Mae yna lawer o ddarllenwyr newydd yn galw draw ar flogmenai yn ddiweddar sydd efallai ddim yn ymwybodol o'r ffaith fy mod yn dipyn o anorac ar wleidyddiaeth Iwerddon, a fy mod yn cynhyrchu blogiad sy'n cymharu gwleidyddiaeth y wlad honno a gwleidyddiaeth Cymru o bryd i'w gilydd.
Stori fach o dalwrn etholiadol Gogledd Kerry, sy'n ymwneud a gwleidydd cwbl ddi nod o'r Enw Tommy McEllistrim, sydd gen i y tro hwn. Yn ol yn 2007 roedd yna gystadleuaeth etholiadol hynod chwyrn yn yr etholaeth dair sedd yma. Roedd Martin Ferris, Sinn Fein yn sicr o ennill y sedd oedd pob amser yn mynd i'r chwith yn absenoldeb Dick Spring (Llafur). Roedd un arall yn sicr o fynd i'r hen arwr GAA, Jimmy Deenan (Fine Gael) oedd yn gadael un sedd ar ol, a dau ymgeisydd Fianna Fail, Tommy McEllistrim a Norma Foley yn cystadlu amdani.
Roedd y llwythi McEllistrim a Foley (er eu bod yn perthyn i'r un blaid) wedi bod yn elynion gwleidyddol chwyrn ers sefydlu'r wladwriaeth, gyda'r naill lwyth yn dal yr oruwchafiaeth weithiau a'r llall dro arall.
Beth bynnag, yn yr etholiad arbennig yma roedd y gwybodusion yn eithaf clir ynglyn a phwy fyddai'n ennill - Norma Foley. Roedd ei hymgyrch yn dominyddu yn y wasg a'r radio lleol, roedd yn perfformio'n dda o flaen camera tra bod McEllistrum yn swil iawn a diymhongar. Serch hynny pan gyfrwyd y pleidleisiau roedd clamp o sioc yn aros y cyfryngau a'r gwybodusion - roedd McEllistrim ymhell o flaen Foley. 'Dwi'n cofio'r sylwadau meddylgar a wnaeth McEllistrim o'r ganolfan gyfrif - In modern elections there's an air war and a ground war. We lost the air war hands down, but we won the ground war hands down. That's why we won the election. Yr air war ydi'r frwydr yn y cyfryngau a thros y tonfeddi wrth gwrs, y ground war ydi'r frwydr draddodiadol a ymleddir trwy fynd o ddrws i ddrws yn canfasio, rhannu taflenni a sicrhau bod y bleidlais yn dod allan ar y diwrnod.
Daw hyn a ni at ein hetholiad fach ni rwan. Mae hi'n anodd iawn i bleidiau llai fel Plaid Cymru gystadlu yn yr air war yn y gyfundrefn o aparteid cyfryngol sydd gennym ar hyn o bryd, ac mae hynny'n broblem wirioneddol. Yr unig ddewis sydd gennym felly ydi gwneud yr un peth a Tommy McEllistrim ac ennill y ground war, a'i hennill o filltiroedd. Mi'r ydym wedi llwyddo i wneud hyn ar hyd Gorllewin Cymru yn y gorffennol, ac mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn llwyddo i wneud hynny'r tro hwn. Beth bynnag mae'r polau 'cenedlaethol' yn ei ddweud mae hi'n ddigon posibl dylanwadu ar bethau yn sylweddol yn lleol trwy ennill y frwydr ar lawr gwlad, neu a bod yn fwy cywir trwy ymladd am etholaethau stryd wrth stryd.
Dyna pam ei bod yn braf clywed o wahanol etholaethau am cymaint o bobl sydd wedi bod allan yn curo'r drysau ar ran y Blaid tros yr wythnosau diwethaf. Er gwaethaf ymdrechion y cyfryngau torfol i gulhau'r etholiad i ras tri cheffyl mae pob un o seddi targed y Blaid yn dal yn enilladwy gyda llai na phethefnos i fynd, ac mae yna bosibilrwydd o berfformiadau cryf mewn nifer o etholaethau eraill hefyd. Felly i bawb sydd wrthi o ddydd i ddydd, daliwch ati - mae gennym ni pob cyfle i wneud argraff sylweddol ar Fai 6.
