Saturday, January 22, 2011

Proses nid digwyddiad - mae'r ddadl yn gweithio'r ddwy ffordd

Un o brif ddadleuon Rachel Banner a'r ymgyrch Na ydi y byddai pleidlais Ia yn ein rhoi ar lethr llithrig tuag at annibyniaeth.

'Rwan mae yna ychydig o wirionedd y tu cefn i hyn. Mae yna bobl - fel fi - sy'n gweld datganoli fel proses fydd yn arwain at adeiladu gwladwriaeth Gymreig tros amser, bricsen wrth fricsen. Ond lleiafrif sy'n meddwl hynny, ac mi fyddai yna sawl refferendwm arall cyn y gellid sefydlu cyfundrefn wleidyddol annibynnol i Gymru. Fyddai yna ddim cwestiwn o sefydlu Cymru annibynnol heb refferendwm ar yr union bwnc hwnnw.

'Does yna ddim gwahaniaeth rhesymegol rhwng dadlau y gallai pleidlais gadarnhaol arwain at annibyniaeth a dadlau y byddai pleidlais negyddol yn peryglu bodolaeth y Cynulliad ei hun. Mi fyddai pleidlais negyddol yn gwanio'r Cynulliad, a byddai'n hwb sylweddol i'r sawl sydd am gael gwared o'r sefydliad.

'Dwi'n gwybod bod llawer ar yr ochr Ia yn anghytuno efo fi, ond os ydi'r ochr Na yn benderfynol o ddefnyddio'r bygythiad o annibyniaeth fel un o ddadleuon creiddiol eu hymgyrch, mae'n ymddangos i mi ei bod yn briodol dadlau y byddai pleidlais Na yn bygwth y Cynulliad. Byddai hynny wrth gwrs yn bygwth y pethau hynny sydd yn effeithio ar fywyd diwrnod i ddiwrnod pobl sydd wedi dod yn sgil y Cynulliad - presgripsiwns rhad ac am ddim, hawl i'r henoed deithio ar fysus am ddim, ffioedd dysgu rhesymol ac ati.

No comments: