Tuesday, January 25, 2011

Delwedd boncyrs ddiweddaraf True Wales

Diolch i Syniadau am dynnu ein sylw at y llun gorffwyll o amhriodol diweddaraf mae True Wales yn ei ddefnyddio fel rhan o'u 'hymgyrch' gwrth ddatganoli.

4 comments:

Anonymous said...

Mae'n rhyfedd bod True Gwent yn cymharu hunan-lywodraeth Cymru i'r Peoples Republic of China.

Meddyliwch am yr hyn mae gwrth-ddatganolwyr eisiau: unffurfiaeth llwyr o ran cyfraith, llywodraeth a chymdeithas gyda chanol yr ymerodraeth, a hynny ar draul hunaniaeth rhanbarthau "ymylol" a'i hawl i redeg materion eu hunain.

Swnio'n gyfarwydd, dydi. Ai Screw Wales yw Plaid Gomiwnyddol Tsieina "in disguise"??!?

Cai Larsen said...

Pwynt da iawn.

Aled GJ said...

Dwi ddim mor siwr pa mor werthfawr ydi'r pwyslais parhaus hyn ar natur "boncyrs" True Wales gen ti Cai.Dwi'n digwydd credu bod angen ymgyrch NA credadwy er mwyn i'r ochr IA beidio a gorffwys ar eu rhwyfau yn ormodol a'u tanio i gyflwyno'r rhesymau dros fwy o bwerau ar stepan y drws. Wrth gwrs, mae TW wedi tanseilio hynny eu hunain wrth dewis peidio a bod yn ymgyrch NA swyddogol, ond dwi'n meddwl bod Rachel Banner yn codi pwyntiau digon teg mewn mannau mewn erthygl sy'n werth ei darllen. Does wiw i ni anwybyddu rhai o'r pwyntiau hyn ac yn wir, mi fyddwn i'n dadlau bod yna werth ystyried ambell un o ddifrif er mwyn gwella Cymru ar ol Mawrth 3. Er enghraifft, mae hi'n llygad ei lle ynghylch y gor-bwyslais presennol ar Fae Caerdydd a grymuso'r dosbarth gwleidyddol yn y Bae ar draul pobman arall yng Nghymru.Mae gwir angen trafodaeth genedlaethol ar ddatganoli grym o Gaerdydd hyn, ac efallai ei fod yn enghraifft o True Wales yn rhoi hwb (damweiniol) i achos democratiaeth yng Nghymru maes o law!

Cai Larsen said...

Dwi'n rhyng anghytuno Aled - os ydi True Wales eisiau defnyddio dadleuon gorffwyll, 'dwi'n meddwl ei bod yn briodol tynnu sylw at hynny.

Does gen i ddim parch at ddeallusrwydd Banner chwaith - mae'n chwilio am pob dadl y gall ddod o hyd iddi ac yn eu cyflwyno - does yna fawr o gysondeb rhyngddyn nhw.

Mae'r ddadl am ormod o rym gan wleidyddion Bae Caerdydd yn fwy o ddadl gwrth wleidyddiaeth na gwrth ddatganoli - mae llawer mwy o rym wedi ei ganoli yn Llundain.