Ymddengys bod llywydd Sinn Fein,
Gerry Adams, yn bwriadu sefyll yn etholiadad cyffredinol nesaf Gweriniaeth Iwerddon. Mae'n debyg y bydd y cyfryw etholiad yn cael ei gynnal yn fuan.
Bydd yn ymddiswyddo'i sedd Cynulliad yn y Gogledd, ac mae'n dra thebygol y bydd yn ymddiswyddo o'i sedd yn San Steffan os bydd yn cael ei ethol. Os digwydd hynny mi fydd i bob pwrpas wedi troi cefn ar wleidyddiaeth y Gogledd.
Bydd hyn yn newid sylweddol i wleidyddiaeth Gogledd Iwerddon, yn arbennig felly yn sgil ymadawiad diweddar Ian Paisley.
No comments:
Post a Comment