Sunday, January 09, 2011

Is etholiad Oldham East & Saddleworth


Yn ol politicalbetting.com Llafur fydd yn ennill is etholiad Oldham East & Saddleworth yn weddol hawdd. Mi gofiwch i'r cyn aelod, Phil Woolas (y boi nad oedd am i Shirley Evans ac Evelyn Calcabrini gael dod i Gymru o'r Wladfa) golli ei sedd oherwydd iddo ddweud celwydd am ei wrthwynebydd Lib Dem, Elwyn Watkins. Mewn amgylchiadau cyffredin byddai'r Lib Dems yn disgwyl ennill yn eithaf hawdd - yn rhannol oherwydd cydymdeimlad tuag at Watkins, ond yn bennaf oherwydd bod y blaid yn effeithiol iawn am ymladd is etholiadau - yn arbennig lle mae yna lawer o bleidleisiau tactegol ar gael - sydd yn wir am Oldham East & Saddleworth.

Os bydd Watkins yn colli, bydd yn slap gyntaf o nifer posibl i'r glymblaid yn Llundain tros y pum mis nesaf. Byddai perfformiadau sal yn etholiadau'r Alban a Chymru yn ddigon drwg, byddai colli cannoedd o seddi cyngor ar hyd a lled y DU yn waeth, a byddai colli'r refferendwm AV yn gadael llawer o Lib Dems yn gofyn beth yn union maen nhw yn ei gael fel gwobr am adael i'w cefnogaeth ddatgymalu er mwyn i Cameron gael rhedeg y DU.

Os ydi'r glymblaid o dan straen ar hyn o bryd, mi fydd hi'n gwegian erbyn dechrau'r haf. Yr unig beth a allai ei hachub ydi'r posibilrwydd y bydd aelodau seneddol Lib Dem yn ofn am eu bywydau wynebu eu hetholwyr mewn etholiad cyffredinol, ac eisiau cicio'r diwrnod du y bydd rhaid iddynt wneud hynny cyn belled a phosibl i'r dyfodol.

2 comments:

Anonymous said...

Dwin meddwl fe wneith y glymblaid parhau tan y misoedd diwethaf cyn etholiad.

Rhaid iddo, os fysa yna etholiad yn nawr fe fysa'r Dem's yn cael chwalfa. Felly mae'n rhaid iddyn wneud o weithio neu fydd o'n Lib Dems RIP.

Ond os fysa ASau a Nick Clegg hefo 'Bernards watch' dwin siwr fysa nhw ddim wedi mynd i fewn i glymblaid.
________________________
Rhaid i fi ddeud hefyd mae'n ddiddorol gweld y cyfryngau yn trafod a fydd y Toriad ar Dem's yn gweithio'i hefoi gilydd yn yr etholiad yn 2015. Ond nath yr un peth ddim digwydd yng Nghymru a Plaid a Llafur.

Pam tybed?
ydio oherwydd bod cyfryngau Cymru mor wan, a does na neb ddim callach pwy sydd yn y glymblaid

yntau ydy'r Cymru yn fwy 'ewropiaidd' ac yn croesawu clymblaid.

Yn anffodus, y cyntaf dwin tybio!

Anonymous said...

be fyddai yn well gan blog menai na'r glymblaid? Mwy o Lafur a gwariant dwl?