Friday, January 07, 2011

Hunaniaeth Gymreig

Alwyn achosodd tipyn o syndod i mi y bore 'ma trwy honni mai 60% yn unig o bobl Gwynedd sydd yn Gymry bellach. 'Dwi ddim yn siwr beth yn union oedd sail ei honiad, ond yn ol Ioan cyfeirio roedd at gyfeiriad o ystadegau o'r Labour Market Survey ar y blog Wales Home ddoe.

'Rwan, ystadegau ar hunaniaeth ydi'r rhain - ac maent wedi eu casglu o arolwg. Mae dibynadwyedd arolwg wedi ei seilio ar effeithiolrwydd y fethodoleg a ddefnyddir - hynny yw bod y sawl a holir yn cynrychioli'r grwp sy'n wrthrych ymchwil yn ei gyfanrwydd yn eithaf agos. Mae cael y grwp a holir i gynrychioli'r grwp cyfan yn anodd.

'Rwan mae gennym ffigyrau dibynadwy am hunaniaeth un grwp ym mhoblogaeth Cymru, sef plant ysgol. Mae'r ffigyrau hyn yn ddibynadwy oherwydd bod pob plentyn yn cael ei gyfri (mae pob dim yn cael ei gyfri ym myd addysg 'da chi'n gweld), a rhiant y plentyn sydd yn diffinio'r hunaniaeth. Lle mae pawb yn cael ei gyfri, 'does yna ddim angen llunio methodoleg arolwg - mae'r ffigyrau yn gywir. Wele'r ffigyrau diweddaraf (2009 / 2010):


Cymreig Seisnig
Prydeinig Gw / Alb Arall
Ynys Mon 66.6 8.2 23.7 0.4 1.1
Gwynedd 74.4 7.9 15.5 0.2 2.0
Conwy 49.6 7.4 40.8 0.5 1.7
Dinbych 49.5 14.3 33.7 0.3 2.2
Fflint 37.6 23.7 36.2 0.6 1.9
Wrecsam 55.1 9.4 31.3 0.5 3.7
Powys 42.6 18.7 36.0 0.5 2.2
Ceredigion 63.3 12.1 20.3 0.5 3.7
Penfro 53.2 8.6 35.6 0.4 2.2
Caerfyrddin 64.7 6.7 26.1 0.4 2.2
Abertawe 62.7 4.5 27.5 0.3 5.0
C/N Port Talbot 73.6 4.0 20.9 0.3 1.2
Pen y Bont 70.6 4.0 23.3 0.2 1.9
Bro Morgannwg 51.1 3.7 42.1 0.5 2.6
Rhondda Cynon Taf 74.8 2.3 21.6 0.1 1.1
Merthyr Tydfil 79.4 1.8 15.3 0.2 3.4
Caerffili 69.1 2.3 27.7 0.2 0.7
Blaenau Gwent 76.5 2.8 19.4 0.1 1.2
Torfaen 58.8 3.5 36.0 0.2 1.4
Mynwy 35.1 10.6 52.2 0.4 1.7
Casnewydd 50.2 4.1 39.1 0.3 6.2
Caerdydd 53.8 2.8 34.5 0.4 8.5
Cymru 59.5 6.8 30.3 0.3 3.0

Mae hunaniaeth Gymreig ar ei gryfaf yn y Gogledd Orllewin (Gwynedd) a rhai o gymoedd y De Ddwyrain (Blaenau Gwent, Rhondda, Merthyr yn ogystal a Chastell Nedd Port Talbot a Phen y Bont).

'Rwan 'dwi'n sylweddoli nad ydi'r ddau grwp (pobl yn y gweithlu a phlant) yn union yr un peth, ond mae pobl yn y gweithlu yn rhieni i blant, a byddai dyn yn disgwyl cyfatebiaeth gweddol glos rhwng y naill grwp a'r llall.

Mae yna dystiolaeth bod dirywiad mewn hunaniaeth Gymreig, ond 'dydi'r patrwm yma ddim yn syml - mae llai yn diffinio eu plant fel Cymry nag oedd yn 2004 / 2005 ond mae mwy nag oedd yn 2007 / 2008. Mae ychydig o gynnydd yn y ganran sy'n cael eu disgrifio fel Saeson, ac mae'r ganran Brydeinig (fel yr un Gymreig) yn gyfnewidiol. Yr unig grwp sydd ar gynnydd cyson ydi'r sawl nad ydynt gydag hunaniaeth sy'n deillio o Ynysoedd Prydain.


