Thursday, January 27, 2011

Uno Mon a Gwynedd - un neu ddau o sylwadau brysiog



Cynlluniau tybiedig Carl Sarjeant i orfodi Cyngor Mon i uno efo Cyngor Gwynedd ydi'r stori wleidyddol fawr yn y Gogledd ar hyn o bryd.

'Rwan, mae'n fwy na phosibl mai ymgais i ddychryn cynghorwyr Mon ydi'r newidiadau munud olaf i'r Mesur Llywodraeth Leol sydd ger bron y Cynulliad ar hyn o bryd - newidiadau fyddai'n caniatau i'r llywodraeth orfodi i gynghorau uno.

Ond mae'n bosibl bod Carl yn bwriadu gorfodi'r newid go iawn. Byddai goblygiadau i hyn. Yn gyntaf mae yna 75 cynghorydd yng Ngwynedd a 40 ym Mon ar hyn o bryd. 'Does yna ddim posibilrwydd o gwbl y byddai gan y cyngor newydd 115 o gynghorwyr - byddwn yn disgwyl nifer nes at hanner hynny. Byddai hyn yn arwain at newid sylweddol ym mhersonel y cyngor newydd. Byddai hefyd yn ei gwneud yn anos o lawer i gynghorwyr annibynnol gael eu hethol.

Problem arall fyddai'r amseriad. 'Does yna ddim llawer o amser cyn yr etholiadau cyngor nesaf - tua 15 mis. Go brin bod hyn yn amser digonol i gymryd y camau sylweddol fyddai eu hangen cyn uno'r ddau gyngor. 'Dydi hi ddim yn debygol y byddai Sargeant am ddisgwyl tan yr etholiadau canlynol - tros i bum mlynedd yn y dyfodol - cyn gweithredu ei newidiadau. Felly mae'n debyg y byddai'r etholiadau yng Ngwynedd (ac efallai Mon, os na fydd y Cynulliad yn anfon comisiwn anetholedig i redeg y sioe) yn cael eu gohirio hyd 2013 neu 2014. Mae cynsail diweddar i hyn - gohirwyd etholiadau lleol Gogledd Iwerddon oedd i fod i'w cynnal yn 2009, hyd eleni oherwydd cynlluniau uno yno.

Dyddiau difyr.

No comments: