Friday, November 26, 2010

Is etholiad Donegal


Mi gofiwch efallai i'r blog yma ddarogan daeargryn gwleidyddol yn Donegal South West ychydig ddyddiau yn ol - ac yn wir digwyddodd hynny. Am y tro cyntaf yn hanes y wladwriaeth cafodd y dair blaid sefydliadol (FF, FG a Llafur) lai na 50% o'r bleidlais rhyngddynt. Mae'r tair ohonynt wedi bod yn frwdfrydig iawn eu cefnogaeth i'r prosiect Ewropeaidd trwy gydol eu hanes.

Sinn Fein oedd yn fuddugol - ond 'dydi hynny ddim yn golygu y byddant yn gwneud cystal ym mhob man - mae'n haws i'r blaid honno gysylltu efo etholwyr sy'n dlawd neu sy'n byw yn agos at y ffin. Mae Donegal yn dlawd ac yn agos at y ffin.

Serch hynny mae SF yn gyffredinol wrthwynebus i ymyraeth Ewropeaidd mewn materion Gwyddelig, ac yn yr hinsawdd sydd ohoni mae'r neges honno'n taro deuddeg efo llawer iawn o bobl. Mi fydd yna wagle etholiadol sylweddol i bleidiau ac unigolion gwrth Ewropeiaidd o'r Dde ac o'r Chwith yn etholiad cyffredinol Iwerddon y flwyddyn nesaf.

Wednesday, November 24, 2010

Mwy o dan gwyllt o Barc Ty Glas

Hmm - anhrefn o gyfeiriad S4C eto fyth - pwy gredai'r peth?.

Mae Awdurdod S4C yn meddwl bod John Walter Jones wedi ymddiswyddo, ond 'dydi John Walter Jones na'r DCMS ddim mor siwr.

Mae'r criw bach o Dic Sion Dafyddiaid proffesiynol a adwaenir fel aelodau seneddol Toriaidd Cymru o'r farn y dylai gweddill yr Awdurdod ymddiswyddo oherwydd nad ydyn nhw mor hawdd i'w trin a John Walter. Ac mae'r broses o ddewis prif weithredwr newydd yn mynd rhagddi'n hapus braf trwy hyn i gyd.

Beth bynnag am fethiannau'r Glymblaid Lundeinig, maent wedi gwneud joban ryfeddol ar ddad sefydlogi un o'n sefydliadau cenedlaethol pwysicaf.

Tuesday, November 23, 2010

Pensiwn Darren Millar a phensiwn y ddynas lolipop

Yn ol Vaughan 'dydi AC Gorllewin Clwyd, Darren Millar ddim yn rhy hoff o gynlluniau pensiynau cyhoeddus llywodraeth leol - maen nhw'n rhy hael - er nad yw'r pensiynau hynny yn agos mor hael a chynllun pensiwn cyhoeddus Darren ei hun. A dweud y gwir mae amodau pensiwn Darren ymysg y mwyaf hael y gallaf feddwl amdanynt. Mae'n amlwg bod gan y dyn broblem efo'r sector cyhoeddus.


Eto, yn ol Vaughan mae yna 44.6% o'i etholwyr yn gweithio yn y sector cyhoeddus - y ganran uchaf namyn un yng Nghymru.

Yn 2007 roedd gan Darren fwyafrif o 6.1%.

Newyddion etholiadol diddorol o Aberconwy


Yn ol Oscar mae'n fwriad gan Jason Weyman sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn Aberconwy yn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Mae'r newyddion yn ddiddorol oherwydd bod Jason yn gynghorydd sir poblogaidd yn Neganwy - ardal lle byddai'r Toriaid yn disgwyl pleidlais sylweddol. Fydd yna ddim cymaint o bleidleisiau iddynt ag y byddent wedi disgwyl yno.

Gallai ymyraeth o'r math yma wneud y gwahaniaeth hanfodol mewn etholaeth lle mae disgwyl i bethau fod yn agos.

Monday, November 22, 2010

Y broblem efo gwobrau blogio _ _

_ _ ydi bod yna ambell un sy'n cael ychydig o lwyddiant yn cymryd y peth o ddifri i'r fath raddau bod ei ego yn chwyddo fel balwn enfawr.

Cymerer y Tori o Fon, Paul Williams er enghraifft. Yn sgil ennill gwobr blog gwleidyddol y flwyddyn Welsh Blog Awards a dod yn 19fed yng Nghymru am flog gwleidyddol yn 'etholiad' Total Politics, ymddengys ei fod o'r farn bod ei flog yn rhan hanfodol a chreiddiol o'r broses etholiadol ym Mon. Yn anhygoel, mae'n dadlau y dylid mesur addasrwydd pobl i fod yn gynghorwyr ar yr ynys yn ol eu parodrwydd i gyfrannu i'w flog o ei hun.

Dydw i ddim yn tynnu coes - mae'n mynegi'r gred ryfeddol o hunan bwysig yma yn ddigon clir yma, ac mae'n ail adrodd y farn yma yn ystod un o'r dadleuon maith a chwerw sy'n nodweddu tudalennau sylwadau ei flog.

Sunday, November 21, 2010

A fydd cywilydd y Weriniaeth yn arwain at dranc Fianna Fail?

Felly mae Gweriniaeth Iwerddon wedi derbyn benthyciad o hyd at 100bn Ewro gan y Gymuned Ewropeaidd a'r IMF - a'r cwbl mae hynny yn ei olygu o ran cyfyngu ar eu hawl i wneud eu penderfyniadau economaidd eu hunain. Mi fydd goblygiadau digwyddiadau heddiw yn bell gyrhaeddol a hir dymor.


Ymhell o fariau Temple Bar, a'r Iwerddon ddinesig sy'n gyfarwydd i lawer o bobl Cymru, mae yna Iwerddon arall tra gwahanol. Mae sir Donegal mor bell ag y gallai fod o Ddulyn - yn ddaearyddol, yn gymdeithasol ac yn gymdeithasegol. Byddai'n ormodiaeth i ddweud na ddaeth y Teigr Celtaidd i'r pellafion gorllewinol yma, ond mae'r sir yn llawer mwy dibynnol ar ei diwydiannau traddodiadol - pysgota a ffermio - nag ydi ar y diwydiannau newydd.

Mae cymunedau bach Donegal ymysg y mwyaf gwledig, y mwyaf ceidwadol a'r mwyaf cenedlaetholgar ar yr ynys. Yma hefyd, gyda llaw, y ceir rhai o'r cymunedau naturiol Wyddelig eu hiaith olaf. Mae'r ardal wedi bod yn gyson driw i'r blaid lywodraethol Fianna Fail ers y tri degau cynnar. Ardaloedd megis Donegal ydi perfedd dir cefnogaeth etholiadol Fianna Fail. Cefnogaeth cyson ardaloedd fel hyn sydd wedi sicrhau i'r blaid ddominyddu bywyd gwleidyddol y Weriniaeth ers wyth deg o flynyddoedd, mewn ffordd nad oes yna yr un plaid arall yn Ewrop wedi llwyddo i wneud.

'Dydi'r ddelwedd o arweinwyr y Weriniaeth ar eu gliniau o flaen tramorwyr yn gofyn am bres ddim am fod yn un atyniadol mewn llefydd fel hyn. I'r gwrthwyneb, bydd yn ennyn cynddaredd. Yn anffodus i'r llywodraeth mae yna is etholiad yn un o ddwy etholaeth Donegal ddydd Iau. Fel rheol gallant ddisgwyl dal y naill neu'r llall. Fyddan nhw ddim yn gwneud hynny ddydd Mercher - mi fydd yna ddaeargryn gwleidyddol yn Donegal South West. Bydd hynny yn arwain at gyfres o ddigwyddiadau fydd yn achosi cwymp y llywodraeth ddiwedd y flwyddyn yma neu ddechrau'r flwyddyn nesaf. Gallai hynny yn ei dro arwain at sefyllfa lle na fydd Fianna Fail yn arwain llywodraeth arall am genhedlaeth.

Is etholiad Rhosneigr

Gan fod darpar ymgeisydd newydd y Toriaid ar Ynys Mon wedi gwneud mor a mynydd ar ei flog o arwyddocad is etholiad Rhosneigr cyn ei chynnal, ond wedi anghofio rhoi'r canlyniad i ni, mae'n bleser gan flogmenai (mewn ysbryd o frawdgarwch) gamu i'r adwy a darparu'r canlyniad hwnnw:

Richard Dew Annibynnol 319 (84.6;-15.4),
Martin Peet Tori 58 (15.4;+15.4)

Saturday, November 20, 2010

Derwydd y wisg las yn dangos ei gardiau - a'i wyneb


Mae'n braf nodi bod awdur y blog o Ynys Mon, the Druid o'r diwedd wedi dod o hyd i'r hyder i gysylltu ei hun yn bersonol efo gwleidyddiaeth ei flog, yn ogystal a gadael i ni i gyd wybod pwy ydyw. Mae'n gryn gamp i flogiwr gadw cyfrinach cyhyd, ac yn arbennig os ydi'r creadur yn dod o Ynys Mon. Ymddengys mai Paul Williams ydi'r enw.

Mae'n ddiddorol hefyd deall iddo gael ei ddewis i sefyll yn etholiadau'r Cynulliad tros y Toriaid yn Ynys Mon y flwyddyn nesaf. Mae'n debyg gen i na fydd rhaid i ni wrando arno'n gwadu'n bigog ei fod yn Dori yn y dyfodol.

Mae Alwyn yn gywir i awgrymu bod yna rhywbeth braidd yn anghydnaws rhwng protestiadau Paul mai buddiannau Ynys Mon sy'n bwysig iddo yn annad dim arall a'i sefyllfa bresennol fel ymgeisydd Toriaidd. Yn wir yn nyddiau cynnar (a ddim mor gynnar) y blog roedd yna batrwm digri o gyson o ddadlau tros roi buddiannau lleol yn gyntaf, tra'n dod i'r casgliad yn ddi eithriad mai trwy gefnogi rhyw Dori neu'i gilydd oedd y ffordd orau o wneud hynny - hyd yn oed os nad oedd y Tori o dan sylw erioed wedi dangos y mymryn lleiaf o ddiddordeb yn Ynys Mon cyn cael ei ddewis i sefyll yno.

Beth bynnag, mae'n amlwg i'r hogyn ddod tros y cywilydd o fod yn Dori - a da o beth ydi hynny - go brin bod bystachu o gwmpas yn nhywyllwch y closat yn fawr o hwyl. Serch hynny, mae'r ffaith ei fod wedi gwneud cymaint o ddefnydd o localism (fedra i ddim meddwl am yr union air Cymraeg mae gen i ofn) Ynys Mon i geisio gwthio buddiannau gwleidyddol y Toriaid yno ynddo'i hun yn ddigon diddorol. Mae pawb sy'n gwybod unrhyw beth am wleidyddiaeth yr ynys hefyd yn gwybod bod ystyriaethau lleol yn bwysicach yno nag yn unman arall yng Nghymru. Ar un olwg mae'r syniad mai'r ffordd orau o amddiffyn buddiannau Mon ydi trwy droi at blaid sydd a'i ffocws ar Dde Lloegr, a sydd a'u bryd ar dorri gwariant cyhoeddus - y math o wariant mae economi'r ynys yn ddibynnol arno - yn chwerthinllyd. Ond, dyna sydd ar stondin Paul.

Mi fydd darllenwyr rheolaidd y blog yma yn ymwybodol nad ydi gwleidyddiaeth rhanbarthol yn agos at fy nghalon - yng Nghymru o leiaf. Y prif reswm am hyn ydi gwendid sylfaenol yn yr ymdeimlad o genedligrwydd Cymreig - 'does yna ddim dealltwriaeth cytunedig o beth ydi o i fod yn Gymro neu Gymraes - ac oherwydd hynny does yna ddim naratif cenedlaethol y gallwn oll uniaethu efo fo. Mae diffyg naratif felly yn broblem sylfaenol i ddatblygiad Cymru fel gwlad. Rydym yn wahanol i'r gwledydd o'n cwmpas - Iwerddon, yr Alban a Lloegr - yn hyn o beth.

Mae cyflwyno naratifau rhanbarthol i'n bywyd cenedlaethol yn foethusrwydd nad ydym yn gallu ei fforddio ar hyn o bryd. Yn wir, mi fyddwn yn dadlau bod y math o ranbarthiaeth yr ydym yn ei weld gan fudiadau fel Llais y Bobl yng Ngwent a Llais Gwynedd yn tanseilio'r datblygiad mewn ymwybyddiaeth cenedlaethol i'r graddau bod y mudiadau hyn yn fwy o fygythiad i ddatblygiad Cymru fel gwlad nag ydi naratifau amgen pleidiau Prydeinig, fel y Toriaid. Efallai ei bod yn arwyddocaol yn hyn o beth bod ymgyrchoedd 'Na' mewn refferenda datganoli wedi eu canoli yn bennaf ar y gwahanol holltau rhanbarthol, cymdeithasegol a ieithyddol a geir yng Nghymru, yn hytrach nag ar gynnig naratif Prydeinig.

'Dydi hynny ddim yn golygu nad oes peryglon mewn naratifau Prydeinig i Gymru - ond mae hollti'r naratif genedlaethol wan sydd ohoni yn fwy o fygythiad. Mae gwleidyddiaeth Paul yn rhyw gyfuniad anymunol o syniadaethau (ac felly naratifau) gwrth Gymreig - un amgen Doriaidd, Brydeinig sy'n cystadlu o'r tu allan ac un ranbarthol sy'n tanseilio'r ymwybyddiaeth Gymreig o'r tu mewn.

Cewch gymryd yn ganiataol 'dwi'n meddwl, na fyddaf yn croesi'r bont i gyfrannu i ymgyrch y dyn yn ystod y gwanwyn.

Friday, November 19, 2010

Plaid Cymru yn ennill is etholiad cyngor arall

Eglwysbach yn Sir Conwy y tro hwn:

Michael Rayner (Plaid Cymru) 368
David Williams (Tori) 145

Thursday, November 18, 2010

Toriaid Cymru eisiau chwalu'r gyfundrefn addysg

Felly mae'r Toriaid yng Nghymru eisiau efelychu'r fam blaid Brydeinig ac arbed y gyllideb iechyd ar draul pob dim arall. 'Dydi'r ffaith eithaf elfennol bod y ganran o'r gyllideb Gymreig sy'n mynd ar iechyd yn llawer uwch na'r ganran gyfatebol ar lefel Prydeinig, ac y byddai dilyn yr un trywydd felly yn arwain at doriadau enbyd ym mhob cyllideb arall, ddim yn eu poeni rhyw lawer.

Fyddai dilyn argymhelliad Nick Bourne a thorri'r gyllideb ysgolion yng Nghymru o 20% ddim yn arbed digon o arian i amddiffyn y gyllideb iechyd rhag unrhyw doriadau, ond byddai'n cael effaith rhyfeddol o negyddol ar y gyfundrefn addysg yng Nghymru.

Yn y gorffennol mae'r Toriaid Cymreig wedi gwneud cryn dipyn o'r ffaith bod gwariant ar ysgolion yn tua £500 y plentyn, y flwyddyn yn is yng Nghymru nag yw yn Lloegr. Roedd y canfyddiad hwnnw yn un cywir. Datblygodd y gwahaniaeth yn ystod y cyfnod 2003 - 2007 pan roedd Llafur yn rhedeg y sioe ar eu pennau eu hunain. Ond rwan mae Bourne a'i griw eisiau cynyddu'r gwahaniaeth hwnnw i tua £1,600, gyda'r gwariant Cymreig (y pen y flwyddyn) yn gostwng i tua £4,300.

Mi fyddai hyn yn rhoi'r gyfundrefn addysg Gymreig mewn sefyllfa amhosibl. Er enghraifft byddai canoedd ar ganoedd o staff dysgu ac ategol yn cael y sac. Byddai llawer o lywodraethwyr ysgolion yn cael eu gorfodi i dorri'r gyfraith a rhoi plant bychan mewn dosbarthiadau o fwy na 30. Byddai ansawdd addysg pob plentyn yn y wlad - o 3 i 18 - yn syrthio. Byddai'n rhaid i awdurdodau mewn cynghorau gwledig benderfynu rhwng cynnig gwasanaeth hollol anerbyniol yn eu hysgolion trefol, neu gau dwsinau o'u hysgolion llai. Byddai'r amrediad cyrsiau mewn llawer o ysgolion uwchradd yn cael eu torri a byddai maint eu dosbarthiadau yn cynyddu - hynny yw yn y sefedliadau na fyddai'n rhaid eu cau. Byddai gweithredu ar argymhelliad Bourne yn achosi anhrefn trwy'r holl gyfundrefn ysgolion yng Nghymru.

Mae'n dda o beth ei bod bellach yn dra anhebygol y bydd y dyn yma byth mewn unrhyw sefyllfa i gymryd penderfyniadau sy'n bwysig i fywydau pobl Cymru.

Wednesday, November 17, 2010

Diweithdra yng Nghymru

Ychydig o newyddion economaidd da yng nghanol yr holl newyddion drwg. Mae diweithdra wedi disgyn yng Nghymru, ac yng ngweddill y DU.
Er ei bod yn bwysig nodi mai rhan o stori llewyrch economaidd yn unig ydi lefelau diweithdra (mae ansawdd swyddi yn bwysicach) - mae'r tabl isod sydd yn cymharu lefelau diweithdra gwahanol wledydd y DU ac etholaethau Cymru yn ddigon diddorol.

Dau beth sy'n taro fy llygad i. Yn gyntaf 'dydi diweithdra yng Nghymru ddim yn arbennig o uchel. Yn ail mae'r sefyllfa yng Nghymru yn anisgwyl ar sawl golwg. Faint o bobl fyddai wedi dweud wrthych bod lefelau diweithdra yn uwch yng Nghaerdydd nag ydyw yng Ngwynedd? Neu beth am y gwahaniaeth anisgwyl rhwng Ceredigion a Bro Morgannwg? Pam bod lefelau diweithdra yng Ngorllewin a Dwyrain Abertawe mor debyg, er mor wahanol ydi'r ddwy etholaeth ar sawl cyfri?

Yr hyn nad yw'n amlwg eto wrth gwrs ydi'r effaith y bydd toriadau mewn gwariant cyhoeddus ar y ffigyrau. Efallai y bydd pethau'n edrych yn dra gwahanol mewn blwyddyn neu ddwy.

Etholaeth (neu wlad) Dynion Canran Merched Canran Cyfanswm Canran
Lloegr 803,141 5 358,711 2 1,161,852 4
Gogledd Iwerddon 42,604 7 14,899 3 57,503 5
Yr Alban 93,184 5.5 36,123 2.1 129,307 3.8
Cymru 48,971 5.2 19,152 2 68,123 3.6
Ynys Mon 1,182 5.7 458 2.1 1,640 3.9
Delyn 945 4.2 406 1.8 1,351 3
Alyn a Glanau Dyfrdwy 1,055 4 500 1.9 1,555 3
Wrecsam 1,154 5.1 432 1.9 1,586 3.5
Llanelli 1,276 5.4 501 2 1,777 3.7
Gwyr 721 3 323 1.3 1,044 2.2
Gorllewin Abertawe 1,358 5.4 480 2 1,838 3.7
Dwyrain Abertawe 1,501 6.1 512 2 2,013 4
Aberafon 1,082 5.3 399 1.9 1,481 3.6
Canol Caerdydd 1,707 5.6 611 2.1 2,318 3.9
Gogledd Caerdydd 981 3.5 390 1.4 1,371 2.4
Rhondda 1,659 7.6 639 2.9 2,298 5.2
Torfaen 1,521 5.9 620 2.4 2,141 4.1
Mynwy 761 3.1 367 1.5 1,128 2.3
Dwyrain Abertawe 1,409 6.1 528 2.2 1,937 4.1
Gorllewin Abertawe 1,624 6.2 639 2.4 2,263 4.3
Arfon 908 4.9 299 1.5 1,207 3.2
Aberconwy 739 4.5 247 1.5 986 3
Gorllewin Clwyd 992 4.7 385 1.8 1,377 3.2
Dyffryn Clwyd 1,321 6 450 1.9 1,771 3.9
Dwyfor Meirionnydd 567 3.2 223 1.3 790 2.2
De Clwyd 1,072 4.7 416 1.8 1,488 3.3
Trefaldwyn 493 2.5 233 1.2 726 1.9
Ceredigion 588 2.3 265 1 853 1.7
Preseli Penfro 1,045 4.7 374 1.6 1,419 3.2
Gorllewin Caerfyrddin / Penfro 961 4.2 330 1.4 1,291 2.8
Dwyrain Caerfyrddin 707 3.3 293 1.3 1,000 2.3
Brycheiniog a Maesyfed 603 2.9 266 1.3 869 2.1
Castell Nedd 1,052 4.6 431 1.9 1,483 3.2
Cynon Valley 1,404 6.6 628 2.8 2,032 4.7
Merthyr Tydfil 1,951 8.7 769 3.3 2,720 5.9
Blaenau Gwent 1,965 9.1 810 3.6 2,775 6.3
Pen y Bont 1,144 4.8 476 2 1,620 3.4
Ogwr 1,376 5.8 520 2.2 1,896 4
Pontypridd 1,143 4.3 418 1.6 1,561 2.9
Caerffili 1,766 6.6 724 2.6 2,490 4.6
Islwyn 1,353 5.9 536 2.3 1,889 4.1
Bro Morgannwg 1,698 5.7 636 2 2,334 3.8
Gorllewin Caerdydd 1,805 6.6 714 2.5 2,519 4.5
De Caerdydd 2,382 7.5 904 2.7 3,286 5

Data i gyd o datablog.

Tuesday, November 16, 2010

Ymhle y bydd y fwyell yn syrthio?

Mae'r map isod o datablog y Guardian yn rhoi syniad o'r ganran o'r gweithlu sydd yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus yn holl awdurdodau lleol Cymru, Yr Alban a Lloegr.

Gan bod toriadau mewn gwariant cyhoeddus am fod yn sylweddol tros y blynyddoedd nesaf, a chan mai'r gwariant hwnnw sy'n cynnal cyflogaeth sector cyhoeddus, mae'r ddelwedd hefyd yn mapio lle bydd swyddi yn cael eu colli.

Mae'n weddol amlwg y bydd y ddwy wlad Geltaidd yn dioddef yn arbennig, ac mai ardaloedd tlotaf y gwledydd hynny fydd yn dioddef fwyaf.

Newyddion da i'r Bib o'r diwedd!


Mae'r newyddion am y briodas frenhinol wrth gwrs yn newyddion da o lawenydd mawr - i'r BBC, mewn cyfnod digon anodd iddynt.

'Dydi'r Bib byth yn hapusach ei fyd na phan ddaw'r cyfle i frefu ystradebau a llyfu'n anfeirniadol a di feddwl o gwmpas sefydliadau a seremoniau Prydeinig a Phrydeinllyd. Gobeithio y bydd miri'r misoedd nesaf yn dod a meddyliau staff a rheolwyr y sianel oddi ar yr erchyllderau mae'r llywodraeth glymbleidiol yn Llundain yn eu cynllunio ar eu cyfer.

Mae'n arbennig o hyfryd cael nodi bod Huw Edwards yn mynd trwy'i bethau gyda'r fath frwdfrydedd, angerdd ac arddeliad. Mi fyddai ei dad yn falch ohono petai gyda ni o hyd.

Diolch i Golwg _ _ _

_ _ _ am roi blogmenai ar frig eu rhestr blogiau amatur Cymraeg eleni, ac am eiriau caredig Ifan. Llongyfarchiadau hefyd i bawb arall a ymddangosodd yn y deg uchaf. Un neu ddau o bwyntiau brysiog - nad ydynt o anghenrhaid yn gysylltiedig a'i gilydd nag yn arbennig o dreiddgar.

Fedrwn i ddim peidio a gwenu wrth weld y sylwadau bod blog Guto Dafydd yn gryno iawn o ran arddull. Roeddwn i'n darllen (ac yn marcio) gwaith Guto pan roedd yn hogyn ysgol. Roedd yn 'sgwenwr talentog bryd hynny - gan fynegi ei hun yn eglur iawn - ac yn gryno iawn. Fyddai Guto ddim yn Guto os na fyddai'n gryno!

Blogiau gwleidyddol sydd ar y brig, ac fel mae Ifan yn nodi, mae'r ffaith bod etholiad cyffredinol eleni wedi bod o help. Ond y gwir amdani ydi bod blogio gwleidyddol yn haws nag ydi blogio yn y rhan fwyaf o feysydd eraill - mae yna storiau gwleidyddol yn ymddangos pob dydd i ymateb iddynt. 'Dydi'r blogiwr gwleidyddol ddim yn gorfod wynebu syndrom y dudalen (neu'r sgrin) wag - mae yna bob amser rhywbeth i 'sgwennu amdano.

Mae'n anffodus nad oes yna fwy o flogiau cyfrwng Cymraeg. Mae'r blog yma wedi dadlau sawl gwaith mai un o'r strwythurau pennaf sy'n cynnal y Gymraeg ydi bodolaeth cyd destunau lle caiff ei defnyddio. 'Dydi blogio ddim yn fater hollbwysig wrth gwrs, ond mae gwendid cymharol yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn adlewyrchu gwendid ehangach yng nghyd destun defnyddio technoleg newydd i gyfathrebu.

Mae'n well gen i weld pobl sydd eisiau blogio yn ddwyieithog yn dilyn trywydd Alwyn ap Huw ac yn cynhyrchu dau flog yn y ddwy iaith,sydd yn ymdrin a materion ychydig yn wahanol, nag yn cyfieithu pob dim o un iaith i'r llall oddi mewn i un blog. Dydi dwyieithrwydd o'r math yna ddim yn creu cyd destun newydd i ddefnyddio a darllen y Gymraeg. Mae'r trywydd Plaid Wrecsam o flogio yn Saesneg, ond cynnwys ambell i flogiad Cymraeg nad yw wedi ei gyfieithu, yn well o lawer na hynny.

Sunday, November 14, 2010

Ychydig funudau yn Hysteria Central


Dwi ddim yn meddwl y bydd neb yn debygol o anghytuno efo fi pan 'dwi'n honni fod blogio'r Lib Dem o Abertawe, Peter Black yn mynd ar nerfau Plaid Wrecsam. Gweler yma, yma ac yma er enghraifft. Anaml iawn y bydda i yn ymweld a blog Peter Black a dweud y gwir, ond ar yr achlysuron pan 'dwi'n mentro yno mae'n rhaid i mi gyfaddef bod y cyfuniad rhyfedd o ddifrifoldeb hunan bwysig a'r fflyrtain parhaus efo hysteria yn mynd ar fy nerfau innau hefyd.

Dau bwynt bach sydd gen i i'w wneud am y blog serch hynny. Yn gyntaf mae'r cyflwyniad nodweddiadol eiriog a fi fawraidd i'r dudalen sylwadau yn cychwyn efo'r baragraff yma:

I am happy to address most contributions, even the drunken ones if they are coherent, but I am not going to engage with negative sniping from those who do not have the guts to add their names or a consistent on-line identity to their comments. Such postings will not be published.

Wel, yn groes i fy arfer, mi adewais i sylw ddoe - yn enw fy mlog gyda linc iddo - i'r blogiad yma. Dewisodd Peter beidio a'i gyhoeddi - yn groes i reolau ei flog ei hun. Wna i ddim cymryd arnaf bod y sylwadau na chafodd weld golau dydd ymysg y pethau mwyaf treiddgar na defnyddiol 'dwi erioed wedi eu 'sgwennu. Serch hynny, gan nad ydi Peter yn fodlon eu cyhoeddi mi wna i hynny:

Hyperbole & obfuscion. I know that 9% in the polls isn't a good place to be, but covering yourself in a thick paste of partisan drivel isn't the best way to restore your party's political credibility Peter.
Ymateb oeddwn i flogiad oedd yn fwriadol gamarweiniol - un oedd yn fwriadol yn cwbl gam ddehongli sylwadau gan Adam Price a John Dixon er mwyn creu argraff bod y Blaid yn ffraeo'n fewnol ac yn ymddwyn fel llygod mawr mewn sach. 'Rwan mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod i fy hun yn gwneud hyn o bryd i'w gilydd - mae'r honiad ddau neu dri blogiad i lawr bod ffioedd prifysgol yn cael eu codi er mwyn i aelodau seneddol Toriaidd gael osgoi'r risg o gael eu plant yn ymwneud gormod efo'r dosbarth gweithiol yn esiampl. Ond 'dwi'n gobeithio ei bod yn weddol amlwg bod fy nhafod yn fy moch ar achlysuron fel hyn. 'Dydi tafod Peter ddim yn agos at ei foch - 'does yna ddim rhithyn o hiwmor yn agos at ei flog. Mae'r creadur yn 'sgwennu stwff gyda'r bwriad o gam arwain, yn hytrach nag efo'r bwriad o chwerthin ar ben gwrthwynebwyr. Ac mae'n gwrthod cyhoeddi sylwadau sy'n feirniadol o'i gam arwain bwriadol. Dyna beth ydi rhyddfrydiaeth.

Gyda llaw, rhag ofn ei fod o ddiddordeb mae'r blog yma yn derbyn bron i pob sylw sydd ddim yn groes i gyfraith enllib. Mae yna rhai sylwadau personol eraill 'dwi wedi gwrthod eu cyhoeddi - y rhan fwyaf ohonyn nhw, yn eironig ddigon, yn sylwadau personol ar aelodau o Lais Gwynedd.

Yn ail, ac yn bwysicach efallai, mae obsesiwn Peter efo Plaid Cymru yn rhyfedd. Tros y ddwy flynedd nesaf bydd y Lib Dems yn gweld eu cynrychiolaeth etholedig yng Nghymru yn cael ei chwalu. Byddant yn colli o leiaf ddwy sedd yn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf, a bydd y rhan fwyaf o'u cynghorwyr yn ninasoedd Cymru yn colli eu seddi y flwyddyn ganlynol. 'Rwan 'dwi siwr y bydd y Blaid yn elwa rhywfaint o'r chwalfa fawr, ond Llafur fydd yn yn gwneud y niwed mwyaf iddynt.

Ac mi fydd Peter druan yn ffidlian yn hamddenol (na sori, ddim yn hamddenol - dydi Peter ddim yn 'gwneud' hamddenol - yn hysteraidd dwi'n feddwl) tra bod Rhufain yn llosgi o'i gwmpas.

Datblygiad anisgwyl yr ochr arall i'r Mor Celtaidd


Ymddengys bod llywydd Sinn Fein, Gerry Adams, yn bwriadu sefyll yn etholiadad cyffredinol nesaf Gweriniaeth Iwerddon. Mae'n debyg y bydd y cyfryw etholiad yn cael ei gynnal yn fuan.

Bydd yn ymddiswyddo'i sedd Cynulliad yn y Gogledd, ac mae'n dra thebygol y bydd yn ymddiswyddo o'i sedd yn San Steffan os bydd yn cael ei ethol. Os digwydd hynny mi fydd i bob pwrpas wedi troi cefn ar wleidyddiaeth y Gogledd.

Bydd hyn yn newid sylweddol i wleidyddiaeth Gogledd Iwerddon, yn arbennig felly yn sgil ymadawiad diweddar Ian Paisley.

Saturday, November 13, 2010

Syniad newydd gwych gan y glymblaid

Ond 'tydi'r glymblaid newydd gynhyrfus yma yn San Steffan yn llawn syniadau gwych a gwreiddiol - tanseilio S4C ac felly'r iaith Gymraeg, torri pob cynllun cyfalaf y gallant feddwl amdano yng Nghymru, atal y risg y bydd eu plant yn cyfarfod a phriodi rhywun dosbarth gweithiol mewn coleg trwy wneud addysg bellach yn anfforddadwy i'r rheiny, pigo ar Guto Bebb ac ati ac ati.

Ac rwan maen nhw'n rhoi cyfrifoldeb am bolisi iechyd i gwmniau fel Pepsi a McDonalds. I rhywun syml fel fi mae'n ymddangos mai gormod o fwyta neu yfed cynnyrch rhai o'r cyfryw gwmniau sy'n gyfrifol am gyfran go lew o broblemau iechyd y DU, a bod hynny yn ei dro yn golygu nad dyma'r cwmniau delfrydol i lywio polisi iechyd cyhoeddus. A dweud y gwir mae'n anodd meddwl am unrhyw berson, asiantaeth neu gwmni llai addas.

Beth nesaf tybed, rhoi polisi ariannol y wladwriaeth yn nwylo medrus Lloyds TSB? Neu beth am roi amddiffyn i British Aerospace, iechyd cyhoeddus i Imperial Tobacco, yr amgylchedd i BP, darlledu i Murdoch, trafnidiaeth i Branson, ynni i UK Coal, trethiant i Kinsella Tax, a'r gyfraith i Carter Ruck?

Mae'r posibiliadau yn ddi ddiwedd.

Friday, November 12, 2010

Creuwyr cyfoeth y Bae

Mae'n debyg ei fod yn arwydd o'r parch sydd yna i Adam Price ar hyd y sbectrwm gwleidyddol bod cymaint wedi mynd ati i ddehongli, a cham ddehongli, ei sylwadau ynglyn ag ansawdd gwleidyddion Cymru. Wna i ddim ychwanegu at y ddadl ei hun ag eithrio i nodi fy mod yn credu bod cryn anwastadedd o ran ansawdd y cyfryw wleidyddion - a bod hynny yn wir am pob plaid. Efallai ei bod hefyd werth nodi nad ydi'r Cynulliad yn gynrycholiadol iawn o gymdeithas Gymreig yn ei chyfanrwydd - ond mae'n nes ati o lawer na San Steffan.