6 comments:
Mae'n gwestiwn a wnaeth Clegg a'r LD's begynnu yn rhy gynnar. Efallai mai fi sy'n ceisio bod yn optimistaidd yma, ond fel all fod 'dyfodiad' y LD fod wedi agor cil y drws ym meddyliau nifer o bobl gan eu 'rhyddhau' i feddwl yn wahanol yn y lecsiwn yma. Efallai fod y cam yna, hyd yn oed ar lefel Brydeinig, yn bwysig i Blaid Cymru fel fod pobl efallai'n fwy parod nawr i wrando ar neges newydd arall. Mae'r lecsiwn hefyd yn un hir sy'n golygu fe all fod pobl wedi diflasu ar y storiau ar y cyfryngau a fod canfasio hen ffasiwn o ddrws i ddrws yn bwysig iawn i'r canlyniad.
Roeddwn i yn Aberystwyth heddiw yn rali PC yno. Dydw i ddim yn credu ei fod ynddoi hun wedi denu unrhyw bleidleiswyr simsan ond fe wnaeth godi hyder Pleidwyr y sir a dangos i'r Sir fod y Blaid o ddifri ac ar lawr gwlad - nad dadl rhwng 3 arweinydd ar y teledu mo'r etholiad.
Y cwestiwn i'r Blaid yw a fydd y LD yn ceisio trefnu rhywbeth tebyg y dydd Sadwrn nesa?
Pob lwc yng Ngheredigion os ydi'r Lib Dems yn cael rali neu beidio!
Dwi'n meddwl bod y gymhariaeth hon rhwng yr "air war" a'r "ground war" yn un treiddgar iawn. Ar yr olwg gyntaf, wrth gwrs bod y Blaid a'r SNP wedi cael cam wrth beidio a chael eu cynnwys yn y prif trafodaethau ar y teledu. Ond wedi dweud hynny, tybed a fydd hynny, yn fwy o help nag o rwystr ar ddiwedd y dydd? Dwi'n meddwl bod y cyfryngau wedi llyncu eu heip eu hunain am bwysigrwydd y trafodaethau teledu hyn, ond dwi'n ryw amau mai gadael llawer o bobl yn oer a fydd y trafodaethau hyn ar ddiwedd y dydd. Ac er y brwdwfrydedd cynnar dros y Lib dems, cael eu gweld yn rhan annatod o'r sefydliad gwleidyddol sydd mor atgas llawer o bobl fydd tynged Nick Clegg a'i griw erbyn y drydedd drafodaeth. Dwi o'r farn y bydd pleidleisiau'r "Eraill" yn yr etholiad hon, ("Eraill + mewn ffordd am beido a bod yn rhan o'r trafod)yn uwch na'r hyn y mae sawl sylwebydd yn ei ddisgwyl- ac fe allai Plaid Cymru hithau fod yn rhan o'r gwrth-ymchwydd hon.
'Dwi'n cytuno efo llawer o hyn Aled, ond mae'r esgymuno o'r dadleuon yn broblem - nid cymaint oherwydd y dadleuon eu hunain, ond oherwydd y ffaith bod y cyfryngau yn eu defnyddio i greu 'stori'r' etholiad.
Llygad dy le, Blogmenai.
Llawn cyn bwysiced a'r rali yn aberystwyth ddoe, oedd y ffaith fod nifer o griwiau wedyn wedi ymrannu i ddosbarthu a chanfasio yn y prynhawn - i Drefechan, Penparcau, y Pentre Myfyrwyr, Bow Street, Penrhyncoch ac ati.
Fedrwn ni ddim cystadlu efo'r sylw sydd gan y Lib Dems ar y cyfryngau, nac efo'u harian mawr i fedru danfon llythyron at bob etholwr (yn enw Clegg a Cable i osgoi costau wrth gwrs). Ond mae gennym ni'n gweithwyr llawr gwlad, ac ry'n ni'n trio'n gorau glas.
Gwir iawn - mae'r ground war yn bwysicach i ddyfodol democratiaeth.
Yma yn Nwyfor Meirionnydd does yna ddim ground war o fath yn y byd gan y Blaid Lafur - dydyn nhw ddim hyd yn oed wedi danfon anerchiad etholiadol allan yn y post!!!!
Mae'n nhw wedi diflanu yn llwyr!
Rwy'n amau y gwelwn ni bleidlais Llafur yn disgyn i o dan 3000 yn yr etholaeth yma am y tro cyntaf mewn etholiad San Steffan...bydd cael dros 2000 yn 'stuggle' iddyn nhw!
Post a Comment