Wednesday, October 27, 2010

Naratif syml mewn byd cymhleth

Mi fydd darllenwyr rheolaidd y blog yma yn ymwybodol fy mod o bryd i'w gilydd yn cael y myll oherwydd bod y cyfryngau prif lif yn gor symleiddio gwleidyddiaeth leol yng Ngwynedd trwy ei dylunio fel rhyw anghydfod parhaus rhwng Plaid Cymru a Llais Gwynedd. Mae'r gwir ddarlun yn un mwy cymhleth o lawer wrth gwrs. Dim ond ar lefel cyngor mae gan LlG gynrychiolaeth ac mae'r rhan fwyaf o'r gynrychiolaeth yna ar Gyngor Gwynedd yn hytrach nag ar gynghorau plwyf a thref. Un grwp allan o bump ydi Llais Gwynedd ar Gyngor Gwynedd - y trydydd allan o bump o ran cryfder niferol.

Mae'n debyg bod yna ddau reswm pam bod hyn yn dan ar fy nghroen i braidd. Y cyntaf ydi bod newyddiaduriaeth ddiog yn fy mlino beth bynnag, ac yn ail mae'r canfyddiad mai Plaid vs Llais ydi hi yma yng Ngwynedd yn cyd redeg yn weddol dwt efo naratif bach simplistaidd y meicrogrwp.

Efallai nad oes llawer yn eich plith yn ymweld a blog y Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones (LlG Llandwrog) yn aml iawn, felly ni fydd nifer yn ymwybodol ei fod wedi ail ddechrau blogio bellach ar ol cymryd hoe fach wedi i'w gyfrifiadur dorri rhywbryd o gwmpas yr ail is etholiad ym Mlaenau Ffestiniog. Byddwch yn cofio i Lais Gwynedd golli un o'u seddi yno i Paul Thomas (Plaid Cymru) bryd hynny. Yn ffodus mi gafodd gyfrifiadur arall jyst mewn pryd i riportio ar fuddugoliaeth ei grwp yn is etholiad Seiont yng Nghaernarfon. Mae ei gofnod o ffraethineb geiriol arweinydd ei grwp (Llais Chips Batters Plaid) yn cyfleu yn eithaf twt y ffordd mae'r grwp hwnnw yn edrych ar bethau - wedi curo Plaid Cymru oeddyn nhw - er mai sedd Annibynnol a gymerwyd mewn ward lle nad oedd y Blaid yn ail, nag yn wir yn drydydd yn yr etholiad blaenorol.

Mae'r is etholiad bach hwnnw yn ddiddorol i'r graddau ei fod yn dinoethi'r ffaith bod gwleidyddiaeth lleol Gwynedd yn gymharol gymhleth. Yn gyntaf cafwyd tipyn o ddrwg deimlad ar y diwrnod yn anffodus - ond nid rhwng Plaid Cymru a Llais Gwynedd oedd y drwgdeimlad hwnnw. Yn ail, fel rydym wedi ei drafod eisoes, gwnaeth Llais Gwynedd cryn dipyn mwy o niwed etholiadol i Lafur ac i'r Annibynwyr nag a wnaethant i'r Blaid.

Mae rhai o oblygiadau'r etholiad hefyd wedi bod yn ddiddorol o'r safbwynt yma. A barnu oddi wrth flog Aeron Maldwyn eto, mae Llais Gwynedd yn flin efo Plaid Cymru oherwydd na chawsant gynrychiolaeth ychwanegol ar Fwrdd y Cyngor yn sgil eu buddugoliaeth yn Seiont.

Rwan yr hyn a ddigwyddodd yn y tair is etholiad diweddar oedd i'r Blaid ennill un, i Lais Gwynedd ennill un a cholli un, ac i'r grwp Annibynnol golli un. Neu mewn geiriau eraill cymrodd y Blaid gam bach ymlaen, arhosodd Llais Gwynedd yn yr unfan, a chymrodd y grwp Annibynnol gam bach yn ol.

Y sefyllfa gyfansoddiadol yn y Cyngor yn dilyn y 3 is-etholiad diweddar ydi bod Plaid wedi cynyddu ei seddi i 36 a bod Annibynnol wedi gostwng un i 17 tra bod Llais Gwynedd yn parhau ar 13. Mae ceisio dyrannu seddi yn fater mathemategol llwyr, ond mae yna hyblygrwydd er mwyn cyrraedd y rhif terfynol. Dadl Llais ydi bod y bwlch rhwngddyn nhw a'r grwp Annibynnol wedi cau oherwydd i'r grwp hwnnw golli un aelod, a felly dylid dyrannu un sedd ychwanegol i Llais ar Fwrdd y Cyngor - 3- ar draul yr Annibynns fyddai'n gostwng o 4 i 3.

Cytunodd y Grwp Busnes (Arweinwyr pob plaid) ar yr egwyddor o gael cyn lleied a newid ac sy'n bosibl. Roedd Llais yn gwrthwynebu hynny wrth gwrs. Mewn gwirionedd roedd yna ddadl i roi sedd ychwanegol ar y Bwrdd i'r Blaid mae'n debyg. Wedi'r cwbl dim ond y Blaid sydd wedi cynyddu nifer ei seddi. Mae 3 aelod ar y Bwrdd i'r grwp Annibynnol a 3 i Lais Gwynedd yn gyfansoddiadol dderbyniol, fel mae 4 i'r grwp Annibynnol a 2 i Lais Gwynedd yn gyfansoddiadol dderbyniol.