Cymreig Seisnig Albanaidd / Gwyddelig Prydeinig Arall
2009/2010 59.5 6.8 0.3 30.3 3.0
2008/09 57.8 6.5 0.3 32.4 3.0
2007/08 59.0 6.5 0.3 31.5 2.7
2006/07 60.8 6.6 0.3 29.9 2.3
2005/06 62.2 6.5 0.3 29.0 1.9
2004/05 63.4 6.5 0.3 28.1 1.6

Data Cynulliad ydi'r cwbl o'r uchod. Ffigyrau oll yn ganrannau.

28 comments:

Hogyn o Rachub said...

Wrth gwrs, y broblem o ran dim ond ystyried y ffigurau ystafell ddosbarth ydi mai canran gymharol fach o'r boblogaeth sy'n ymateb iddo, sef pobl sydd â phlant ysgol. Efallai ei fod yn anodd derbyn rhai o ganlyniadau arolwg arall, ond mae'n cynnig trawsdoriad o bobl, y gall rhywun ddadlau sy'n darlun mwy cywir o 'sefyllfa' hunaniaeth yn gyffredinol.

Hogyn o Rachub said...

Fel yr wyt wedi'i ddweud, wrth gwrs! Yr hyn o'n i am ei fynegi oedd bod hunaniaeth Gymreig dan warchae mewn ardaloedd o'r gogledd, ac mai canfyddiadau llawr gwlad sydd efallai agosaf at y gwir.

menaiblog said...

Mi fyddwn yn tybio bod y rhan fwyaf o bobl yn cael plant - 80% efallai.

Hefyd wrth gwrs plant heddiw ydi gweithlu 'fory.

Anonymous said...

Efallai ei fod yn gwestiwn dwl ond beth yw'r gwahaniaeth rhwng Prydeinig a Saesnig ?

Hefyd mae gan pob plentyn 2 riant pa un sy'n cyfrif i'r pwrpas yma

menaiblog said...

Son ydym am ffurflen a lenwir pan mae plentyn yn cofrestru mewn ysgol. Yr oedolyn sy'n llenwi'r ffurflen sy'n diffinio hunaniaeth y plentyn. Rhiant ydi'r oedolyn yma bron yn ddi eithriad.

Mae'r sawl sy'n diffinio hunaniaeth ei blentyn fel 'Seisnig' yn uniaethu'r plentyn hwnnw efo Lloegr. Mae 'Prydeinig' yn fwy amwys - mi fydd rhai 'Cymry', rhai 'Saeson' a rhai pobl sydd a'u cefndiroedd yng ngwledydd y Gymanwlad yn diffinio eu plant felly.

Hogyn o Rachub said...

Efallai bod y rhan fwya o bobl yn cael plant, ond sgen ddim hyd yn oed fwyafrif blant ysgol!

menaiblog said...

Sori HoR - wnes i ddim dallt honna.

Anonymous said...

Diolch am yr esboniad. Hollti blew efallai. Dwi yn credu fod rhieni yn gorfod cyflwyno cais i gael lle mewn ysgol yn 3 oed. Fe fyddwn yn tybio fod teuluoedd yn fwy sefydlog ac mae'n fwy tebygol fod plentyn wedi eni yn yr ardal. Mae'n bosibl fod rhieni yn nodi fod y plentyn wedi ei eni yng Nghymru. Gall tras y rhiant fod yn hollol wahanol.

menaiblog said...

'Dydi'r ffurflen ddim yn gofyn lle ganwyd y plentyn - ond mae'n rhoi dewis o ddiffiniad y rhieni o hunaniaeth y plentyn. Mae'n rhaid llenwi'r ffurflen pryd bynnag y bydd plentyn yn mynd i ysgol - a phan mae'n mynd i ysgol uwchradd.

Hogyn o Rachub said...

Hynny ydi does gan y rhan fwyaf o bobl ddim plant sy'n yr ysgol felly sa chdi'n gallu dadlau mai lleiafrif gweddol fach sy'n cael eu cynrychioli yn yr arolwg hunaniaeth mewn ysgolion.

menaiblog said...

Mae yna bron i 400,000 o blant yn y cyfrifiad.

Alwyn ap Huw said...

