyn a'r blogiad isod. Ymhellach mae Alwyn (a Dylan) yn cyflwyno dadl y dylai Gwynedd symud o'r drefn bresenol o edrych ar y rhan fwyaf o ysgolion cynradd fel rhai 'naturiol Gymraeg', a dechrau creu ysgolion penodedig Gymraeg fel y gwneir mewn siroedd eraill. Mae trefn Mon a (a 'dwi'n meddwl un Ceredigion hefyd - 'dwi ddim mor gyfarwydd a'r fan honno) yn debyg i un Gwynedd.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi hyn - 'dwi'n rhyw gydymdeimlo ar un olwg efo Alwyn - heb wybod yn iawn 'dwi'n rhyw amau ei fod o wedi bod mewn sefyllfa lle'r oedd ei blant yn cael eu hunain mewn lleiafrif bach o Gymry Cymraeg mewn rhyw ysgol neu'i gilydd yn Nyffryn Conwy. Mi fyddwn i'n anghyfforddus efo sefyllfa felly. Ond 'dwi ddim yn cytuno y dylid mynd i'r cyfeiriad hwn - mi egluraf pam erbyn diwedd y blogiad.

Cyn gwneud hynny 'dwi am fynd ati i edrych ar ffigyrau'r Cynulliad ynglyn a rhuglder ieithyddol plant. Mi gychwynwn ni efo'r ffigyrau tros Gymru.


Sector Cynradd



Adref Rhugl Peth Cymraeg Dim Cymraeg
Cymru - 2009/10 7.6 5.4 24.0 62.9
Cymru – 2008/09 7.5 5.2 23.3 64.0
Cymru – 2007/08 7.7 4.9 23.5 63.9
Cymru – 2006/07 7.6 5.0 23.9 63.5
Cymru – 2005/06 8.6 4.2 23.1 64.1


Dau bwynt bach ynglyn a'r rhain - rhugl ond ddim yn siarad Cymraeg adref ydi'r ail golofn wrth gwrs - ac mae'n syndod nad oes yna fwy o wahaniaeth rhwng y ffigyrau cynradd ac uwchradd ag ystyried yr holl addysg cyfrwng Cymraeg sydd ar gael bellach. Mi fyddai dyn yn disgwyl gweld gwahaniaeth mawr rhwng ffigyrau plant yn dair a phedair oed a'r ffigyrau unarddeg oed (a dyna beth ydi'r uchod yn bennaf).

Yn ail mae'n bwysig cydnabod bod yna gynnydd graddol yn y nifer o blant sy'n siarad yr iaith yn rhugl, a bod yna leihad graddol yn y ganran na all siarad y Gymraeg o gwbl.

Sector Uwchradd



Adref Rhugl Peth Cymraeg Dim Cymraeg
Cymru - 2009 2010 8.8 6.9 37.4 46.8
Cymru – 2008/09 8.7 6.6 36.5 48.2
Cymru – 2007/08 8.7 6.4 34.8 50.1
Cymru – 2006/07 8.6 6.8 30.2 54.4
Cymru – 2005/06 8.8 5.9 27.5 57.8


Y ffigyrau nesaf ydi'r rhai sy'n cymharu gallu ieithyddol plant mewn gwahanol awdurdodau lleol. Mae'r amrediad yn drawiadol - ac mae'n adlewyrchu cymhlethdod Cymru o ran iaith.

