Thursday, January 27, 2011

Gwrth Gymreigrwydd Paul Matthews a safonau dwbl y cyfryngau prif lif

'Fydda i ddim yn un am gymryd sylwadau gwrth Gymreig yn y cyfryngau gormod o ddifri, er bod llawer yn neidio i ben y caets i dantro pan mae A A Gill neu Clarkson yn dweud rhywbeth neu'i gilydd i dynnu sylw atyn nhw eu hunain.

Serch hynny, mae'r sylwadau gwrth Gymreig gan Paul Matthews, llefarydd ar ran True Wales,yn codi cwestiynau diddorol am agweddau gwaelodol y cyfryngau prif lif tuag at Gymru. Yn ol y wefan Click on Wales dywedodd Matthews hyn wrth Insider Media Limited - I am a Welsh person. We’re not the most innovative or creative, and very often those that are, move out of Wales. Rwan 'dydi'r geiriau ddim mor ymfflamychol a sylwadau Gill, Robinson, Clarkson ac ati, ond mae eu hawgrym yn weddol amlwg - mae'r Cymry yn israddol i'r Saeson, mewn un agwedd hynod bwysig ar fywyd o leiaf.

Mae sylwadau gan unigolion cyhoeddus (neu led gyhoeddus) y gellir eu dehongli fel rhai gwrth Seisnig yn creu storm yn y cyfryngau yn rheolaidd - awgrym sy'n cael ei phriodoli'n anheg i Simon Brooks y dylid meddiannu tai mewnfudwyr yn heddychlon, honiad Gwilym ab Ioan bod rhannau o Gymru yn dumping ground for oddballs and misfits, sylwadau Seimon Glyn y dylid rheoli mewnfudo i ardaloedd Cymraeg eu iaith, ac y dylid mynnu bod mewnfudwyr yn dysgu'r iaith.

Eto, prin bod yna siw na miw wedi dod o gyfeiriad y cyfryngau prif lif ynglyn a sylwadau Paul Matthews. Meddyliwch sut ymateb fyddai yna o gyfeiriad y cyfryngau petai rhywun o'r ymgyrch Ia - Roger Lewis er enghraifft - yn dweud bod Cymru angen mwy o annibyniaeth oddi wrth Lloegr oherwydd nad ydi'r Saeson yn bobl ddyfeisgar na chreadigol. Byddai'r ymgyrch yn cael ei chladdu o dan domen o hysteria a chasineb cyfryngol am wythnosau.

Ydi hi'n bosibl bod y cyfryngau - hyd yn oed y cyfryngau Cymreig - yn rhyw dderbyn bod gwrth Gymreigrwydd yn rhan naturiol o drefn pethau, tra'n gweld unrhyw awgrym o wrth Seisnigrwydd fel pechod o'r radd eithaf?

9 comments:

Simon Brooks said...

Ble dywedais i y dylid meddiannu tai mewnfudwyr?

Anonymous said...

Mae'r hyn ddwedodd Paul Matthews yn rhywbeth mae sawl un yn dweud - gan gynnwys nifer o genedlaetholwyr. I raddau sefydlwyd Menter a Busnes ar y rhagdybiaeth yma.

Yr hyn sy'n wahanol yw fod Matthews fel petai'n awgrymu fod dim modd newid hyn - tra fod MaB a chenedlaetholwyr am greu hinsawdd a newid diwylliannol fydd yn creu newid.

Wrth gwrs ti'n iawn - petai'r esgid ar y droed arall fyddai'r naratif 'cenedlaetholdeb fel hiliaeth' wedi ei wneud yn stori 'fawr' i'r BBC.

S

Cai Larsen said...

Ymddiheuriadau os nad yw'n wir Mr Brooks - wedi gweld y sylw yma oeddwn i - http://en.wikipedia.org/wiki/Cultural_relationship_between_the_Welsh_and_the_English

Cymerais bod English owned homes yn golygu tai mewnfudwyr - efallai mai tai haf oedd gennyt mewn golwg - neu efallai na wnaed unrhyw sylw o'r fath gennyt.

Beth bynnag, mi newidiaf y geiriad i beth bynnag ti'n ei gynghori.

Anonymous said...

Ond mae Mathews yn dwud taw Cymro yw ef ei hun. Mae'n dechrau gyda'r geiriau hynny. Mae hynny rhywsut yn rhoi'r hawl iddo ddweud beth y gwnaeth.....Mae'n wahanol i sefyllfa lle byddai Sais yn dweud hyn am y Cymry. Ond dwi'n meddwl y byddai hyn yn cynhyrfu llawer. Mi ddylai gael rywfaint o sylw. Efallai 'fory?

Na, yfory bydd y BBC yn adrodd hanes am ryw ffordd arall mae'r Cynulliad yn 'methu'. Glywais ti'r un heddi? Diffyg yng ngwariant ar ddisbyglion Cymry ddoe.

Simon Brooks said...

Fe ddaw'r dyfyniad o'r Guardian yn 2003 wrth drafod yr ardaloedd Cymraeg:

'"I think people who move to this part of the world have a responsibility to learn Welsh," said Simon Brooks, editor of the current affairs magazine Barn and one of Cymuned's founders.

"They make a free choice to move to a Welsh-speaking community - but responsibilities go with that.

"This community has always had a tradition of direct action for the language," added Dr Brooks. "What Cymuned has done has been quite novel - this respectful, constitutional lobbying position. But if we cannot deliver to our own people, it will be impossible for us to hold that line. I don't have a moral problem with non-violent direct action."

No one will burn down houses. But some English-owned homes might be peacefully occupied and "executive developments" targeted.'

Nid dyfyniad yw'r cyfeiriad at feddiannu tai Saeson - ond crynodeb y newyddiadurwr o'r hyn yr oedd o'n meddwl 'roeddwn i yn ei ddweud, dau beth cwbl wahanol.

Fel y gweli di, mae Wikipedia wedi camddehongli hyn braidd. Dwi'n cofio'r cyfweliad fel mae'n digwydd. Fe'i cynhaliwyd yn ymyl y marina ym Mhwllheli, ac rwy'n cofio son am gael sit-ins mewn tai haf a thargedu tai drudfawr di-angen (cyn i bobl symud i fyw iddyn nhw, wrth gwrs).

A oedd am ddoeth i ddweud hynny, dwi ddim yn gwybod. Ond dydi o ddim yn golygu mynd i dai ble mae Saeson yn byw, a'u "meddiannu"!

Cai Larsen said...

Mi wna i newid y geiriad i adlewyrchu hynny felly Simon.

Cai Larsen said...

Anhysbys - mae gennym ddigon o Gymry sydd yn uniaethu efo Lloegr neu o leiaf Prydain ac yn dechrau datganiadau gwrth Gymreig efo 'i'm Welsh but _ _ _.

Mae'r bobl hyn yn aml yn fwy gwrth Gymreig nag unrhyw Sais - George Thomas er enghraifft.

Bwlch said...

Uncle Tom's mae nhw galw yr pobol yma yn America. Dwi credu fod rhaid curo y rhyfel cyfryngau yn pob achos Cymreig. Felly danfonwch ei ymateb i pawb a gofyn pam fod nhw ddim wedi pigo y stori i fyny. Mae gen i bas data o newyddadurwyr llethol barod am blast!!!!

Anonymous said...

Roedd hwn are Radio Wales y bore 'ma gyda'r dihuryn ei hun yn siarad arno. Roedd H M Jones ar y rhaglen hefyd yn dadlau gydag ef.