Mae'r map isod o datablog y Guardian yn rhoi syniad o'r ganran o'r gweithlu sydd yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus yn holl awdurdodau lleol Cymru, Yr Alban a Lloegr.
Gan bod toriadau mewn gwariant cyhoeddus am fod yn sylweddol tros y blynyddoedd nesaf, a chan mai'r gwariant hwnnw sy'n cynnal cyflogaeth sector cyhoeddus, mae'r ddelwedd hefyd yn mapio lle bydd swyddi yn cael eu colli.
Mae'n weddol amlwg y bydd y ddwy wlad Geltaidd yn dioddef yn arbennig, ac mai ardaloedd tlotaf y gwledydd hynny fydd yn dioddef fwyaf.
4 comments:
Diddorol yw mapiau. Sgwn i pam bod awdur y map wedi defnyddio'r lliw coch ar gyfer y canran 22-27%, gan mae coch yw'r lliw a ddefnyddir ar gyfer y gwaethaf fel arfer.
Gan mae'r lliw coch yw'r lliw mwyaf eang ac amlwg ar y map, credaf mae map i'n perswadio bod gormod o bobl yn gweithio yn y sector gyhoeddus yw'r map hwn.
Fel yw'r arfer, dangos be mae rhywun, yn rhywle isio'i ddangos yw map.
Map o'r Guardian ydi o cofia!
Dwi'n credu fod cwestiwn diddorol iawn yn codi yn fama - sef beth yn union fydd effaith y sefyllfa economaidd byyd-eang fydd yn bownd o waethygu a'r wleidyddiaeth Cymru.
O edrych ar ochr arall mor Iwerddon heddiw a lot o'r hyn y mae Angela Merkel wedi ei ddweud yn ddiweddar mae sefyllfa yn mynd i godi yn fuan iawn ble na fydd y cyhoedd yn fodlon ysgwyddo beichiau y sector ariannol lawer hirach a bydd gagendor yn agor rhnh buddianau gwleidyddion a busddiannau y sector ariannol - dau beth sydd wedi cyd-orwedd yn eithaf agos dros y blynyddoedd diwethaf a - hyd yma - drwy'tr argyfwng economaidd. Cyfyd cwestiwn wedyn o beth fydd effaith tymor hir hyn ar wleidyddiaeth Cymru. Y gwir ydi bydd raid i'r Blaid ( yn fwy nag unrhyw blaid arall) ail-ymweld a nifer o'r chredoau creiddiol y mae wedi ei goleddu ers cyn cyfnod datganoli e.e. yr ymrwymiad i'r canol chwith, Ewrop y rhanbarthau, a'r arian sengl - syniadau sydd dan warchae difrifol ar hyn o bryd.
A oes gobaith y bydd gwleidyddiaeth cenedlaetholgar go iawn yn cymeryd gafael yng Nghymru ?
Mae o'n bwynt da. Efallai y cawn olwg ar y datblygiadau yn Iwerddon maes pan ga i ddau funud.
Post a Comment