Yn ol Awdurdod Lleol - Cynradd

Awdurdod Lleol
Adref Rhugl Peth Cymraeg Dim Cymraeg






Ynys Môn
36.7 6.4 39.4 17.5
Gwynedd
57.9 7.5 23.4 11.2
Conwy
11.9 1.3 24.3 62.5
Sir Ddinbych
9.9 5.3 33.0 51.8
Sir y Fflint
1.2 2.3 26.2 70.3
Wrecsam
1.7 3.6 25.1 69.5
Powys
6.0 3.8 59.0 31.3
Ceredigion
27.9 6.2 41.1 24.9
Sir Benfro
5.4 5.5 16.4 72.7
Sir Gaerfyrddin
21.3 12.9 24.5 41.4
Abertawe
2.5 3.8 9.2 84.5
Castell-nedd Port Talbot 4.6 7.5 10.0 77.9
Pen-y-bont ar Ogwr 1.2 4.3 9.7 84.8
Bro Morgannwg 3.2 5.4 5.8 85.5
Rhondda Cynon Taf 4.9 7.3 14.7 73.0
Merthyr Tudful
0.8 7.9 7.1 84.1
Caerffili
1.3 9.6 36.2 52.9
Blaenau Gwent
0.3 1.5 36.1 62.1
Tor-faen
0.1 3.5 44.9 51.6
Sir Fynwy
1.3 2.1 71.3 25.3
Casnewydd
0.2 1.9 41.1 56.8
Caerdydd
3.5 4.6 6.6 85.3
Cymru
7.6 5.4 24.0 62.9


Yn ol Awdurdod Lleol - Uwchradd

Awdurdod Lleol
Adref Rhugl Peth Cymraeg Dim Cymraeg






Ynys Môn
41.4 12.9 42.6 3.1
Gwynedd
58.6 10.7 25.5 5.1
Conwy
10.4 2.7 60.9 26.0
Sir Ddinbych
12.7 5.6 49.2 32.5
Sir y Fflint
2.5 3.3 40.0 54.2
Wrecsam
4.2 5.2 23.8 66.8
Powys
6.8 4.9 62.0 26.3
Ceredigion
37.2 18.6 33.9 10.2
Sir Benfro
8.1 7.0 33.1 51.8
Sir Gaerfyrddin
25.3 10.6 26.4 37.7
Abertawe
3.3 6.0 30.6 60.1
Castell-nedd Port Talbot 6.2 5.5 30.4 57.9
Pen-y-bont ar Ogwr 1.1 2.8 23.7 72.3
Bro Morgannwg 2.0 6.6 40.8 50.6
Rhondda Cynon Taf 4.1 15.7 8.5 71.8
Merthyr Tudful
0.2 0.2 40.6 59.1
Caerffili
0.4 9.7 63.8 26.1
Blaenau Gwent
0.1 0.2 75.2 24.5
Tor-faen
1.7 9.6 67.5 21.2
Sir Fynwy
0.1 0.2 92.0 7.7
Casnewydd
0.1 0.1 50.1 49.7
Caerdydd
4.1 5.8 11.3 78.8
Cymru
8.8 6.9 37.4 46.8

Rwan mae yna ambell i beth yn y tablau nad ydynt yn taro deuddeg. Er enghraifft 'dwi'n gwrthod credu bod pump gwaith cymaint o blant cwbl ddi Gymraeg yng Nghaerfyrddin na sydd ym Mynwy. Yr unig eglurhad y gallaf feddwl amdano am y nonsens yma ydi bod pobl mewn ardaloedd lle na chlywir y Gymraeg byth, byth, mae rhieni yn meddwl bod eu plant yn gwneud yn eithaf da os ydynt yn gallu dweud rwy'n hoffi coffi, neu bore da.

Mae yna nifer o bethau eraill i edrych arnynt, ac efallai y byddaf yn gwneud hynny maes o law. Ond i bwrpas y ddadl yma yr hyn sy'n ddiddorol ydi'r ail golofn - yr un sy'n rhoi'r ganran sy'n siarad y Gymraeg yn rhugl, ond sydd ddim yn ei siarad adref. Dyma'r golofn mwyaf arwyddocaol o ran effeithiolrwydd dysgu Cymraeg i blant o gefndiroedd di Gymraeg. Mae'r ffigyrau uwchradd yn bwysicach na'r rhai cynradd yn hyn o beth.

