Tuesday, January 11, 2011

Pam bod yr ymgyrch Na yn denu cymaint o nytars?

Fydda i ddim yn dilyn tudalennau sylwadau gwefannau fel Wales Online a Blog Bethan yn aml iawn - mae criw bach o wrth Gymreigwyr obsesiynnol yn bla arnynt. Ond mi wnes i eithriad heno ac edrych ar y sylwadau ynglyn ag un stori ar ddatganoli ar WalesOnline.

Er bod y sylwadau at ei gilydd yn hynod anwybodus, ac yn aml yn hysteraidd o ran goslef, maen nhw'n ddiddorol i'r graddau eu bod yn rhoi darlun i ni o rai o elfennau'r naratif sydd wedi ei ddefnyddio gan yr ymgyrch Na yn y gorffennol, a sy'n debygol o gael ei ddefnyddio'r tro hwn.

Yn gyntaf pres - ymddengys bod mwy o ddatganoli am fod yn ddrud iawn ac am gostio llwyth i ni mewn trethi:

Only 60 AM, they'll never cope especially with only six translators each.
This is just empire building for more AM & big pay rises.


Vote No to avoid this current lot costing us more and more and more money, just when it is in short supply.

Vote yes and you will be paying income tax to London and Cardiff , there is to much money already being wasted ,first of all politicians of all parties want to start looking after the interest and listen to the people they represent , before giving any of them more power!

'Rwan 'does a wnelo'r refferendwm ddim oll a threthi nag arian. Os oes yna ddadl ariannol o gwbl mae'n debyg y gellid honni y byddai cael gwared o'r drefn bresennol o gicio deddfwriaeth yn ol ac ymlaen o Gaerdydd i Lundain yn fwy cost effeithiol. Ond mae cost ychwanegol honedig cymryd penderfyniadau yng Nghaerdydd wedi bod yn ganolog i'r ddau refferendwm diwethaf ac mi fydd yn hwn.

Mae elitiaeth, y Taffia a'r crachach yn thema bythol wyrdd arall. 'Dydi hi byth yn gwbl glir pwy ydi'r crachach a'r Taffia - ond mae ganddyn nhw rhywbeth i'w wneud efo'r iaith ac maen nhw yn bobl ddrwg iawn. Mae yna hefyd amheuaeth ynglyn a'u hiechyd meddwl.

Vote NO! a yes vote will give more power to the Nationalist elite TAFFIA who want onlt to withdraw from the U.K. and will force businesses out of Wales with their lunatic Welsh language proposals.

Ond yr hyn sydd tu hwnt i unrhyw amheuaeth ydi bod na grwpiau bach iawn ydi'r crachach / Taffia, grwpiau sydd yn ceisio cymryd mantais ar bawb arall. Ffermwyr a gwleidyddion proffesiynol yn ol un - dau o'r grwpiau galwedigaethol lleiaf yng Nghymru yn yr oes sydd ohoni:

Yes supporters are a bunch of 'crachach' farmers and political elite afraid to show themselves in case their freebie existence and grant dependancy.



Ac wedyn wrth gwrs mae yna anallu'r Cymry i reoli eu bywyd cenedlaethol eu hunain - yn arbennig felly mewn materion economaidd, yn thema pwysig

Wales will end up Bankrupt, and the joke of the U.K. what we really need is to get rid of the pointless WAG and find our voice where it counts, and that's Westminster, where Wales has always had excellent politicians and we have had positve and real influence within the U.K. where we all belong.

Ac mae'n bwysig hefyd cofio peidio rhoi'r cyfle i'r Cymry gymryd rhan yn eu hoff hobi - puro ethnig:

if the yes vote is the winner. its one big fix. out off 200 hundred people i asked. in caerphilly. only 16 would vote yes. asked why their reply was that they could kick out non welsh speakers. there you have it total ethnic cleansing. taffy style.

Heb son am y ffaith ein bod ni'n bobl naturiol lwgr:

AM's look after themselves eg, ieuan wyn jones (air link from north to south) yet no link from ebbw vale to newport by train.
-Jocelyn davies has a flat in cardiff (why she only lives in newbridge), office in newbridge, house in treowen and she doesn't answer emails when things get tricky.
-edwina hart opens a mental health facility in swansea because she lives there.

Rwan mae'n eithaf hawdd chwerthin ar ben y llifeiriant o nonsens plentynaidd yma - ond ag anghofio'r ieithwedd anghymedrol am ennyd, mae llawer o'r themau yn rhai sydd i'w clywed gan bobl fel Rachel Banner neu i'w gweld ar wefan True Wales.

