Tuesday, January 25, 2011

Gwefan newydd Plaid Cymru

Mae'n dda gweld gwefan newydd Plaid Cymru. Fel gwefan Ia Dros Gymru mae'n ymdrech gaboledig sy'n cynnig gwasanaeth drefnus, effeithiol ac atyniadol.

Nid bod y naill wefan na'r llall yn cymharu ag un uniaith Saesneg True Wales wrth gwrs, sy'n edrych fel petai wedi ei chreu gan fyryriwr chweched dosbarth fel rhan o gwrs cychwynol - rhywbryd tua 2004.

5 comments:

Anonymous said...

gwefan neis .... ond lle mae'r darn gorau - y blogs?!

Cai Larsen said...

Y tu ol i'r botwm PlaidLive.

Anonymous said...

Dwi'n gwybod ei bod hi'n gynnar ond ti'n meddwl bydd yr ymgyrch 'Ie' yn llwyddianus? Oes unrhyw bolau piniwn i ymddangos cyn Mawrth?

Cai Larsen said...

Oes mae'n debyg - ac mi fyddwn yn tybio mai Ia fydd y canlyniad.

Mi fyddwn yn amlwg yn trafod hyn ymhellach tros yr wythnosau nesaf.

Anonymous said...

Gobeithio 'ny yn wir.