Sunday, January 23, 2011

Mwy ar dreialon Fianna Fail


Pan roedd yn edrych na allai pethau fynd ddim gwaeth ar lywodraeth Fianna Fail Brian Cowen, ymddiswyddodd un o brif gydrannau y glymblaid lywodraethol, Y Blaid Werdd, o'r llywodraeth heddiw.

Mae'n debyg na fydd y llywodraeth yn cwympo yn syth - mae'r prif bleidiau eisiau i fesur ariannol fynd trwy'r Dail yn gyntaf - ond mae'n debyg y bydd yna etholiad cyn diwedd mis Chwefror. Fel rydym wedi nodi yn y gorffennol, ychydig iawn o bleidiau democrataidd sydd wedi bod yn fwy llwyddiannus na Fianna Fail erioed. Rhan o'r rheswm am hyn ydi eu bod wedi llwyddo i fod yn tipyn o pob dim i bawb am gyfnod hir, gan apelio at geidwadwyr gwledig, pobl dosbarth gweithiol trefol a phobl sy'n ystyried eu hunain yn weriniaethwyr.

Yn anffodus i'r blaid, mae yna ddigon o bleidiau eraill i apelio at y cydrannau hyn o'u cefnogaeth - bydd eu pleidlais geidwadol yn mynd at Fine Gael, eu pleidlais dosbarth gweithiol trefol at Lafur ac i raddau llai Sinn Fein a man bleidiau'r chwith, a bydd y gweriniaethwyr - yn arbennig felly yn yr etholaethau sy'n cyffwrdd a'r ffin yn troi at Sinn Fein. 'Does gan Fianna Fail ddim hyd yn oed sicrwydd mai nhw fydd prif blaid yr wrthblaid pan ddaw mis Mawrth. Anaml iawn mae plaid wleidyddol wedi gweld ei chefnogaeth yn datgymalu yn y ffordd yma o'r blaen - mewn unrhyw wlad.

14 comments:

Anonymous said...

Ha ha.....mae'r prif bleidiau oll felly eisiau i'r bobl fod yn gaeth i'r bancwyr am flynyddoedd. Roeddwn yn meddwl fod gan y Gwyddelod fwy o asgwrn cefn!

Plaid Gwersyllt said...

Mi eith y Gwyrddion i'r un cyfeiriad ar PD's ar ol y fiasco ddiweddara ma. Micheal Martin yn ffefryn i ennill yr arweinyddiaeth FF er fod yna un Eamon O'Cuev yn perthyn i 'dynasti' gwleidyddol mwya Iwerddon sef wyr i Eamon De Valera. Dal ddim yn siwr beth ddigwyddith fory hefo'r bleidlais diffyg hyder yn y llywodraeth; ydy FG/LLafur/Gwyrdd a'r Shinners yn cefnogi y bleidlais. Fory yn ddiwrnod diddorol yn Nhy Leinster!!

Cai Larsen said...

Anhysb - yn union, mi ddylai'r llywodraeth fod wedi gwneud fel Gwlad yr Ia a gadael i'r banciau fynd i'r diawl.

Plaid Gwersyllt - yn y bon mae FG a Llafur eisiau i'r Mesur Ariannol fynd trwy'r Dail cyn i'r etholiad gael ei galw.

Mi fyddwn yn tybio y bydd cytundeb i orfodi'r Mesur trwy'r Dail yn gyflym os bydd FF yn galw etholiad yn syth wedyn. Mae'n debyg y gellid pasio'r Mesur erbyn dydd Gwener.

Anonymous said...

Edrych yn debyg mai 26 Chwefror fydd yr etholiad. Diddorol fydd gweld pwy fydd yn enill pleidiau Fianna Fail- neb dal i hoffi Fine Gael, yn enwedig y joc o arweinydd sydd ganddynt ar y funud (dim ond ryw 5mis yn ol oedd o wedi cael 'motion of confidence' yn ei erbyn!). Ac wrth gwrs mae gan Llafur "hanes". Yn ANFFODUS dwin tybio fe fydd Sinn Fein yn ennill lot mwy o TD's ac yn amlwg fe fydd hynny yn broblem i Fine Gael (eto hefo hanes!!). Cwestiwn ydy os fysa Fianna Fail mewn sefyllfa da (ond maen siwr ddim) a fydd nhw yn fodlon gweithio a Sinn Fein!?.