A dyna ydi'r ymgyrch Na yn y pen draw - ymdrech i'n argyhoeddi ein bod fel pobl yn hunanol, rhanedig, llwgr, sinigaidd ac isel ein gallu.

Mewn geiriau eraill mae'n ymgyrch sydd wedi ei seilio ar niwrosis a hunan gasineb - a dyna pam ei bod mor atyniadol i'r nytars sy'n cribinio'r We am rywle i gael dweud eu dweud a rhywun i ddarllen eu mwydro gwallgo.

7 comments:

Plaid Whitegate said...

Dyma un nodweddiadol ar Wales Online gan Captain Pugwash:

"vote no no no. you know it makes sense. then the plug can be pulled on S4C. yipee."

http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/2011/01/11/s4c-will-avoid-dogfight-for-resources-91466-27967748/#ixzz1Al5hLVQR

Cai Larsen said...

Dau beth di gysylltiad eto fyth.

Dewi said...

Mae 98% o be nhw yn ei ddweud yn hollol nyts.

OND, ynglyn ar 'crachach' neur 'Taffia'. Mae yn bydoli ai enwau newydd yw y 'cyfryngis'. Hynny yw y grwp o bobol sydd yn byw yn Pontcanna, yn gweithio yn y cyfryngau. Ac yn 'cysgu' at y top megis sut mae Tinopolis wedi tyfu!
Pwynt arall dwin cytuno gyda rhai or nytars ydy bod yna ormod o 'hen waed' yn S4C, gyda 'jobs for the boys'. A bod yr un hen bobol yn cael swyddi yno. Os caiff Anghard Mair neu Betsan Powys swydd S4C ai yn irrate.

Felly er bod lot fawr o be ma nhwn ddeud yn rwts. Mae'r son am y 'crachach' yma yn canu cloch ir Gymraeg ar di-Gymraeg. Ac rhaid i fi ddeud mae o YN bydoli yn S4C. Ond dim llawer yn y Cynulliad.

Anonymous said...

Yn fwy na dim, efallai, mae'n arwyddo'r ffaith nad oes yna unrhyw wleidyddion profiadol yn chwarae rhan yn yr ymgyrch Na. Felly does 'na ddim hunansensoriaeth na ystyriaeth strategol ar waith. Yr hyn yr ydym yn ei weld yn hytrach - a hynny'n ddihalen ac yn ddiymddiheuriad - ydi 'gwir' wyneb gwrthwynebwyr datganoli. Mae'n uffernol o hyll....

Anonymous said...

Yn anffodus, fedrai weld yr ymgyrch yn mynd yn fler iawn rhwng carfan Ie a Na. Mae'r holl sywlwadau hysteraidd gan True Wales yn rhwystro ac ymatal unrhyw drafodaeth wleidyddol safonol - rhwystredig dros ben.

Mae'r modd y mae True Wales yn bwrw ati i redeg ei ymgyrch yn warth a dylai'r cyfryngau a'r Comisiwn Etholiadol fagu digon o C.O.Jones er mwyn ceisio rhoi taw ar yr holl straeon celwyddgar yn y wasg ac ati.

Yr hyn sy'n fy mhryderu, ydy'r don newydd o atgasedd pur tuag at y Gymraeg a'r Cymry, yr holl straeon yn y WM sy'n trafod y criw bach elitaidd neu'r Taffia a'r cenedlaetholwyr. Cafodd yr ymateb ac agwedd yma i'w weld ar y stepan ddrws adeg yr etholiad diwethaf, ac mae i'w weld yn cymryd mwy o ran mewn dulliau canfasio ambell i garfan a phlaid wleidyddol.

Anonymous said...

True Wales = Tea Party Cymru.

Gwleidyddiaeth gwrth-wleidyddiaeth, gwrth-wleidyddion, ymosod ar y 'crachach' (Cymry Cymraeg, Caerdydd, Washington DC) ond ddim ar bobl sydd รข wir grym ac sy'n wir crachach ac sy'n cadw nhw'n dlawd - bancwyr, City of London, system dreth sy'n dal i elwa'r dosbarth rentier yn fwy na threth-dalwyr cyffedin.

Macsen

Anonymous said...

mi fydda i yn fotio Ie, ond dwi wir yn gobeithio na fydd y blaid yn cefnogi gwariant cyhoeddus gwirion wedyn e.g tabledi am ddim i bawb. laptops am ddim i blant. buses am ddim i hen bobl.

Talu llai i mewn a gadael y sector breifat greu ychydig o arian yma yng nghymru. Da ni di cael digon ar fyw ar gefn y wlad.