Sunday, January 02, 2011

Llwyddiannau Glyn Davies


Ag yntau bellach wedi ei ethol yn Aelod Seneddol Maldwyn, efallai y bydd rhaid i ni ddod i arfer at negeseuon arlywyddol ar ddiwedd pob blwyddyn ar flog Glyn Davies. Yn unol a'r traddodiad o negeseuon arlywyddol, clodfori ei lwyddiannau ei hun ydi un o nodweddion amlycaf neges Glyn.

Un o brif uchafbwyntiau'r flwyddyn iddo wrth gwrs oedd 'achub' S4C:

Also, ensuring that S4C moved forward with a sustainable budget was another 'highlight'

Felly mae gorfodi S4C i gymryd toriad o 25% a symud i gyfundrefn ariannu a allai erydu'r adnoddau sy'n weddill iddi i'r nesaf peth i ddim mewn ychydig flynyddoedd yn 'uchafbwynt''? 'Dydi Orwelaidd ddim yn ansoddair digon cryf rhywsut.

Roedd un peth wedi siomi Glyn yn ystod y flwyddyn fodd bynnag, ac roedd hynny yn ymwneud ag S4C hefyd:

_ _ _even if I have been disappointed by aspects of how the Channel's board has performed.

Hmm, felly mae Glyn yn arenwi gwrthwynebiad Awdurdod S4C i'r newidiadau cynhyrfus mae Jeremy Hunt wedi eu cynllunio ar gyfer y sianel fel un o'r o'r ychydig siomedigaethau iddo eu profi yn ystod y flwyddyn.

Ond 'tydi bywyd yn galed dywedwch?

1 comment:

Anonymous said...

Yn amlwg dwin anghytuno a be mae'r llywodraeth yn gwneud i'r sianel y nawr.

Ond nid y gallwch chi ddweud fod sut mae'r awdurdod wedi chwarae pethau wedi helpu.

Pam?
wel nol yn dechra'r haf, gafodd S4C mewn amser o "austerity" cynnig i golli £1miliwn neu ddau o'i cyllid. A be gafo ni ond ryw palafa, yn dweud ei fod yn illegal, a bod nhw am gael Judicial Review.

Oedd awdurdod S4C yn wirioneddol yn meddwl na ddyla nhw ddim cael dim toriadau?