Diolch am ymateb i'r sylw, Cai. I egluro mae ystadegau ar genedligrwydd yn cael eu casglu pob yn ail flwyddyn. Paid a gofyn pam? Nid oes gennyf syniad. Ond fel yr wyt yn crybwyll mae'r gwahaniaeth rhwng cenedligrwydd Cymreig yng Ngwynedd wedi mynd i lawr tua 1% y flwyddyn yng o 2001 a 2009, os yw'r trai yn parhau ar yr un raddfa (2001: 71% 2009: 64%) mae'n debyg bydd ffigwr Gwynedd 2011 yn agos ar y diawl i'r 60%.

Wrth gwrs nid y ffigwr oedd cig fy sylw, ond polisi Gwynedd parthed Addysg Gymraeg, ac ystyfnigrwydd y sir o fynnu bod pob ysgol yn y sir ysgol naturiol Gymraeg pan fo'r nifer o fewnfudwyr wedi troi sawl ysgol yn ymarferol Saesneg!

Hyd yn oed o dderbyn geirwiredd dy ffigyrau di mae chwarter plant Gwynedd yn ddi-Gymraeg ac yn Seisnigeiddio ambell i ysgol "cynhenid Gymreig" yn y Sir.

menaiblog said...

Mae'r ffigyrau iaith yn wahanol i'r rhai hunaniaeth - hwyrach y af ati i dyllu am rheiny os caf gyfle heno.

Mi'r wyt yn debygol o gael plant sydd heb lawer o Gymraeg sydd a hunaniaeth Gymreig ym Mangor er enghraifft, ac mi fydd gen ti blant a hunaniaeth Seisnig ond sy'n siarad Cymraeg yn dda ym Mhen Llyn er enghraifft.

Fel mae'n digwydd roeddwn yn chwarae gem o sboncen efo rhywun llawer ieuengach na fi sydd wedi ei fagu yn Nyffryn Nantlle y diwrnod o'r blaen. Roedd yn gwisgo crys pel droed Lloegr, ond yn y Gymraeg roeddem yn siarad ac yn sgorio'r gem.

Anonymous said...

Fel Hogyn o Rachub dwi'n cael problam deall hyn.


Pentra efo mil o bobl.

30 o blant yn cael ei derbyn i'r ysgol mewn un blwyddyn.

30 o bobl (un rhiant y plentyn) yn llenwi ffurflen ac mae hynny yn profi hynaniaeth y boblogaeth?

Anonymous said...

Neis i anghofio dwued.

Hynny ydi 0.3% o'r pentra.

Hyd yn oed cymeryd yr Ysgol i gyd efo 6 (?) Blwyddyn dim on 1.8 % a mae hynny heb gymeryd i cownt siblings.

Anonymous said...

Nid yw awdur menaiblog yn byw yn y byd real.

menaiblog said...

Wel - 'dwi'n byw yn y byd addysg.

Mae gen ti 13 cohort blynyddol yn y ffigyrau, nid un - pob blwyddyn o 3 i 16.

Anonymous said...

"Wel - 'dwi'n byw yn y byd addysg."

Sydd yn profi pwynt anon 12 03!!

Pobl sydd erioed wedi gadael y dosbarth.

menaiblog said...

Mi fyddai'n gwneud y drafodaeth yn haws petaet ti ac Anon 12:03 yn mynegi eich safbwynt, yn hytrach na dweud eich bod yn anghytuno efo'r blogiad a gadael pethau ar hynny.

Anonymous said...

Anon 1.56 ydw i

Wneis i ddim deud fy mod yn anghytuno efo'r blogiad. Deud wneis i fod pwynt anon 12.03 yn cael ei brofi gan y ffaith dy fod yn y byd addysg. Hynny ydi pobl sydd rioed wedi gadael y dosbarth ag felly ddim yn y byd real ond rhyw fyd trwy prism plant.

Faint ydi 13 x 0.3?

Ateb. Dim llawer mwy na 6 x 0.3

menaiblog said...

Efo parch 'dwi'n meddwl y byddai'n well barnu cynnwys blogiad (neu unrhyw fath arall o erthygl) ar ei gryfderau neu ei wendidau ei hun yn hytrach nag ar waith pob dydd y sawl sydd wedi ei ysgrifennu.

Rwan mae yna wahaniaeth rhwng arolwg gweithlu a chyfrifiad ysgol.

