Showing posts with label ysgolion. Show all posts
Showing posts with label ysgolion. Show all posts

Friday, January 07, 2011

Hunaniaeth Gymreig

Alwyn achosodd tipyn o syndod i mi y bore 'ma trwy honni mai 60% yn unig o bobl Gwynedd sydd yn Gymry bellach. 'Dwi ddim yn siwr beth yn union oedd sail ei honiad, ond yn ol Ioan cyfeirio roedd at gyfeiriad o ystadegau o'r Labour Market Survey ar y blog Wales Home ddoe.

'Rwan, ystadegau ar hunaniaeth ydi'r rhain - ac maent wedi eu casglu o arolwg. Mae dibynadwyedd arolwg wedi ei seilio ar effeithiolrwydd y fethodoleg a ddefnyddir - hynny yw bod y sawl a holir yn cynrychioli'r grwp sy'n wrthrych ymchwil yn ei gyfanrwydd yn eithaf agos. Mae cael y grwp a holir i gynrychioli'r grwp cyfan yn anodd.

'Rwan mae gennym ffigyrau dibynadwy am hunaniaeth un grwp ym mhoblogaeth Cymru, sef plant ysgol. Mae'r ffigyrau hyn yn ddibynadwy oherwydd bod pob plentyn yn cael ei gyfri (mae pob dim yn cael ei gyfri ym myd addysg 'da chi'n gweld), a rhiant y plentyn sydd yn diffinio'r hunaniaeth. Lle mae pawb yn cael ei gyfri, 'does yna ddim angen llunio methodoleg arolwg - mae'r ffigyrau yn gywir. Wele'r ffigyrau diweddaraf (2009 / 2010):


Cymreig Seisnig
Prydeinig Gw / Alb Arall
Ynys Mon 66.6 8.2 23.7 0.4 1.1
Gwynedd 74.4 7.9 15.5 0.2 2.0
Conwy 49.6 7.4 40.8 0.5 1.7
Dinbych 49.5 14.3 33.7 0.3 2.2
Fflint 37.6 23.7 36.2 0.6 1.9
Wrecsam 55.1 9.4 31.3 0.5 3.7
Powys 42.6 18.7 36.0 0.5 2.2
Ceredigion 63.3 12.1 20.3 0.5 3.7
Penfro 53.2 8.6 35.6 0.4 2.2
Caerfyrddin 64.7 6.7 26.1 0.4 2.2
Abertawe 62.7 4.5 27.5 0.3 5.0
C/N Port Talbot 73.6 4.0 20.9 0.3 1.2
Pen y Bont 70.6 4.0 23.3 0.2 1.9
Bro Morgannwg 51.1 3.7 42.1 0.5 2.6
Rhondda Cynon Taf 74.8 2.3 21.6 0.1 1.1
Merthyr Tydfil 79.4 1.8 15.3 0.2 3.4
Caerffili 69.1 2.3 27.7 0.2 0.7
Blaenau Gwent 76.5 2.8 19.4 0.1 1.2
Torfaen 58.8 3.5 36.0 0.2 1.4
Mynwy 35.1 10.6 52.2 0.4 1.7
Casnewydd 50.2 4.1 39.1 0.3 6.2
Caerdydd 53.8 2.8 34.5 0.4 8.5
Cymru 59.5 6.8 30.3 0.3 3.0

Mae hunaniaeth Gymreig ar ei gryfaf yn y Gogledd Orllewin (Gwynedd) a rhai o gymoedd y De Ddwyrain (Blaenau Gwent, Rhondda, Merthyr yn ogystal a Chastell Nedd Port Talbot a Phen y Bont).

'Rwan 'dwi'n sylweddoli nad ydi'r ddau grwp (pobl yn y gweithlu a phlant) yn union yr un peth, ond mae pobl yn y gweithlu yn rhieni i blant, a byddai dyn yn disgwyl cyfatebiaeth gweddol glos rhwng y naill grwp a'r llall.

Mae yna dystiolaeth bod dirywiad mewn hunaniaeth Gymreig, ond 'dydi'r patrwm yma ddim yn syml - mae llai yn diffinio eu plant fel Cymry nag oedd yn 2004 / 2005 ond mae mwy nag oedd yn 2007 / 2008. Mae ychydig o gynnydd yn y ganran sy'n cael eu disgrifio fel Saeson, ac mae'r ganran Brydeinig (fel yr un Gymreig) yn gyfnewidiol. Yr unig grwp sydd ar gynnydd cyson ydi'r sawl nad ydynt gydag hunaniaeth sy'n deillio o Ynysoedd Prydain.


Cymreig Seisnig Albanaidd / Gwyddelig Prydeinig Arall
2009/2010 59.5 6.8 0.3 30.3 3.0
2008/09 57.8 6.5 0.3 32.4 3.0
2007/08 59.0 6.5 0.3 31.5 2.7
2006/07 60.8 6.6 0.3 29.9 2.3
2005/06 62.2 6.5 0.3 29.0 1.9
2004/05 63.4 6.5 0.3 28.1 1.6

Data Cynulliad ydi'r cwbl o'r uchod. Ffigyrau oll yn ganrannau.

Monday, June 28, 2010

Crachach

Mae rhai geiriau'n rhyfedd i'r graddau eu bod yn magu bywyd eu hunain, ac yn dechrau mynegi ystyron gwahanol mewn gwahanol rannau o'r wlad. Cymerer y gair crachach er enghraifft. Yn y Gogledd byddwn yn ei ddefnyddio i gyfeirio at bobl fawr neu bobl snobyddlyd. 'Dydi'r gair ddim yn cyfleu dim am iaith y sawl mae'n gyfeirio ato.



