Saturday, January 29, 2011

Pam bod y BBC am ddiffinio natur yr ochr Na ar ein rhan?

Mae'r ffrae bach ynglyn a goblygiadau penderfyniad True Wales i beidio a gwneud cais i'r Comisiwn Etholiadau i fod yn gynrychiolydd swyddogol yr ymgyrch Na yn dinoethi gwirionedd sylfaenol ynglyn a'r BBC yng Nghymru.

Gellir gweld prif elfennau'r ffrae yn y tri linc canlynol, gwefan WalesOnline, blog Saesneg Alwyn ap Huw a blog golygydd gwleidyddol y Bib yng Nghymru, Betsan Powys. Yr hyn a geir mewn gwniadur ydi awgrym gan yr ymgyrch Ia na ddylai'r cyfryngau roi triniaeth arbennig i True Wales ar draul elfennau gwrth ddatganoli eraill, apel gan Alwyn i'w ymgyrch o a'r Lwnis gael statws cyfartal i un True Wales, a Betsan yn ei thro yn rhoi ei throed i lawr a dweud mai'r Bib fydd yn dewis pwy sy'n cael dadlau tros yr achos Na ar eu rhaglenni, a neb arall. Yr awgrym pendant ydi mai True Wales fydd yn cael gwneud hynny.

Wele resymu Betsan:

We'll decide who to interview based - not on whether they've sent an envelope to the Electoral Commission - but after considering things like whether a group, or individual, has a demonstrable track record of campaigning on the issue, have campaigning capacity and whether they represent that side of the debate to the greatest extent. In other words you try to use editorial judgement when you decide who to interview and how often.
Cyn mynd ymlaen mae'n werth nodi pwysigrwydd y Bib i'r ymgyrch - lleiafrif o bobl Cymru sy'n darllen papurau Cymreig neu Gymraeg, bydd penderfyniad True Wales yn golygu na fydd yna ddarllediadau gwleidyddol ac ychydig iawn o raglenni newyddion a materion cyfoes Cymreig sydd ddim yn dod o stabl y Gorfforaeth. Mi fydd dylanwad y Bib ar ganfyddiad pobl o'r refferendwm yn llawer, llawer cryfach na sy'n arferol mewn sefyllfa fel hyn.

Rwan o bob dim yr ydym yn ei wybod am y Bib yng Nghymru yr hyn sy'n ei nodweddu fwy na dim arall ydi ei barchusrwydd a'i natur sefydliadol - a bydd ei ddehongliad o sut y dylid cyflwyno'r ymgyrch Na yn adlewyrchu hynny. Bydd y Bib eisiau cyflwyno'r refferendwm i ni ar ei ffurf a'i ddelwedd ei hun - yn barchus ac yn sefydliadol.

Mae yna pob math o elfennau sy'n wrthwynebus i ddatganoli yng Nghymru - UKIP, nytars gwrth Gymreig fel y rhai sy'n plagio tudalennau sylwadau blog Betsan, elfennau ceidwadol a Seisnig ym mywyd cenedlaethol Cymru, Llafurwyr o Oes y Cerrig ac ati. Fyddan ni ddim yn cael gweld yr amrywiaeth yma gan y Bib - byddant yn saniteiddio'r ochr Na, yn gwneud iddi ymddangos yn fwy rhesymol a llai rhagfarnllyd nag ydyw mewn gwirionedd. Trin True Wales fel petai nhw ydi'r ymgyrch Na swyddogol ydi'r ffordd y byddant yn gwneud hynny.

Ac unwaith eto bydd y Bib yn cyflwyno darlun cyfyng o wleidyddiaeth Cymru ger ein bron - darlun sy'n dweud llawer mwy wrthym am y BBC nag yw am Gymru. Mae diwylliant mewnol y lled fonopoli cyfryngol yma ymhlith y prif resymau pam bod hafn rhwng y Gymru mae'r rhan fwyaf ohonom yn byw ynddi o ddiwrnod i ddiwrnod, a'r fersiwn parchus, diddrwg, didda rydym wedi ein cyflyru i rhyw deimlo y dylem fyw ynddi.

No comments: