Monday, January 10, 2011

Bradley Manning


Bradley Manning ydi'r milwr sydd ar hyn o bryd mewn carchar yn America o dan amheuaeth o ryddhau gwybodaeth i Wikileaks am ryfeloedd a chysylltiadau diplomyddol mewnol yr UDA. Ymysg y toreth o stwff sydd wedi ei ryddhau ceir y fideo gwirioneddol anymunol yma o filwyr Americanaidd mewn hofrenyddion yn llofruddio pobl ar y llawr yn Irac.



Beth bynnag, yn ol Radical Wales mae gan Bradley Manning gysylltiadau Cymreig, mae ei fam yn Gymraes, mae ganddo deulu yma a bu'n byw yng Nghymru am dair blynedd. Ar hyn o bryd mae wedi ei garcharu yng ngharchar milwrol Quantico yn Virginia. Mae'n cael ei gaethiwo mewn cell ar ei ben ei hun ac nid yw'n cael mynediad i awyr iach, goleuni naturiol ac nid yw'n cael ymarfer. Mae'r cyfeillion sydd yn y fideo yn dal a'u traed yn rhydd wrth gwrs.

Gellir cyfrannu i gronfa amddiffyn Bradley Manning yma.

3 comments:

Anonymous said...

Mae'n debyg iddo fynychu Ysgol yn Hwlffordd am gyfnod.

Dewi said...

Os mae'n dod o Gymru neu peidio. Mae'r amgylchiadau maen cael ei gadw ynddo yn afiach a dyla bod y D.U yn sefyll i fyny ir UDA. Mae'r hogyn yn ddi-euog nes mae nhwn profi'r ffordd arall.

Yn ol son mae stad meddyliol o wedi gwendido dros y wythnosau diwethaf.

Trist iawn, a dyla bod nin gwneud mwy a Obama.

Un o Eryri said...

Y fidio yna yw y peth mwyaf dychrynllyd 'rwyf erioed wedi ei weld. Mae pwy bynnag sydd wedi dod a'r fidio yma i sylw Wikleaks yn haeddu medal