_ _ _ am roi blogmenai ar frig eu rhestr blogiau amatur Cymraeg eleni, ac am  eiriau caredig Ifan.  Llongyfarchiadau hefyd i bawb arall a ymddangosodd yn y deg uchaf.  Un neu ddau o bwyntiau brysiog - nad ydynt o anghenrhaid yn gysylltiedig a'i gilydd nag yn arbennig o dreiddgar.
Fedrwn i ddim peidio a gwenu wrth weld y sylwadau bod blog Guto Dafydd yn gryno iawn o ran arddull.  Roeddwn i'n darllen (ac yn marcio) gwaith Guto pan roedd yn hogyn ysgol.  Roedd yn 'sgwenwr talentog bryd hynny - gan fynegi ei hun yn eglur iawn - ac yn gryno iawn.  Fyddai Guto ddim yn Guto os na fyddai'n gryno!
Blogiau gwleidyddol sydd ar y brig, ac fel mae Ifan yn nodi, mae'r ffaith bod etholiad cyffredinol eleni wedi bod o help.  Ond y gwir amdani ydi bod blogio gwleidyddol yn haws nag ydi blogio yn y rhan fwyaf o feysydd eraill - mae yna storiau gwleidyddol yn ymddangos pob dydd i ymateb iddynt.  'Dydi'r blogiwr gwleidyddol ddim yn gorfod wynebu syndrom y dudalen (neu'r sgrin) wag - mae yna bob amser rhywbeth i 'sgwennu amdano.
Mae'n anffodus nad oes yna fwy o flogiau cyfrwng Cymraeg.  Mae'r blog yma wedi dadlau sawl gwaith mai un o'r strwythurau pennaf sy'n cynnal y Gymraeg ydi bodolaeth cyd destunau lle caiff ei defnyddio.  'Dydi blogio ddim yn fater hollbwysig wrth gwrs, ond mae gwendid cymharol yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn adlewyrchu gwendid ehangach yng nghyd destun defnyddio technoleg newydd i gyfathrebu.
Mae'n well gen i weld pobl sydd eisiau blogio yn ddwyieithog yn dilyn trywydd Alwyn ap Huw ac yn cynhyrchu dau flog yn y ddwy iaith,sydd yn ymdrin a materion ychydig yn wahanol, nag yn cyfieithu pob dim o un iaith i'r llall oddi mewn i un blog.  Dydi dwyieithrwydd o'r math yna ddim yn creu cyd destun newydd i ddefnyddio a darllen y Gymraeg.  Mae'r trywydd Plaid Wrecsam o flogio yn Saesneg, ond cynnwys ambell i flogiad Cymraeg nad yw wedi ei gyfieithu, yn well o lawer na hynny.
4 comments:
Braidd yn anheg ar Alwyn yn colli marciau am gadw blog Saesneg.
Baswn i'n marcio Blog Menai i lawr am fod yn rhy hir a manwl. Damia - mae gan rai ohonan fywydau i'w dilyn, ond mae'r demptasiwn i ddallen pob dim yn drech arna i fel arfer!
Damia fo - sori mi wna i geisio bod yn fyrach ac anghofio am y manylder o hyn allan.
Llongyfarchiadau mawr a haeddiannol.
Efallai y dylai WrecsamPlaid ystyried blog arall Cymraeg yn unig... efo'r ffrau dros yr ysgol newydd yn dal i ffrwtian mae'n debyg fod na ddigon o ddeunydd am sbel!
Mi fyddai blog Cymraeg arall - hyd yn oed un gyda blogiadau cymharol achlysurol yn beth da. Wedi'r cwbl, ychydig o flogiau sy'n cynhyrchu mwy o flogiadau na PlaidWrecsam.
Post a Comment