Mae'r amgylchidadau draw yn yr Iwerddon yn ddiddorol ag yn ffars ryn pryd!!. Diddorol hefyd gweld mai TD's syn penderfynnu pwy yw arweinydd y blaid, nid fel yma yn y D.U ble mae cystadleuaeth. O nin gweld hynnyn reit odd.

I gloi, er mai enw plaid Cowen ydy'r "Republican Party". Yn enw yn unig ydy hynny. Dwi'm yn adnabod neb sydd yn pledleisio Fianna Fail oherwydd eu bod nhw yn weriniaethwyr!.

Diddorol hefyd gweld mai allan o plediau yr Iwerddon mai hanner o Sinn Fein, The Greens a Llafur fyswn i yn tybio fysa Plaid Cymru yn "ffitio i fewn i"- nid un or brif-pleidiau!

Anonymous said...

Ac i fory- mae'n edrych yn debyg bod Llafur am ohirio y bleidlais tan dydd mawrth. Os tydy'r ddeddf heb ei basio erbyn dydd sadwrn fe fydd y bleidlais yn cael ei gynnal.
Felly fe fydd y Llywodraeth yn gorffen unai ar ddydd Sadwrn, Sul neu Mawrth.

Os tydy'r ddeddf ddim yn cael ei basio, fydd hynny yn chwalfa i'r Iwerddon.

Ynglyn a Eamon O'Cuev, mae'n rhy hen. Ac tydy bod yn berthyn i Eamon De Valera ddim yn fantais dim mwy yn yr Iwerddon. A dwi ddim yn fan or dyn chwaith! "Right place at the right time" oedd e ar ol gwrthrefyla'r pasg.

Cai Larsen said...

Mi fyddai FF yn sicr yn clymbleidio efo SF - ond fydd gan y ddwy blaid rhyngddyn nhw ddim digon o seddi i ffurfio llywodraeth - o bell ffordd.

'Does gan O'Cuiv ddim llawer o obaith - er bod mwy o hygrededd iddo na'r gweddill. Mae hefyd yn gefnogoll i'r iaith Wyddelig gyda llaw.

O leiaf mae'n weddol siwr o gadw ei sedd - dydi hynny ddim yn wir am y cyfan o'r ymgeiswyr eraill.

Anonymous said...

Cytuno hefo chi na fyddent yn gallu creu llywodraeth, ond diddorol gweld be fysa yn digwydd!.

Ond efallai bod petha ddim yn rhy dda rhyngddynt. Oherwydd gafodd 'Finance Spokesperson' pob plaid ei gyrru i gyfarfod a Lenihan i drafod y ddeddf Cyllid.
Ac yn ol y cyfryngau gafodd S.F ei ofyn i adael gan Lenihan, ond gwrthod gadael- yn lle eistedd yn y cyfarfod a deud dim.

Dwi dal am gael y popcorn yn barod am yr wythnos i ddod!.
Tybio a fydd wythnos yn y Cynulliad mor ddramatic........ doubt it!

Cai Larsen said...

Does yna neb yn gwneud anhrefn gwleidyddol fel mae'r Gwyddelod yn gwneud anhrefn gwleidyddol.

Anonymous said...

Somebody necessarily lend a hand to make seriously posts
I'd state. This is the first time I frequented your website page and so far? I surprised with the research you made to create this particular submit amazing. Magnificent task!

My web site - hardwood floors

Anonymous said...

Hello! I know this is kind of off-topic but I needed to ask.
Does running a well-established website like yours require
a large amount of work? I'm brand new to running a blog however I do write in my journal every day. I'd like to start a
blog so I can share my own experience and views online. Please let me know if
you have any suggestions or tips for new aspiring blog owners.

Appreciate it!

Feel free to visit my homepage; http://www.flooranddecoroutlets.com/hardwood-solid.html

Anonymous said...

I seriously love your blog.. Pleasant colors & theme. Did you
make this web site yourself? Please reply back as I'm looking to create my own website and would like to know where you got this from or what the theme is called. Many thanks!

my weblog - mastercard cash advance
My page - cash advance service

Anonymous said...

This is a topic that's close to my heart... Thank you! Exactly where are your contact details though?

Feel free to visit my site - nail fungus zetaclear

Anonymous said...

This article will assist the internet users for building up
new blog or even a weblog from start to end.

Feel free to visit my weblog ... house cleaning phoenix
My web site: cleaning service phoenix az

Anonymous said...

Hi to all, the contents present at this web page
are really remarkable for people knowledge, well, keep up the good work
fellows.

Feel free to visit my web-site toenail fungus treatment
My web site > nail fungus treatment