Dewis y Cyngor yn ei gyfanrwydd oedd dilyn barn y Grwp Busnes ac aros efo 4 aelod i'r grwp Annibynnol a 2 i Lais Gwynedd. Ffrae rhwng Llais Gwynedd a'r grwp Annibynnol ydi hon mewn gwirionedd - 'dydi o ddim yma nag acw i'r Blaid os mai aelod o Lais Gwynedd ynteu aelod o'r grwp Annibynnol sydd ar y Bwrdd. Ond a barnu o flog Aeron, mae Llais Gwynedd yn gweld y sefyllfa yn nhermau anghydfod rhyngddyn nhw eu hunain a'r Blaid.

Ac mae hyn yn ei dro yn dinoethi gwirionedd arall mae'r blog yma wedi tynnu sylw ato sawl gwaith. Mae Llais Gwynedd yn diffinio ei hun fel gwrthbwynt i Blaid Cymru, ac mae'r canfyddiad yma yn gwyrdroi eu holl resymu gwleidyddol. Mae eu rhesymu gwleidyddol wedi ei gyflyru gan eu dadansoddiad simplistig o Blaid Cymru fel ffynhonell pob drygioni, i'r fath raddau eu bod yn dod i gasgliadau cwbl unigryw unigryw a bisar - fel yr em yma (eto o flog Aeron) lle maent yn dadansoddi ffurfio'r glymblaid Tori / Lib Dem yn Llundain fel methiant i Blaid Cymru yn anad dim arall.

11 comments:

Anonymous said...

Mae'n edrych yn od bod ratio cynghorwyr Annibyn. i Llais Gwynedd o 17:13 yn arwain at ratio 4:2 ar Y Bwrdd.
Mae'n rhaid bod yna ryw bolisi neu fformiwla i wethio hyn allan?

Yn fathemategol byddai:
36:17:13:5:4 (nifer o gynhorwyr / plaid)
yn rhannu 15 sedd Y Bwrdd yn gymhareb o:
7.2 i PC
3.4 i Annibyn.
2.6 i LlG
1 i LDem
0.8 i Llaf

Yn amlwg mae'n rhaid talgrynnu gan ddal i adael 15 aelod:
7 i PC
3 i Annib
3 i LlG
1 i LDem
1 i Llaf

menaiblog said...

Fel y dywedais mae yna hyblygrwydd pan nad ydi'r fathemateg yn gweithio'n union - mae hynny yn natur y drefn.

Dylan said...

dydi Aeron ddim i weld yn caniatau sylwadau ar ei flog. ah wel

menaiblog said...

Ond 'tydi bywyd yn llen o ddagrau Dylan?

Cigfran said...

O weld safon rhai (nid oll) o'u cynghorwyr,onid oes elfen wrth sefydliad,wrth ddosbarth canol addysgedig yng nghefnogaeth Llais Gwynedd ac yn adlais o gefnogaeth y Tea Party ar draws yr iwerydd ?
Mae'r gwyn am bois y cownsil efo'u ceir neis a pensiynnau yn hen stori.
Hynny yw ,eu bod yn union groes i'r sefydliad ,ddysgedig ,dosbarth canol sydd yn graidd i gefnogaeth y Blaid a'i chynghorwyr etholedig,ac yn wir y naratif yw,"da chi bobol glyfar wdi cael ni mewn i'r llananst economaidd hwn felly etholwn ni bobol ddwp,di-ddeallt yn eu lle"

Dylan said...

Mae'r gymhariaeth yn berffaith, Cigfran.

Mae angen rhywun i graffu'n gall ac adeiladol ar unrhyw lywodraeth neu awdurdod lleol, felly mae angen gwrthblaid rhesymegol yng Ngwynedd fel yn unrhyw le arall. Ond dydi gwrth-sefydliadaeth er ei fwyn ei hun a gwneud dim byd ond gweiddi "Na! Na! Na!" ddim yn dda i ddim byd. Te Parti Gwynedd, yn union.

Dylan said...

ah, mae fy sylw wedi ymddangos ar ei flog.

Un o Eryri said...

Yr eironi yn hyn oll wrth gwrs yw bod un Cynghorydd amlwg o Ll G wedi bod yn dadlau yn y wasg yn ddiweddar iawn mai Gwrthblaid yw Ll G. Ni ddylai Gwrthblaid gael, neu fod a diddordeb mewn cael unrhyw sedd ar y Bwrdd

Dylan said...

mae system lywodraethol Cyngor Gwynedd yn un ddigon od a dweud y gwir. Pam ddim y system gabinet arferol? Dw i ddim yn gwybod. Rhywun yn dallt y hanes?

menaiblog said...

Cweit Dylan.

Mae trefn rhannu grym yn dda pan mae pobl yn fodlon ymarfer grym yn gyfrifol. Ond pan mae yna grwp sydd heb ddiddordeb yn hynny mae cyfyngiadau'r system yn cael ei ddinoethi.

Un o Eryri said...

Dylan,credaf mai syniad Alun Ffred pan oedd ef yn Arweinydd Cyngor Gwynedd oedd derbyn y ffurf Bwrdd yn hytrach na system Cabinet. 'Roedd ef yn credu yn gryf y dylsai y Blaid arwain mewn Llywodraeth gynhwysol. Fodd bynnag fel mae BlogMenai yn datgan mae hyn ond yn gweithio os yw pob grwp yn gweithio yn gadarnhaol. Gyda un grwp yn nawr wedi ei gwneud yn amlwg nad oes diddordeb mewn gweithio mewn ffordd gadarnhaol, rhaid i Gyngor Gwynedd newid i System Gabinet.