Thursday, January 20, 2011

Mwy o GUBU ar ochr arall y Mor Celtaidd


Mae yna draddodiad yn yr Iwerddon lle bydd diwedd bywyd llawer o lywodraethau yn cael ei nodweddu gan ffraeo ac anhrefn cyffredinol - ond mae digwyddiadau heddiw a'r ychydig ddyddiau diwethaf yn rhyfeddol hyd yn oed wrth safonau Gwyddelig.

Sgandal lle mae'n ymddangos i'r Taoiseach gael gem o golff gydag aelodau o fwrdd rheoli banc AIB ychydig ddyddiau cyn achub croen y banc cwbl anghyfrifol yma gyda phres y cyhoedd, ymgais i ddisodli Cowen a fethodd ynghanol cryn dipyn o newid meddwl a throi breichiau, llu o ymddiswyddiadau cwbl anisgwyl ac anhygoel o'r Cabinet, clamp o ffrae rhwng partneriaid y glymblaid, Fianna Fail a'r Blaid Werdd, a ffraeo rhwng gwahanol aelodau Fianna Fail.

Daeth yr acronym GUBU yn rhan o eirfa wleidyddol Iwerddon wedi i Charles Haughey ddefnyddio'r term grotesque, unbelievable, bizarre and unprecedented wrth ddisgrifio un o'r llu o sgandalau rhyfeddol a ddigwyddodd yn ystod ei gyfnod fel Taoiseach. Gelwid ei lywodraeth yn GUBU Government wedi hynny.

Mae digwyddiadau'r dyddiau diwethaf yn gweneud i hyd yn oed lywodraethau Haughey ymddangos yn eithaf sefydlog a phwyllog. Galwyd etholiad heddiw, a bydd yn cael ei chynnal ar Fawrth 11. Dylai'r ymgyrch fod yn hwyl o'r radd flaenaf.

2 comments:

Anonymous said...

Dwim yn meddwl allwch chi gymharu Cowen hefo Haughey.Toedd na ddim gymaint o ffraeo o fewn Fianna Fail a sydd yna nawr.

Raid i fi ddeud hefyd o ni'n edrych ar RTE News Now trwyr bore ar ol gael text (mae ar gael yn y D.U). Ac roedd lluniau or Dail yn hyrt. Suspensions, Resumed. Pwynt teg gan Llafur yn dweud nad ydyr Iwerddon hefo hanner Llywodraeth. A wan sefyllfa hyrt o gael Gweinidog yr Amgylchedd & Allanol!

Fe fydd na chwalfa yn yr Iwerddon pan ddaw Mis Mawrth i fianna fail, a mae nhwn haeddu e.

Dwi ddim yn meddwl bod pobol yn sylweddoli pa mor ddrwg uffernol ydio yno. Mae na deimlad ofnadwy yno, ac raid i fi ddeud oedd on afiach bod yno cyn ir IMF ddod. Oedd pawb mor, mor drist. A methu deallt sut roedd y wlad wedi mynd o fod yn 'Celtic Tiger' i'r Celtic Laughing Stock.
Bechod.

"Can a bank break a country" - Anglo Irish effectively did.

Cai Larsen said...

Roedd yna ddigon o ffraeo yn amser Charlie - holltodd FF i greu'r PDs ac yn dilyn un ymgais i gael gwared o Haughey roedd cwffio yng nghoridorau Leinster House rhwng gwahanol TDs FF.

Mae economi De Iwerddon yn sylfaenol gadarn. Y broblem ydi bod y llywodraeth idiotaidd yma wedi clymu'r wladwriaeth i ddyledion y banciau, a gwneud i ddinasyddion y wlad dalu am eu camgymeriadau.

Dylid bod wedi gadael i'r banciau fynd i'r diawl.