Thursday, October 28, 2010

Prif gyfrifoldeb caredigion y Gymraeg

Er bod y berthynas rhwng awdur y blog Hen Rech Flin, Alwyn ap Huw, a finnau yn ddigon sifil gan amlaf, mi fydd darllenwyr cyson y naill flog neu'r llall yn gwybod ein bod yn anghytuno'n ddigon llafar o bryd i'w gilydd. Dyna ddigwyddodd y diwrnod o'r blaen pan wnaeth Alwyn droi trwyn pan wnes i nodi mor ofnadwy o gymhleth ydi ei sefyllfa parthed penderfynu os i siarad efo pobl yn y Gymraeg neu beidio. 'Dwi'n rhyw deimlo bod Alwyn yn meddwl fy mod yn dangos diffyg cydymdeimlad at ei sefyllfa, ac os felly 'dwi'n rhyw hanner pledio'n euog i'r cyhuddiad. Mi geisiaf egluro pam.

Asgwrn y gynnen oedd rhaglen Richard Williams, Welsh Knot. Roedd Alwyn yn flin nad oedd trafodaeth o gymhlethdod yr hyn y gallwn o bosibl ei ddisgrifio fel seicoleg iaith, tra'r oeddwn i yn falch bod y rhaglen yn dangos nad ydi addysg Gymraeg ynddo'i hun yn creu siaradwyr Cymraeg. Yr hyn roedd y rhaglen yn ei ddangos yn gliriach na dim efallai ydi bod pobl yn defnyddio'r Gymraeg pan fod yna gyd destunau priodol i wneud hynny, ac nad ydynt yn ymarfer yr iaith yn absenoldeb y cyd destunau hynny. Mae hwn yn bwynt syml, amlwg hyd yn oed - ond mae'n un sydd ddim yn cael ei werthfawrogi na'i ddirnad yn ddigon aml.

Felly, i mi o leiaf, gwers y rhaglen oedd bod yr eneth o'r De (Bethany 'dwi'n meddwl) yn siarad Cymraeg yn y Gogledd oherwydd bod yna gyd destunau oedd yn caniatau iddi wneud hynny heb edrych yn od. Roedd y rheiny yn bresenol wrth gwrs oherwydd ei bod ynghanol pobl oedd yn dewis defnyddio'r Gymraeg o'u gwirfodd - y rhan fwyaf am eu bod yn fwy cyfforddus yn yr iaith, ond rhai eraill (tad Grug er enghraifft) am resymau eraill.

A daw hyn a ni at bwynt syml arall sydd ddim yn cael ei werthfawrogi yn ddigon aml. Mae defnyddio'r Gymraeg (a phob iaith arall) yn heintus yn yr ystyr ein bod yn fwy tebygol o'i defnyddio pan rydym yn dod ar draws llawer o bobl eraill yn gwneud hynny. Mae'r Gymraeg yn marw mewn ardaloedd pan mae pobl yn siarad llai a llai ohoni ymysg ei gilydd, nes eu bod yn peidio a gwneud hynny o gwbl. Mi fydd hyn yn digwydd pan fydd y cyd destunau lle mae pobl yn hapus yn siarad Cymraeg ynddynt yn lleihau. Weithiau canlyniad i lastwreiddio siaradwyr Cymraeg ymysg mewnfudwyr di Cymraeg ydi o, ond yn amlach (yn hanesyddol o leiaf) Cymry Cymraeg sydd yn mynd i ddefnyddio llai a llai o Gymraeg wrth gyfathrebu a'i gilydd. Mae presenoldeb y di Gymraeg yn eu mysg yn ffactor bwysig mewn sefyllfaoedd fel hyn, ond mae yna ffactorau eraill yn aml ar waith hefyd.

Mae barnu ym mha sefyllfa y dylid defnyddio iaith arbennig yn rhywbeth mae'r cwbl ohonom sy'n siarad mwy nag un iaith yn weddol rhugl yn gorfod ei wneud yn aml iawn. Gan amlaf mae'r penderfyniad yn cael ei wneud yn is ymwybodol - mae'n deillio o'n seicoleg. Mae hyn yn ei dro yn creu cymhlethdod ym mywydau'r dwy (neu'r tair) ieithog - a 'dydi'r cymhlethdod hwnnw ddim yr un peth i bawb. Mae'r penderfyniad yn aml yn dibynnu ar ein cefndir, proffeil ieithyddol yr ardal yr ydym yn digwydd byw ynddi a llu o bethau eraill gan gynnwys ein nodweddion seicolegol personol.

Cymharwch hyn efo symlder sefyllfa'r sawl sydd ond yn siarad Saesneg. 'Does yna ddim penderfyniad i'w wneud byth - yn ymwybodol na'n is ymwybodol. Y Saesneg a ddefnyddir ar pob achlysur. Mae hyn yn rhoi mantais ychwanegol i'r Saesneg o gymharu a'r Gymraeg. Mae pob cyd destun yn un mae'r di Gymraeg yn defnyddio'r Saesneg ynddo, ac mae ei bresenoldeb / phresenoldeb mewn unrhyw gyd destun cymdeithasu yn Seisnigeiddio'r sefyllfa trwy ei gwneud yn llai clir i'r sawl sydd yn siarad Cymraeg mai'r iaith honno y dylid ei defnyddio. 'Does yna ddim bai personol wrth gwrs ar neb am y sefyllfa honno - fel yna mae pethau.

Mae'n weddol amlwg felly bod y berthynas rhwng y Gymraeg a'r Saesneg yn un hynod anghyfartal. Oherwydd bod y Cymry Cymraeg i gyd (ag eithrio'r ifanc iawn) yn siarad Saesneg, mae eu cyfleoedd i siarad Cymraeg yn tueddu i gael ei reoli gan faint o bobl sydd ond yn siarad Saesneg sydd mewn sefyllfa arbennig. Dydi'r cyfleoedd i siarad Saesneg byth yn cael eu cyfyngu gan ystyriaethau fel hyn. Yn y rhan fwyaf o Gymru mae'r sefyllfa yma'n farwol i ddefnydd cymunedol o'r iaith. Mewn ardaloedd eraill mae yna ddigon o Gymry Cymraeg i oresgyn y broblem. Mae yna ffactorau ag eithrio niferoedd cymharol o siaradwyr Cymraeg wrth gwrs - mae'n fwy derbyniol mewn rhai rhannau o Gymru ac ymysg rhai grwpiau yng Nghymru i siarad Cymraeg hyd yn oed pan nad ydi rhai o'r sawl sy'n bresenol yn deall beth sy'n cael ei ddweud.

Daw hyn a ni at siaradwyr Cymraeg a sut y byddant yn cyfathrebu efo'i gilydd. Pan rydym ni ein hunain yn siarad Saesneg efo'n gilydd, hyd yn oed pan nad oes yna bobl di Gymraeg yn bresenol rydym yn cyfyngu ar y cyd destunau lle gellir siarad yr iaith ein hunain. Hynny ydi, rydym yn cryfhau'r ddeinamig 'dwi wedi ei disgrifio uchod sy'n culhau'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg a sydd yn raddol yn ei lladd. Y peth pwysicaf y gellir ei wneud i arbed y Gymraeg ydi dod o hyd i ffyrdd o gynyddu'r cyd destunau lle gellir siarad y Gymraeg. Golyga hyn bod pobl weithiau yn gorfod siarad yr iaith pan nad ydi hi'n 'teimlo'n' addas i wneud hynny. 'Dydi hi ddim yn ormodiaeth i ddweud nad ydi cymhlethdod ynglyn a pha iaith y dyliwn fel Cymry Cymraeg ei siarad efo'n gilydd, yn ddarn bach o foethusrwydd y gallwn ei fforddio.

Mae'n hawdd i mi siarad wrth gwrs - mae fy seicoleg ieithyddol i'n weddol syml oherwydd fy nghefndir a lle 'dwi'n byw. Mae yna rhywbeth yn anheg hefyd am awgrymu i bobl ymddwyn mewn ffordd sydd ddim yn teimlo'n naturiol. Ond mae disgrifio ein hunain fel caredigion yr iaith yn rhoi cyfrifoldeb arnom, a'r gyfrifoldeb bwysicaf o'r cwbl ydi defnyddio'r iaith ym mhob sefyllfa mae'n ymarferol bosibl gwneud hynny - a thrwy hynny ddarparu cyd destunau i eraill hefyd ddefnyddio'r iaith.

Mae gorfod meddwl am y math yma o beth ac ymddwyn mewn ffyrdd sy'n wrth reddfol weithiau yn rhan o dristwch a her bod yn garedigion y Gymraeg yn yr oes sydd ohoni mae gen i ofn.

5 comments:

Angharad Mair said...

Diolch am y sylwadau diddorol, a chytunaf yn llwyr. Mae'n wir dweud bod cyfrifoldeb arnom i ddefnyddio'r iaith a darparu cyd destunau i eraill hefyd i'w defnyddio.
Dyna pam fod gwarchod S4C annibynol mor bwysig i ddyfodol yr iaith. Er engraifft, Cymraeg yw iaith y gweithle yn fwriadol yn Tinopolis, nid yn unig ymhlith staff yr ochr gynhyrchu ond hefyd Cymraeg yw iaith y criw camera, a'r bobl sain, colur, rheolwyr y llawr, y staff gweinyddol a'r gegin. Heb
S4C annibynol fe fydd y swyddi yma i gyd mewn peryg o ddiflannu wrth i'r BBC - yn enw 'synergedd' ac 'effeithlonrwydd' wrth gwrs (gweler lythyr Hunt i'r BBC) gymryd gofal o hyfforddi neu'r ochr dechnegol.
Heb S4C fe fydd carfan o swyddi sy'n bodoli ar hyn o bryd i siaradwyr Cymraeg yn diflannu. Fe fydd hyn yn drasiedi o ran yr iaith. Heb swyddi Cymraeg pa obaith i addysg Gymraeg ffynnu?
Dyna pam mae'r bygythiad presennol i S4C yn un mor ddifrifol. Mae'n hanfodol fod unryw strwythur newydd yn gwbl annibynol o reolaeth y BBC mewn unryw ffordd, neu fe fydd llawer mwy na sianel Gymraeg wedi ei golli.

Cai Larsen said...

'Dwi wrth gwrs yn cytuno efo'r sylwadau Angharad.

Mi fyddwn fodd bynnag yn ychwanegu un pwynt pwysig. Nid darparu cyflogaeth i Gymry Cymraeg ydi'r peth pwysicaf am S4C. Ei brif werth ydi ei fod wedi helpu newid canfyddiad llawer o bobl o'r iaith.

Mae'r deg mlynedd ar hugain diwethaf wedi gweld newid sylfaenol yng nghanfyddiad pobl o'r iaith - i lawer mae hi bellach yn gyfoes ac yn berthnasol. Roedd y canfyddiad yn gwbl groes i hynny yn y gorffennol. Mae hyn yn greiddiol i'r galw mawr am addysg Gymraeg.

Anonymous said...

Mae'r post yma yn un difyr iawn. Diolch i ti. Mae achub S4C yn holl bwysig, ond beth sydd hefyd yn bwysig er mwyn normaleiddio'r Gymraeg ydy mesur iaith cyflawn sy'n cynnwys y sector breifat. Dyna pam mae cymaint o ymgyrchwyr iaith mor anhapus gyda'r Blaid ar hyn o bryd a'r Mesur tila sydd wedi cael ei chyflwyno.

Alwyn ap Huw said...

Digon hawdd yw i Gymro Iaith gyntaf fy meirniadu am siarad Saesneg efo fy nhad o Gymro Cymraeg fel Problem Seicolegol. Heb ystyried y ffaith amlwg fy mod wedi adnabod y dyn am hanner canrif a mwy trwy'r Saesneg. Y pwyn't yw - dallta Cefais Fy Magu Ganddo yn y Fain!!!!!.

Peth hawdd yw dysgu iaith - rwy'n gwybod - yr wyf wedi dysgu'r Gymraeg yn weddol rugl. Ond peth anodd ar y diawl yw newid arfer ieithyddol.

Mi geis di dy fendithio efo'r iaith Gymraeg yn naturiol o dy gryd - roedd o'n blydi anodd i mi cael caffael yr iaith, ac mae'r awgrym fy mod i ddim yn un o garedigion yr iaith gan nad ydwyf yn ei ddefnyddio mewn safleoedd sydd yn anghyffyrddus imi - megis efo teulu agos - yn hynod sarhaus.

Roedd dewis gennyf, fel un a chafodd ei fagu yn Gymro di Gymraeg, i ddewis y ddadl fy mod yn gystal Cymro a thi er fy mod yn ddi Gymraeg neu i ddysgu'r Gymraeg.

Pe bawn wedi dewis trywydd Cystal Cymro yw Cymro di Gymraeg mae'n debyg na fydda'r ffaith fy mod yn defnyddio fy iaith gynataf efo fy nghar yn destyn beirniadaeth!

Cai Larsen said...

Twt, twt Alwyn - paid a bod mor emosiynol, a thria peidio cymryd pob dim yn bersonol.

Dydi'r darn ddim yn gweld bai ar neb, a does yna'n sicr ddim honiad o broblem seicolegol nag awgrym fy mod yn well Cymro na neb arall. Ymhellach, mae'r darn yn cydnabod bod pethau'n anos i rai nag i eraill. Yn wir mae'n nodi mai'r peth seicolegol naturiol yn aml ydi siarad Saesneg efo pobl sy'n siarad Cymraeg.

Neges y darn ydi mai'r hyn sydd wedi lladd yr iaith mewn rhannau helaeth o Gymru ydi'r ffaith bod y cyd destunau lle gellir ei defnyddio wedi diflanu. Y ffordd i'w hadfer ydi cynyddu'r cyd destunau hynny.

Siawns ei bod yn briodol cael nodi hynny heb ennyn udo a rhincian dannedd. Mae'r pwynt yn un mor hollol amlwg.