Ond 'tydi'r glymblaid newydd gynhyrfus yma yn San Steffan yn llawn syniadau gwych a gwreiddiol - tanseilio S4C ac felly'r iaith Gymraeg, torri pob cynllun cyfalaf y gallant feddwl amdano yng Nghymru, atal y risg y bydd eu plant yn cyfarfod a phriodi rhywun dosbarth gweithiol mewn coleg trwy wneud addysg bellach yn anfforddadwy i'r rheiny, pigo ar Guto Bebb ac ati ac ati.
Ac rwan maen nhw'n rhoi cyfrifoldeb am bolisi iechyd i gwmniau fel Pepsi a McDonalds. I rhywun syml fel fi mae'n ymddangos mai gormod o fwyta neu yfed cynnyrch rhai o'r cyfryw gwmniau sy'n gyfrifol am gyfran go lew o broblemau iechyd y DU, a bod hynny yn ei dro yn golygu nad dyma'r cwmniau delfrydol i lywio polisi iechyd cyhoeddus. A dweud y gwir mae'n anodd meddwl am unrhyw berson, asiantaeth neu gwmni llai addas.
Beth nesaf tybed, rhoi polisi ariannol y wladwriaeth yn nwylo medrus Lloyds TSB? Neu beth am roi amddiffyn i British Aerospace, iechyd cyhoeddus i Imperial Tobacco, yr amgylchedd i BP, darlledu i Murdoch, trafnidiaeth i Branson, ynni i UK Coal, trethiant i Kinsella Tax, a'r gyfraith i Carter Ruck?
Mae'r posibiliadau yn ddi ddiwedd.
2 comments:
Mae'n well na hynny - tan 2009 roedd ANdrew Lansley y gweinidog iechyd yn gyfarwyddwr ar gwmni PR oedd yn gweithio i Pepsi a chwmniau tebyg. Pwy sy'n deud nad ydi lobio'n talu?
Felly mi fedrwn ni ddisgwyl cael y doctor yn rhoi prescripsiwn am Big Mac a Pepsi i ni y tro nesaf y bydd gennym anwyd.
Post a Comment