Saturday, November 06, 2010

Rali S4C


Wel mae'r rali wedi ei chynnal, ac roedd yn gryn lwyddiant o ran y nifer o bobl a ddaeth allan. 2,000 yn ol y trefnwyr a 1,500 yn ol y cyfryngau. Mae'n debyg gen i mai dyma'r wrthdystiad iaith sydd wedi dennu'r dyrfa fwyaf ers cryn gyfnod.

Mae'n ddiddorol i nifer o'r siaradwyr gyfeirio at y ffaith bod y gyfrifoldeb tros amddiffyn y sianel bellach yn syrthio ar genhedlaeth newydd. Efallai wir, ac roedd yna amrediad da o ran oedran y sawl oedd yn bresennol. Roedd fodd bynnag yn ddiddorol cymaint o bobl o'r genhedlaeth a ymladdodd y frwydr wreiddiol yn ol ar ddiwedd y saith degau oedd yno.

Fel un sydd o'r genhedlaeth honno, roedd yna rhyw ymdeimlad weithiau, wrth edrych ar rhai o'r bobl yn y dyrfa, bod amser yn chware tric, a fy mod yn ol yng ngwrthdystiadau'r saith degau hwyr. Doedd o ddim yn deimlad anymunol er gwaethaf yr amgylchiadau. Roeddwn yn cael fy hun yn ceisio cofio manylion record troseddol yn ogystal ag enwau'r gwahanol wynebau yn y dyrfa. Roedd hynny'n ddiddorol, ac yn adrodd cyfrolau am y dosbarth canol Cymraeg ei iaith.

Mi wasgarodd y genhedlaeth honno gyda'r pedwar gwynt ar ddechrau'r wythdegau i pob rhan o Gymru a thu hwnt, heb lawn sylweddoli maint ei llwyddiant o droi'r llywodraeth a sefydlu sianel cyfrwng Cymraeg. O fewn ychydig flynyddoedd byddai'r un llywodraeth wedi gwrthod ildio i fyddinoedd yr Ariannin, i rym diwydiannol y glowyr ac i ymprydwyr newyn ac unedau arfog yr IRA a'r INLA.

Ac rwan mae amgylchiadau yn dod a'n cenhedlaeth ni, nad oedd fawr hyn na phlant bryd hynny, yn ol at ei gilydd ynghyd a chenedlaethau eraill, hyn a ieuengach i wneud rhywbeth mae'n rhaid ei wneud.

Rydym yn troedio'r un tir ag oeddym yn ei droedio ddeg mlynedd ar hugain yn ol - efo'n gilydd yn ceisio cynnal rhywbeth sydd yn bwysicach na dim arall i ni. Roedd parhad y Gymraeg yn fater nad llawer ohonom yn teimlo bod gennym ddewis ond ei gynnal bryd hynny, ac mae pethau'n debyg rwan. Tristwch bod yn Gymro yn yr oes sydd ohoni ydi ein bod yn gorfod cynnal fflam fach sy'n ddigon egwan ar brydiau, gan wybod mai dim ond ni sydd yna i wneud hynny. Dim ond ni - caredigion y Gymraeg o pob cenhedlaeth.

Gobeithio y bydd pethau yn llai o drafferth ac yn llai costus o ran amser, a gwrthdaro efo'r gyfraith nag oeddynt ddeg mlynedd ar hugain yn ol.

2 comments:

Anonymous said...

Mi fydda i yn un fydd yn siwr o gwffio dros ddyfodol s4c.

Ond, rhaid hefyd i ni edrych ar strategaeth a rheolaeth y sianel.

Am rhy hir rwan mae nifer bychain iawn wedi sugno llawer iawn gormod o arian or sianel gyda un cenedlaeth ar ol y llall or un teulu yn cael eu lle - dim ots be.

Sgwni faint or arian a gafodd ei wastraffu yn dylunio logo s4/c yn lle s4c??

menaiblog said...

Mae'r blog yma wedi dadlau'n gyson bod gwendidau rheolaethol yn nodweddu'r sianel mewn blynyddoedd diweddar. 'Dwi'n meddwl bod rhywbeth yn ymylu ar gonsensws ynglyn a hynny bellach.