Sunday, October 31, 2010

Y rhagolygon i'r Blaid y flwyddyn nesaf

'Dwi'n meddwl fy mod wedi nodi bod y polau diweddaraf yng Nghymru ac ar lefel y DU yn awgrymu bod pethau yn argoeli'n dda i Lafur yn ar gyfer etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf. Mae dau bol diweddaraf YouGov yn rhoi Llafur ar 44% yng Nghymru (yn yr etholaethau o leiaf) - ddeuddeg pwynt yn uwch na'u canlyniad yn 2007. O'i wireddu mewn etholiad go iawn, byddai hwn yn gynnydd sylweddol iawn. Mae hefyd yn arwyddocaol well nag y gwnaeth Llafur yn etholiadau San Steffan eleni - 36.2% oedd eu canran o'r bleidlais y tro hwnnw.

Byddai hefyd yn well perfformiad nag unrhyw un mae Llafur wedi ei gael yn etholiadau'r Cynulliad o'r blaen, a byddai'n rhoi cyfle rhesymol iddynt gyflawni'r dasg anodd o dan gyfundrefn etholiadol y Cynulliad ac ennill grym ar eu pennau eu hunain. Byddai'r Toriaid yn ol pob tebyg yn ol i un sedd uniongyrchol yng Nghymru, sef Mynwy. Byddai'r gweddill yn cael eu colli i Lafur. Ymddengys bod etholwyr (Cymreig o leiaf) yn maddau yn gyflym (i Lafur o leiaf).

Rwan y demtasiwn yn wyneb polau pan maent yn dangos gogwydd cryf ydi cymryd nad oes llawer y gellir ei wneud ynglyn a'r peth. Er bod perfformiad y Blaid ym mholau YouGov yn awgrymu ein bod yn dal ein tir, neu hyd yn oed yn symud ymlaen tipyn, mi fydd yna dueddiad i deimlo nad ydym mewn sefyllfa i ennill seddi oddi wrth Lafur - yn arbennig felly yn wyneb y siom y teimlodd llawer wedi i ni fethu ag ennill seddi newydd yn etholiad San Steffan eleni. Mae'r canfyddiad hwnnw yn un gwallus - mae yna pob rheswm i obeithio y gallwn ennill mewn seddi fel Caerffili, Cwm Cynon, Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro a Chastell Nedd.

Yr hyn sy'n bwysig ei ddeall ydi bod etholiadau San Steffan yn greaduriaid gwahanol i etholiadau eraill. Mae pob etholiad i rhyw raddau neu'i gilydd yn cael eu heffeithio gan ffactorau 'cenedlaethol', rhanbarthol ac etholaethol. Yn naturiol mae yna naratifau gwleidyddol yn datblygu ar pob lefel. Dyna pam y ceir amrywiaethau ym mherfformiad pleidiau mewn gwahanol rannau o'r DU. Ffactorau a naratifau 'cenedlaethol' neu Brydeinig sy'n dominyddu mewn etholiadau San Steffan. Mae ffactorau megis cryfder ymgeiswyr unigol, peirianwaith etholiadol lleol, materion cynhenus lleol, ymgyrchoedd lleol i arbed gwasanaethau ac ati yn tueddu i gael eu boddi gan naratifau 'cenedlaethol'. Mae'r llif Prydeinig yn gryf iawn mewn etholiadau San Steffan. Ceir dau brif reswm am hyn.

Yn gyntaf mae'r cyfryngau torfol yn adgynhyrchu naratifau Prydeinig trosodd a throsodd a throsodd hyd at syrffed mewn etholiadau cyffredinol. Petai'r prif bleidiau yn gorfod talu i gael eu dadleuon wedi eu darlledu a'u printio ar delerau cwmniau hysbysebu, byddai pob etholiad yn costio degau o filiynau iddynt.

Mae'r ail reswm yn gysylltiedig a'r cyntaf - llywodraethau Prydeinig sy'n gyfrifol am bolisi economaidd, a materion economaidd sy'n cael y mwyaf o effaith ar fywydau pobl. Mae hyn yn cryfhau naratifau economaidd Prydeinig ar draul rhai mwy lleol mewn etholiadau cyffredinol.

'Dydi naratifau Prydeinig ddim mor bwysig mewn etholiadau Cynulliad, a dyna pam bod y Blaid fel rheol yn polio tua dwywaith cymaint (o ran canran beth bynnag) mewn etholiadau Cynulliad na mewn rhai San Steffan. Ond mae absenoldeb cymharol gwleidydda Prydeinig, a'r ffaith bod llai o lawer o sylw yn cael ei roi i'r etholiad gan y cyfryngau yn ei gwneud yn haws o lawer i faterion a naratifau lleol gael effaith yn lleol. Er enghraifft 'dwi ddim yn amau am eiliad bod ymgyrchoedd i gadw ysbytai lleol yn agored wedi bod yn bwysig i berfformiad gwell nag oedd llawer yn ei ddisgwyl gan y Blaid mewn nifer o ardaloedd yn 2007. Roedd cael chwip o ymgeisydd yng Ngorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn ddigon i gynyddu pleidlais y Blaid yn 2003 yn yr etholaeth honno, er bod gogwydd cryf iawn yn ein herbyn yn genedlaethol.

Felly mae peirianweithiau cryf, ymgeiswyr da, ymgyrchoedd lleol i gyd yn fwy tebygol o ddwyn ffrwyth y flwyddyn nesaf nag eleni. Mae gan y Blaid ymgeisyddion cryf a pheirianwaith effeithiol mewn nifer dda o etholaethau. 'Does yna ddim rheswm yn y Byd pam na allwn gael pleidlais uwch a mwy o seddi ym mis Mai, a 'does yna ddim rheswm pam na ddyliwn fod yn rhan allweddol o lywodraeth 2011 - 2015 chwaith. Ond mae'n bwysig deall mai trwy ganolbwyntio ar ein cryfderau ac ymladd yn galed mewn etholaethau unigol mae gwneud hynny.

2 comments:

Dylan said...

Fel rhywun sydd heb unrhyw arbenigedd o gwbl yn y maes, dw i'n rhagweld y Blaid yn cynyddu nifer ei seddi i 15 (sef beth oedd ganddi'n barod yn sgil etholiad 2007 tan i Oscar druan sylweddoli bod ei ferch angen job hawdd)

yr hyn dw i'n meddwl fwya amdano ydi hyn: faint o obaith sydd gan Nerys Evans? Fedra i weld hi'n arweinydd y Blaid yn y dyfodol, mae hi'n un reit dda; er mwyn gwneud hynny mae hi angen bod yn y cynulliad yn y tymor nesaf, sy'n golygu ennill Gorllewin Caerfyrddin. Mae sefyll yn yr etholaeth yn unig i weld yn fwy fyth o gambl nag oedd yr hen Helen Meri yn Llanelli. Dydi'r Blaid heb ennill Gorllewin Cfyrddin erioed, ond mae hi i weld yn weddol hyderus. Ydi hi'n iawn?

menaiblog said...

Dwi ddim yn gwybod Dylan - ond mae'n debyg bod ganddi hi well syniad o sut mae'r gwynt yn chwythu na'r un o'r ddau ohonom.