Rwan mae'n amlwg o edrych ar y tabl bod ffigyrau Gwynedd, Mon a Cheredigion yn uchel - ond maent mewn gwirionedd yn uwch nag ydynt yn ymddangos ar yr olwg gyntaf. Oherwydd bod canrannau cymharol uchel o blant sy'n siarad y Gymraeg adref yn y siroedd hyn, mae yna lai o blant o gefndiroedd di Gymraeg i'w troi yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Os ydym yn creu tabl newydd i ddangos pa ganran o'r plant sydd ddim yn siarad y Gymraeg adref sydd yn ei siarad yn rhugl, mae'r ffigyrau yn drawiadol:

Sector Uwchradd

Awdurdod Lleol
Cefndir di Gymraeg ond rhugl.



Ynys Môn
22
Gwynedd
26
Conwy
3
Sir Ddinbych 7
Sir y Fflint
3
Wrecsam
5
Powys
5
Ceredigion
30
Sir Benfro
8
Sir Gaerfyrddin 14
Abertawe
6
Castell-nedd Port Talbot 6
Pen-y-bont ar Ogwr 3
Bro Morgannwg 7
Rhondda Cynon Taf 16
Merthyr Tudful 0
Caerffili
10
Blaenau Gwent 0
Tor-faen
10
Sir Fynwy
0
Casnewydd
0
Caerdydd
6
Cymru
8

Hynny ydi yr ardaloedd sydd yn trin y rhan fwyaf o ysgolion fel rhai 'naturiol Gymraeg' ydi'r rhai mwyaf effeithiol am gynhyrchu siaradwyr Cymraeg rhugl o blith y sawl nad ydynt yn siarad y Gymraeg adref. 'Dydi'r trefniadau yng Ngwynedd, Mon a Cheredigion ddim yn hollol unffurf wrth gwrs - mae yna ysgolion cynradd Cymraeg penodedig ym Mangor, Caergybi ac Aberystwyth. Heb fod a'r ffigyrau, mi fyddwn yn betio mai dyma'r rhannau o'r siroedd hynny sydd leiaf effeithiol am gynhyrchu siaradwyr Cymraeg rhugl.

Hynny ydi mae'n ymddangos i mi bod system sy'n trin mwyafrif llethol ein hysgolion cynradd fel rhai 'naturiol Gymraeg' yn fwy effeithiol am 'greu' Cymry Cymraeg nag ydi'r systemau eraill.

'Dwi'n gwybod bod yna newidyn arall pwysig - bod yna lawer o gymunedau naturiol Gymraeg yn y siroedd o dan sylw, a bod plant yn clywed y Gymraeg yn cael ei siarad o'u cwmpas y tu allan i'r ysgol.

Ond - a chydnabod hynny - mi fyddwn hefyd yn nodi y byddai'n gam mawr i symud o gyfundrefn sy'n ymddangos i fod yn un llwyddiannus i un sy'n ymddangos i fod yn llai llwyddiannus.


Data Cynulliad ydi'r cwbl o'r uchod, oni bai am y tabl olaf. Ffigyrau oll yn ganrannau.

ON 3.30 - 'Dwi newydd sylwi ar y blogiad hwn gan Alwyn, sy'n ymdrin a'r pwnc dan sylw.

Friday, January 07, 2011

Hunaniaeth Gymreig

Alwyn achosodd tipyn o syndod i mi y bore 'ma trwy honni mai 60% yn unig o bobl Gwynedd sydd yn Gymry bellach. 'Dwi ddim yn siwr beth yn union oedd sail ei honiad, ond yn ol Ioan cyfeirio roedd at gyfeiriad o ystadegau o'r Labour Market Survey ar y blog Wales Home ddoe.

'Rwan, ystadegau ar hunaniaeth ydi'r rhain - ac maent wedi eu casglu o arolwg. Mae dibynadwyedd arolwg wedi ei seilio ar effeithiolrwydd y fethodoleg a ddefnyddir - hynny yw bod y sawl a holir yn cynrychioli'r grwp sy'n wrthrych ymchwil yn ei gyfanrwydd yn eithaf agos. Mae cael y grwp a holir i gynrychioli'r grwp cyfan yn anodd.