Mi fyddwn serch hynny yn hoffi tynnu sylw at un agwedd fach ar y ddadl - sef sylwadau a wnaethpwyd ar flog y Tori anhysbys o Fon - The Druid. Brolio mae'r Tori bod yna llawer mwy o rhywbeth mae'n ei alw yn wealth creators yn grwp Toriaidd yn y Cynulliad na sydd yn unrhyw grwp arall. Does gan y rheiny ddim llawer o'r bendigedig wealth creators yn eu mysg mae'n ymddangos. Ym myd y Derwydd mae wealth creators yn bobl bwysig iawn.



Mae Alwyn wedi ateb draw ar ei flog Saesneg nad oes yna ddim byd arbennig o fendigedig am etifeddu llwyth o bres a chysylltiadau busnes. Mae'r blog yma hefyd wedi tynnu sylw yn y gorffennol at y ffaith bod cabinet y Glymblaid yn Llundain yn llawn hyd yr ymylon efo cyfoethogion. Wedi dweud hynny, a bod yn deg, 'dydi cyfoeth mawr ddim yn un o nodweddion y Toriaid ym Mae Caerdydd.

Rwan, 'dwi'n siwr nad oes yna neb yn disgwyl i mi gofio enwau'r ACau Toriaidd - wedi'r cwbl maen nhw i gyd yn edrych mor debyg i'w gilydd. Serch hynny 'dwi'n gwybod bod dau o'r grwp yn ffermwyr. Ganwyd un yng nghanol y ganrif ddiwethaf pan oedd ameuthyddiaeth yn wir yn creu cyn dipyn o gyfoeth. Erbyn diwedd y ganrif honno, fodd bynnag, o dan oruwchwyliaeth ofalus ei blaid ei hun yn bennaf, roedd y sector amaethyddol mor ddibynnol ar bres cyhoeddus a'r Gurnos.

Wedyn mae yna dri o'r hogiau gydau'u cefndir mewn bancio. Mae banciau yn dda iawn am greu cyfoeth - i fancwyr. Maent yr un mor effeithiol am greu tlodi i bawb arall.

Ac wedyn mae yna gyn hyfforddwr gyrru, cyn wonc polisi i'r Blaid Geidwadol, syrfewr, darlithydd yn y gyfraith a swyddog Ewropeaidd (beth bynnag ydi hynny) mewn coleg addysg bellach.

Ac yna mae yna'r boi 'ma o Gasnewydd a adawodd y Blaid oedd yn gwneud ei fara menyn yn cyfri pres pobl eraill. O, a bu bron i mi ag anghofio - mae ganddyn nhw ddynes yn aelod o'r grwp hefyd. Mae gan honno brofiad sylweddol ym myd busnes. Mae hi hefyd ymysg yr aelodau mwyaf di ddim a di werth o unrhyw blaid yn y Cynulliad fel mae'n digwydd.

Does yna affliw o ddim o'i le yn y swyddi uchod - maen nhw i gyd (ag eithrio'r bancwyr wrth gwrs) yn swyddi digon teilwng. Popeth yn dda. Maen nhw'n swyddi sector breifat, dosbarth canol - ac mae'r ffaith bod yna aelodau o'r Cynulliad wedi eu cyflogi ynddynt ar un cyfnod yn eu bywydau yn gwneud y lle yn fwy amrywiol nag y byddai fel arall.

Ond mae gwneud mor a mynydd bod y cyfeillion yn wealth creators, ac awgrymu y byddant, o gael y cyfle, yn creu cyfoeth i ni oll yn - wel - ddigri o naif.

ON 14/11 - newydd sylwi ar drafodaeth ddifyr, ond digon ffyrnig ar y pwnc ar flog Saesneg Alwyn.


Wednesday, November 10, 2010

Mwy o broblemau i'r hen Nick


Daw diwrnod arall a phroblem arall i Nick Bourne.


Lled awgrymiadau bod ei gyd aelodau Toriaidd yn y Bae wedi mynd i Aberystwyth am sesh ar draul y trethdalwr i ddathlu penblwydd Nick Ramsey ydi'r broblem heddiw.


Datganiad gwallgo gan y Toriaid Cymreig y byddant yn amddiffyn y gyllideb iechyd heb drafferthu i edrych beth fyddai goblygiadau hynny i weddill cyllideb y Cynulliad oedd y smonach ddoe.


Ychwaneger at hynny yr ymysodiadau gan y Toriaid yn Llundain ar S4C ac ar nifer o gynlluniau a sefydliadau yng Nghymru - Sain Tathan, y swyddfa basports, a morglawdd tros yr Hafren.


Ac wedyn dyna'r cwymp yng nghefnogaeth y blaid yng Nghymru yn y polau piniwn. Mae'n rhaid bod Nick yn falch na lwyddodd cynllwyn Jonathan Morgan i'w amddifadu o'r barchus arswydus swydd o arwain y blaid yng Nghymru.

Monday, November 08, 2010

Glyn Davies a dyfodol S4C

Mae blogio Glyn Davies ar y pwnc yma'n dechrau achosi dryswch i mi mae gen i ofn.

I ddechrau mae'r blogiad diweddaraf yn awgrymu mai'r Cynulliad ddylai ariannu S4C. Mae'r syniad yn un digon od fel mae Rhodri Glyn yn ei awgrymu yn Golwg360. Wedi'r cwbl mae'r Cynulliad yn wynebu toriadau o £1.8 biliwn tros gyfnod o bedair blynedd. Ydi hi'n bosibl bod y Swyddfa Gymreig yn bwriadu torri mwy oddi ar y gyllideb trwy'r drws cefn trwy gynyddu ei gyfrifoldebau heb ariannu hynny? Wedi'r cwbl mae Glyn Davies yn is weinidog yn y Swyddfa Gymreig.

Yn ail 'dwi'n ei cael trafferth gweld pam mae Glyn Davies yn ei chael yn anodd i ddeall beth oedd pwrpas y gwrthdystiad ddydd Sadwrn. Mae'n cyfeirio at ddau fater mae'n eu disgrifio fel rhai 'eilradd' - annibyniaeth y sianel a threfn gyllido'r sianel. Ond dydyn nhw ddim yn faterion eilradd - maent yn greiddiol i ddyfodol y sianel. Yn wir byddai gorfod cystadlu ar yr un telerau a gwahanol gydrannau'r BBC yn sicr o arwain at doriadau sylweddol a chyflym yng nghyllideb S4C. Nid fel cydadran o'r Bib nag unrhyw gorfforaeth Brydeinig arall y cynllunwyd y sianel. Dydi hi ddim yn gwneud unrhyw synnwyr mewn cyd destun felly. Ond a bod yn deg efo Glyn Davies 'dwi'n sylwi ei fod newydd fynegi ei fod yn deall pwysigrwydd cynlluniau ariannu ac annibyniaeth y sianel yn nhudalen sylwadau ei flog.

Yn drydydd mae'r broliant bod 'penderfynoldeb a chlyfrwch' ASau Cymreig y glymblaid wedi atal y sianel rhag wynebu gwaeth ffawd o lawer na sydd yn ei haros yn codi cwestiynau. Mae Glyn Davies yn bendant nad oedd gan yr aelodau seneddol unrhyw fewnbwn i'r penderfyniad i greu'r berthynas newydd efo'r BBC, ac os ydi o'n dweud 'dwi'n derbyn hynny. Ond erys dau gwestiwn - beth yn union oedd cynlluniau Jerry Hunt cyn iddo gael y syniad o orfodi'r BBC i gynnal S4C? a sut y gallai 'penderfynoldeb a chlyfrwch' ASau'r Glymblaid o Gymru fod wedi arwain at y sefyllfa sydd ohoni - un sy'n sicr yn hynod amwys i mi, ac un sydd a barnu o'i flog,hefyd yn amwys i Glyn Davies.

Saturday, November 06, 2010

Is etholiad Cenarth

Llongyfarchiadau i Hazel Evans ar ei buddugoliaeth ysgubol ddydd Iau yng Nghenarth, Sir Gaerfyrddin.

Hazel Evans (Plaid Cymru) 638
Henrietta Hensher (Tori) 141

Ymadawiad Phil Woolas


Fedra i ddim peidio a gadael i hanes yr Uchel Lys yn amddifadu'r cyn weinidog mewnfudo, Phil Woolas o'i sedd seneddol fynd heibio heb wneud sylw neu ddau.

Yn gyntaf mae Phil Woolas wedi cael ei hun yn y sefyllfa yma oherwydd iddo ddweud celwydd am wrthwynebydd er mwyn ennill etholiad. Mae yna ormod o'r math yma o beth yn digwydd ar lefelau seneddol a lleol, ac mae'n dda o beth bod safiad yn cael ei gymryd gan yr awdurdodau cyfreithiol.

Yn ail mi fydd rhai ohonoch yn cofio mai dyma'r gweinidog ddangosodd cyn lleied o gydymdeimlad tuag at Shirley Evans ac Evelyn Calcabrini o'r Wladfa pan geisiodd y rheini ddod i aros i Gymru.

A wna innau ddim trafferthu dangos cydymdeimlad tuag at Phil - trist iawn, very sad.

Rali S4C


Wel mae'r rali wedi ei chynnal, ac roedd yn gryn lwyddiant o ran y nifer o bobl a ddaeth allan. 2,000 yn ol y trefnwyr a 1,500 yn ol y cyfryngau. Mae'n debyg gen i mai dyma'r wrthdystiad iaith sydd wedi dennu'r dyrfa fwyaf ers cryn gyfnod.

Mae'n ddiddorol i nifer o'r siaradwyr gyfeirio at y ffaith bod y gyfrifoldeb tros amddiffyn y sianel bellach yn syrthio ar genhedlaeth newydd. Efallai wir, ac roedd yna amrediad da o ran oedran y sawl oedd yn bresennol. Roedd fodd bynnag yn ddiddorol cymaint o bobl o'r genhedlaeth a ymladdodd y frwydr wreiddiol yn ol ar ddiwedd y saith degau oedd yno.

Fel un sydd o'r genhedlaeth honno, roedd yna rhyw ymdeimlad weithiau, wrth edrych ar rhai o'r bobl yn y dyrfa, bod amser yn chware tric, a fy mod yn ol yng ngwrthdystiadau'r saith degau hwyr. Doedd o ddim yn deimlad anymunol er gwaethaf yr amgylchiadau. Roeddwn yn cael fy hun yn ceisio cofio manylion record troseddol yn ogystal ag enwau'r gwahanol wynebau yn y dyrfa. Roedd hynny'n ddiddorol, ac yn adrodd cyfrolau am y dosbarth canol Cymraeg ei iaith.

Mi wasgarodd y genhedlaeth honno gyda'r pedwar gwynt ar ddechrau'r wythdegau i pob rhan o Gymru a thu hwnt, heb lawn sylweddoli maint ei llwyddiant o droi'r llywodraeth a sefydlu sianel cyfrwng Cymraeg. O fewn ychydig flynyddoedd byddai'r un llywodraeth wedi gwrthod ildio i fyddinoedd yr Ariannin, i rym diwydiannol y glowyr ac i ymprydwyr newyn ac unedau arfog yr IRA a'r INLA.

Ac rwan mae amgylchiadau yn dod a'n cenhedlaeth ni, nad oedd fawr hyn na phlant bryd hynny, yn ol at ei gilydd ynghyd a chenedlaethau eraill, hyn a ieuengach i wneud rhywbeth mae'n rhaid ei wneud.

