Mae yna nifer wedi cyfeirio at Cheryl Gillan yn sgil y llanast diweddaraf i ddod o gyfeiriad y ddynas - Welsh Ramblings er enghraifft - a'r sylwadau diddorol yma gan Alwyn sy'n ei gosod mewn cyd destun hanesyddol.
Wna i ddim ychwanegu at y sylwadau hynny ag eithrio i bwysleisio pa mor niweidiol ydi Gillan i achos y Toriaid Cymreig. Mae'r blaid, yng nghyd destun y Cynulliad wedi cymryd llwybr eithaf clir (ers i Nick Bourne gymryd yr awennau o leiaf). Maent wedi dod yn nes at dir canol gwleidyddiaeth Cymru mewn materion cymdeithasol ac economaidd - mae'r tir canol yng Nghymru i'r chwith i'r tir canol Prydeinig wrth gwrs - maent wedi gwneud eu hunain yn fwy 'Cymreig' mewn materion cyfansoddiadol a ieithyddol, ac maent wedi gwneud eu gorau i gyflwyno'r ddelwedd o fod yn effeithiol (competent). Mae'r ddau newid cyntaf wedi bod yn eithaf llwyddiannus, er eu bod yn ymddangos yn dreuenus o aneffeithio a di glem o ran creu polisi yn aml.
Mae ethol llywodraeth sy'n cael ei harwain gan y Ceidwadwyr yn San Steffan wedi cymhlethu'r strategaeth yma - ac o bosibl wedi ei gwneud yn anghynaladwy. Mae ymysodiadau llywodraeth San Steffan ar S4C a lleoliad gwleidyddol asgell dde'r glymblaid mewn materion economaidd yn tynnu'n groes i'r hyn mae Bourne yn ceisio ei wneud.
O dan amgylchiadau fel hyn mae'n allweddol i'r cyswllt rhwng San Steffan a Chymru fod efo'r gallu a'r dealltwriaeth i geisio lleddfu'r tyndra mae'r sefyllfa newydd yn ei greu rhwng y ddelwedd o'r blaid Geidwadol mae Bourne am ei chyflwyno, a'r un sy'n cael ei chyflwyno yn ddyddiol gan y cyfryngau.
Mae'n weddol amlwg nad ydi Gillan yn addas ar gyfer y pwrpas yma - 'does ganddi hi fawr o ddiddordeb na dealltwriaeth o wleidyddiaeth Cymru - ac mae hynny'n boenus o amlwg. Mae hyn yn ei dro yn atgyfnerthu'r canfyddiad nad oes fawr o ots gan lywodraeth San Steffan am Gymru.
John Redwood oedd yr Ysgrifennydd Gwladol diwethaf i fod yn gwbl anaddas. Nid diffyg gallu, na diffyg diddordeb oedd ei broblem , ond gwleidyddiaeth ymhell i'r dde o wleidyddiaeth Cymru, a phersenoliaeth anatyniadol iawn i lawer o Gymry. Roedd yn wyneb trychinebus o anaddas i'r Toriaid yng Nghymru.
Er iddo roi'r ffidil yn y to fel Ysgrifennydd Gwladol yn 1995 er mwyn sefyll yn erbyn John Major am arweinyddiaeth ei blaid, roedd y ddelwedd roedd wedi ei chreu yn niweidiol iawn i'r Toriaid ddwy flynedd yn ddiweddarach. Roedd eu methiant i ennill sedd o gwbl yng Nghymru yn etholiadau San Steffan 1997 a 2001 yn deillio yn rhannol o gwymp yn eu cefnogaeth ac yn rhannol oherwydd pleidleisio tactegol yn eu herbyn. Roedd delwedd wleidyddol anaddas yn cyfrannu at y ddau ffactor yma. Gallai'r modd mae Gillan yn gwyrdroi'r ddelwedd mae Bourne yn ceisio ei chyfleu gael effaith nid anhebyg i'r hyn a ddigwyddodd efo Redwood.
Petai gan y Toriaid fewath o synnwyr byddant yn cael gwared o'r ddynas cyn gynted a phosibl.
No comments:
Post a Comment