Tuesday, January 04, 2011

Pleidleisio tactegol yn etholiadau'r Cynulliad

Mae rhyw led gonsensws ymysg sylwebyddion gwleidyddol yng Nghymru nad oes yna fawr o bwynt mewn mynd ar ol pleidleisiau rhanbarthol. Y ddamcaniaeth ydi y daw'r pleidleisiau rhanbarthol yn sgil rhai etholaethol, ac nad oes modd rheoli'r hyn sydd yn digwydd yn y rhanbarthau oherwydd cymhlethdod y gyfundrefn cyfri a dosbarthu seddi. 'Dydw i ddim cweit yn cytuno. Er bod llawer o'r rhesymu yma yn gywir, mae yna eithriad pwysig.

Ar hyn o bryd mae Plaid Cymru mewn clymblaid efo Llafur yn y Bae. Mae'r ddwy blaid yn gytun ar y prif fater gwleidyddol ar hyn o bryd - y toriadau mewn gwariant cyhoeddus. Does gan Llafur ddim gobaith o gwbl o ennill seddau rhanbarthol yn yr un o't tair rhanbarth De Cymru. Prin iawn ydi eu gobaith yn y Gogledd hefyd. Y rheswm am hyn ydi'r ffaith bod ganddynt cymaint o seddi uniongyrchol diogel. I bob pwrpas mae pleidlais i Lafur ar y rhestrau rhanbarthol yn wastraff pleidlais ym mhob rhanbarth ag eithrio'r Canolbarth a'r Gorllewin. 'Dydi pleidlais i'r Blaid ddim yn wastraff - yn wir mae nifer o seddi rhanbarthol y Blaid yn ymylol iawn, ac mae pob pleidlais yn bwysig iddi.

'Dydi'r rhan fwyaf o bobl ddim yn deall y gyfundrefn bleidleisio - ond dylai fod yn rhan o strategaeth etholiadol y Blaid i'w gwneud yn gwbl glir i gefnogwyr Llafur ym mhedair o'r pump rhanbarth bod pleidlais ranbarthol i Lafur yn ei gwneud yn fwy tebygol y caiff Tori, Lib Dem, neu aelod o UKIP neu'r BNP seddi - a bod pleidlais ranbarthol i'r Blaid yn ei gwneud yn llai tebygol y caiff aelodau o'r cyfryw bleidiau eu hethol.

2 comments:

Anonymous said...

Un tacted i Blaid Cymru dylsai fod i geisio ennill cwpwl o filoedd o bleidleisiau (rhanbarthol gan fwyaf efallai) gan bobl sydd ddim am i Lafur dra-arglwyddiaethu.

Gall y pleidleiswyr yma fod yn Doriaid, LibDems efallai hyd yn oed Llafur. Y neges gan y Blaid felly yw rhywbeth ar hyd llinellau

'Na i Gymru un blaid' /
'No to One Party Rule'

Anonymous said...

Mae'n ddigon posib bydd y Blaid Werdd yn ennill sedd rhanbarthol Canol De Cymru.