Rydym yn troedio'r un tir ag oeddym yn ei droedio ddeg mlynedd ar hugain yn ol - efo'n gilydd yn ceisio cynnal rhywbeth sydd yn bwysicach na dim arall i ni. Roedd parhad y Gymraeg yn fater nad llawer ohonom yn teimlo bod gennym ddewis ond ei gynnal bryd hynny, ac mae pethau'n debyg rwan. Tristwch bod yn Gymro yn yr oes sydd ohoni ydi ein bod yn gorfod cynnal fflam fach sy'n ddigon egwan ar brydiau, gan wybod mai dim ond ni sydd yna i wneud hynny. Dim ond ni - caredigion y Gymraeg o pob cenhedlaeth.

Gobeithio y bydd pethau yn llai o drafferth ac yn llai costus o ran amser, a gwrthdaro efo'r gyfraith nag oeddynt ddeg mlynedd ar hugain yn ol.

Thursday, November 04, 2010

Etholiad Cyffredinol ar y ffordd

Cyn i neb ddychryn yn ormodol mae'n debyg y dyliwn egluro mai son am Weriniaeth Iwerddon ydw i, ac nid y DU.

Fel y gwyddoch efallai mae'r glymblaid bresennol (Fianna Fail, Y Blaid Werdd, a chriw - ahem - diddorol - o aelodau seneddol annibynnol) wedi bod mewn grym ers 2007. Yn ystod yr amser hwnnw maent wedi bod yn gynyddol amhoblogaidd, ac mae eu mwyafrif wedi bod yn mynd yn llai, ac yn llai nes ei fod bellach prin yn bodoli. Un o'r dulliau maent wedi ei ddefnyddio o ddal gafael ar rym ydi trwy beidio a galw is etholiadau pan mae seddi yn mynd yn wag. Mae yna bedair cadair wag yn y Dail ar hyn o bryd.

Beth bynnag, mae'n ymddangos bod y sioe ar fin dod i ben, ac yn rhyfedd iawn dau digwyddiad yn ymwneud a Donegal, un o gadarnleoedd Fianna Fail sydd yn gyfrifol am hynny. Echdoe ymddiswyddodd yr aelod hynod liwgar tros Donegal North East Jim McDaid o'r Dail. Cyn aelod o Fianna Fail oedd McDaid, ond roedd wedi cael ei hel o'r blaid yn 2008 - serch hynny roedd yn pleidleisio trostynt yn amlach na pheidio.

Dyn llai lliwgar o'r enw Pearse Doherty sydd eisiau cynrychioli etholaeth Donegal South West tros Sinn Fein oedd yn gyfrifol am yr ail glec i'r glymblaid. Ar ol cyfnod maith heb is etholiad penderfynodd fynd a'r llywodraeth i'r Uchel Lys er mwyn eu gorfodi i gynnal yr is etholiad. Roedd fwy neu lai pawb o'r farn nad oedd ganddo unrhyw obaith o ennill, yn rhannol oherwydd y ffaith nad oedd y berthynas rhwng ei blaid a'r Uchel Lys yn arbennig o dda a dweud y lleiaf. Roedd mwy neu lai pawb yn anghywir, ac roedd y dyfarniad o blaid Doherty, ac yn feirniadol iawn o'r llywodraeth. 'Doedd pedair mis ar ddeg heb is etholiad ddim yn dderbyniol i'r Uchel Lys, a chafwyd dyfarniad damniol bod y llywodraeth yn gweithredu'n groes i'r Cyfansoddiad.

Brian Cowen - Prif Weinidog y Weriniaeth - ei flas enw i gyfaill a gelyn fel ei gilydd ydi BIFFO Cowen. Mae BIFFO'n sefyll am Big Ignorant Fat F***er from Offaly - rhag ofn eich bod eisiau gwybod.

O fewn oriau roedd y llywodraeth ar lawr y Dail yn symud yr wis i gynnal yr is etholiad, ac o fewn oriau wedi hynny roedd ymgeiswyr pleidiau eraill yn yr Uchel Lys yn cychwyn ar y broses o orfodi'r llywodraeth i gynnal is etholiadau mewn etholaethau eraill. A dyna lle'r ydym ni ar hyn o bryd. Mae gan y llywodraeth gyllideb i'w chyflwyno ar ddechrau Rhagfyr nad yw'n sicr o wneud ei ffordd trwy'r Dail beth bynnag. Bydd is etholiad Donegal South West wedi ei chynnal cyn hynny, ac o fewn ychydig fisoedd (hyd yn oed os bydd y llywodraeth yn dal i sefyll) bydd dwy o'r tair is etholiad arall wedi eu gorfodi ar y llywodraeth. A bydd y llywodraeth yn colli yr is etholiadau yn ogystal a'u mwyafrif, ac felly byddant yn syrthio.

Ar hyn o bryd mae Fianna Fail yn drydydd yn y polau, 'dydyn nhw ddim wedi methu dod yn gyntaf mewn pedwar ugain o flynyddoedd mewn etholiad cyffredinol.

Dyddiau difyr yn wir - os oes gennych ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth cymdogion agosaf llawer ohonom.

Wednesday, November 03, 2010

Methiant yn galw methiant arall yn fethiant




Yn anarferol braidd 'dwi'n cael fy hun mewn cytundeb llwyr efo Peter Hain ynglyn a'r hyn ddywedodd wrth Cheryl Gillan heddiw:

You failed to stand up for S4C, you failed to stand up for the defence training college, you failed to stand up for the Anglesey energy island, you failed to stand up for the Severn barrage, you got a terrible deal for Wales out of the comprehensive spending review. I'm sorry to say you are failing Wales abysmally. If you are not going to fight for Welsh jobs, you shouldn't be in your job.



Mae Gillan a'i grwp bach o aelodau seneddol Toriaidd Cymreig llywath a lleddf wedi methu'n llwyr i amddiffyn buddiannau Cymru hyd yn hyn. Maen nhw mor amherthnasol i benderfyniadau'r llywodraeth yn Llundain fel nad oes ganddynt fawr o obaith o hyd yn oed lwyddo i atal deddfwriaeth newid ffiniau etholiadol fydd yn rhoi seddi'r mwyafrif ohonynt mewn perygl gwirioneddol.

Ond mae mae'n rhaid wrth dderyn glan i ganu, a methiant llwyr oedd cyfnod Peter Hain ei hun fel Ysgrifennydd Gwladol tros Gymru. Bu Hain yn Ysgrifennydd Gwladol ers 2002, a bu ei lywodraeth mewn grym yn San Steffan ers 1997.

Ac ar ddiwedd y cyfnod hir yma mae Cymru yn dal yn agos at waelod pob tabl sy'n mesur cyfoeth yn y DU, ac mae mor ddibynnol ar wariant cyhoeddus fel bod y toriadau sydd ar y gweill yn mynd i daro Cymru yn galetach na'r un rhan arall o'r DU. Mae yna cyn lleied o gyflogwyr preifat mawr yn y wlad fel bod pob cynllun cyfalaf sy'n cael ei ddileu gan y Toriaid yn gic anferthol i'r holl economi. Ar ddiwedd cyfnod Hain mae'r sector breifat yn llawer rhy wan i wneud iawn am y swyddi fydd yn cael eu difa gan y Toriaid. Mae Hain a'i lywodraeth Lafur wedi ein gadael yn hollol ddiymgeledd yn wyneb yr hyn sydd o'n blaenau.

Methiant yn galw methiant yn fethiant.

Tuesday, November 02, 2010

S4/C, Nick Bourne a Glyn Davies


Mae'n dda gen i nodi bod consensws ymysg arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad ynglyn a'r bygythiad sy'n wynebu S4/C. Mae'n dda gen i hefyd nodi bod y llythyr a anfonwyd ganddynt at David Cameron yn dangos eu bod yn ymwybodol o natur y bygythiad i S4/C - a bod y rheiny yn ymwneud yn uniongyrchol a'r trefniadau cyllido a'r tebygrwydd y bydd annibyniaeth golygyddol y darlledwr yn cael ei golli. Mae'r alwad am ddiddymu Awdurdod S4/C wedi adolygiad llawn hefyd yn awgrymu eu bod yn ymwybodol bod gwendidau arwyddocaol yn y modd y mae'r sianel wedi ei rheoli a'i goruwchwylio tros y blynyddoedd diweddar.

Siom fodd bynnag ydi sylwi nad ydi'r negeseuon yma yn ymddangos i fod wedi treiddio i ymwybyddiaeth y gwleidyddion Toriaidd Cymreig yn San Steffan. Mae blog Glyn Davies yn gwneud hynny'n weddol glir.

Yn wahanol i arweinydd y Toriaid Cymreig, ymddengys bod Glyn yn rhyw feddwl bod llawer i'w ddweud tros y penderfyniad, a rhywsut neu'i gilydd mae'r dyn wedi argyhoeddi ei hun iddo gael yr hyn roedd ei eisiau yn y lle cyntaf (I wanted S4C to continue as an 'independent' Welsh Language channel, funded sufficiently well to provide quality output _ _ _ I'm not sure that I didn't get all that I wanted.). Roedd hefyd yn disgrifio'r gwrthwynebiad eang a thrylwyr i gynlluniau Hunt fel orchestrated outrage.

Er efallai ei bod yn deg nodi fod barn Glyn am y penderfyniad braidd yn gyfnewidiol a'i fod ar adegau eraill yn rhyw feddwl efallai bod yna rhywbeth o'i le ar y setliad arfaethiedig a'i fod yn bwysig ei fod yn dweud ei fod yn gweithio y tu ol i'r llenni i wella pethau.

Cyn i'r penderfyniad gael ei wneud i daflu S4/C ar drugaredd tyner y Bib, roedd Glyn yn hynod flin bod y Gweinidog Treftadaeth a Diwylliant Cymreig, Alun Ffred Jones wedi awgrymu nad oedd Jeremy Hunt (y gweinidog Prydeinig) yn rhyw ymwybodol iawn i bwysigrwydd y sianel i'r iaith Gymraeg. Roedd wedi gwneud ei hun yn fwy blin fyth efo'i ddehongliad bisar o feirniadaeth o grebwyll Jeremy Hunt mewn materion Cymreig, fel ymgais i ddweud mai dim ond Plaid Cymru sy'n poeni am ddyfodol y sianel.

Mae'n ymddangos nad ydi Nick Bourne yn cytuno efo edmygedd ceg agored Glyn o allu rhyfyddol Hunt i ddirnad materion Cymreig - na chwaith bod sefyllfa newydd S4/C yn hynci dori.

Mae yna rhywbeth yn bathetig am flogiad diweddaraf Glyn ar y pwnc, lle mae'n canmol y dylanwad mae ACau Toriaidd Cymru wedi ei gael ar benderfyniadau Hunt (many of whom have been working very hard to ensure that a vibrant independent Welsh Language TV channel continues into the long term).