Mi fydd sampl gweithlu fel rheol yn tua 55,000 o unigolion tros Brydain ('dwi ddim yn siwr am yr un diweddaraf - 'dwi heb weld y data). Mae hyn yn 0.2% o'r gweithlu - neu tua 0.1% o'r boblogaeth yn ei chyfanrwydd.

Gyda sampl o'r maint yma mae'n rhaid cael y fethedoleg yn gywir - hynny yw mae'n rhaid i'r sampl gynrychioli yn union leoliad daearyddol pobl, sut fath o waith maent yn ei wneud, eu cyfradd incwm ac ati. Os nad yw'n gwneud hynny yn gywir yna dydi'r canlyniadau ddim yn gywir.

Efo data ysgolion dwyt ti ddim angen methodoleg - mae pawb yn cael ei gyfri - neu o leiaf y cyfan o'r rhieni.

Dwi'n derbyn nad ydi pawb yn y boblogaeth yn cael eu cyfri - yn eironig dydi barn plant ddim yno (barn eu rhieni ydi o), a dydi'r henoed ddim yna.

Dydi'r data gweithlu ddim yn cyfri plant, yr henoed na'r di waith chwaith - dim ond pobl sy'n gweithio.

O ganlyniad - tra'n derbyn mai un rhan o'r boblogaeth a gyfrifir gan ysgolion (rhieni), un rhan sy'n cael ei gyfri gan yr arolwg gweithlu hefyd. Ond mae yna fwy o hygrededd i'r ffigyrau ysgolion oherwydd bod pawb o'r grwp yn cael ei gyfri.

gobeithio bod hynna'n helpu tipyn!

menaiblog said...

Ac un pwynt arall - tra'r ydym ar bwnc methodoleg.

Byddai dod i gasgliadau am ffigyrau awdurdodau unigol ar sail yr arolwg gweithlu yn golygu defnyddio is setiau o 100 i 150.

Mae'r margin for error o'r ffigyrau hyn tua 8% i 10%. Hynny yw yn achos Gwynedd gallai'r 64% fod yn 73% neu yn 55% - hyd yn oed os ydi gweddill y fethodoleg yn 100% cywir.

Anonymous said...

Ti'n gweld fel hyn mae hi. Yn y byd real o gwmpas 'rwan yn y ddadl fysa chdi yn cael uffar o gweir. Am fod yn rhy glyfar o hannar.Meddylia am Liza Simpson yn trio dadla efo Nelson Muntz.

Tydi bobl ddim isio chdi a'r control freaks eraill yn y llywodraeth gadw yr holl fanylion yma amdanan ni er mwyn eich social engineering felltrith.

menaiblog said...

'Dydw i ddim byd i'w wneud efo'r llywodraeth wrth gwrs - gwneud defnydd o'r ystadegau maent yn eu cyhoeddi ydw i.

'Does yna neb yn gorfod darparu gwybodaeth mewn arolwg llywodraethol a does yna neb yn gorfod ateb cwestiwn cyfrifiad ysgol ynglyn a hunaniaeth. Mae pobl yn dewis gwneud hynny.

Gan bod mwyafrif llethol y boblogaeth yn dewis darparu'r wybodaeth yma, mae gen i ofn mai siarad ar dy ran dy hun wyt ti pan rwyt yn son am 'bobl'.

Anonymous said...

Ti'n gneud gwaith y llywodraeth iddi nhw matey boy. Hel bob math o stats ar y kids. Llenwi ei pennau bach nhw efo rubbish.

Oh, a heb anghofio edrach yn ofalus os ydi Jonnie bach 5 oed yn racist neu homophe neu beth bynnag ydi flavour mis yma gynno chi weirdoes.


5 oed FFS! Plant ydi nhw.

"mwyafrif llethol y boblogaeth yn dewis darparu'r wybodaeth yma,"

Dewis? Ia, go dda. Doniol iawn

menaiblog said...

Mae gen ti ddawn anarferol i ddadlau mae'n rhaid i mi ddweud.

beth gest ti 'dolig - llyfr lliwio?

Anonymous said...

Na, dwi'm igon clyfar i hynna.



Di cael addysg yng Ngwynedd weldi.






1 out of 10 am yr insult ond be arall i ddisgwl gan gyn rhywun o'r 'byd addysg' ynte? Toodlepips.

menaiblog said...

Hwyl.