Tuesday, November 02, 2010

S4/C, Nick Bourne a Glyn Davies


Mae'n dda gen i nodi bod consensws ymysg arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad ynglyn a'r bygythiad sy'n wynebu S4/C. Mae'n dda gen i hefyd nodi bod y llythyr a anfonwyd ganddynt at David Cameron yn dangos eu bod yn ymwybodol o natur y bygythiad i S4/C - a bod y rheiny yn ymwneud yn uniongyrchol a'r trefniadau cyllido a'r tebygrwydd y bydd annibyniaeth golygyddol y darlledwr yn cael ei golli. Mae'r alwad am ddiddymu Awdurdod S4/C wedi adolygiad llawn hefyd yn awgrymu eu bod yn ymwybodol bod gwendidau arwyddocaol yn y modd y mae'r sianel wedi ei rheoli a'i goruwchwylio tros y blynyddoedd diweddar.

Siom fodd bynnag ydi sylwi nad ydi'r negeseuon yma yn ymddangos i fod wedi treiddio i ymwybyddiaeth y gwleidyddion Toriaidd Cymreig yn San Steffan. Mae blog Glyn Davies yn gwneud hynny'n weddol glir.

Yn wahanol i arweinydd y Toriaid Cymreig, ymddengys bod Glyn yn rhyw feddwl bod llawer i'w ddweud tros y penderfyniad, a rhywsut neu'i gilydd mae'r dyn wedi argyhoeddi ei hun iddo gael yr hyn roedd ei eisiau yn y lle cyntaf (I wanted S4C to continue as an 'independent' Welsh Language channel, funded sufficiently well to provide quality output _ _ _ I'm not sure that I didn't get all that I wanted.). Roedd hefyd yn disgrifio'r gwrthwynebiad eang a thrylwyr i gynlluniau Hunt fel orchestrated outrage.

Er efallai ei bod yn deg nodi fod barn Glyn am y penderfyniad braidd yn gyfnewidiol a'i fod ar adegau eraill yn rhyw feddwl efallai bod yna rhywbeth o'i le ar y setliad arfaethiedig a'i fod yn bwysig ei fod yn dweud ei fod yn gweithio y tu ol i'r llenni i wella pethau.

Cyn i'r penderfyniad gael ei wneud i daflu S4/C ar drugaredd tyner y Bib, roedd Glyn yn hynod flin bod y Gweinidog Treftadaeth a Diwylliant Cymreig, Alun Ffred Jones wedi awgrymu nad oedd Jeremy Hunt (y gweinidog Prydeinig) yn rhyw ymwybodol iawn i bwysigrwydd y sianel i'r iaith Gymraeg. Roedd wedi gwneud ei hun yn fwy blin fyth efo'i ddehongliad bisar o feirniadaeth o grebwyll Jeremy Hunt mewn materion Cymreig, fel ymgais i ddweud mai dim ond Plaid Cymru sy'n poeni am ddyfodol y sianel.

Mae'n ymddangos nad ydi Nick Bourne yn cytuno efo edmygedd ceg agored Glyn o allu rhyfyddol Hunt i ddirnad materion Cymreig - na chwaith bod sefyllfa newydd S4/C yn hynci dori.

Mae yna rhywbeth yn bathetig am flogiad diweddaraf Glyn ar y pwnc, lle mae'n canmol y dylanwad mae ACau Toriaidd Cymru wedi ei gael ar benderfyniadau Hunt (many of whom have been working very hard to ensure that a vibrant independent Welsh Language TV channel continues into the long term).

Y gwir syml amdani yw nad ydi Hunt, hyd yn hyn, wedi cymryd y mymryn lleiaf o sylw o farn yr aelodau seneddol hynny (hyd yn oed os ydi hi'n wir eu bod nhw wedi bod wrthi fel lladd nadroedd yn dadlau tros rhywbeth neu'i gilydd i'w wneud efo'r Sianel). Yn ol ei gyfaddefiad ei hun ni ymgynghorwyd a Glyn (na felly'r Swyddfa Gymreig na'r aelodau seneddol Cymreig) cyn gwneud y datganiad syfrdanol am ddyfodol S4/C. 'Doedd eu barn nhw ddim digon pwysig i fynd i ofyn amdano. Mae'r Swyddfa Gymreig, yr Aelodau Seneddol Toriaidd Cymreig a Glyn ei hun yn amherthnasol, yn ynysig ac yn ymylol o safbwynt y llywodraeth glymbleidiol yn Llundain. Os nad ydi saga S4/C yn ddigon i brofi hynny i chi, meddyliwch am ffawd y swyddfa basports, San Tathan, y morglawdd ar yr Hafren, cynlluniau i uwchraddio is strwythur trafnidiaeth yn y De ac ati.

Gobeithio, wir Dduw, bod mae gan Nick Bourne fwy o ddylanwad.

3 comments:

Simon Brooks said...

Dwi ddim yn siwr fy mod i'n cytuno a'r dadansoddiad hwn yn ei gyfanrwydd.

Yr unig beth da i ddod allan o'r helynt hwn ydi fod hollt wedi agor rhwng y Toriaid Cymreig a'r Ceidwadwyr yn Llundain. Gobeithio fod y broses hon o gymreigio'r Blaid Geidwadol yng Nghymru yn parhau at y dyfodol.

Dwi'n credu fod Glyn Davies ar yr ochr iawn i'r hollt hon.

menaiblog said...
This comment has been removed by the author.
menaiblog said...

Dwi yn meddwl bod seicoleg yr hyn sy'n digwydd yn eithaf syml.

Mae yna nifer o aelodau - Glyn yn gynwysiedig mae'n debyg - efo'u calonau yn y lle iawn. Ond mae awyrcylch San Steffan yn wahanol i'r un yn y Bae. Mae gweinidogion yn cael eu marcio yn ol y toriadau maent yn eu gwneud. Mae pawb (o'r glymblaid) yn mwydro ei gilydd am bwysigrwydd gwneud toriadau ar hyd y lle i gyd.

Felly maent yn cael eu tynnu i ddau gyfeiriad gwahanol - maent eisiau cefnogi S4C yng Nghymru, ond mae hefru ymlaen am hynny yn San Steffan yn gwneud iddynt swnio fel babis - ac mae'n rhaid codio bod nifer ohonynt yn aelodau newydd.

Felly y negeseuon cymysg o gyfeiriad Glyn a Thoriaid eraill. Dyna pam mae Glyn weithiau yn dweud 'hei 'dydi hyn ddim rhy ddrwg', tra ei fod dro arall yn dweud 'sbiwch bois, dwi'n trio sortio pethau yn y dirgel'.

Dyna hefyd pam y tueddiad gan Doriaid, gan gynnwys Glyn, i geisio beio pawb ond amdanyn nhw eu hunain - Awdurdod S4C, Alun Ffred, Ieuan Wyn ac ati.