Wednesday, January 19, 2011

Effaith etholiadol AV

Ar gais arbennig cyfranogwr anhysbys ar dudalen sylwadau'r blogiad diwethaf sydd yn , ahem, adnabod, Ed Vazey gair neu ddau am y stori yn Golwg ynglyn a sylwadau arbenigwr ar systemau etholiadol o'r enw Dr John Cox.

Yn ol Dr Cox mi fydd y newidiadau yn y gyfundrefn bleidleisio, sy'n cael eu trafod yn Nhy'r Arglwyddi ar hyn o bryd, yn peryglu holl seddi Plaid Cymru a'r Lib Dems yng Nghymru yn etholiadau San Steffan.

Rwan mae yna ddwy wedd i'r newidiadau sy'n cael eu cynnig yn y mesur - lleihau'r nifer o etholaethau a chyflwyno cyfundrefn bleidleisio AV. Mae'r Dr Cox yn gywir i nodi y gallai lleihau'r nifer o etholaethau niweidio Plaid Cymru a'r Lib Dems (mae llawer yn dibynnu ar yr union ffiniau newydd wrth gwrs), ond mae'n anghywir i honni bod y drefn AV yn gwneud hynny. Mae hefyd yn anghywir i honni bod ymgeisydd angen 50% o'r etholwyr i ennill sedd. 50% o bleidleisiau cyntaf a phleidleisiau 'is' y sawl sy'n trosglwyddo eu pleidleisiau sydd ei angen - ac ni fydd pawb o bell ffordd yn trosglwyddo.

Mae natur gwleidyddiaeth etholiadol yn y DU yn creu proses o bolareiddio rhwng y Toriaid a Llafur yn ystod ymgyrch etholiadol San Steffan. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod pawb yn deall mai un o ddwy blaid fawr yn unig all arwain y llywodraeth, ac mae'r ymgyrch yn cael ei dominyddu gan naratif y pleidiau hynny sy'n mynnu bod dyfodol nefolaidd a gwych o flaen pawb os y byddan nhw yn cael eu hethol tra bod gwewyr, tlodi ac angau o flaen pawb os caiff y blaid arall ei hethol.

O dan yr amgylchiadau hyn bydd pobl yn anhebygol o roi eu pleidlais gyntaf i Lafur a'r ail i'r Toriaid - na roi'r gyntaf i'r Toriaid a'r ail i Lafur. Mi fyddwn yn awgrymu y bydd tueddiad o dan amodau presenol i Doriaid roi eu hail bleidlais i'r Lib Dems, ac i gefnogwyr Llafur fynd am y Blaid.

7 comments:

A Pearce said...

Ia. Ond, ym mhob un o'r seddi lle mae gan y Blaid unrhyw siawns o ennill, y Blaid Lafur sy'n tueddu dod yn ail (ar wahan i Aberconwy efallai). Ni fydd pleidleisiau'r Blaid Lafur yn debygol o gael eu hail-dosbarthu os nad y'n nhw'n dod yn 3ydd neu'n is.

menaiblog said...

I bwy fyddai Toriaid Mon wedi rhoi eu hail a'u trydydd pleidlais y Blaid 'ta Llafur?

Alwyn ap Huw said...

Rwy'n amau sylw Dr Cox. O edrych ar y wahanol etholaethau sydd wedi eu hawgrymu yma ac ar flogiau eraill, rwy’n weddol hyderus bydda’r Blaid yn ennill dwy sedd o dan AV (ac mae 2 o 30 bron cystal â 3 allan o 40).

Ond yr wyt ti'n codi un o wendidau AV. Pe bai pawb yng Nghymru yn dewis Plaid Cymru / y Blaid Ryddfrydol/ Y Gwyrddion fel eu hail dewis prin byddai'r seddi byddai'n adlewyrchu ail ddewis mwyafrif y boblogaeth.

Mewn sedd lle mae Llafur ar drwch blewyn o flaen y Ceidwadwyr ni fydd ail ddewis y ddau brif Blaid yn cyfrif am ddim. Bydd chweched / seithfed / wythfed bleidlais cefnogwyr y Lwnis, UKIP neu'r BNP yn cyfrif yn fwy nag ail ddewis Ceidwadwr neu Lafurwr.

Mae'r syniad bod aelod o'r BNP yn cael wyth pleidlais, neu ragor, mewn etholiad lle nad ydwyf i yn cael dim ond un neu ddau yn fy ffieiddio.

Hogyn o Rachub said...

Dwi'n rhyw amau, hyd yn oed heb ystyried newid yn nifer y seddau, mai gwanychu'r Blaid fyddai prif effaith y newid. Fyddai fawr o help yn nifer o seddau'r de, lle câi Llafur fwyafrif beth bynnag. Pwy fyddai Ceidwadwyr a Dems Rhydd Arfon fwya tebygol o roi'r ail bleidlais (neu'r drydedd) i - Llafur yn hytrach na Phlaid Cymru fentrwn i ddweud.

Hefyd fe ddeuai'r rhan fwyaf o ail bleidleisiau'r Blaid gan Lafurwyr mi dybiaf, sydd fawr o help i'r Blaid yn unman. O leihau nifer y seddau gallai hynny waethygu'n sylweddol.

Anonymous said...

Dwi o blaid PR ond yn erbyn AV sydd y gwaetha' o ddau fyd.

Oni welaf dadleuon da fel arall dwi am fotio yn erbyn AV.

Y peth gorau gall y Toriaid wneud yw lleihau seddi Cymru o 40 i 30. Byddai hynny'n newyddion drwg i AS Llafur Cymru ond yn newyddion gwych i'r Cynulliad a'r ymdaith genedlaethol.


Boi

A Pearce said...

Sy'n i ddim yn dweud bod AV yn dueddol o roi "wipe out" i'r Blaid; na'i gwneud hi'n amhosib iddyn nhw ennill. Cafodd Elfyn dros 50% o'r bleidlais yn 2005, a 49.6% yn 2001. Cafodd Adam Price 44% yn Caerfyrddin yn 2001.

Gyda chefnogaeth fel hwnnw mae'n annhebyg gweld Dwyfor Meirionydd o leiaf yn mynd i unrhyw blaid arall; wedi dweud hynny fel dywedodd rywun mae'n dibynnu lle yn union bydd y ffiniau newydd yn cael eu llunio (ond os gaiff Dyffryn Conwy neu Caernarfon ei hychwanegu i'r sedd, ni ddylai fod unrhyw broblem).

Ond fe fydd hi'n annodd ennill seddi newydd, neu'r seddi da'n ni wedi eu ennill yn y gorffenol - Ynys Mon er enghraifft; yn enwedig os ddaw hi'n ran o sedd newydd gyda Bangor.

Yn anffodus, mae rhai'n teimlo'r fath atgasedd tuag at y Blaid fel eu bod nhw'n debygol o roi unrhywun yn uwch na ni.

menaiblog said...

A bod yn onest dwi'n ei chael hi'n anodd dychmygu Toriaid yn rhoi eu hail bleidlais i Lafur, na Llafurwyr yn rhoi eu hail bleidlais i'r Toriaid mewn etholiadau San Steffan - ond 'does gen i ddim ffordd o ddweud i sicrwydd.

Yn ddi amau bydd polau piniwn yn cymryd AV i ystyriaeth os caiff y drefn ei derbyn, a byddant yn gofyn i bobl i ble bydd eu hail bleidlais yn mynd. Bydd gennym well syniad wedyn.