Y gwir syml amdani yw nad ydi Hunt, hyd yn hyn, wedi cymryd y mymryn lleiaf o sylw o farn yr aelodau seneddol hynny (hyd yn oed os ydi hi'n wir eu bod nhw wedi bod wrthi fel lladd nadroedd yn dadlau tros rhywbeth neu'i gilydd i'w wneud efo'r Sianel). Yn ol ei gyfaddefiad ei hun ni ymgynghorwyd a Glyn (na felly'r Swyddfa Gymreig na'r aelodau seneddol Cymreig) cyn gwneud y datganiad syfrdanol am ddyfodol S4/C. 'Doedd eu barn nhw ddim digon pwysig i fynd i ofyn amdano. Mae'r Swyddfa Gymreig, yr Aelodau Seneddol Toriaidd Cymreig a Glyn ei hun yn amherthnasol, yn ynysig ac yn ymylol o safbwynt y llywodraeth glymbleidiol yn Llundain. Os nad ydi saga S4/C yn ddigon i brofi hynny i chi, meddyliwch am ffawd y swyddfa basports, San Tathan, y morglawdd ar yr Hafren, cynlluniau i uwchraddio is strwythur trafnidiaeth yn y De ac ati.

Gobeithio, wir Dduw, bod mae gan Nick Bourne fwy o ddylanwad.

Sunday, October 31, 2010

Ffigyrau'r mis

'Dydi blogmenai erioed wedi cael mwy o ymwelwyr nag a gafwyd y mis hwn. Ar un olwg mae hynny'n anisgwyl - yr wythnosau o gwmpas etholiad fydd y prysuraf o ddigon yn ddi eithriad bron. Sylw gan y cyfryngau prif lif yn sgil ychydig o lwyddiant yn y Wales Blog Awards sy'n gyfrifol mae'n debyg gen i.

Felly diolch i chi i gyd am alw draw - ymwelwyr newydd a rhai sydd wedi bod wrthi am flynyddoedd.

Y rhagolygon i'r Blaid y flwyddyn nesaf

'Dwi'n meddwl fy mod wedi nodi bod y polau diweddaraf yng Nghymru ac ar lefel y DU yn awgrymu bod pethau yn argoeli'n dda i Lafur yn ar gyfer etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf. Mae dau bol diweddaraf YouGov yn rhoi Llafur ar 44% yng Nghymru (yn yr etholaethau o leiaf) - ddeuddeg pwynt yn uwch na'u canlyniad yn 2007. O'i wireddu mewn etholiad go iawn, byddai hwn yn gynnydd sylweddol iawn. Mae hefyd yn arwyddocaol well nag y gwnaeth Llafur yn etholiadau San Steffan eleni - 36.2% oedd eu canran o'r bleidlais y tro hwnnw.

Byddai hefyd yn well perfformiad nag unrhyw un mae Llafur wedi ei gael yn etholiadau'r Cynulliad o'r blaen, a byddai'n rhoi cyfle rhesymol iddynt gyflawni'r dasg anodd o dan gyfundrefn etholiadol y Cynulliad ac ennill grym ar eu pennau eu hunain. Byddai'r Toriaid yn ol pob tebyg yn ol i un sedd uniongyrchol yng Nghymru, sef Mynwy. Byddai'r gweddill yn cael eu colli i Lafur. Ymddengys bod etholwyr (Cymreig o leiaf) yn maddau yn gyflym (i Lafur o leiaf).

Rwan y demtasiwn yn wyneb polau pan maent yn dangos gogwydd cryf ydi cymryd nad oes llawer y gellir ei wneud ynglyn a'r peth. Er bod perfformiad y Blaid ym mholau YouGov yn awgrymu ein bod yn dal ein tir, neu hyd yn oed yn symud ymlaen tipyn, mi fydd yna dueddiad i deimlo nad ydym mewn sefyllfa i ennill seddi oddi wrth Lafur - yn arbennig felly yn wyneb y siom y teimlodd llawer wedi i ni fethu ag ennill seddi newydd yn etholiad San Steffan eleni. Mae'r canfyddiad hwnnw yn un gwallus - mae yna pob rheswm i obeithio y gallwn ennill mewn seddi fel Caerffili, Cwm Cynon, Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro a Chastell Nedd.

Yr hyn sy'n bwysig ei ddeall ydi bod etholiadau San Steffan yn greaduriaid gwahanol i etholiadau eraill. Mae pob etholiad i rhyw raddau neu'i gilydd yn cael eu heffeithio gan ffactorau 'cenedlaethol', rhanbarthol ac etholaethol. Yn naturiol mae yna naratifau gwleidyddol yn datblygu ar pob lefel. Dyna pam y ceir amrywiaethau ym mherfformiad pleidiau mewn gwahanol rannau o'r DU. Ffactorau a naratifau 'cenedlaethol' neu Brydeinig sy'n dominyddu mewn etholiadau San Steffan. Mae ffactorau megis cryfder ymgeiswyr unigol, peirianwaith etholiadol lleol, materion cynhenus lleol, ymgyrchoedd lleol i arbed gwasanaethau ac ati yn tueddu i gael eu boddi gan naratifau 'cenedlaethol'. Mae'r llif Prydeinig yn gryf iawn mewn etholiadau San Steffan. Ceir dau brif reswm am hyn.

Yn gyntaf mae'r cyfryngau torfol yn adgynhyrchu naratifau Prydeinig trosodd a throsodd a throsodd hyd at syrffed mewn etholiadau cyffredinol. Petai'r prif bleidiau yn gorfod talu i gael eu dadleuon wedi eu darlledu a'u printio ar delerau cwmniau hysbysebu, byddai pob etholiad yn costio degau o filiynau iddynt.

Mae'r ail reswm yn gysylltiedig a'r cyntaf - llywodraethau Prydeinig sy'n gyfrifol am bolisi economaidd, a materion economaidd sy'n cael y mwyaf o effaith ar fywydau pobl. Mae hyn yn cryfhau naratifau economaidd Prydeinig ar draul rhai mwy lleol mewn etholiadau cyffredinol.

'Dydi naratifau Prydeinig ddim mor bwysig mewn etholiadau Cynulliad, a dyna pam bod y Blaid fel rheol yn polio tua dwywaith cymaint (o ran canran beth bynnag) mewn etholiadau Cynulliad na mewn rhai San Steffan. Ond mae absenoldeb cymharol gwleidydda Prydeinig, a'r ffaith bod llai o lawer o sylw yn cael ei roi i'r etholiad gan y cyfryngau yn ei gwneud yn haws o lawer i faterion a naratifau lleol gael effaith yn lleol. Er enghraifft 'dwi ddim yn amau am eiliad bod ymgyrchoedd i gadw ysbytai lleol yn agored wedi bod yn bwysig i berfformiad gwell nag oedd llawer yn ei ddisgwyl gan y Blaid mewn nifer o ardaloedd yn 2007. Roedd cael chwip o ymgeisydd yng Ngorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn ddigon i gynyddu pleidlais y Blaid yn 2003 yn yr etholaeth honno, er bod gogwydd cryf iawn yn ein herbyn yn genedlaethol.

Felly mae peirianweithiau cryf, ymgeiswyr da, ymgyrchoedd lleol i gyd yn fwy tebygol o ddwyn ffrwyth y flwyddyn nesaf nag eleni. Mae gan y Blaid ymgeisyddion cryf a pheirianwaith effeithiol mewn nifer dda o etholaethau. 'Does yna ddim rheswm yn y Byd pam na allwn gael pleidlais uwch a mwy o seddi ym mis Mai, a 'does yna ddim rheswm pam na ddyliwn fod yn rhan allweddol o lywodraeth 2011 - 2015 chwaith. Ond mae'n bwysig deall mai trwy ganolbwyntio ar ein cryfderau ac ymladd yn galed mewn etholaethau unigol mae gwneud hynny.

Friday, October 29, 2010

Hela'r geiniog - Cwis bach arall

Pwy ydi'r Aelod Seneddol sydd wedi bod yn y newyddion cryn dipyn yn ddiweddar a gafodd ei hun yn gorfod cynnig yr eglurhad yma ynglyn a'i dreuliau seneddol?

Claiming for a 1p telephone bill. This was an office expenses bill submitted amongst a number of other bills on an expense claim prepared by a new member of my staff. However I take full responsibility as I signed off the claim. I am kicking myself for not spotting and removing such a ludicrous claim.


Roedd ganddo gryn dipyn mwy o waith egluro i'w wneud mae gen i ofn.

Pol diweddaraf ITV / YouGov

Fydda i ddim yn gwneud sylw ar bolau penodol Gymreig yn aml iawn oherwydd nad wyf wedi fy argyhoeddi eto eu bod yn gywir. Mae yna lawer mwy o bolau Prydeinig, ac maent yn cael eu profi yn erbyn etholiadau go iawn yn aml. O ganlyniad mae'r fethodoleg yn cael ei mireinio yn wyneb hynny i ymateb i ddiffyg cywirdeb. Gan nad oes yna draddodiad hir o bolio Cymreig, a chan nad oes yna felly fawr o newid wedi bod ar y fethodoleg yn ol pob tebyg, dwi'n tueddu i gymryd y polau Cymreig efo pinsiad o halen.

Wedi dweud hynny mae YouGov bellach wedi rhyddhau cyfres o bolau tros y misoedd diwethaf ac mae'r darlun maent yn ei roi i ni o dirwedd etholiadol Cymru yn eithaf cyson. Ceir darlun o Lafur yn ennill tua 12% ers colli'r Etholiad Cyffredinol, Plaid Cymru a'r Toriaid yn eithaf cyson, gyda'r Blaid ychydig o flaen y Toriaid a chanran y Lib Dems o'r bleidlais yn syrthio'n sylweddol. Os ydi polio YouGov yn gywir mae'n codi dau gwestiwn - a fydd Llafur angen Plaid Cymru i ffurfio clymblaid ym mis Mai? (a fel y byddem yn trafod yn ddiweddarach dim ond clymblaid Llafur / Plaid sy'n debygol mewn gwirionedd), ac yn ail a fydd y Lib Dems yn yn cael eu hunain yn grwp gwirioneddol fach efo tri neu hyd yn oed llai o aelodau yn unig?

Mi fyddwn yn edrych ar y ddau gwestiwn yn fanylach yn ddiweddarach, ond mi hoffwn ailadrodd rhywbeth 'dwi wedi ei nodi sawl gwaith. Y llywodraeth salaf o ddigon yn hanes y Cynulliad oedd yr ail lywodraeth - yr un lle'r oedd Llafur yn ei rheoli ar eu liwt eu hunain. Yr orau yn eithaf hawdd ydi'r un bresennol. Byddai'n drychineb i'r Cynulliad fel sefydliad petawn yn cael llywodraeth fwyafrifol Llafur tebyg i'r un 2003 - 2007.

Mae'r pol hefyd wedi rhoi lle i ni obeithio y bydd y refferendwm i gael pwerau deddfu i'r Cynulliad yn cael ei ennill - ac mae awgrym bod y bwlch rhwng Ia a Na yn cynyddu.

Thursday, October 28, 2010

Prif gyfrifoldeb caredigion y Gymraeg

Er bod y berthynas rhwng awdur y blog Hen Rech Flin, Alwyn ap Huw, a finnau yn ddigon sifil gan amlaf, mi fydd darllenwyr cyson y naill flog neu'r llall yn gwybod ein bod yn anghytuno'n ddigon llafar o bryd i'w gilydd. Dyna ddigwyddodd y diwrnod o'r blaen pan wnaeth Alwyn droi trwyn pan wnes i nodi mor ofnadwy o gymhleth ydi ei sefyllfa parthed penderfynu os i siarad efo pobl yn y Gymraeg neu beidio. 'Dwi'n rhyw deimlo bod Alwyn yn meddwl fy mod yn dangos diffyg cydymdeimlad at ei sefyllfa, ac os felly 'dwi'n rhyw hanner pledio'n euog i'r cyhuddiad. Mi geisiaf egluro pam.

Asgwrn y gynnen oedd rhaglen Richard Williams, Welsh Knot. Roedd Alwyn yn flin nad oedd trafodaeth o gymhlethdod yr hyn y gallwn o bosibl ei ddisgrifio fel seicoleg iaith, tra'r oeddwn i yn falch bod y rhaglen yn dangos nad ydi addysg Gymraeg ynddo'i hun yn creu siaradwyr Cymraeg. Yr hyn roedd y rhaglen yn ei ddangos yn gliriach na dim efallai ydi bod pobl yn defnyddio'r Gymraeg pan fod yna gyd destunau priodol i wneud hynny, ac nad ydynt yn ymarfer yr iaith yn absenoldeb y cyd destunau hynny. Mae hwn yn bwynt syml, amlwg hyd yn oed - ond mae'n un sydd ddim yn cael ei werthfawrogi na'i ddirnad yn ddigon aml.

Felly, i mi o leiaf, gwers y rhaglen oedd bod yr eneth o'r De (Bethany 'dwi'n meddwl) yn siarad Cymraeg yn y Gogledd oherwydd bod yna gyd destunau oedd yn caniatau iddi wneud hynny heb edrych yn od. Roedd y rheiny yn bresenol wrth gwrs oherwydd ei bod ynghanol pobl oedd yn dewis defnyddio'r Gymraeg o'u gwirfodd - y rhan fwyaf am eu bod yn fwy cyfforddus yn yr iaith, ond rhai eraill (tad Grug er enghraifft) am resymau eraill.

A daw hyn a ni at bwynt syml arall sydd ddim yn cael ei werthfawrogi yn ddigon aml. Mae defnyddio'r Gymraeg (a phob iaith arall) yn heintus yn yr ystyr ein bod yn fwy tebygol o'i defnyddio pan rydym yn dod ar draws llawer o bobl eraill yn gwneud hynny. Mae'r Gymraeg yn marw mewn ardaloedd pan mae pobl yn siarad llai a llai ohoni ymysg ei gilydd, nes eu bod yn peidio a gwneud hynny o gwbl. Mi fydd hyn yn digwydd pan fydd y cyd destunau lle mae pobl yn hapus yn siarad Cymraeg ynddynt yn lleihau. Weithiau canlyniad i lastwreiddio siaradwyr Cymraeg ymysg mewnfudwyr di Cymraeg ydi o, ond yn amlach (yn hanesyddol o leiaf) Cymry Cymraeg sydd yn mynd i ddefnyddio llai a llai o Gymraeg wrth gyfathrebu a'i gilydd. Mae presenoldeb y di Gymraeg yn eu mysg yn ffactor bwysig mewn sefyllfaoedd fel hyn, ond mae yna ffactorau eraill yn aml ar waith hefyd.

Mae barnu ym mha sefyllfa y dylid defnyddio iaith arbennig yn rhywbeth mae'r cwbl ohonom sy'n siarad mwy nag un iaith yn weddol rhugl yn gorfod ei wneud yn aml iawn. Gan amlaf mae'r penderfyniad yn cael ei wneud yn is ymwybodol - mae'n deillio o'n seicoleg. Mae hyn yn ei dro yn creu cymhlethdod ym mywydau'r dwy (neu'r tair) ieithog - a 'dydi'r cymhlethdod hwnnw ddim yr un peth i bawb. Mae'r penderfyniad yn aml yn dibynnu ar ein cefndir, proffeil ieithyddol yr ardal yr ydym yn digwydd byw ynddi a llu o bethau eraill gan gynnwys ein nodweddion seicolegol personol.

Cymharwch hyn efo symlder sefyllfa'r sawl sydd ond yn siarad Saesneg. 'Does yna ddim penderfyniad i'w wneud byth - yn ymwybodol na'n is ymwybodol. Y Saesneg a ddefnyddir ar pob achlysur. Mae hyn yn rhoi mantais ychwanegol i'r Saesneg o gymharu a'r Gymraeg. Mae pob cyd destun yn un mae'r di Gymraeg yn defnyddio'r Saesneg ynddo, ac mae ei bresenoldeb / phresenoldeb mewn unrhyw gyd destun cymdeithasu yn Seisnigeiddio'r sefyllfa trwy ei gwneud yn llai clir i'r sawl sydd yn siarad Cymraeg mai'r iaith honno y dylid ei defnyddio. 'Does yna ddim bai personol wrth gwrs ar neb am y sefyllfa honno - fel yna mae pethau.

Mae'n weddol amlwg felly bod y berthynas rhwng y Gymraeg a'r Saesneg yn un hynod anghyfartal. Oherwydd bod y Cymry Cymraeg i gyd (ag eithrio'r ifanc iawn) yn siarad Saesneg, mae eu cyfleoedd i siarad Cymraeg yn tueddu i gael ei reoli gan faint o bobl sydd ond yn siarad Saesneg sydd mewn sefyllfa arbennig. Dydi'r cyfleoedd i siarad Saesneg byth yn cael eu cyfyngu gan ystyriaethau fel hyn. Yn y rhan fwyaf o Gymru mae'r sefyllfa yma'n farwol i ddefnydd cymunedol o'r iaith. Mewn ardaloedd eraill mae yna ddigon o Gymry Cymraeg i oresgyn y broblem. Mae yna ffactorau ag eithrio niferoedd cymharol o siaradwyr Cymraeg wrth gwrs - mae'n fwy derbyniol mewn rhai rhannau o Gymru ac ymysg rhai grwpiau yng Nghymru i siarad Cymraeg hyd yn oed pan nad ydi rhai o'r sawl sy'n bresenol yn deall beth sy'n cael ei ddweud.

Daw hyn a ni at siaradwyr Cymraeg a sut y byddant yn cyfathrebu efo'i gilydd. Pan rydym ni ein hunain yn siarad Saesneg efo'n gilydd, hyd yn oed pan nad oes yna bobl di Gymraeg yn bresenol rydym yn cyfyngu ar y cyd destunau lle gellir siarad yr iaith ein hunain. Hynny ydi, rydym yn cryfhau'r ddeinamig 'dwi wedi ei disgrifio uchod sy'n culhau'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg a sydd yn raddol yn ei lladd. Y peth pwysicaf y gellir ei wneud i arbed y Gymraeg ydi dod o hyd i ffyrdd o gynyddu'r cyd destunau lle gellir siarad y Gymraeg. Golyga hyn bod pobl weithiau yn gorfod siarad yr iaith pan nad ydi hi'n 'teimlo'n' addas i wneud hynny. 'Dydi hi ddim yn ormodiaeth i ddweud nad ydi cymhlethdod ynglyn a pha iaith y dyliwn fel Cymry Cymraeg ei siarad efo'n gilydd, yn ddarn bach o foethusrwydd y gallwn ei fforddio.

Mae'n hawdd i mi siarad wrth gwrs - mae fy seicoleg ieithyddol i'n weddol syml oherwydd fy nghefndir a lle 'dwi'n byw. Mae yna rhywbeth yn anheg hefyd am awgrymu i bobl ymddwyn mewn ffordd sydd ddim yn teimlo'n naturiol. Ond mae disgrifio ein hunain fel caredigion yr iaith yn rhoi cyfrifoldeb arnom, a'r gyfrifoldeb bwysicaf o'r cwbl ydi defnyddio'r iaith ym mhob sefyllfa mae'n ymarferol bosibl gwneud hynny - a thrwy hynny ddarparu cyd destunau i eraill hefyd ddefnyddio'r iaith.

Mae gorfod meddwl am y math yma o beth ac ymddwyn mewn ffyrdd sy'n wrth reddfol weithiau yn rhan o dristwch a her bod yn garedigion y Gymraeg yn yr oes sydd ohoni mae gen i ofn.

Wednesday, October 27, 2010

Dechrau gwireddu addewidion y Toriaid

Mi fydd rhai yn eich plith yn cofio gwahanol ddarpar aelodau seneddol Toriaidd sy'n siarad Cymraeg yn crwydro'r stiwdios yn ein sicrhau (gan ystumio angrhedinedd y gallai unrhyw un amau hynny) nad oedd bygythiad o fath yn y Byd i gyllideb S4C, petai eu plaid Brydeinllyd, anymunol yn cael ei hun mewn grym unwaith eto.

Mae'n wych gweld bod tranche cyntaf yr addewid hwnnw bellach yn cael ei wireddu gyda diswyddiad 40 o weithwyr y sianel.

Naratif syml mewn byd cymhleth

Mi fydd darllenwyr rheolaidd y blog yma yn ymwybodol fy mod o bryd i'w gilydd yn cael y myll oherwydd bod y cyfryngau prif lif yn gor symleiddio gwleidyddiaeth leol yng Ngwynedd trwy ei dylunio fel rhyw anghydfod parhaus rhwng Plaid Cymru a Llais Gwynedd. Mae'r gwir ddarlun yn un mwy cymhleth o lawer wrth gwrs. Dim ond ar lefel cyngor mae gan LlG gynrychiolaeth ac mae'r rhan fwyaf o'r gynrychiolaeth yna ar Gyngor Gwynedd yn hytrach nag ar gynghorau plwyf a thref. Un grwp allan o bump ydi Llais Gwynedd ar Gyngor Gwynedd - y trydydd allan o bump o ran cryfder niferol.

Mae'n debyg bod yna ddau reswm pam bod hyn yn dan ar fy nghroen i braidd. Y cyntaf ydi bod newyddiaduriaeth ddiog yn fy mlino beth bynnag, ac yn ail mae'r canfyddiad mai Plaid vs Llais ydi hi yma yng Ngwynedd yn cyd redeg yn weddol dwt efo naratif bach simplistaidd y meicrogrwp.

Efallai nad oes llawer yn eich plith yn ymweld a blog y Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones (LlG Llandwrog) yn aml iawn, felly ni fydd nifer yn ymwybodol ei fod wedi ail ddechrau blogio bellach ar ol cymryd hoe fach wedi i'w gyfrifiadur dorri rhywbryd o gwmpas yr ail is etholiad ym Mlaenau Ffestiniog. Byddwch yn cofio i Lais Gwynedd golli un o'u seddi yno i Paul Thomas (Plaid Cymru) bryd hynny. Yn ffodus mi gafodd gyfrifiadur arall jyst mewn pryd i riportio ar fuddugoliaeth ei grwp yn is etholiad Seiont yng Nghaernarfon. Mae ei gofnod o ffraethineb geiriol arweinydd ei grwp (Llais Chips Batters Plaid) yn cyfleu yn eithaf twt y ffordd mae'r grwp hwnnw yn edrych ar bethau - wedi curo Plaid Cymru oeddyn nhw - er mai sedd Annibynnol a gymerwyd mewn ward lle nad oedd y Blaid yn ail, nag yn wir yn drydydd yn yr etholiad blaenorol.

Mae'r is etholiad bach hwnnw yn ddiddorol i'r graddau ei fod yn dinoethi'r ffaith bod gwleidyddiaeth lleol Gwynedd yn gymharol gymhleth. Yn gyntaf cafwyd tipyn o ddrwg deimlad ar y diwrnod yn anffodus - ond nid rhwng Plaid Cymru a Llais Gwynedd oedd y drwgdeimlad hwnnw. Yn ail, fel rydym wedi ei drafod eisoes, gwnaeth Llais Gwynedd cryn dipyn mwy o niwed etholiadol i Lafur ac i'r Annibynwyr nag a wnaethant i'r Blaid.

Mae rhai o oblygiadau'r etholiad hefyd wedi bod yn ddiddorol o'r safbwynt yma. A barnu oddi wrth flog Aeron Maldwyn eto, mae Llais Gwynedd yn flin efo Plaid Cymru oherwydd na chawsant gynrychiolaeth ychwanegol ar Fwrdd y Cyngor yn sgil eu buddugoliaeth yn Seiont.

Rwan yr hyn a ddigwyddodd yn y tair is etholiad diweddar oedd i'r Blaid ennill un, i Lais Gwynedd ennill un a cholli un, ac i'r grwp Annibynnol golli un. Neu mewn geiriau eraill cymrodd y Blaid gam bach ymlaen, arhosodd Llais Gwynedd yn yr unfan, a chymrodd y grwp Annibynnol gam bach yn ol.

Y sefyllfa gyfansoddiadol yn y Cyngor yn dilyn y 3 is-etholiad diweddar ydi bod Plaid wedi cynyddu ei seddi i 36 a bod Annibynnol wedi gostwng un i 17 tra bod Llais Gwynedd yn parhau ar 13. Mae ceisio dyrannu seddi yn fater mathemategol llwyr, ond mae yna hyblygrwydd er mwyn cyrraedd y rhif terfynol. Dadl Llais ydi bod y bwlch rhwngddyn nhw a'r grwp Annibynnol wedi cau oherwydd i'r grwp hwnnw golli un aelod, a felly dylid dyrannu un sedd ychwanegol i Llais ar Fwrdd y Cyngor - 3- ar draul yr Annibynns fyddai'n gostwng o 4 i 3.

Cytunodd y Grwp Busnes (Arweinwyr pob plaid) ar yr egwyddor o gael cyn lleied a newid ac sy'n bosibl. Roedd Llais yn gwrthwynebu hynny wrth gwrs. Mewn gwirionedd roedd yna ddadl i roi sedd ychwanegol ar y Bwrdd i'r Blaid mae'n debyg. Wedi'r cwbl dim ond y Blaid sydd wedi cynyddu nifer ei seddi. Mae 3 aelod ar y Bwrdd i'r grwp Annibynnol a 3 i Lais Gwynedd yn gyfansoddiadol dderbyniol, fel mae 4 i'r grwp Annibynnol a 2 i Lais Gwynedd yn gyfansoddiadol dderbyniol.

Dewis y Cyngor yn ei gyfanrwydd oedd dilyn barn y Grwp Busnes ac aros efo 4 aelod i'r grwp Annibynnol a 2 i Lais Gwynedd. Ffrae rhwng Llais Gwynedd a'r grwp Annibynnol ydi hon mewn gwirionedd - 'dydi o ddim yma nag acw i'r Blaid os mai aelod o Lais Gwynedd ynteu aelod o'r grwp Annibynnol sydd ar y Bwrdd. Ond a barnu o flog Aeron, mae Llais Gwynedd yn gweld y sefyllfa yn nhermau anghydfod rhyngddyn nhw eu hunain a'r Blaid.

Ac mae hyn yn ei dro yn dinoethi gwirionedd arall mae'r blog yma wedi tynnu sylw ato sawl gwaith. Mae Llais Gwynedd yn diffinio ei hun fel gwrthbwynt i Blaid Cymru, ac mae'r canfyddiad yma yn gwyrdroi eu holl resymu gwleidyddol. Mae eu rhesymu gwleidyddol wedi ei gyflyru gan eu dadansoddiad simplistig o Blaid Cymru fel ffynhonell pob drygioni, i'r fath raddau eu bod yn dod i gasgliadau cwbl unigryw unigryw a bisar - fel yr em yma (eto o flog Aeron) lle maent yn dadansoddi ffurfio'r glymblaid Tori / Lib Dem yn Llundain fel methiant i Blaid Cymru yn anad dim arall.

Tuesday, October 26, 2010

Aelodau seneddol Cymru yn wynebu clec fis Medi nesaf

Mae aelodau'r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yn San Steffan wedi bod yn gwichian fel moch ar y ffordd i ladd dy tros y dyddiau diwethaf, oherwydd y newidiadau arfaethiedig i'r ffiniau yng Nghymru.

Go brin y bydd y stori yma o gysur iddyn nhw. Yn ol gwefan politicalbetting.com mi fydd y cwbl o'r newidiadau yn cael eu rhyddhau ar yr un pryd, fis Medi nesaf - bron i bedair blynedd cyn dyddiad tebygol yr etholiad cyffredinol nesaf. Mi gawn ni weld pa mor dda fydd yr hogiau yn lobio tros y deg mis nesaf.

Monday, October 25, 2010

Eleanor Burnham i golli ei sedd


Felly ni fydd Eleanor Burnham yn ol yn y Cynulliad ar ol mis Mai y flwyddyn nesaf - sydd am wneud y lle yn llai lliwgar os dim arall. Y broblem ydi iddi gael yr ail le ar y restr y Gogledd, a 'does yna ddim gobaith y bydd y Lib Dems yn ennill dwy sedd yn y rhanbarth.

Os ydi o unrhyw gysur i Eleanor mae'n debygol na fydd y sawl ddaeth ar ben y rhestr, Aled Roberts, arweinydd Cyngor Wrecsam, yn cael ei ethol chwaith.

Welsh Knot a'r grwp bach o siaradwyr Cymraeg sydd ddim yn cael sylw

Yn wahanol i Alwyn mi wnes i eithaf mwynhau y rhaglen Welsh Knot (BBC 1) neithiwr. Cwyn Alwyn ydi bod y rhaglen yn arwynebol, ac iddi fethu a mynd i'r afael a'r cymlethdodau sydd ynghlwm a'r broses y bydd rhai pobl yn mynd trwyddi wrth ddewis pa iaith i'w defnyddio efo gwahanol unigolion.

Mae ganddo bwynt wrth gwrs - gor symleiddio y bydd rhaglenni fel hyn yn aml. Serch hynny roedd gan Welsh Knot neges greiddiol bwysig, sef nad ydi addysg Gymraeg ynddo'i hun am achub y Gymraeg. 'Dydi llawer o'r bobl sydd yn ffurfio polisi ddim yn sylweddoli hyn, ac mae'r ffaith bod y niferoedd o blant sy'n derbyn addysg Gymraeg yn cynyddu'n gyflym yn eu dallu i'r bygythiad mae'r iaith yn ei wynebu o hyd. Os ydi'r rhaglen wedi gwneud ychydig i gywiro'r camargraff yma, mae'n fwy defnyddiol na rhaglen mwy diddorol ond cymhleth ei neges.

Ta waeth, am gymhlethu pethau ydw i fy hun rwan. Grwp na chafodd sylw yn y rhaglen ydi'r bobl hynny sydd wedi mynd trwy'r system addysg Saesneg, mewn ardaloedd Seisnig ond sydd yn siarad Cymraeg. Mae'r wraig, Lyn yn syrthio i'r categori yma, mi gafodd hi ei haddysg Ysgol Landsdowne ac Ysgol Fitzalan yn Nhreganna, Caerdydd yn y chwedegau a'r saithdegau a hi ydi'r unig berson o'i theulu estynedig mawr sy'n siarad yr iaith.

Rhyw ddiwrnod roedd y ddau ohonom yn ceisio meddwl am bobl o'r De Ddwyrain rydym yn eu hadnabod sydd o gartrefi Saesneg, ond sy'n defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd. Roeddem yn gallu meddwl am lawer mwy o bobl oedd wedi mynd trwy'r system addysg Saesneg nag oedd wedi mynd trwy'r un Gymraeg. Does yna ddim byd gwyddonol am y canfyddiad yna wrth gwrs, gallai fod yn fater syml o bwy rydym ni yn digwydd eu hadnabod.

Tra ar wyliau yn Ffrainc rai blynyddoedd yn ol cawsom ein hunain ym mhentref St Emillion, gerllaw Bordeaux. Roedd y lle yn llawn hyd yr ymylon o dwristiaid. Fel sy'n digwydd yn rhyfeddol o aml mewn gwledydd tramor clywsom rhywun ymysg y torfeydd yn siarad Cymraeg. O edrych pwy oeddynt, teulu o Gaerdydd oedd yno - roedd y tad wedi bod yn Fitzalan yr un pryd a'r wraig ac roeddynt yn adnabod ei gilydd - ond doedd o erioed wedi croesi meddwl y naill bod y llall yn gallu siarad Cymraeg. Yn wahanol i Alwyn a'i gydnabod chawson nhw ddim anhawster siarad Cymraeg efo'i gilydd o ddeall bod gwneud hynny'n bosibl.

Un o'r pethau sy'n gwylltio Lyn (mae yna lawer o bethau yn ei gwylltio erbyn meddwl), ydi dod ar draws nifer o bobl penodol (a gaiff aros yn ddi enw) yng Nghaerdydd sy'n ymddangos ar ein sgriniau teledu yn siarad Cymraeg, yn gwneud bywoliaeth fras ar gefn yr iaith, sydd wedi mynd trwy'r system addysg cyfrwng Cymraeg, ond sy'n cyfathrebu efo'u plant trwy gyfrwng y Saesneg. Mae yna un wraig rhyfeddol o gegog sydd ar ein sgriniau dragwyddol, oedd ar un adeg yn defnyddio'r bws o Dreganna i'r dref efo'i hepil yn rheolaidd, sy'n ei chythruddo'n arbennig.

Rwan, mae'n hawdd deall pam bod pobl sydd wedi gorfod mynd i gryn drafferth i ddysgu'r Gymraeg yn fwy tebygol o'i defnyddio, na phobl sydd wedi cael yr iaith wedi ei chyflwyno iddynt yn ddi ofyn. Mae'n hawdd deall hefyd pam bod pobl felly yn cael y myll pan maent yn dod ar draws pobl sydd wedi cael pethau'n haws o lawer na nhw eu hunain ddim yn defnyddio'r Gymraeg yn eu bywyd pob dydd. Yr hyn sy'n fwy anodd dod i gasgliad ynglyn a fo ydi pa mor gyffredin ydi'r bobl yma. Yn sicr fedra i ddim meddwl am unrhyw ddata sy'n cael ei goledu sy'n debygol o roi ateb i'r cwestiwn. Ac mae hynny'n anffodus - yn fy mhrofiad i o leiaf, dyma'r grwp o Gymry Cymraeg sydd at ei gilydd fwyaf penderfynol o ddefnyddio'r iaith pan mae'r cyfle yn codi.

Pwy sy'n gyfrifol am dranc posibl S4C mewn gwirionedd


Diolch i'r dyn bach o Fro Morgannwg sydd ddim yn or hoff o Eidalwyr, mae bellach yn gwbl glir bai pwy ydi'r smonach mae S4C yn cael ei hun ynddo - dim byd i'w wneud efo Jeremy Hunt a'r llywodraeth glymblaid yn San Steffan wrth gwrs - o na, er mwyn i chi gael dallt, ar Awdurdod S4C a Ieuan Wyn Jones mae'r bai.

Mae yna fai mawr, mawr, mawr hefyd ar Blaid Cymru ac Alun Ffred Jones yn benodol am feiddio bod eisiau trafod dyfodol y sianel.

Dyna hynna i gyd wedi ei glirio o leiaf. Diolch Alun am ddadansoddiad cynhwysfawr, treiddgar ac aeddfed.