Monday, January 24, 2011

Cytuno i amddiffyn swyddi a gwasanaethau

Mae'r cytundeb rhwng y Cynulliad, yr undebau a llywodraeth leol ynglyn a sut i ymdopi efo'r toriadau a ddaeth o gyfeiriad y Toriaid a'r Lib Dems yn ddatblygiad diddorol. Bwriad y cytundeb ydi sefydlu strategaeth Cymru gyfan i leihau'r toriadau mewn swyddi, amddiffyn gwasanaethau a chysoni'r ffyrdd o ymateb i'r bygythiadau.

Mae'r math yma o ddatblygiad yn dangos potensial y Cynulliad i ddod a gwahanol gydrannau o fywyd Cymreig at ei gilydd, er lles pawb. Y ffaith bod gwleidyddiaeth yng Nghymru wedi polareiddio llai na gwleidyddiaeth Brydeinig sy'n gwneud adeiladu consensws cymaint haws yma. Mi fyddai'n amhosibl cymryd mantais o hynny oni bai bod gan Gymru sefydliad cenedlaethol i ymgorffori ei gwleidyddiaeth cymharol gynhwysol a rhesymol.

Mae'r arfer o sefydlu consensws yn cyferbynnu efo gwleidyddiaeth mwy ffyrnig a rhanedig San Steffan - ac mae'n darparu un ddadl arall pam y dylid cael mwy o ddylanwad tros ein bywyd o Fae Caerdydd a llai o ddinas Llundain.

No comments: