Mae blogio Glyn Davies ar y pwnc yma'n dechrau achosi dryswch i mi mae gen i ofn.
I ddechrau mae'r blogiad diweddaraf yn awgrymu mai'r Cynulliad ddylai ariannu S4C. Mae'r syniad yn un digon od fel mae Rhodri Glyn yn ei awgrymu yn Golwg360. Wedi'r cwbl mae'r Cynulliad yn wynebu toriadau o £1.8 biliwn tros gyfnod o bedair blynedd. Ydi hi'n bosibl bod y Swyddfa Gymreig yn bwriadu torri mwy oddi ar y gyllideb trwy'r drws cefn trwy gynyddu ei gyfrifoldebau heb ariannu hynny? Wedi'r cwbl mae Glyn Davies yn is weinidog yn y Swyddfa Gymreig.
Yn ail 'dwi'n ei cael trafferth gweld pam mae Glyn Davies yn ei chael yn anodd i ddeall beth oedd pwrpas y gwrthdystiad ddydd Sadwrn. Mae'n cyfeirio at ddau fater mae'n eu disgrifio fel rhai 'eilradd' - annibyniaeth y sianel a threfn gyllido'r sianel. Ond dydyn nhw ddim yn faterion eilradd - maent yn greiddiol i ddyfodol y sianel. Yn wir byddai gorfod cystadlu ar yr un telerau a gwahanol gydrannau'r BBC yn sicr o arwain at doriadau sylweddol a chyflym yng nghyllideb S4C. Nid fel cydadran o'r Bib nag unrhyw gorfforaeth Brydeinig arall y cynllunwyd y sianel. Dydi hi ddim yn gwneud unrhyw synnwyr mewn cyd destun felly. Ond a bod yn deg efo Glyn Davies 'dwi'n sylwi ei fod newydd fynegi ei fod yn deall pwysigrwydd cynlluniau ariannu ac annibyniaeth y sianel yn nhudalen sylwadau ei flog.
Yn drydydd mae'r broliant bod 'penderfynoldeb a chlyfrwch' ASau Cymreig y glymblaid wedi atal y sianel rhag wynebu gwaeth ffawd o lawer na sydd yn ei haros yn codi cwestiynau. Mae Glyn Davies yn bendant nad oedd gan yr aelodau seneddol unrhyw fewnbwn i'r penderfyniad i greu'r berthynas newydd efo'r BBC, ac os ydi o'n dweud 'dwi'n derbyn hynny. Ond erys dau gwestiwn - beth yn union oedd cynlluniau Jerry Hunt cyn iddo gael y syniad o orfodi'r BBC i gynnal S4C? a sut y gallai 'penderfynoldeb a chlyfrwch' ASau'r Glymblaid o Gymru fod wedi arwain at y sefyllfa sydd ohoni - un sy'n sicr yn hynod amwys i mi, ac un sydd a barnu o'i flog,hefyd yn amwys i Glyn Davies.
6 comments:
Rwy'n bwrw mai arfaeth y Bonwr Hunt oedd cau S4C a gofyn i'r BBC yng Nghymru (ac efallai ITV) gynnal rhaglenni Cymraeg unigol ar eu gwasanaeth megis yn yr hen ddyddiau.
Mae sion ym Mae Caerdydd y bu'n rhaid i Nick Clegg ymhlith eraill ymyrryd er mwyn rhwystro pethau anffodus iawn rhag digwydd.
Mae'r cytundeb rhwng y Llywodraeth a'r BBC mor benagored fel ei bod yn gadael cil y drws ar agor ar gyfer yr opsiwn hwnnw o hyd.
Dyna pam mae'n rhaid inni ymgyrchu yn y maes hwn yn awr ddydd a nos nes bod setliad mwy derbyniol na chytundeb y BBC/DCMS yn dod i fodolaeth.
Os ma beth ma Simon yn ei ddweud yn gywir, ma crebwyll y DCMS o Gymru yn wirioneddol wallus.
Neu, efallai ryn ni bellach yn byw yn West England, ac roedd Hunt yn teimlo y byddai'n cael getawê go iawn gyda'i benderfyniad.
Ta beth, mae'n amlwg mai dim ond y dechrau oedd Rali dydd Sadwrn. Roeddwn yn gresynnu wrth weld yr hen stejars yno yn gorfod ail-gydio yn y frwydr wnaethon nhw ei hennill ym 1980.
Diddorol.
Mae'n drawiadol ystyried sut yr oedd ymgeiswyr Toriaidd yn ystod yr etholiad diwethaf yn mynd o gwmpas y stiwdios radio yn ein sicrhau nad oedd bygythiad i gyllid S4C.
Ac eto o fewn ychydig fisoedd ymddengys bod bygythiad i'w holl fodolaeth. Sut y gall yna fod y ffasiwn fwlch rhwng cangyddiad yr ymgeiswyr hynny a bwriadau'r llywodraeth.
Welodd rhywun y llythyr mileinig yn y Radio Times wythnos yma. Dwi yn amau pa mor ddilys yw'r awdur ??
A dwi yn rhyfeddu fod y Radio Times wedi caniatau llythyr mor wleidyddol ei natur. Dwi yn amheus.
O fod yn gadarnhaol mae yn braf gweld rhai sydd wedi ennill ei bara menyn drwy S4C yn gwneud safiad mae llawer gormod wedi bod yn godro'r fuwch heb fwydo'r fuwch fel petai
Na - beth oedd o'n ei ddweud?
Yn fras:
Bod y cynni ariannol wedi taflu golau ar drefniadau tywyll o ran ariannu S4C. Ei bod yn dymuno hysbysu pobl yn Lloegr Iwerddon ar Alban fod s4c yn derbyn £100miliwm o sybsidi i baratoi rhaglenni ar gyfer grwp lleiafriol nad oedd hyd yn oed yn gwylio'r rhaglenni.Na ddylid gwario arian y drwydded ar lleiafrif ac y dylsai pobl Cymru dalu premiwm ar y drwydded.
Dwi yn rhyfeddu fod y Radio Times cyhoeddiad y BBC wedi caniatau y cyhoeddi y fath lythyr. Maent yn bell o fod yn ddiduedd yn y mater yma.
Post a Comment