'Rwan mae gennym ffigyrau dibynadwy am hunaniaeth un grwp ym mhoblogaeth Cymru, sef plant ysgol. Mae'r ffigyrau hyn yn ddibynadwy oherwydd bod pob plentyn yn cael ei gyfri (mae pob dim yn cael ei gyfri ym myd addysg 'da chi'n gweld), a rhiant y plentyn sydd yn diffinio'r hunaniaeth. Lle mae pawb yn cael ei gyfri, 'does yna ddim angen llunio methodoleg arolwg - mae'r ffigyrau yn gywir. Wele'r ffigyrau diweddaraf (2009 / 2010):


Cymreig Seisnig
Prydeinig Gw / Alb Arall
Ynys Mon 66.6 8.2 23.7 0.4 1.1
Gwynedd 74.4 7.9 15.5 0.2 2.0
Conwy 49.6 7.4 40.8 0.5 1.7
Dinbych 49.5 14.3 33.7 0.3 2.2
Fflint 37.6 23.7 36.2 0.6 1.9
Wrecsam 55.1 9.4 31.3 0.5 3.7
Powys 42.6 18.7 36.0 0.5 2.2
Ceredigion 63.3 12.1 20.3 0.5 3.7
Penfro 53.2 8.6 35.6 0.4 2.2
Caerfyrddin 64.7 6.7 26.1 0.4 2.2
Abertawe 62.7 4.5 27.5 0.3 5.0
C/N Port Talbot 73.6 4.0 20.9 0.3 1.2
Pen y Bont 70.6 4.0 23.3 0.2 1.9
Bro Morgannwg 51.1 3.7 42.1 0.5 2.6
Rhondda Cynon Taf 74.8 2.3 21.6 0.1 1.1
Merthyr Tydfil 79.4 1.8 15.3 0.2 3.4
Caerffili 69.1 2.3 27.7 0.2 0.7
Blaenau Gwent 76.5 2.8 19.4 0.1 1.2
Torfaen 58.8 3.5 36.0 0.2 1.4
Mynwy 35.1 10.6 52.2 0.4 1.7
Casnewydd 50.2 4.1 39.1 0.3 6.2
Caerdydd 53.8 2.8 34.5 0.4 8.5
Cymru 59.5 6.8 30.3 0.3 3.0

Mae hunaniaeth Gymreig ar ei gryfaf yn y Gogledd Orllewin (Gwynedd) a rhai o gymoedd y De Ddwyrain (Blaenau Gwent, Rhondda, Merthyr yn ogystal a Chastell Nedd Port Talbot a Phen y Bont).

'Rwan 'dwi'n sylweddoli nad ydi'r ddau grwp (pobl yn y gweithlu a phlant) yn union yr un peth, ond mae pobl yn y gweithlu yn rhieni i blant, a byddai dyn yn disgwyl cyfatebiaeth gweddol glos rhwng y naill grwp a'r llall.

Mae yna dystiolaeth bod dirywiad mewn hunaniaeth Gymreig, ond 'dydi'r patrwm yma ddim yn syml - mae llai yn diffinio eu plant fel Cymry nag oedd yn 2004 / 2005 ond mae mwy nag oedd yn 2007 / 2008. Mae ychydig o gynnydd yn y ganran sy'n cael eu disgrifio fel Saeson, ac mae'r ganran Brydeinig (fel yr un Gymreig) yn gyfnewidiol. Yr unig grwp sydd ar gynnydd cyson ydi'r sawl nad ydynt gydag hunaniaeth sy'n deillio o Ynysoedd Prydain.


Cymreig Seisnig Albanaidd / Gwyddelig Prydeinig Arall
2009/2010 59.5 6.8 0.3 30.3 3.0
2008/09 57.8 6.5 0.3 32.4 3.0
2007/08 59.0 6.5 0.3 31.5 2.7
2006/07 60.8 6.6 0.3 29.9 2.3
2005/06 62.2 6.5 0.3 29.0 1.9
2004/05 63.4 6.5 0.3 28.1 1.6

Data Cynulliad ydi'r cwbl o'r uchod. Ffigyrau oll yn ganrannau.