Yn Ne Ddwyrain Cymru mae iddo ystyr arall, ac mae'n cael ei ddefnyddio yn bennaf gan bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg. Yn wir, mae'n ddigon posibl mai crachach ydi'r unig air Cymraeg mae Don Touig yn ei ddeall.

Blog o'r De Ddwyrain ydi Syniadau, ac mae'n cynnig diffiniad da iawn o'r gair fel mae'n cael ei ddefnyddio gan y di Gymraeg yn y gornel honno o Gymru - My definition is that they are those who speak Welsh, make sure their own children are educated in Welsh ... but want to make it difficult for others to join their exclusive circle.

Cweit. Mi fyddai'n drist o beth petai clwb bach egsgliwsif Carwyn Jones yn cael ei wenwyno gan ddosbarth gweithiol Treganna.

Diweddariad - mae MH (awdur Syniadau) wedi fy ngheryddu am awgrymu bod y De Ddwyrain yn ei gyfanrwydd yn defnyddio'r term crachach i ddilorni siaradwyr Cymraeg. Ymddengys mai term sy'n cael ei ddefnyddio gan elit Llafuraidd gwrth Gymreig ydyw. Fel rhywun sydd a chysylltiadau llai uniongyrchol a'r De Ddwyrain na MH 'dwi'n cyffwrdd fy nghap i gydnabod ei ddealltwriaeth ehangach o arferion a geirfa y gwrth Gymreig yn y De Ddwyrain na fy un i.

Sunday, June 06, 2010

Ysgol Treganna - un gair bach olaf


Mae'r blogiad yma ynglyn a helynt Ysgol Treganna gan Neil McKevoy, arweinydd y Blaid ar Gyngor Caerdydd ar Waleshome.org a'r ymateb i'r blogiad hwnnw yn rhoi syniad go glir i ni o pa mor ymfflamychol a gwenwynig ydi'r mater yma yng Nghaerdydd.

Mae Simon Brooks yn ymddangos ar dudalen sylwadau'r blog i ofyn cwestiwn diddorol - ydi hi'n bosibl i rieni gael gwared o Cerys Furlong (un o dri chynghorydd Llafur Treganna) oddi ar fwrdd llywodraethu Ysgol Treganna?

Yn ol Simon does ganddi hi ddim cefnogaeth o du'r rhieni, ac mae wedi ei gyneirddiogi ei bod yn defnyddio ei statws fel cynrychiolydd ar ran yr Awdurdod Addysg Lleol ar fwrdd llywodraethu Ysgol Treganna i geisio cysylltu ei hun a'r ysgol mae'n gwneud pob dim o fewn ei gallu i'w thanseilio.



Gan mai cynrychioli'r AALl ac nid y rhieni mae Cerys mae'n anodd gweld bod yna ffordd uniongyrchol i rieni gael gwared o'r ddynas. Serch hynny mae mwy o gynrychiolwyr rhieni yn debygol o fod ar y bwrdd llywodraethol na sydd o gynrychiolwyr AALl. Gallai un neu fwy o'r rheiny ofyn i'r clerc roi eitem sy'n ymwneud a chynnig yn mynegi diffyg hyder ar ran y bwrdd yng ngallu Cerys i gynrychioli'r ysgol yn briodol. Yn sicr byddai yna ddadl dda iawn tros gario cynnig o'r fath - wedi'r cwbl mae'n rhan o ddyletswydd llywodraethwr i gefnogi ac hyrwyddo buddiannau'r ysgol mae'n llywodraethwr arno. Cynrychioli ac hyrwyddo buddiannau etholiadol y Blaid Lafur yng Ngorllewin Caerdydd ydi prif flaenoriaeth Cerys.

Ni fyddai cario cynnig o'r fath yn gorfodi Cerys i ymddiswyddo, ond byddai yn gwneud ei sefyllfa'n anodd. Byddai'n rhaid cael cynrychiolaeth ar ran yr AALl hyd yn oed petai yn ymddiswyddo wrth gwrs, a gallai un o'r ddau gynghorydd Llafur arall yn Nhreganna, Ramesh Patel neu Richard Cook gael eu cynnig. Mae'r cyntaf o'r rhain hyd yn oed yn llai addas na Cerys i fod yn llywodraethwr yn Nhreganna, a 'dydi Richard Cook ddim mymryn gwell na Cerys. Gellid pasio pleidlais o ddiffyg ymddiriedaeth yn y ddau yma yn eu tro a gwneud cais i'r tri chynghorydd ddewis rhywun sydd heb ei faeddu gan ddigwyddiadau'r dyddiau, ac yn wir y blynyddoedd diwethaf, i gynrychioli'r AALl ar fwrdd llywodraethol Ysgol Treganna.

Friday, May 28, 2010

Cymdeithas yr Iaith yn dadlau tros gau ysgolion!

'Dwi ddim yn tynnu coes.

Mi fyddai'r cynllun mae'r Gymdeithas yn flin iddo gael ei wrthod gan Carwyn Jones wedi arwain at gau ysgol gyda 320 o blant yn mynd iddo, sydd wedi bod (yn ol y posteri) yn 'galon i'r gymuned' am 150 o flynyddoedd.